David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ddechrau drwy eich llongyfarch ar eich blodyn llabed ysblennydd? Nid yn unig y byddai Lady Rhondda wedi cymeradwyo, ond rwy’n credu y byddai ein cyn gyd-Aelod William Graham wedi cymeradwyo hefyd. Rwy’n siŵr y byddai wedi cyfaddef eich bod wedi gwneud yn well nag ef ar yr achlysur hwn. Y broblem gyda’r strwythur presennol yw ei fod yn ystumio’r...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, byddwn yn trafod yr economi sylfaenol mewn dadl yn ddiweddarach, ac mae’n ymddangos i mi fod prosiectau ynni cymunedol a’r holl broses o wyrddu economi Cymru a Phrydain yn feysydd ble y gallem gael datblygiadau mawr a fyddai’n grymuso pobl leol yn sylweddol.
David Melding: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Os caf ddweud, rwy’n meddwl bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn bwyllgor hapus iawn i wasanaethu arno am fod bron yr holl faterion yr edrychwn arnynt yn ymwneud â hyrwyddo llywodraethu a chraffu da a chlir ac yn aml iawn nid oes yn rhaid i ni lafurio o dan faich pleidiol trwm a rhaniadau, ac mae hynny’n ddymunol tu hwnt. Rydym yn anghydweld...
David Melding: Weinidog, roeddwn yn falch iawn o glywed mewn digwyddiad diweddar a gynhaliwyd yn y Cynulliad fod Llywodraeth Cymru yn arwain yn y maes hwn yn y DU. Er bod y clefydau eu hunain yn brin, ceir nifer fawr ohonynt, sy’n golygu bod un o bob 17 ohonom yn debygol o ddioddef o glefyd prin ar ryw adeg yn ein bywydau, pan fydd sgrinio, profion, diagnosis a thriniaeth yn gwbl hanfodol. Rwy’n credu...
David Melding: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am drin clefydau prin? OAQ(5)0125(HWS)
David Melding: A wnaiff yr Aelod ildio?
David Melding: Mewn rhai gwledydd, maent yn annog mentrau preifat i gynnig cyfleusterau hefyd, a gall hyn chwyldroi argaeledd tai bach cyhoeddus effeithiol a dymunol i'w defnyddio.
David Melding: A gaf i adleisio rhai o sylwadau Julie Morgan? Roeddwn i’n falch, tua diwedd y datganiad, eich bod wedi troi at rai o'r materion cynaliadwyedd a chyfeirio at lesiant cenedlaethau'r dyfodol, yr angen i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael, ac i weld trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan o'r ymdrechion i gyflawni datgarboneiddio. Rwyf yn gobeithio y byddwn yn gweld hyn yn llawn yn y cynlluniau a...
David Melding: Arweinydd y tŷ, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn bod gennym ni system sy'n dryloyw ac sy’n adlewyrchu'n deg y costau sydd gan berchnogion safle, a hefyd y gallu i’r rhai sy’n byw mewn cartrefi symudol feddu ar wybodaeth am y costau hynny a’u herio nhw os oes angen. Ar hyn o bryd, mae'n aneglur iawn ac mae'n ymddangos yn annheg iawn, ac, o ran ble mae’r grym, mae wedi ei lwytho...
David Melding: A gaf fi groesawu’r symudiad at ddefnydd mwy soffistigedig o ddata, Ysgrifennydd y Cabinet? Rwy’n credu ei fod yn bwysig iawn, gan ei fod yn caniatáu i ni, neu’n rhoi cyfle i ni sicrhau’r potensial mwyaf posibl o wariant cyhoeddus. Er enghraifft, mewn ardaloedd lle y darperir lefel uchel o ofal plant o ffynonellau’r wladwriaeth, buaswn yn disgwyl gweld llawer o’r boblogaeth leol...
David Melding: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu llywodraeth leol i fabwysiadu technolegau digidol newydd i helpu dinasyddion i gymryd rhan?
David Melding: Ydw. Rwy'n meddwl bod yr Aelod efallai eisoes wedi gweld adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae'n pwysleisio’r buddion o ran amddiffyn rhag llifogydd a allai ddod gyda phrosiectau morlynnoedd llanw, ac mae hynny'n mynd i fod yn bwysig iawn, iawn. Mae adolygiad Hendry yn nodi y gall morlynnoedd llanw chwarae rhan gost-effeithiol yng nghymysgedd ynni y DU, ac rwy’n meddwl bod hynny’n...
