Suzy Davies: Diolch, Lywydd. Rwy’n credu mai dyma fy nghyfle cyntaf i’ch llongyfarch ar eich swydd; rwy’n gwybod ei bod yn ddiwrnod olaf y tymor, bron iawn. Chwe blynedd yn ôl, cyflwynodd Llywodraeth yr Alban y gronfa seibiant byr i ddarparu seibiant i ofalwyr a gofal amgen i’r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Addawodd y Blaid Lafur yn ei maniffesto ‘Iach ac Egnïol’ y byddai yn:...
Suzy Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, gall y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol weithredu fel ysgogiad pwysig i feddwl yn wahanol ynglŷn â datrys problemau yn ein cymunedau, ac mae’r rhaglen Celf Ar Draws y Ddinas LOCWS yn Abertawe yn enghraifft berffaith o adfywio. Sut y mae Cymru Greadigol yn helpu i fodloni’r amcanion a ddiffinnir yn adroddiad Kay Andrews, yn enwedig o ran dod â phobl...
Suzy Davies: Mae cymaint i fynd trwyddo yma, felly, jest i arbed tipyn bach o amser yma, rwy’n cytuno â beth a ddywedodd Sian Gwenllian ynglŷn â’r strategaeth a’r angen am gynllun. Rydym ni wedi cael strategaethau a chynlluniau o’r blaen, ac nid ydyn nhw wedi bod yn gweithio. Rydym ni wedi gweld cwymp yn nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg yn yr ‘heartlands’, a nid oes digon o lefydd lleol...
Suzy Davies: Rwy’n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedwch yn eich datganiad, ac rwy’n diolch ichi amdano, Brif Weinidog. Er nad oedd gennych lawer iawn o gynnwys i allu ei roi inni heddiw, roedd yno gyfle, na chafodd ei gymryd, i dynnu sylw at y ffordd y mae Llywodraeth Cymru’n prif ffrydio hawliau drwy’r rhaglen lywodraethu gyfan pan fyddwn yn ei gweld. Rwy'n meddwl y byddai ailddatgan yr egwyddor honno...
Suzy Davies: Arweinydd y tŷ, roeddwn am ofyn ichi a fyddai modd cael diweddariad ar safonau’r Gymraeg, ond gwelaf fod y Gweinidog perthnasol wedi datblygu gallu telepathig ac wedi achub y blaen arnaf. Fodd bynnag, rwyf wedi darllen ei ddatganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd amser cinio heddiw, ac nid yw'n cynnwys amserlen ar gyfer cyflwyno’r is-ddeddfwriaeth angenrheidiol. Credaf fod angen i ni, yr...
Suzy Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig wythnosau yn ôl, gofynnais i'r Prif Weinidog a oedd y pecyn cymorth yr oedd y Llywodraeth Cymru wedi ei gynnig, gan gynnwys caffael cyfranddaliad o bosibl—lluniwyd y pecyn hwnnw, wrth gwrs, i annog prynwyr credadwy ar gyfer gwaith Port Talbot—yn dal i fod ar gael i Tata pe na byddai’n gwerthu. Felly, hoffwn i chi roi ymrwymiad eglur heddiw o ran beth yw...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn. Rwy’n gwybod bod mater llwybrau diogel i’r ysgol o ddiddordeb arbennig i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, gan eich bod wedi gofyn cwestiynau ar ran eich etholwyr cyn hyn. Mae’n broblem i fy etholwyr i, hefyd. Hyd yn oed yn awr, mae’r llwybr cerdded i ysgol newydd Bae Baglan yn enghraifft o hyn i ddisgyblion blaenorol ysgol Cwrt Sart, sy’n cau cyn bo hir. Er nad...
Suzy Davies: Mae galw heb ei ddiwallu yn awgrymu bod angen mwy o leoedd cyfrwng Cymraeg cynradd mewn ysgolion ym Mhenlle’r-gaer neu yng Ngorseinon yn fy rhanbarth oherwydd pwysau ar Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin. Caiff plant ifanc eu cludo o ardaloedd Cwmbwrla a Gendros yn Abertawe i gael addysg gynradd cyfrwng Cymraeg mewn rhannau eraill o’r ddinas am fod y cyngor wedi clustnodi safle perffaith i...
Suzy Davies: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad i addysg? OAQ(5)0004(EDU)
Suzy Davies: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Simon Thomas.
Suzy Davies: Diolch.
Suzy Davies: Mae Eitem 7 wedi cael ei thynnu'n ôl.
Suzy Davies: Felly, symudwn yn syth at eitem 8, y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar fygythiadau clefydau egsotig anifeiliaid, y tafod glas a gwaith cynllunio wrth gefn, a diolchaf iddi am ei hamynedd wrth aros i gael ei galw.
Suzy Davies: Ac yna, yn olaf ac yn fyr, Rhianon Passmore.
Suzy Davies: Rwy’n mynd i gymryd dau gwestiwn arall gan fod y cwestiwn cyntaf wedi cymryd cymaint o amser i’w ateb. David Melding.
Suzy Davies: Cwestiynau ac atebion byr yn awr, os gwelwch yn dda. Adam Price.
Suzy Davies: A gawn ni symud at gwestiynau, os gwelwch yn dda?
Suzy Davies: A gaf atgoffa’r Aelodau ein bod eisoes hanner ffordd drwy'r amser sydd wedi’i neilltuo ar gyfer y sesiwn hon? Byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai’r holl Aelodau ac, a dweud y gwir, y Gweinidog ei hun, yn gallu cadw eu cwestiynau a’u hatebion yn fyr i gael cymaint â phosibl o graffu eang ar y Llywodraeth. Diolch yn fawr. Mohammad Asghar.
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Weinidog. Bethan Jenkins.
Suzy Davies: Tybed a gawn ddatganiad gan y Llywodraeth yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf, arweinydd y tŷ, ar fater yr wyf wedi ei godi o'r blaen. Mae hyn yn fater o—. Mae’r Siambr hon yn llunio deddfwriaeth ac mae’r Llywodraeth yn llunio polisïau, ar sail rhoi ystyriaeth i hawliau plant; yn amlwg, rydym wedi ymrwymo i egwyddor sylw dyledus wrth ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar...