Huw Irranca-Davies: Rydym yn sicr yn nodi—mae pawb yn y Siambr yn nodi—nad yw’r Prif Weinidog yn diystyru Bil parhad, er efallai y dylem ei alw y Bil parhad mawr; os gall fod Bil diddymu mawr, gall fod Bil parhad mawr. Ond dylai fod yno fel rhywbeth wrth gefn, oherwydd yn sicr y peth cyntaf y mae angen inni ei wneud yw gweld a yw Llywodraeth y DU yn ddiffuant yn ei hawydd, a nodwyd yn y derminoleg amwys...
Huw Irranca-Davies: Hoffwn siarad dros gymoedd gogleddol etholaeth Ogwr. Mae gennym ni bedwar cwm, a bydd llawer ohonynt yn elwa ar drafnidiaeth gyhoeddus well o ran bysiau cyflymach, tocynnau rhatach, tocynnau cydgysylltiedig, ond cwm Llynfi yn arbennig. Tybed: beth yw barn y Prif Weinidog ar bwysigrwydd prif reilffordd Maesteg i Cheltenham, fel y mae nawr—neu reilffordd gymunedol fel ag y mae yng nghwm...
Huw Irranca-Davies: A gaf fi ofyn un cwestiwn syml iawn yn seiliedig ar y cyfraniadau eisoes gan lefarwyr y gwrthbleidiau? A yw’r Prif Weinidog wedi rhoi unrhyw warant o gwbl ar gyllid ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig hyd at 2020, ac y byddai’r cyllid hwnnw’n cael ei basio ar gyfer Cymru? A fy ail gwestiwn yw hwn: mewn ymateb i’r sylwadau yr wythnos diwethaf gan un o’r prif ymgyrchwyr o blaid...
Huw Irranca-Davies: ‘Does bosibl, Ysgrifennydd y Cabinet, nad un o’r ffyrdd eraill o wella mynediad at feddygon teulu yw lleihau beichiau diangen, ac rwyf wedi gweld gwaith aruthrol fferyllwyr cymunedol yn fy etholaeth drosof fy hun, wrth iddynt ymdrin â mân anhwylderau er enghraifft. Felly, tybed pa mor obeithiol ydyw y bydd y cynllun Dewis Fferyllfa, lle y gall cleifion, gyda rhywfaint o wybodaeth, gael...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf wrth fy modd cael dweud gair byr iawn yma heddiw. Gwnes y camgymeriad ar y pwyllgor o gydnabod fy mod yn gyfarwydd â'r Cyngor Cofrestru Pedolwyr, ac, er fy mhechodau, dywedodd y Cadeirydd yn rasol, 'Wel, cewch chi ddweud ychydig o eiriau.' Byddai ef yn fwy nag abl ei hun. Ond hoffwn sôn am ychydig o bethau. Fel yr ydym newydd ei glywed, mae hyn yn sicr yn...
Huw Irranca-Davies: A wnaiff—?
Huw Irranca-Davies: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ildio. Wrth drafod cynlluniau morol, ac rwy’n ymwybodol fod gennym amser oherwydd gallaf weld rhai cyd-Aelodau’n cwyno am y ffordd yr ydym yn ei wneud. A gaf fi ofyn iddo—? Wrth gyflwyno’r cynlluniau morol hynny, mae ei wneud ar sail Cymru gyfan yn eithaf uchelgeisiol a tybed, wrth ymgynghori arno, oni ddylai ef ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr...
Huw Irranca-Davies: A wnewch chi ildio?
Huw Irranca-Davies: Diolch. Rwy’n siarad fel cyn Weinidog pysgodfeydd, ac rwy’n rhannu rhai o’r rhwystredigaethau. Ond a gaf fi nodi wrthi ein bod, cyn 2010, wedi dechrau symud tuag at reolaeth ranbarthol ar y moroedd, er enghraifft ym môr y Gogledd, ac mae niferoedd penfras yno, ar ôl defnyddio’r wyddoniaeth, bellach yn dechrau gwella mewn gwirionedd? Ond a gaf fi ei hannog i ochel rhag awgrymu y...
