Canlyniadau 1321–1340 o 2000 ar gyfer speaker:Jane Hutt

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Y Polisi Masnach: materion Cymru' ( 6 Chw 2018)

Jane Hutt: Brif Weinidog, a gaf i groesawu eich datganiad a phapur polisi masnach Llywodraeth Cymru? Wrth gwrs, mae'r papur hwnnw'n dangos y byddai effaith anghymesur i economi Cymru gan Brexit caled, ac mae'n nodi'r sectorau sydd fwyaf mewn perygl o dariffau— moduron, cemegau, dur a pheirianneg drydanol— tra bod y diwydiant awyrofod yn wynebu mwy o risg o rwystrau nad ydynt yn rhai tariff....

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Contractau preswyl lesddaliad (31 Ion 2018)

Jane Hutt: Dyna'r pwynt rwy'n mynd ar ei drywydd. Ond roedd yn bwysig fy mod yn gallu crybwyll hynny a chael yr ymateb hwnnw gan y Gweinidog. Ond rwyf hefyd yn ymwybodol fod y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi wedi datgan eu bod yn gweithio gyda'u haelodau i edrych ar ddewisiadau eraill yn lle lesddaliadau, megis cyfunddaliadau, gan ddefnyddio'r ddeddfwriaeth hawl i reoli. Nid wyf yn credu bod hynny...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Contractau preswyl lesddaliad (31 Ion 2018)

Jane Hutt: Rwy'n falch iawn o gefnogi a chymryd rhan yn y ddadl hon sy'n mynd i'r afael â mater a godwyd gan, ac sy'n effeithio ar fy etholwyr ym Mro Morgannwg. Fel rhan o'r adfywio yn y Barri, mae 3,500 o dai yn cael eu hadeiladu ar y glannau, gyda lefelau sylweddol o gymorth i brynwyr cartrefi, sydd i'w groesawu, drwy gynllun Cymorth i Brynu Llywodraeth Cymru. Yn wir, mae Dai Rees wedi tynnu sylw at...

3. Cwestiynau Amserol: Effaith gadael yr UE ar Gymru (31 Ion 2018)

Jane Hutt: Ysgrifennydd y Cabinet, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ddigwyddiad ymgynghori adeiladol iawn a llawn gwybodaeth gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid yma yn Nhŷ Hywel ar berthynas Cymru gyda'r UE yn y dyfodol. Fel pwyllgor, mae angen inni fod yn gwbl ymwybodol o'r holl gynllunio senarios a dadansoddiadau ar gyfer y dyfodol i ymateb i randdeiliaid ar draws y...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Iechyd y Genedl (31 Ion 2018)

Jane Hutt: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at weld adroddiad diweddaraf y prif swyddog meddygol a gyhoeddwyd heddiw, ond hoffwn gyfeirio at yr adroddiad diwethaf, 'Adfer cydbwysedd i ofal iechyd: Gweithio mewn partneriaeth i leihau annhegwch cymdeithasol', sy'n tynnu sylw at thema bwysig yn fyd-eang, sef bod llawer o broblemau iechyd yn dangos graddiant cymdeithasol...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Iechyd y Genedl (31 Ion 2018)

Jane Hutt: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiad diweddaraf y Prif Swyddog Meddygol ar iechyd y genedl? OAQ51659

6. & 7. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 a Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2018 (30 Ion 2018)

Jane Hutt: Ie. Yr wythnos diwethaf, croesewais y cam hanesyddol hwn, sy'n gweld y dreth gyntaf ers 800 mlynedd ar y llyfr statud, yn barod i'w gweithredu o fis Ebrill 2018. Soniais, yr wythnos diwethaf, am Kathryn Bishop, Cadeirydd Awdurdod Refeniw Cymru, a fydd wrth gwrs yn casglu ein trethi newydd, a dim ond eisiau dweud oeddwn i fy mod yn falch iawn o gyfarfod â Kathryn Bishop heddiw—rwy'n...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 Ion 2018)

Jane Hutt: A wnaiff Arweinydd y tŷ ymuno â mi i groesawu menter a gyflwynwyd gan Aston Martin i gynnal ffair gyrfaoedd i raddedigion yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro heno, lle byddaf i'n rhoi anerchiad? Mae 750 o swyddi newydd yn cael eu creu ar safle Sain Tathan yn fy etholaeth i. Onid yw hyn yn dangos cryfder y ffydd yn economi Cymru, gydag Aston Martin yn rhoi'r nod 'gwnaed yng Nghymru' ar bob car...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (30 Ion 2018)

Jane Hutt: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bythefnos masnach deg yng nghyd-destun cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu rhyngwladol yn Affrica a ledled y byd?