David Melding: Rwyf wrth fy modd i siarad o blaid y cynnig hwn, sydd wedi cael ei osod yn enw Paul Davies ac eraill. Rwy'n falch iawn o weld cefnogaeth drawsbleidiol. A gaf i ganmol hunanddisgyblaeth yr Ysgrifennydd Cabinet, sydd yn amlwg yn gorfod diogelu’r swyddogaeth statudol y bydd yn ei chwarae wrth ymdrin â rhai agweddau ar y rheoliadau sy'n debygol o gael eu cynhyrchu o dan y mater hwn? Ond rwy'n...
David Melding: Brif Weinidog, wrth i Gaerdydd barhau i greu swyddi a denu llawer iawn o ymwelwyr, rydym ni’n gweld mwy a mwy o dagfeydd ar y ffyrdd. Sylwaf fod cynnig nawr i archwilio ymarferoldeb defnyddio'r afon Taf a'r bae fel ein prif lwybrau dŵr prifwythiennol o gwmpas y ddinas—sydd eisoes yn boblogaidd i dwristiaid, ond y gallai fod â defnydd masnachol hefyd trwy symud cymudwyr. A yw'r...
David Melding: Rwy’n hynod o falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, gan fy mod wedi bod â diddordeb mawr mewn addysg bellach drwy gydol fy nghyfnod fel Aelod Cynulliad, ac rwyf wedi tynnu sylw at y materion hyn yn y gorffennol gan mai dyma’r rhan o’r sector addysg sydd weithiau’n cael ei hanghofio, ond mae’n hynod o bwysig i economi Cymru. Fel y clywsom, mae’n galluogi myfyrwyr i...
David Melding: Rwy’n falch iawn o gefnogi’r fenter hon. Hoffwn siarad am gryfder y sector gwirfoddol yn y maes hwn, oherwydd rwy’n credu bod cymaint i elwa arno sy’n gwneud y cynnig hwn hyd yn oed yn fwy hyfyw o ran gwella polisi yn y maes hwn. A gaf fi siarad am St John Cymru yn benodol? Rwy’n falch o fod yn gysylltiedig â’r elusen wych honno, ac rwy’n gwisgo eu tei yn wir, fel y mae...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, fel cadeirydd dau gorff llywodraethu, rwy’n aml yn meddwl bod gan athrawon ffordd o weithio sy’n debyg i’n ffordd ni o weithio. Mae angen iddynt wneud llawer o waith paratoi. Mae’n rhaid iddynt wneud llawer o waith gyda’r nos ac yn ystod yr hyn y mae pobl yn cyfeirio ato’n gyson fel gwyliau. Ond weithiau, mae angen i chi gael amser wedi’i neilltuo—pan...
David Melding: Wel, rwy’n credu eich bod wedi gwneud fy mhryder yn waeth yn hytrach na gwneud unrhyw beth i’w dawelu. [Chwerthin.] A gaf i ddweud hyn? Rwyf i o’r farn bod angen rhyw fath o fecanwaith, efallai rhywbeth tebyg i’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, rhwng Llywodraeth y DU a sefydliadau’r UE, sy’n cynnwys y Llywodraethau datganoledig. Rwy'n credu y byddai proses o’r fath yn anfon neges...
David Melding: Diolch fawr, Lywydd. Nid yw hon yn ddadl ynghylch a ddylem aros yn yr UE. Rydym i gyd wedi symud ymlaen o hynny. Rwy'n gresynu’r canlyniad yn fawr, ond y canlyniad yw’r canlyniad. Yn awr, mae gennym nod cyffredin, sef sicrhau Brexit llwyddiannus. Ceir heriau sy'n wynebu'r DU a Chymru yn y cyd-destun hwnnw. Rwy'n credu y bydd angen diwygio rhai o fecanweithiau’r Llywodraeth a gwaith...
David Melding: Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael â gweinyddiaethau datganoledig eraill ynghylch sefydlu Cyngor Gweinidogion a dulliau cymrodeddu annibynnol?