Huw Irranca-Davies: Felly, fy nghwestiwn yw: a wnaiff hi ddweud, beth bynnag am adael yr UE, mewn gwirionedd mae angen i ni weithio gyda chenhedloedd eraill, doed a ddel, er mwyn osgoi diplomyddiaeth llong ryfel o’r fath?
Huw Irranca-Davies: A wnaiff yr Aelod ildio?
Huw Irranca-Davies: Diolch. Diolch i Vikki am ildio, a llongyfarchiadau iddi hi a chydweithwyr eraill, a Jeremy, am gyflwyno hyn. Oherwydd potensial, union botensial y sector ynni adnewyddadwy, boed yn fôr-lynnoedd llanw, boed yn ynni adnewyddadwy arall ar wely’r môr ac yn y blaen, ond hefyd treillio, gosod pibellau ac ati, ar y cyd â bwrw ymlaen â photensial yr economi las, a fyddai’n cytuno bod angen...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Cyn dechrau, a gaf i ymddiheuro i chi a chyd-Aelodau, ac i’r Gweinidog hefyd, am fod ychydig yn hwyr a cholli ei sylwadau agoriadol? Cefais fy synnu gan y cynnydd yr ydym wedi ei wneud y prynhawn yma. Felly, rwy’n ymddiheuro.
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Wel, a gaf i yn gyntaf oll ganmol y ffordd adeiladol a diddorol iawn y mae’r Gweinidog a'i dîm wedi gweithio gyda ni ar graffu’r Bil hwn? Adroddwyd ar y Bil ar 10 Mawrth, gwnaed 12 o argymhellion, ac mae'n braf bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ei araith heddiw ac mewn llythyr at y pwyllgor, wedi derbyn 10 argymhelliad. Felly, rydym yn nodi sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet...
Huw Irranca-Davies: Tybed a oes modd i ni ddod o hyd i amser am ddatganiad ar effaith y newidiadau i amodau gwaith a phensiynau ar gyfer y lwfans cyflogaeth a chymorth sy'n dod i rym ar 1 Ebrill, a'r effaith yng Nghymru yn benodol. Mae'r Pwyllgor Dethol ar Waith a Phensiynau, pwyllgor trawsbleidiol, wedi cwestiynu’r egwyddor y tu ôl i’r toriadau hyn i’r lwfans cyflogaeth a chymorth o 1 Ebrill. Maen nhw...
Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Roedd yn galonogol clywed am y cod ymarfer newydd ar gyfer cyflogaeth foesegol ar gyfer cadwyni cyflenwi i'r sector cyhoeddus yng Nghymru gan ei fod yn dangos arweinyddiaeth wirioneddol. Ond wrth lansio’r cod ymarfer, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: 'Dim ond drwy gydweithio y gallwn ni helpu i sicrhau gwell amodau, ac yn bwysicach na hynny amodau...
Huw Irranca-Davies: Yn bersonol, rwy’n croesawu'n fawr yr arweinyddiaeth y mae'r Prif Weinidog yn ei dangos ar yr ymgyrch hon i gael confensiwn cyfansoddiadol. Ond, ymhellach i gwestiwn pwysig David Melding, ar hyn o bryd, ac yn dilyn y sesiwn ddiddorol honno a gawsom ddoe, lle'r oedd gennym ni fyfyrwyr y gyfraith o Brifysgol De Cymru yn yr oriel yn ein gwylio, os na fyddwn yn sicrhau mwy o gydraddoldeb o ran...
Huw Irranca-Davies: 7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo arferion cyflogaeth da ar gyfer gweithwyr yng nghadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(5)0523(FM)
Huw Irranca-Davies: Rwy’n mwynhau ei berorasiwn helaeth yma’n fawr. A gaf fi ofyn yn syml, ar fater seilwaith cenedlaethol, lle y mae’r trydaneiddio o’r tu hwnt i Gaerdydd i lawr i Abertawe a gorllewin Cymru? Pa bryd y mae’n mynd i ddigwydd—os o gwbl?
Huw Irranca-Davies: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio eto?