Andrew RT Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle i gynnig gwelliant 3 yn enw Paul Davies, mewn cyfnod sy’n heriol iawn, a dweud y lleiaf, ar hyn o bryd, ac amser sensitif yn ogystal. Yr adeg hon y llynedd, yn amlwg, roedd y Siambr hon yn treulio’r newyddion am y gyfres gyntaf o gyhoeddiadau’n ymwneud â diswyddiadau ar safle Port Talbot—a’r safleoedd eraill, yn...
Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Cytunaf fod undebau’n chwarae rhan bwysig yn y gweithle, yn enwedig o ran unioni unrhyw anghyfiawnder y gallai gweithwyr ei wynebu. Dros flynyddoedd lawer, maent wedi gwella amodau gwaith ledled y Deyrnas Unedig. Ond y broblem i lawer o bobl yw bod llawer o’r undebau hynny wedi’u gwleidyddoli, ac yn arbennig, y...
Andrew RT Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Andrew RT Davies: Rwy’n meddwl ei bod braidd yn anffodus eich bod yn ceisio sarhau’r Ysgrifennydd Gwladol presennol, sydd wedi gweithio'n ddiflino, ynghyd â chydweithwyr, i gyflwyno'r Bil hwn. Ond fe ofynnaf y cwestiwn hwn i chi—roeddech chi’n Aelod Seneddol yn 2006, a bleidleisiodd dros y Bil Cymru bryd hynny a roddodd y broses Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i ni; nid wyf yn credu bod eich...
Andrew RT Davies: Nid wyf yn derbyn y pwynt y mae’r Aelod wedi’i wneud, ond mae ganddo berffaith hawl i wneud y pwynt. Hefyd, mae'r Bil yn cynnwys y gallu i waith gael ei wneud fel y mae corff cyfraith Cymru yn cynyddu, wrth symud ymlaen, i wneud yn siŵr bod yr awdurdodaeth yn ymateb i’r corff hwnnw o gyfraith—fel ei fod yn cynyddu, wrth symud ymlaen. Ond rwy’n meddwl ei fod yn ddiwrnod trist iawn...
Andrew RT Davies: Ac rwyf yn barod i gyfaddef fy mod wedi atal cyfiawnder troseddol a phlismona rhag dod i'r lle hwn. Gwneuthum yn siŵr nad oedd hynny'n wir yn yr achos penodol hwn, ond lle’r oedd pwerau yn gwneud synnwyr i gael eu trosglwyddo, gwneuthum ddadlau i’r pwerau hynny gael eu trosglwyddo. Rwy'n arbennig o falch o ddweud y bydd treth incwm yn dod i'r sefydliad hwn i wneud yn siŵr bod gennym fwy...
Andrew RT Davies: Rwy’n croesawu'r cyfle i gyfrannu i’r ddadl hon heddiw ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac yn enwedig y naws y cynhaliwyd y ddadl hon ynddi hyd yn hyn, fel rhywun a oedd yno, byddwn yn dweud, ar y dechrau, yn 2011, pan ddeuthum yn arweinydd y grŵp Ceidwadol yma a siarad â'r Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, Cheryl Gillan, wrth sefydlu proses Silk, a'r broses yr ymgysylltodd â hi...
Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddau ddatganiad, os yw’n bosibl, os gwelwch yn dda, a’r cyntaf yn adeiladu ar y cwestiwn y gofynnodd fy nghydweithiwr, Nick Ramsay, i'r Prif Weinidog ynglŷn ag ardrethi busnes. Clywais ymateb y Prif Weinidog, fel y gwnaeth bawb arall, y byddai’r canllawiau, y rheolau, y rheoliadau yn cael eu cyflwyno’n fuan o ran cynigion yr ardrethi busnes, ac rydym yn...
Andrew RT Davies: Rydych chi’n sicr eisiau cwrw a brechdanau yn ôl ym Mharc Cathays, onid ydych chi, Brif Weinidog? Y bobl yr ydych chi’n eu had-dalu yw ysgrifenyddion cyffredinol yr undebau sydd wedi ariannu Llafur gyda £11 miliwn ers i Jeremy Corbyn ddod yn arweinydd. Heriais i chi i gyflwyno’r Bil awtistiaeth hwnnw, yr oedd pobl wir yn gofyn amdano. Nid wyf wedi clywed pobl yn galw am Fil undebau...
