Suzy Davies: Brif Weinidog, er ein bod ni i gyd yn cytuno bod angen mwy o dai yng Nghymru, nid yw fy etholwyr mewn cymunedau fel Penllergaer, Pontarddulais a Gorseinon wedi eu darbwyllo bod cynllun datblygu lleol drafft y Cyngor yn adlewyrchu'r angen am ddarpariaeth o'r tai iawn yn y lleoedd iawn, i adlewyrchu anghenion pobl yn ystod adegau gwahanol yn eu bywydau. Felly, a allwch chi gadarnhau yn gyntaf,...
Suzy Davies: Gwnaf, ar bob cyfrif.
Suzy Davies: Wel, mewn gwirionedd, yn gynharach, fe ddywedoch fod y mynyddoedd y tu ôl i Bort Talbot yn ei wthio i gyd i fy nghyfeiriad i. Ond gallaf ddweud wrthych mai dyna beth ydyw, beth bynnag. Mae David Rees eisoes wedi sôn am y problemau gyda Phort Talbot, ac nid oes arnaf eisiau tynnu gormod o sylw at y rheini. Efallai y dylwn gyfaddef, fodd bynnag, fy mod yn cyfrannu at yr ansawdd aer gwael pan...
Suzy Davies: Efallai y dylwn ddatgan diddordeb mewn cefnogi gwelliant 1, ar ôl cael y llythyr a ofnwyd gan Volkswagen yn ddiweddar mewn perthynas â fy nghar fy hun. Os byddaf yn gadael ffenestr fy ystafell wely ar agor dros nos yn fy nghartref yn Abertawe, byddaf yn deffro gyda pheswch smygu, ond wrth gwrs, nid peswch smygu ydyw, peswch Port Talbot ydyw. Mae’n fy nghyrraedd ar draws y bae o ran o fy...
Suzy Davies: Rwy’n cytuno’n llwyr, oherwydd nid yw’n ymwneud â’r diffyg cyfleoedd; yr anallu i fanteisio ar y cyfleoedd hynny sydd wrth wraidd yr hyn rydym yn sôn amdano heddiw yn fy marn i. Clywsom gan Mark Isherwood, wrth gwrs, ein bod yn morio mewn gwaith ymchwil ac adroddiadau ac mae adroddiad arall yn cael ei lansio gan y comisiynydd plant heddiw. Os yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r...
Suzy Davies: A gaf fi ddatgan buddiant fel un o ymddiriedolwyr Teuluoedd a Ffrindiau Carcharorion yn Abertawe? Mae hanesion da iawn gan rai pobl ifanc, wrth gwrs, fel y dywedodd David Melding yn ei sylwadau agoriadol. Mae nifer y bobl ifanc sy’n gadael gofal i symud ymlaen at addysg uwch, er enghraifft, wedi cynyddu’n sylweddol ers 2004, pan aeth 60 yn unig o’r 11,000 o bobl ifanc a oedd yn gadael...
Suzy Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau—o, mae’n ddrwg gennyf; cwestiwn anghywir. Ymddiheuriadau.
Suzy Davies: Diolch i chi am yr ateb calonogol hwnnw, Brif—Ysgrifennydd y Cabinet; fe ddof i ddeall hyn. [Chwerthin.] Wrth gwrs, ceir llawer o enghreifftiau o weithio mewn partneriaeth rhwng awdurdodau lleol ac eraill, yn enwedig byrddau iechyd, i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol, ond credaf fod y gair ‘darparu’ yn dweud y cyfan mewn gwirionedd, yn enwedig am y ffordd yr ydym fel poblogaeth yn...
