Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, dros gyfnod y Nadolig ac yn ddiweddar dros y diwrnodau diwethaf, bu cryn sôn am rinweddau neu beidio, yn ôl y digwydd, y cytundeb sydd gerbron y gweithwyr dur ym Mhort Talbot a gweithfeydd eraill ledled Cymru—Trostre , Llanwern a Shotton. Cyn i ni dorri ar gyfer y Nadolig, dywedasoch yn eglur wrthyf i wrth gael eich holi bod hwn yn gytundeb da iawn...
Andrew RT Davies: [Anghlywadwy.] Hoffwn ofyn i’r Dirprwy Weinidog, o ystyried y dicter a ddangoswyd gan Adam Price heddiw—byddai gwleidyddion yn y Siambr a’r cyhoedd, a bod yn deg, yn cael eu synnu, gan ein bod wedi cael gwybod yr holl ffordd drwy’r tymor seneddol hwn fod Plaid Cymru a’r Llywodraeth yn gweithio law yn llaw i ddatblygu’r prosiectau seilwaith hyn, ac yn wir, roedd y comisiwn...
Andrew RT Davies: Ers datganoli, y Blaid Lafur, gyda’ch plaid chi a’r Rhyddfrydwyr, sydd wedi rhedeg addysg yma yng Nghymru, ac mae ganddynt gyfrifoldeb am y canlyniadau hyn. Nid wyf yn hollol siŵr o ble rydych yn cael y Ceidwadwyr.
Andrew RT Davies: Rwy’n gresynu eich bod wedi defnyddio’r gair ‘anfri’. Y bore yma, teithiais i dair ysgol ar draws fy rhanbarth i ddathlu’r Nadolig gyda’r plant yno a’r athrawon a’r rhagoriaeth sy’n digwydd yn yr ysgolion hynny, ond ni allwch—. [Torri ar draws.] Beth rydych yn ei ddweud am amser? Ni allwch wadu record druenus addysg yng Nghymru pan fydd yn cael ei meincnodi rhwng 72 o...
Andrew RT Davies: Mae’n ddrwg gennyf os nad ydych wedi bod yn gwrando o bosibl, ond yn llythrennol 10 eiliad yn ôl, fe wneuthum yr union bwynt hwnnw, do, ac yn wir ni allai fod wedi mynd yn llawer is, felly os mai dyna beth y mae’r Blaid Lafur yn ei ddathlu ynglŷn â’u strategaeth ar gyfer addysg, yna druan â chi, oherwydd, fel y dywedais yn fy sylwadau, rydym yn dal i fod ar ôl mewn mathemateg o...
Andrew RT Davies: Rwy’n croesawu’r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw ar gynnig sydd, er tegwch, ond yn tynnu sylw at yr hyn sy’n amlwg, mewn gwirionedd. Roedd canlyniadau PISA yr wythnos diwethaf yn destun siom enfawr, ac rwy’n meddwl bod yr holl Aelodau ar draws y sbectrwm gwleidyddol yn y Siambr hon—. Mae David wedi gwneud y pwynt heddiw ynglŷn â pha mor anfoddhaol a gofidus, buaswn yn...
Andrew RT Davies: Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych yn llygad eich lle yn nodi’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi adnoddau sylweddol—oddeutu £50,000 rwy’n credu—tuag at yr adroddiad hwn, ac roedd yna argymhellion allweddol, a buaswn yn falch o glywed sut y byddwch yn datblygu’r argymhellion hynny. Ond cyfarfûm â rhai trigolion o gartrefi mewn parciau yr wythnos...
Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich ymateb ar fôr-lynnoedd llanw roeddech yn tynnu sylw at sut y gallent chwarae rhan bwysig yn darparu ynni gwyrdd a rhan o’r fasged gymysg o gyfleoedd ynni adnewyddadwy y byddwch chi fel Llywodraeth yn ei hyrwyddo. Ond hefyd yn y fasged honno o gyfleoedd ynni cymysg mae’r gallu i gael prosiectau adnewyddadwy llai ar y tir. Mae’r broblem go iawn yn ymwneud...
Andrew RT Davies: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiad Llywodraeth Cymru, 'Deall Economeg y Diwydiant Cartrefi mewn Parciau'? OAQ(5)0090(CC)
Andrew RT Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo'r diwydiant amaeth yng Nghanol De Cymru?
Andrew RT Davies: A diolch i chi am y gymeradwyaeth bendant honno i’r cytundeb; rwy'n credu ei bod yn bwysig bod hynny ar y cofnod. Fel y dywedais, dyma ddarn olaf y jig-so sydd angen cytundeb y gweithwyr, wrth symud ymlaen. Ond yr hyn a oedd yn bwysig hefyd yn y trafodaethau oedd y materion yn ymwneud ag ardrethi busnes. Unwaith eto, rwy’n gwerthfawrogi’r sylwadau yr ydych chi wedi eu gwneud ynghylch...
