David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, Brif Weinidog, dywedodd llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau, Markku Markkula, y byddai Pwyllgor y Rhanbarthau yn rhoi darlun i brif negodwr yr UE, Mr Barnier, o’r sefyllfa sy’n datblygu ar lefel ranbarthol. Dywedodd Mr Markkula hefyd mewn dadl ym Mhwyllgor y Rhanbarthau yr wythnos diwethaf, ac rwy’n dyfynnu, rhaid i ni weithio i ddiogelu...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, mae fferyllwyr mewn sefyllfa dda iawn i helpu meddygon teulu, ac felly, i wella mynediad at wasanaethau meddygon teulu, yn arbennig o ran rheoli ac adolygu meddyginiaethau. Credaf y gallem wneud yn well yn hyn o beth gan fod llawer o dystiolaeth fod defnydd gwael o feddyginiaethau, neu ddefnydd amhriodol weithiau hefyd, yn llesteirio rhai o’r canlyniadau iechyd y...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, unwaith yn y pedwar gwynt, bydd Aelod o’r wrthblaid yn falch o longyfarch y Llywodraeth ar eu penderfyniad, a chredaf fod lleoli Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd yn benderfyniad da, gan y credaf fod hynny’n anfon neges glir iawn fod cysyniad y dinas-ranbarth yn un pwysig, ond dinas-ranbarth fel dinas a chefnwlad—ac nid yw’r gefnwlad ar yr ymylon; mae’n rhan...
David Melding: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cyfleoedd prentisiaeth i fenywod ifanc mewn meysydd galwedigaethol nad ydynt ar agor iddynt yn aml oherwydd arferion recriwtio gwael?
David Melding: Brif Weinidog, rwy’n meddwl ein bod ni i gyd yn cofio gydag anwyldeb dwfn y Fonesig Rosemary Butler, ein cyn-Lywydd, ac roedd ei rhaglen hi i hyrwyddo menywod mewn bywyd cyhoeddus yn canolbwyntio ar gynlluniau mentora. Rwy'n credu bod hon yn egwyddor y gellid ei chymhwyso yn gyffredinol, oherwydd mae’n codi disgwyliad ac uchelgais menywod sydd eisoes yn meddu ar y doniau i berfformio'n...
David Melding: 9. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo rhaglenni mentoriaeth menywod yn gadarnhaol yn y gweithle? OAQ(5)0530(FM)
David Melding: Weinidog, tybed a fyddech yn edrych ar y wefan swyddogol sy’n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, clicio ar ‘newyddion diweddaraf’, a’r newyddion diweddaraf arni yw cynhadledd adeiladu ar sut i adeiladu ysgol dda, dyddiedig 12 Mai 2015. Nawr, rwy’n gwybod ein bod rhwng cynlluniau neu gyfnodau, ond mae hyn yn rhoi’r argraff fod y rhaglen gyfan...
David Melding: A gaf i ddweud ar y dechrau y bydd Plaid Geidwadol Cymru yn cefnogi’r egwyddorion cyffredinol a geir yn y Bil hwn? I bob pwrpas, mae’r Bil yn disodli'r dreth bresennol ac yn gweithredu ein cyfrifoldebau datganoledig yn y maes hwn. Yn wir, rwy’n credu ei fod yn ddatblygiad mawr mewn llywodraethu yng Nghymru bod gennym yn awr y pwerau a'r cyfrifoldebau hyn. Bydd yn adeiladu atebolrwydd...
David Melding: A gaf i ddweud fy mod yn cytuno â chraidd adroddiad yr ymgynghorwyr, yn enwedig o ran codi ymwybyddiaeth preswylwyr o natur a maint y trefniadau cytundebol, canfod arfer gwael a’i unioni a mentrau i reoleiddio ac, os yn bosibl, lleihau costau ynni? Felly, ar y darn hwnnw nad yw'n ymddangos yn ofnadwy o ddadleuol ac a fyddai o fudd i'r sector cyfan, tybed pryd y byddwch yn cyflwyno cynigion...
