Huw Irranca-Davies: Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o welliannau posibl i'r gwasanaeth rheilffordd ar linell Maesteg i Gaerdydd?
Huw Irranca-Davies: A allem ddod o hyd i amser i gael datganiad ar effaith niweidiol y toriadau sy’n cael eu gwneud i bolisïau lles a hyrwyddo ffyniant Llywodraeth Cymru—toriadau sy’n bodoli eisoes a thoriadau sy’n bosibl yn y dyfodol— i daliadau anabledd yng nghymoedd y de a ledled Cymru? Daeth gostyngiad o £30 yr wythnos i’r rheini sy’n hawlio’r lwfans cyflogaeth a’r lwfans cymorth o’r...
Huw Irranca-Davies: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna ac rwy’n canmol Llywodraeth Cymru am gymryd camau cynnar iawn i gyflawni’r addewid hwn i godi'r terfyn cyfalaf i fwy na dwbl yn ystod oes y tymor Cynulliad hwn, i £50,000. Rydym ni’n gwybod yn aml iawn mai'r unig ased sydd gan lawer o'n hetholwyr yw cartref, felly mae mwy na’i ddyblu yn cael budd anghymesur o fawr i’r hyn y gallant ei...
Huw Irranca-Davies: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i godi’r uchafswm cyfalaf ar gyfer y rhai a gaiff eu derbyn i ofal preswyl? OAQ(5)0598(FM)
Huw Irranca-Davies: Yn wir. [Chwerthin.]
Huw Irranca-Davies: Cyfeiriaf yr Aelodau at fy nghofnod o fuddiannau a fy rôl anrhydeddus fel is-lywydd Cerddwyr Cymru. Y penwythnos diwethaf, fel pe na baem ni i gyd wedi cerdded ddigon yn ystod yr etholiadau lleol, euthum i a Suzy Davies AC ar Daith Gerdded Fawr Cymru a drefnwyd gan Gerddwyr Cymru, a elwir hefyd yn ‘her “Y Gwyll”‘, am ei bod yn digwydd ger Pontarfynach. Gan ddefnyddio llety hyfryd...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd, a diolch i Llyr am roi sylw i hyn o dan y cwestiynau amserol. Cafodd rhan o’r broblem ynglŷn â hyn ei thrafod yn ein grŵp trawsbleidiol ar brifysgolion ar 1 Chwefror a dyna rwyf eisiau canolbwyntio arno ar hyn o bryd, oherwydd mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gywir yn dweud bod gennym gynnig o safon fyd-eang yma, ond mae rhywbeth yn mynd o’i le, ac rwyf eisiau crybwyll...
Huw Irranca-Davies: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Ysgrifennydd y Cabinet, fel cefnogwr ac eiriolwr hirdymor dros aelodau o’r lluoedd arfog a’u teuluoedd yng Nghymru, fe fyddwch yn ymwybodol iawn o’r cyfraniad enfawr y mae ein lluoedd arfog yn ei wneud i’n cymunedau. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru yn cynnwys rhywle rhwng 250,000 a 350,000 o bobl, a bydd...
Huw Irranca-Davies: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth addysgol sy’n cael ei ddarparu i blant o deuluoedd sydd yn y lluoedd arfog yng Nghymru? OAQ(5)0113(EDU)
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar hefyd fy mod yn dilyn fy nghyd-Aelod, John Griffiths, sydd wedi ymdrin yn fanwl â’r cyd-destun polisi a ystyriwyd gan ei bwyllgor. Mae gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gylch gwaith llawer mwy cul wrth edrych ar y Bil hwn ac rwy'n mynd i siarad am y cylch gorchwyl penodol hwnnw. A gaf i, wrth wneud hynny, ddiolch, fel bob...
Huw Irranca-Davies: Tybed a oes modd amserlennu dadl, yn ddelfrydol yn yr wythnosau nesaf, ar swyddogaeth Llywodraeth Cymru ym maes diogelwch cymunedol. Rydym ni i gyd yn gwybod, fel Aelodau Cynulliad yn y tŷ hwn o bob plaid, am bwysigrwydd diogelwch cymunedol, yn enwedig o ran presenoldeb mewn lifrai yn y rheng flaen. Roeddwn i’n ddigon ffodus, neu'n anffodus, i dreulio 13 wythnos ar Fil y Swyddfa Gartref a...
Huw Irranca-Davies: Na, yn fy etholaeth i. [Chwerthin.]
Huw Irranca-Davies: David, a wnewch chi ildio ar hynny? Diolch i chi am ildio. Nodaf hefyd—ac rwy’n edrych ar Neil hefyd am eglurhad ar hyn, yn weledol o bosibl, wrth iddo nodio neu ysgwyd ei ben—ond fy nealltwriaeth hefyd yw mai polisi cenedlaethol UKIP ar gyfer y DU yw cefnogi glo fel rhan o’r ateb yn y dyfodol. Ac mae gennyf ddiddordeb gwirioneddol, yn y gwrthwynebiad a geir i ynni gwynt ac ynni...
Huw Irranca-Davies: Rwy’n falch iawn o siarad yn y ddadl hon, ac yn croesawu’r ddadl hefyd, rhaid i mi ddweud, ac rwy’n mynd i geisio ymateb i rannau penodol o’r cynnig ger ein bron, ond cyn i mi ddechrau, rwy’n meddwl fy mod wedi clywed—. Ac rwy’n deall bod hon yn ddadl ar gynnig UKIP, ac rwy’n tybio, fel cynnig UKIP, ei fod yn cynrychioli polisi UKIP. Os wyf yn aneglur, rwy’n hapus i dderbyn...
Huw Irranca-Davies: Bobl bach.
Huw Irranca-Davies: A gaf fi—?
Huw Irranca-Davies: Diolch. Hoffwn ddiolch i David am ildio mor gynnar yn y ddadl, ond roeddwn i eisiau gwybod, ar ddechrau’r ddadl hon, ai safbwynt cenedlaethol UKIP o hyd yw diddymu Deddf Newid Hinsawdd 2008 yn gyfan gwbl a chael gwared ar dargedau datgarboneiddio. Oherwydd nid yw hynny yn ysbryd yr hyn rydych newydd ei ddweud, David.
Huw Irranca-Davies: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. O safbwynt cartrefi, fel yr amlinellodd mewn ymateb i gwestiwn cynharach, rydym ni i gyd wedi arfer yn llwyr â’r syniad o fantoli’r cyfrifon, rheoli incwm a gwariant, ac, yn hanfodol, rheoli dyled, boed hynny ar y morgais ar ein cartref, neu ar ein car teuluol. Nawr, mae benthyg gan y Llywodraeth yn llawer mwy cymhleth, wrth gwrs, ond mae'r...
Huw Irranca-Davies: 4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o unrhyw fudd i Gymru pe bai Llywodraeth y DU yn benthyca mwy i fuddsoddi, ar y cyfraddau isel presennol? OAQ(5)0563(FM)
Huw Irranca-Davies: Rwy’n llongyfarch Simon ar gyflwyno’r cynnig deddfwriaethol hwn, gyda’r nod o leihau gwastraff drwy osod gofynion ychwanegol ar gynhyrchwyr bwyd a manwerthwyr. Mae’n adeiladu ar y gwaith da a wnaed eisoes gan Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad hwn i fynd i’r afael â mater sy’n effeithio ar bob un ohonom, ac mae gan bawb ohonom gyfrifoldeb i fynd i’r afael, yn enwedig, â’r...