Canlyniadau 1341–1360 o 2000 ar gyfer speaker:Llyr Gruffydd

7. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Addysg Bellach ( 8 Chw 2017)

Llyr Gruffydd: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i gynnig gwelliannau 2 a 3 yn enw Plaid Cymru. A gaf i ddiolch i’r Ceidwadwyr am ddod â’r ddadl yma gerbron y prynhawn yma? Rydw i’n meddwl nad ŷm ni yn trafod addysg bellach yn ddigonol—fan hyn yn y Siambr, beth bynnag. Nid ydw i’n teimlo bod presenoldeb addysg bellach beth, efallai, y dylai hi fod, ac rydw i yn meddwl bod hwn yn gyfle...

6. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei Ymchwiliad i Waith Ieuenctid ( 8 Chw 2017)

Llyr Gruffydd: Rydw i yn meddwl ei bod hi’n hen bryd i ni fel Cynulliad fod yn trafod y sector yma a’r gwasanaeth ieuenctid oherwydd mae’r sector wedi dweud wrthym ni eu bod nhw’n teimlo yn ynysig ac wedi’u tanbrisio yn y blynyddoedd diwethaf yma. Pan rŷch chi’n gofyn i bobl, wrth gwrs, mae pawb yn cytuno bod gwaith ieuenctid yn beth da, ond efallai nad ydyn nhw’n sylweddoli pwysigrwydd...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Chw 2017)

Llyr Gruffydd: Nid wyf yn meddwl fy mod i wedi defnyddio’r gair ‘creisis’, ond, yn sicr, rŷm ni’n gwybod mai rhyw 68 y cant, rwy’n meddwl, o’r targed recriwtio ysgolion cynradd sydd wedi digwydd—na, 90 y cant mewn ysgolion cynradd, 68 y cant mewn ysgolion uwchradd. Felly mae yn broblem ac mae yn storio problemau i fyny ar gyfer y blynyddoedd nesaf, ac rwy’n deall eich bod chi yn cydnabod y...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Chw 2017)

Llyr Gruffydd: Wel, rwy’n falch eich bod chi’n cydnabod, efallai, nad oedd yr adroddiad yn cyrraedd rhai o’r disgwyliadau oedd mas yna. Yn sicr, mae yna deimlad o rwystredigaeth fod yna 18 mis arall, o bosib, o waith yn mynd i ddigwydd cyn ein bod ni’n cyrraedd rhyw bwynt lle, efallai, y byddwn ni’n gweld gwahaniaeth gwirioneddol. Ac, wrth gwrs, rydych chi’n iawn hefyd i gydnabod bod yna bwysau...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Chw 2017)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn. Mi gyhoeddodd y tasglu gweinidogol ar gyfer modelau cyflenwi adroddiad yr wythnos diwethaf ar yr opsiynau posib ar gyfer darpariaeth athrawon cyflenwi yn y dyfodol. Wrth gwrs, dyma’r ail adroddiad i ymddangos ar y pwnc yma mewn rhyw flwyddyn a hanner. A gaf fi ofyn faint o gynnydd y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn ystyried sydd wedi bod i fynd i’r afael â’r...

4. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 7 Chw 2017)

Llyr Gruffydd: A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ei pholisi o ddatganoli swyddi i wahanol rannau o Gymru? Mi glywon ni, wrth gwrs, y cwestiynau yn gynharach ynglŷn â’r penderfyniad am Awdurdod Cyllid Cymru. Rŷm ni hefyd wedi clywed cyfeiriadau y prynhawn yma at y posibilrwydd y bydd swyddi banc datblygu Cymru yn cael eu lleoli, o bosib, yn y gogledd neu mewn rhannau eraill o Gymru....

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Gwasanaethau Deintyddol
( 7 Chw 2017)

Llyr Gruffydd: Mae’n bosibl y byddwch chi’n gwybod, Brif Weinidog, mai’r prif reswm y mae plant yn ymweld ag unedau brys y dyddiau yma yw oherwydd pydredd dannedd, ac felly mae’n gwbl allweddol bod gofal deintyddol da yn cael ei ddarparu ar eu cyfer nhw mewn oedran ifanc. Ond, wedi dweud hynny, mae plant ysgolion o ardal y Bala i gyrion Wrecsam wedi colli’r defnydd o ddeintydd symudol a oedd yn...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
( 7 Chw 2017)

Llyr Gruffydd: Mae yna gonsýrn yn ardal Bae Colwyn bod yna feddygfa yn cau. Mae yna feddygfeydd eraill o dan bwysau ac mae yna dri o’r meddygfeydd, a dweud y gwir, gyda dim ond un meddyg teulu. Mae hi’n ardal, wrth gwrs, lle mae’r uned mân anafiadau yn Hesketh Road wedi cau ers rhai blynyddoedd. Mae yna boblogaeth hŷn na’r cyfartaledd yn yr ardal honno, ac, wrth gwrs, mae yna gannoedd o dai nawr...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Gwasanaethau Deintyddol
( 7 Chw 2017)

Llyr Gruffydd: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau deintyddol yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0441(FM)[W]

7. 6. Dadl Plaid Cymru: Gofal Cymdeithasol ( 1 Chw 2017)

Llyr Gruffydd: Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad yn y ddadl hon ar rôl gofalwyr ifanc a’r rhan y maent yn ei chwarae yn cadw ein system iechyd a gofal cymdeithasol i redeg a’r cymorth, neu ddiffyg cymorth—yn aml iawn, neu’n rhy aml, ddywedwn i—o ran yr hyn sydd yno i’w helpu. Amcangyfrifir bod dros 11,000 o ofalwyr sy’n blant neu’n oedolion ifanc yng Nghymru, er ei fod yn debygol o fod yn...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Sefydliadau Gwirfoddol
( 1 Chw 2017)