Andrew RT Davies: Rwy'n credu mai’r Blaid Geidwadol sy’n cyflawni ar ran gweithwyr Cymru, fel y mae ar ran gweithwyr y DU, trwy ddarparu economi sydd wedi cyflwyno’r cyfraddau cyflogaeth, cyfleoedd a ffyniant mwyaf erioed. Ond rwy’n sylwi na wnaethoch chi sôn am y rhesymau pam y gwnaeth eich Llywodraeth rwystro cyflwyniad Bil awtistiaeth, yn hytrach na'r Bil undebau llafur, lle’r oedd pobl i fyny'r...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, fis Hydref diwethaf, cynhaliwyd un o'r dadleuon mwyaf angerddol yn y Siambr hon, ac roedd y siambr i fyny'r grisiau yn llawn pobl â buddiant yn y gymuned awtistiaeth ac eisiau gweld deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno gan eich Llywodraeth. Cawsom ein harwain i gredu bod consensws ynghylch hyn, yn etholiad y Cynulliad—bod yr holl bleidiau gwleidyddol yn...
Andrew RT Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am dderbyn ymyriad. Rwy’n derbyn ac yn cefnogi’r pwynt fod yna ragoriaeth yn digwydd bob dydd yn y GIG, ac yn enwedig yn ein gwasanaeth ambiwlans. Ond a wnewch chi ymateb i’r adroddiadau heddiw am chwaraewr rygbi a dorrodd ei wddf ac y bu’n rhaid iddo aros am ddwy awr ar gae chwarae cyn i’r ambiwlans gyrraedd i’w gludo i’r ysbyty? A allwch...
Andrew RT Davies: Diolch, Lywydd. Nid yw’n syniad da rhoi losin yn eich ceg cyn gofyn cwestiwn [Chwerthin.] Y fenter hon y mae’r Llywodraeth wedi ei chyflwyno, a fydd yn rhan o’r cynnig gofal plant sy’n cael ei gyflwyno, oherwydd yn ystod y cyfnod pwyllgor cyfeiriwyd at y ffaith ei bod yn amlwg y gallai ysgolion ffurfio rhan o’r cyfleuster drwy’r gwyliau ysgol? Rwy’n cydnabod mai am flwyddyn yn...
Andrew RT Davies: Mae'n wir, os yw Ysgrifennydd y Cabinet neu Weinidog mewn unrhyw ran o'r DU yn cynnig arian ychwanegol i helpu cyffuriau i fod ar gael yn hawdd, sydd wedi bod yn her dros y blynyddoedd, ac yn wir, drwy'r broses weinyddol, sydd wedi bod yn feichus wrth gael y gymeradwyaeth hynny i gleifion sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, y bydd croeso cynnes yn sicr i’r penderfyniad hwnnw,...
Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, gwrandewais yn astud iawn ar eich atebion, a dywedasoch nad oedd y pwysau mor drwm ag yr oedd yr adeg hon y llynedd. Yn eich ymatebiad cyntaf un, dywedasoch hynny. Fodd bynnag, mae ffigurau diwethaf yr unedau Damweiniau ac Achosion Brys, ar gyfer y bobl sy'n aros am 12 awr neu fwy, wedi codi 22 y cant i 2,955. A ydych chi mewn sefyllfa i gadarnhau bod y ffigurau...
Andrew RT Davies: A ydych chi’n cytuno, Brif Weinidog, â Stephen Kinnock, bod y cynigion a roddwyd ar y bwrdd gan Tata Steel yn gynigion trawiadol, a’u bod wir yn datgloi buddsoddiad sylweddol ar gyfer y gweithfeydd dur ledled Cymru, ac yn cynnig dyfodol diogel, yn sicr yn y tymor byr a’r tymor canolig, i’r miloedd lawer o swyddi sy'n dibynnu ar ddatgloi’r buddsoddiad hwn? Mae saith mil o swyddi—
Andrew RT Davies: Mae saith mil o swyddi yn dibynnu ar y cytundeb hwn. A ydych chi’n cytuno â hynny?
Andrew RT Davies: Rwy’n credu bod gennym ni Lywodraeth y DU gefnogol iawn, Brif Weinidog, pan ddaw i’r mater hwn, a byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod sawl cais a wnaed i Stryd Downing am gyfarfod ar y mater dur penodol. A ydych chi'n cytuno â Stephen Kinnock, ac yn aml iawn— [Torri ar draws.] Gallaf glywed y Dirprwy Weinidog yn grwgnach ar ei eistedd, ond efallai yr hoffai wrando ar y cwestiwn...
Andrew RT Davies: Diolch i chi am yr eglurder, gan fy mod i’n credu ei bod yn bwysig deall difrifoldeb y penderfyniad y mae'r gweithwyr dur yn ei wynebu, a’u penderfyniad nhw yw hwn, er tegwch, gan y gofynnir iddynt roi rhywbeth yn gyfnewid am sicrwydd ynghylch dyfodol hirdymor y diwydiant dur yma yng Nghymru. Rydym ni’n deall nawr gan Blaid Cymru eu bod nhw o’r farn y dylai’r cytundeb hwn gael ei...