Suzy Davies: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus drwy lywodraeth leol? OAQ(5)0003(FLG)
Suzy Davies: Diolch, Brif Weinidog, am eich datganiad. Yn gyntaf oll, a gaf i ddechrau drwy fy nghysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaethpwyd ynghylch y posibilrwydd o Ddeddf awtistiaeth? Rwy'n falch o ddweud, hyd yn oed dim ond yn y mis diwethaf hwn, eich bod wedi newid eich safbwynt ers yr adeg hon ym mis Mai o ddweud eich bod yn gobeithio osgoi'r angen am Fil ar wahân, gan y gallai hynny gymryd mwy o...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn am gymryd yr ymyriad, ac rwy’n cytuno â'ch geiriau na ddylem fod yn falch o'r ffaith y bu angen cyllid cydgyfeirio arnom yn ystod y cyfnod hwn. Rydym ar yr un ochr ar hyn, ond rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi yn fy atgasedd tuag at dôn rhai o bapurau Llundain sy’n pwyso tua’r chwith sydd wedi galw ein hetholwyr a bleidleisiodd i ‘adael’ yn ddifeddwl ac, yn...
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad yn y fan yna, Julie. A oeddech chi mor siomedig â mi na wnaeth mwy o bobl ifanc gofrestru i bleidleisio ac, felly, pan eu bod yn gwneud yr honiad, efallai, fod pobl hŷn wedi pleidleisio mewn ffordd sy'n eu rhoi dan anfantais, eu bod wedi colli eu cyfle eu hunain i gael eu clywed?
Suzy Davies: Bydd aelodau Gorllewin De Cymru, gan gynnwys yr Aelod dros Ogwr wrth gwrs, fod yn ymwybodol o'r angen am ffordd osgoi ddwyreiniol ar gyfer cymunedau Llanharan, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny'n rhan o'r cynlluniau ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd a'i phrosiectau seilwaith, gadewch i ni ddweud. Ond ym mlaenau'r Cymoedd dwyreiniol yn fy rhanbarth i y mae’n fwy anodd i’r boblogaeth...
Suzy Davies: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drydaneiddio prif linell reilffordd de Cymru?
Suzy Davies: Daeth traddodiad gwleidyddol radicalaidd Cymru o gymunedau lleol wedi’u grymuso i gael eu cynrychioli yn y cyfnod modern gan ein hawdurdodau lleol, gan gynrychiolwyr etholedig, sydd mewn rhai achosion, yn ennyn cyn lleied o ddiddordeb y trigolion y maent yn eu gwasanaethu fel eu bod weithiau’n gallu dal eu gafael ar ddylanwad dinesig am ddegawdau. A gallant ddal eu gafael ar ideolegau am...
Suzy Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig ein gwelliannau i’r ddadl eang iawn ond hynod o ddefnyddiol hon. Bloedd rhyfel arweinydd Plaid Cymru yn yr etholiad oedd nad oedd gan ei phlaid unrhyw beth yn gyffredin â’r Torïaid ac na fyddai’n gweithio gyda ni. Eto i gyd, yr wythnos diwethaf yn unig, galwasant am gorff hyd braich ar gyfer datblygu economaidd—polisi hirsefydlog y Ceidwadwyr...
Suzy Davies: Mae ffigurau’r heddlu, yn anffodus, yn datgelu mai Stryd y Gwynt yn Abertawe, gyda’i heconomi nos adnabyddus, sydd â’r gyfradd uchaf o droseddau o holl strydoedd Cymru. Mae cynlluniau adfywio ar y gweill ac yn cael eu datblygu a’u hystyried ar gyfer ardal Sgwâr y Castell gerllaw. Pan fyddwch yn cael eich trafodaethau nesaf gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu, a wnewch chi...
Suzy Davies: Mae ffordd ddosbarthu’r cyrion ym Mhort Talbot, a agorwyd i leddfu galw traffig lleol ar yr M4, wedi bod yn weithredol ers oddeutu tair blynedd bellach. Pa ddata y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gael gan yr awdurdod lleol, neu wedi’i dynnu o waith y Llywodraeth ei hun yn ystod arbrawf cyffordd 41, ynglŷn â newidiadau i symudiadau traffig ac ansawdd aer yn benodol? A allwch ddweud wrthyf...
Suzy Davies: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect arfaethedig Metro De Cymru?