Llyr Gruffydd: Mae yna bron 80 o grwpiau elusennol a gwirfoddol yn gweithio gyda chleifion a staff gofal iechyd yng ngogledd Cymru yn unig, ac, os oes yna 80 o fudiadau, mae yna gannoedd ar gannoedd o wirfoddolwyr, ac felly mae yna filoedd ar filoedd o oriau gwirfoddol yn cael eu rhoi i gefnogi eu gwaith nhw. Mae’r ‘return’ ar fuddsoddiad cymharol fach yn sylweddol iawn, wrth gwrs. A gaf i ofyn,...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Chwarae Hygyrch
( 1 Chw 2017)

Llyr Gruffydd: Mae chwarae hygyrch yn bwysig iawn wrth gwrs, ond mae cyfraniad mawr i’w wneud gan y defnydd o chwarae fel therapi hefyd, yn enwedig o ran y rhai sydd wedi cael profiad niweidiol yn ystod plentyndod. Mae’n rhywbeth y credaf nad ydym yn ei ddefnyddio’n ddigonol, neu’n sicr, nid yng ngogledd Cymru yn fy mhrofiad i. Felly, a allech ddweud wrthyf pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Dyfroedd Mewndirol Cymru
( 1 Chw 2017)

Llyr Gruffydd: Mi ydw innau o’r un farn mai cytundebau gwirfoddol yw’r ffordd orau i symud ymlaen, ond, wrth gwrs, mae rhywun yn cydnabod bod cael y cytundeb yna yn anodd iawn ar adegau. Pa ystyriaeth felly mae’r Llywodraeth wedi ei rhoi i benodi cymodwr neu gymodwyr penodol mewn sefyllfa o’r fath—efallai rôl y byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu ei chwarae—er mwyn sicrhau ein bod ni yn dod...

6. 4. Datganiad: Yr Adolygiad Hazelkorn o Addysg yng Nghymru (31 Ion 2017)

Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma ac a gaf i ailadrodd ei diolch hi i'r Athro Hazelkorn am ei gwaith, wrth gwrs, wrth arwain yr adolygiad? Mae Plaid Cymru yn cefnogi byrdwn cyffredinol eich datganiad y prynhawn yma ac rydym yn ymrwymedig, wrth gwrs, i weithio yn ysbryd Hazelkorn i hyrwyddo tegwch rhwng addysg academaidd a galwedigaethol er mwyn dileu...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru
(31 Ion 2017)

Llyr Gruffydd: Yn gynharach y mis yma, mi gyhoeddwyd adroddiad diogelwch blynyddol bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, a oedd yn eithaf brawychus i’w ddarllen, mae’n rhaid i mi ddweud. Roedd y gofrestr risg yn dangos 13 risg ddifrifol, yn cynnwys eu methiant i gydymffurfio â gwahanol ddeddfwriaethau diogelu, neu fod yna berig gwirioneddol y byddai plentyn neu berson ar y gofrestr mewn risg yn methu â chael...

6. 4. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Ymchwiliadau a Gwaith Ymgysylltu ar gyfer y Dyfodol (25 Ion 2017)

Llyr Gruffydd: Wel, a gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad, a chyd-fynd yn llwyr â’r sylwadau a wnaed yn gynharach am eich rôl yn cyflawni eich swydd fel Cadeirydd? Ac rwy’n cytuno’n llwyr â chynnwys eich datganiad. Ond rwy’n cynnig ychydig o sylwadau—a chwestiynau—nid ar ymchwiliad penodol, efallai, ond yn sicr ar lefel thematig. Nawr, rwy’n arbennig o awyddus i’r pwyllgor...

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Rhaglen Wella ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
(25 Ion 2017)

Llyr Gruffydd: Mae’r bwrdd iechyd, wrth gwrs, mewn mesurau arbennig nawr ers blwyddyn a hanner, ac rydw i’n cytuno â llawer o’r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud ynglŷn â’r problemau sydd yn bodoli. Ond a fyddech chi’n cytuno â fi bod yna rai materion llawer mwy sylfaenol sydd angen mynd i’r afael â nhw ac a fyddech chi’n cytuno bod angen i dri pheth penodol ddigwydd i’r perwyl hynny?...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Morlyn Llanw yng Ngogledd Cymru
(25 Ion 2017)

Llyr Gruffydd: Mi oedd hi’n braf clywed Charles Hendry yn briffio Aelodau’r Cynulliad amser cinio, ac un o’r pwyntiau roedd e’n ei wneud wrth gwrs, yw mai’r argymhelliad ganddo fe nawr bod oedi ar ôl datblygu’r prosiect cyntaf er mwyn dysgu nifer o’r gwersi. Mae rhywun yn deall pam byddai hynny yn fanteisiol, ond mae yna gydnabyddiaeth yn hynny o beth y byddai hynny efallai yn achosi...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (25 Ion 2017)

Llyr Gruffydd: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am asesiadau risg byrddau iechyd lleol?

5. 5. Datganiad: Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod a Chodi Safonau (24 Ion 2017)

Llyr Gruffydd: Diolch, Ddirprwy Lywydd, am gyfle i ofyn cwestiwn neu ddau, efallai, os oes amser ar ôl i wneud hynny. Rwyf innau hefyd yn cychwyn gyda’r mater yma o dystiolaeth, oherwydd mae dyfyniadau wedi cael eu rhoi—rhai yr oeddwn i’n bwriadu eu rhoi—ond, yn amlwg, rydych chi’n cyfaddef mai nid ‘magic bullet’ yw hwn, ac rwy’n deall hynny. Ond, wrth gwrs, rydym mewn sefyllfa lle mae...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.