10. Dadl Fer: Canrif ers i fenywod gael yr hawl i bleidleisio, ond ydy Cymru heddiw yn gydradd? (24 Ion 2018)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Rwy'n hapus iawn i siarad hefyd heddiw. 

10. Dadl Fer: Canrif ers i fenywod gael yr hawl i bleidleisio, ond ydy Cymru heddiw yn gydradd? (24 Ion 2018)

Jane Hutt: Yr wythnos hon, fel y dywedais yn gynharach, rydym yn nodi deugeinfed pen-blwydd Cymorth i Fenywod Cymru. Wrth ddechrau gweithio gyda Cymorth i Fenywod Cymru, roeddem yn benderfynol o gefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan drais yn y cartref, ond hefyd i ymgyrchu dros newid. Rydym wedi gwneud cynnydd ers 1978, gyda Chymru'n arwain y ffordd yn y DU gyda Deddf nodedig trais yn erbyn...

5. Datganiadau 90 Eiliad (24 Ion 2018)

Jane Hutt: Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos hon nodir deugeinfed pen-blwydd Cymorth i Fenywod Cymru. Rwy'n cynnal digwyddiad ar Ddiwrnod Santes Dwynwen yn y Pierhead o dan faner 'Fe Godwn Ni', i gydnabod y cynnydd a wnaed a'r gwaith sydd angen ei wneud o hyd i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod yng Nghymru. Llond llaw o lochesi yn unig a oedd pan ddechreuais weithio fel cydlynydd cyntaf...

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ: Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (24 Ion 2018)

Jane Hutt: Diolch, arweinydd y tŷ. Wrth i ni nodi deugeinfed pen-blwydd Cymorth i Fenywod Cymru yr wythnos hon, a wnewch chi ymuno â mi i gydnabod hanes, effaith a gwerth y trydydd sector yng Nghymru, gan gynnwys nid yn unig Cymorth i Fenywod Cymru ond Bawso, Hafan Cymru, Llamau, grwpiau cymorth i fenywod lleol a rhanbarthol, Atal y Fro? Mae'r sefydliadau hyn yn darparu gwasanaethau hanfodol i...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Y Portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (24 Ion 2018)

Jane Hutt: Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi gadarnhau bod dyled mentrau cyllid preifat yng Nghymru tua un rhan o bump o gost y pen y DU yn ei chyfanrwydd? Ac a fyddech yn cytuno bod penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ein rhaglen cyfalaf cyhoeddus i fuddsoddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol dros y 18 mlynedd diwethaf wedi bod yn ffordd egwyddorol a chyfrifol ymlaen ar gyfer adeiladu ysbytai...

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ: Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (24 Ion 2018)

Jane Hutt: 6. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am rôl cynghorwyr cenedlaethol yn y broses o helpu i weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015? OAQ51606

QNR: Cwestiynau i Arweinydd y Ty a'r Prif Chwip (Julie James) (24 Ion 2018)

Jane Hutt: A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio deddfwriaeth i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau?

6. Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (23 Ion 2018)

Jane Hutt: Llywydd, rwy'n croesawu'r Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) 2018 hyn, a chefnogaf Ysgrifennydd y Cabinet yn ddiamod, fel aelod erbyn hyn o'r Pwyllgor Cyllid. Rwy'n falch iawn o weld y dreth gyntaf mewn 800 mlynedd, nid ar y llyfr statud yn unig, ond yn barod i'w gweithredu o fis Ebrill 2018. Rwy'n falch fy mod i wedi gallu chwarae fy rhan fel Gweinidog i baratoi'r ffordd ar...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (23 Ion 2018)

Jane Hutt: Arweinydd y tŷ, mae Chwarae Teg wedi amlygu mai Gwlad yr Iâ yw'r wlad gyntaf yn y byd i orfodi'n gyfreithlon gyflog cyfartal i ddynion a menywod. A wnaiff arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio deddfwriaeth i helpu i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog syfrdanol rhwng y rhywiau, sydd wedi ymestyn 23 y cant yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Credyd Cynhwysol (23 Ion 2018)

Jane Hutt: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae pobl anabl a rhieni sengl a menywod wedi bod ymhlith y rheini sydd fwyaf ar eu colled o dan saith mlynedd o gynni cyllidol, yn ôl y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan sefyll i golli tua 10 y cant o'u hincwm erbyn 2022 oherwydd newidiadau i drethi a budd-daliadau ers 2010. Mae cyflwyno'r credyd cynhwysol diffygiol, gyda'i oediadau talu...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Credyd Cynhwysol (23 Ion 2018)

Jane Hutt: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith cyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru? OAQ51608


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.