Alun Davies: Mae’n bwysig cydnabod, pe bai hynny’n wir, efallai y byddai gan bobl bryderon, ond gadewch i mi ddweud hyn: mae Estyn yn parhau i gyfarfod ag awdurdodau lleol, awdurdodau addysg lleol, er mwyn parhau i gynnal trafodaethau gyda hwy am y math o gymorth sydd ei angen arnynt; mae’r cynadleddau gwella sydd wedi’u cynnal ledled Cymru ar hyn o bryd yn cael eu cynllunio i edrych eto ar y...
Alun Davies: A gaf i ddechrau drwy gytuno â’r pwynt mae’r Aelod wedi ei wneud amboutu traddodiadau Coleg Harlech a gwaith a chyfraniad Coleg Harlech? Rydw i’n credu bod pob un ohonom ni sydd wedi ymweld â’r coleg a phob un ohonom ni sydd wedi eistedd yn y Siambr yma yn cynrychioli ardal Harlech yn deall ac yn cydnabod y cyfraniad mae wedi ei wneud i addysg gydol oes dros y blynyddoedd. Rydw...
Alun Davies: Rydym yn cydnabod y bydd cau safle Wern Fawr yn arwyddocaol, ond ni ddylai arwain at golli cyrsiau ar gyfer oedolion sy’n ddysgwyr. Mae Addysg Oedolion Cymru, ynghyd â swyddogion, yn parhau i weithio gyda’r gymuned i gyflwyno darpariaeth dysgu oedolion yn nhraddodiad Coleg Harlech.
Alun Davies: Rwy’n anghytuno’n llwyr â’r rhagdybiaeth. Rwy’n anghytuno â’r dadansoddiad. Rwy’n anghytuno â’r casgliad. A ydych chi’n ymwybodol o’r anhawster sy’n ein hwynebu yng Nghymru, Lywydd? Mae pobl yn gwneud y mathau hynny o sylwadau heb unrhyw dystiolaeth yn sail iddynt neu heb unrhyw fodd cynhaliol o gadarnhau’r mathau hynny o honiadau di-sail. Yr hyn sy’n digalonni...
Alun Davies: Rydym yn deall—rydym wedi cynnal nifer o arolygon gweithlu yn ddiweddar ac rydym wedi creu Cyngor y Gweithlu Addysg, wrth gwrs, a fydd yn adrodd ar y materion hyn yn fanylach maes o law. Ond rydym yn deall mai un o’r materion pwysicaf o ran pobl yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â ble y byddant yn byw a ble y byddant yn gweithio yw’r amgylchedd gwaith ei hun, a thrwy drin athrawon â...
Alun Davies: Rydym yn ceisio sicrhau bod gennym amgylchedd gwaith yng Nghymru y bydd athrawon yn ei werthfawrogi a’i fwynhau, fel ein bod yn gallu rhoi’r math o gefnogaeth, y cwricwlwm a’r adnoddau ar waith—mewn ymateb i Llyr Gruffydd. Byddwn yn sefydlu amgylchedd addysgu a fydd yn ddeniadol i athrawon, nid yn unig o wledydd eraill y Deyrnas Unedig, ond i bobl yng Nghymru yn ogystal.
Alun Davies: Yes, I do. I know that that is not an adequate response. It’s one thing to list the problems and the challenges facing schools, but it’s quite another thing to resolve them. This Government has resolved problems and faced challenges and then ensured that we can invest in children’s education for the future, and we have done so. Through the kinds of changes that you’ve listed partially...
Alun Davies: I’m not certain that I do accept that, because if we do accept that analysis and accept the suggestion that the Plaid Cymru spokesperson is making, then of course we would have one funding system for all schools across Wales. We would be nationalising, if you like, the local schools. I’m not sure that the Member is asking for that. I certainly wouldn’t wish to see that. So, you’re...
Alun Davies: Rwy’n deall bod ysgolion, lle bynnag y maen nhw, yn wynebu sefyllfa anodd iawn ambell waith oherwydd y sefyllfa ariannol a chyllidebol rydym i gyd yn ei ddeall, ac rydym yn deall pam y mae yno. A gaf fi ddweud hyn: os oes gan yr Aelod enghraifft benodol y mae ef eisiau cyfeirio ati, rwy’n hapus iawn i dderbyn llythyr ganddo fe yn esbonio beth yn union mae’n ei feddwl, ac fe wnaf i ateb...
Alun Davies: Yr hyn rwy’n ei gofio, Darren, o’r dyddiau pan oedd Gordon Brown yn dod â’r G20 at ei gilydd i achub yr economi orllewinol oedd bod y Blaid Geidwadol yn eistedd gyferbyn, lle rydych chi heddiw, fel pysgod aur yn dweud dim mewn ymateb i hynny. Gadewch i mi ddweud hyn—[Torri ar draws.] Gadewch i mi ddweud hyn: mae’r adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru yn adroddiad pwysig ac rwy’n...