David Melding: Brif Weinidog, rwy’n credu mai’r broblem gyda chonfensiwn cyfansoddiadol yw na allwch chi wir gael un tan ar ôl yr ail refferendwm yn yr Alban, sydd, ar ryw adeg yn y dyfodol, yn edrych fel posibilrwydd. Rwy’n meddwl tybed a ddylai eich nodau mwy uniongyrchol fod gyda Phrif Weinidog y DU i weld sut y gallai system y Cydbwyllgor Gweinidogion gael ei chryfhau. Rwy’n cymeradwyo sylwadau...
David Melding: Dylem fod wedi adeiladu oddeutu 4,000 neu 5,000 o gartrefi’n fwy bob blwyddyn drwy gydol y cyfnod ers datganoli. Os nad ydych yn fy nghredu ynglŷn â’n sefyllfa a’r argyfwng rydym ynddo, a gaf fi eich cyfeirio at y memorandwm esboniadol ardderchog y mae’r Llywodraeth wedi’i gynhyrchu ar ddiddymu’r Bil hawl i brynu? [Chwerthin.]
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu’r cynnydd o £50 miliwn i gyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru a fydd yn awr yn dod yn sgil y gyllideb, sy’n adeiladu ar y cynnydd o £400 miliwn a gyhoeddwyd yn natganiad yr hydref? Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd go iawn i ni o ran datblygu cyfalaf.
David Melding: Mae hwn yn ddatganiad—
David Melding: Yn wir, rwy’n meddwl y gall rhywun yn rhesymol honni mai’r hawl i brynu fu’r polisi tai mwyaf poblogaidd yn hanes Prydain a bu’n arbennig o boblogaidd, gyda llaw, ym mherfeddwlad draddodiadol Llafur. Byddaf yn gadael y cyfyng-gyngor hwnnw i chi a'ch cydweithwyr. Rydych hefyd wedi dewis y targed anghywir. Mae angen i ni adeiladu mwy o gartrefi—llawer mwy o gartrefi. Dyna beth ddylai...
David Melding: Mae'n rhaid i mi ddechrau drwy ddweud yn eithaf uniongyrchol bod hwn yn ddiwrnod trist iawn i Gymru. Wedi'r cyfan, mae bron 140,000 o deuluoedd wedi elwa ar yr hawl i brynu ers 1980 ac mae perchentyaeth yn dal i fod yn ddyhead i ddegau o filoedd ar draws Cymru. Yn awr, bydd llwybr pwysig iddynt yn cael ei gau. Os bu polisi cyhoeddus erioed a gafodd fonllefau o gymeradwyaeth cyhoeddus...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r mecanweithiau hyn yn rhan o’r traddodiad cydweithredol balch iawn o hyrwyddo menter leol a budd cymdeithasol, ac yn benodol, am resymau technegol, maen nhw’n haws eu defnyddio ac yn fwy hyblyg na dulliau elusennol traddodiadol, a all fod yn llwybrau ariannu amgen. Ac maen nhw'n ffordd wych o hyrwyddo cynlluniau cymunedol yn arbennig, ac maen nhw’n cadw...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, mae ein stoc dai ymhlith yr hynaf yn Ewrop, ac mae gwir angen i ni ganolbwyntio ar gynlluniau ôl-ffitio gan fod llawer o’r stoc dai honno wedi ei meddiannu gan bobl sydd ag incwm isel neu’n agored i niwed mewn ffordd arall. Yn wir, pe byddem ni’n gwella'r sgiliau hyn ac yn datblygu cynhyrchion ôl-ffitio, byddem yn canfod marchnad wedyn mewn rhannau eraill o'r...
David Melding: 7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau cyfranddaliadau cymunedol sy'n hyrwyddo mentrau ynni gwyrdd? OAQ(5)0500(FM)
David Melding: Mae’r trampolîn yn aros.
David Melding: A gaf fi ddechrau drwy ddweud, pe bawn i wedi llofnodi’r ffurflen yn y lle iawn, y byddwn wedi bod yn un o gydgynigwyr y cynnig hwn? Rwy’n falch fy mod yn un o’r cefnogwyr o leiaf. Rwyf eto i fynd ar y cwrs sgiliau sylfaenol, ‘bywyd yn y swyddfa fodern’, ond fe wnaf hynny ar ryw bwynt—rwy’n addo hynny i fy nghynorthwyydd personol. Fel y clywsom yn yr areithiau rhagorol hyd yn...