Andrew RT Davies: Rwyf i eisiau eich gwthio chi ar hyn, Brif Weinidog, gan fy mod i’n credu ei bod hi’n bwysig cael arwydd gennych chi o gymeradwyaeth i’r cytundeb hwnnw. Ac yn yr ymateb i fy nghwestiwn cyntaf, mae’n amlwg nad ydych chi wedi rhoi’r gymeradwyaeth honno. Rydych chi wedi cyfeirio, yn briodol, at y cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi, ac y mae Llywodraeth y DU wedi ei roi...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, cyn i mi ddechrau ar fy nghwestiynau, a gaf i ddymuno cyfarchion y tymor i chi, a dymuniadau gorau i'ch teulu dros gyfnod y Nadolig, a dymuniadau gorau ar gyfer y flwyddyn newydd yn arbennig hefyd? Yr wythnos diwethaf, cawsom y newyddion da iawn am Tata Steel a chyhoeddiad y cytundeb yr oedd yn ymddangos a gafwyd rhwng yr undebau a'r cwmni. O gofio ein...
Andrew RT Davies: Mae’n siŵr mai’r feirniadaeth fwyaf dinistriol o weithredu Llywodraeth Cymru hyd yma ar wasanaethau cyhoeddus yw’r feirniadaeth a wnaed ddoe ar addysg, sy’n dangos bod maes polisi y bu Llafur Cymru’n ei reoli ers 17 mlynedd wedi methu’n llwyr wrth ei feincnodi’n rhyngwladol yn erbyn y gorau yn y byd. Honno, yn sicr, yw’r feirniadaeth sylfaenol o’r modd y mae Llafur Cymru...
Andrew RT Davies: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n siŵr y buasech, fel fi, wedi cael eich dychryn gan nifer yr ambiwlansys sydd y tu allan i adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Athrofaol Cymru a’r pwysau y mae hynny’n ei roi ar y staff a’r pryder y mae’n ei roi ym meddyliau cleifion. Gwn fy mod wedi gofyn am gwestiwn brys ar y mater penodol hwn oherwydd bod y...
Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r gallu i ddenu staff i’r GIG yng Nghymru yn amlwg yn elfen hanfodol o ddarparu GIG modern a deinamig yma yng Nghymru. Cyflwynodd Coleg Brenhinol y Meddygon eu harolwg yn ddiweddar a oedd yn dangos na chafodd o leiaf 40 y cant o’r swyddi a hysbysebwyd ar lefel meddygon ymgynghorol eu llenwi, ac yn achos llawer o’r swyddi nid oedd neb yn ymgeisio amdanynt...
Andrew RT Davies: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae'n eu cymryd i wella safon gwasanaethau'r GIG yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0089(HWS)
Andrew RT Davies: Helo—diolch i chi, Lywydd, mae'n ddrwg gennyf. Roeddwn i yn fy myd bach fy hun, yn y fan yna, oeddwn wir. [Chwerthin.] Dyna beth sy'n digwydd pan fyddwch chi’n chwarae o gwmpas â’ch cyfrifiadur. Arweinydd y tŷ, a gawn ni dri datganiad os gwelwch yn dda? Mae’r un cyntaf yn ymwneud â thrafodaethau’r Llywodraeth â Chwmni Moduron Ford mewn cysylltiad â'r ffatri beiriannau ym...
Andrew RT Davies: Wel, gyda pharch, does dim ond rhaid i chi edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban o ran y canlyniadau heddiw pan fyddwch chi’n edrych ar rai o'r newidiadau sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Ond rwy’n eich dwyn i gyfrif am y weledigaeth y mae’n amlwg nad oes gennych ar gyfer addysg yn y dyfodol. Rwyf wedi dyfynnu Huw Lewis, sef Ysgrifennydd blaenorol y...
Andrew RT Davies: Er mwyn popeth, Brif Weinidog, dangoswch rywfaint o ostyngeiddrwydd—er mwyn popeth. Cyfeirio yn ôl at y 1980au, cyfeirio at bolisïau—rydych chi mewn Llywodraeth. Chi yw’r Prif Weinidog. Mae'r Blaid Lafur wedi bod mewn Llywodraeth ers 1999. Rydych chi wedi anwybyddu cenhedlaeth. A ydych yn barod i anwybyddu cenhedlaeth arall? Eich Ysgrifenyddion addysg eich hun sydd wedi dod i'r...