Alun Davies: Rwyf wedi mwynhau cyfraniadau’r Aelod dan sylw ers bron i ddegawd yn y lle hwn, lle y mae wedi rhefru yn erbyn canlyniadau polisïau Llywodraeth y mae’n ei chefnogi ar draws y ffin yn Lloegr. Mae pawb ohonom yn gwybod bod yna anawsterau cyllido yn ein hwynebu yng Nghymru, ac rydym yn gwybod pam fod yna anawsterau cyllido yn ein hwynebu yng Nghymru—oherwydd bod Llywodraeth Geidwadol wedi...
Alun Davies: Bydd yr Aelod yn gwybod bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi adolygu sefyllfa sefydliadau addysg bellach ac uwch yng Nghymru yn ddiweddar, ac nid oedd yn ystyried eu bod yn dioddef yr un anawsterau ariannol â’r rhai sy’n bodoli yn Lloegr o ganlyniad i bolisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Alun Davies: Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn arwain y broses o gyflwyno’r cynnig gofal plant, fel y mae’r Aelod yn gwybod, a rhan o hynny—. Un o’r rhesymau am y cynlluniau peilot a fydd yn dechrau ym mis Medi mewn gwahanol rannau o Gymru yw sicrhau bod gennym y gweithlu ar gael—y gweithlu sy’n briodol i anghenion y cynnig gofal plant sy’n cael ei ddarparu—a’i fod yn...
Alun Davies: Mae goruchwylwyr llanw yn perthyn i gategori cofrestru gweithwyr cymorth dysgu. Mae goruchwylwyr llanw’n darparu goruchwyliaeth tymor byr yn absenoldeb athro, ac ni ddylai hyn gynnwys addysgu fel y’i diffinnir yn y gofynion gwaith penodol. A mater i’r pennaeth yw sicrhau bod unigolyn yn barod i ymgymryd â rôl o’r fath ac yn meddu ar y ddawn i gyflawni’r dyletswyddau hyn. Wrth...
Alun Davies: Fel y dywedais wrth ateb Simon Thomas, byddem yn annog ac yn sicrhau bod ysgolion, lle bynnag y bo angen, yn defnyddio’r adnoddau sydd ar gael iddynt, er mwyn sicrhau bod merched yn cael mynediad at y cynhyrchion hyn, sy’n eu galluogi i gael eu haddysg. Fel y dengys y cofnodion, mae’r Llywodraeth hon wedi bod yn dadlau ers nifer o flynyddoedd na ddylid trethu’r cynhyrchion hyn yn y...
Alun Davies: Yr ysgolion sy’n gyfrifol am nodi eu hanghenion staffio a’r rolau y maent yn eu cyflawni. Mae pob gweithiwr cymorth dysgu yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi addysg yn yr ystafelll ddosbarth a’r tu allan iddi.
Alun Davies: Fel y credaf fy mod wedi dweud eisoes, wrth ateb y cwestiwn cynharach, ceir gwahanol ffurfiau ar dlodi, mewn gwahanol leoedd, gyda gwahanol bobl, mewn gwahanol ffyrdd, ar wahanol adegau. Ac mae’n rhaid i ni, fel Llywodraeth, sicrhau nad ydym ond yn ymateb i broblemau, ond ein bod yn mynd ati’n rhagweithiol i sicrhau nad yw merched sy’n mynychu ysgolion yng Nghymru yn cael eu rhoi dan...
Alun Davies: Absolutely’. Rwy’n hapus iawn i ddweud hynny. Ond rwy’n credu bod yn rhaid i ni fynd yn bellach na hynny. Mae tlodi yn ymddangos mewn ffyrdd gwahanol, ac rydym ni’n deall bod teuluoedd a phobl yn cael eu heffeithio gan dlodi mewn ffyrdd gwahanol. Ac nid yw’n ddigonol i unrhyw Lywodraeth ‘simply’ i ddweud, gan fod yna ddim tystiolaeth ar hyn o bryd bod yna broblem yn y maes yma,...
Alun Davies: Diolch i chi. Nid oes unrhyw asesiad wedi ei wneud. Rwy’n cymryd llesiant pob dysgwr o ddifri, a dylai bod gan ysgolion drefniadau i gefnogi eu dysgwyr. Dylai merched gael eu hatgoffa yn rheolaidd bod nwyddau hylendid ar gael oddi wrth aelodau benywaidd penodol o staff, os oes angen.
Alun Davies: Fe wnaf i ateb y cwestiwn cyntaf yn gyntaf. Ydy, mae’n opsiwn i sicrhau bod y cynlluniau yn statudol yn y dyfodol. Mae hefyd yn opsiwn, wrth gwrs, i symud y broses gynllunio i’r consortia ar draws y wlad, ac rydym ni’n ystyried hynny ar hyn o bryd. Nid oes gen i gynnig y prynhawn yma ar unrhyw un o’r syniadau yma, ac nid wyf eisiau gwneud cynnig ar hyn o bryd. Rydw i eisiau gweithio...