Llyr Gruffydd: Rydw i’n meddwl bod y ffaith bod yna gynllun darpariaeth effaith weledol yn bodoli erbyn hyn gan y Grid Cenedlaethol, mewn partneriaeth gydag Ofgem, yn tanlinellu’r ffaith bod yna egwyddor bwysig wedi ei derbyn. Hynny yw, mae yna dderbyn gan yr awdurdodau perthnasol bod y peilonau yma yn cael effaith. Efallai y gallwn ni ddadlau i ba raddau maen nhw’n cael effaith, ond mae’r ffaith...
Llyr Gruffydd: Fel Aelod Cynulliad dros ogledd Cymru, wrth gwrs, ac fel rhywun sy’n byw yng ngogledd-ddwyrain Cymru, mae’n bwysig ein bod yn cofio bod hyn yn ymwneud â mwy na Phort Talbot yn unig, fel y mae’r Aelodau eisoes wedi ein hatgoffa. Roedd llawer iawn o ofid a gwae y tro diwethaf i mi ymweld â gweithwyr dur Shotton y llynedd. Roedd y cwmwl a oedd yn hongian dros holl fenter Tata wedi...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i’r ddadl? Rydw i’n credu bod nifer o’r cyfranwyr wedi adlewyrchu pwysigrwydd y pwnc sydd o dan sylw, ac wrth gwrs consyrn nifer ohonom ni ynglŷn â’r effaith posib fydd ar sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, addysg bellach hefyd wrth gwrs, fel sydd wedi ei gyfeirio ato, a’r economi yn ehangach. Fe wnes i fethu â...
Llyr Gruffydd: Ie, iawn.
Llyr Gruffydd: Ie, rydw i’n cytuno. Llaw fer, efallai, oedd ‘gweithio’; rŷch chi’n berffaith iawn i fy nghywiro i a diolch am hynny. Wrth gwrs, roedd y ‘tier 1 post-study work visa’ a gafodd ei ddiddymu yn 2012 yn caniatáu i fyfyrwyr rhyngwladol aros am ddwy flynedd ychwanegol ar ôl graddio, ac mae prifysgolion ledled y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru yn gefnogol i hynny ddigwydd. Mi fyddai...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf ddod â’r cynnig yma gerbron yn enw Plaid Cymru. Mi rydym ni, wrth gwrs, o’r farn bod myfyrwyr o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig—boed nhw’n dod o oddi fewn i’r Undeb Ewropeaidd neu du hwnt, wrth gwrs—yn dod â budd diwylliannol, economaidd ac addysgol aruthrol i’n prifysgolion a’n colegau ni yma yng Nghymru ac, yn wir, i...
Llyr Gruffydd: I wneud hynny, wrth gwrs, mae’n bwysig ein bod ni’n sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn lle deniadol iddyn nhw ddod iddo fe. Yn fy marn i, mae cynnig y cyfle i fyfyrwyr i aros yn y Deyrnas Unedig ar ôl astudio yn rhan bwysig o hynny: rhywbeth hefyd yn ei dro fyddai’n helpu i leihau’r bwlch sgiliau mewn sawl sector hefyd yma yng Nghymru. Mae presenoldeb cryf myfyrwyr tramor hefyd,...
Llyr Gruffydd: Diolch i chi am eich ateb, a, gobeithio, yn y misoedd i ddod, y byddwch chi’n cyhoeddi lle mae hwn yn mynd i gael ei leoli, oherwydd mae Ysgrifennydd yr economi, wrth gwrs, wedi dweud ei fod e’n edrych ar Wrecsam fel lleoliad posibl ar gyfer y banc datblygu. A fyddech chi’n barod i ystyried Wrecsam fel lleoliad posibl ar gyfer y trysorlys? Oherwydd rŷm ni’n gwybod bod y gweithlu...
Llyr Gruffydd: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o ddatblygu trysorlys Cymreig? OAQ(5)0078(FLG)[W]
Llyr Gruffydd: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddisgwyliadau'r Llywodraeth o ran Awdurdodau Lleol mewn perthynas â gweithredu safonau'r Gymraeg?
Llyr Gruffydd: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i symud neu gynnig y gwelliannau yn swyddogol? Mae PISA, wrth gwrs, yn anffodus, wedi ein hatgoffa ni unwaith eto bod Cymru wedi perfformio’r gwaethaf o wledydd y Deyrnas Unedig, bod sgoriau darllen, gwyddoniaeth a mathemateg yn waeth nag oedden nhw yng Nghymru 10 mlynedd yn ôl, a bod Cymru heddiw ymhellach y tu ôl i gyfartaledd y Deyrnas Unedig yn y tri...
Llyr Gruffydd: Nawr, maen nhw’n dweud bod 30 pwynt o safbwynt sgoriau PISA yn cyfateb i flwyddyn o addysg. Os ydy hynny’n wir, wrth gwrs, ac nid wyf yn amau ei fod e, mae Cymru bellach flwyddyn y tu ôl i’n cyrhaeddiad ni yn 2006 o safbwynt gwyddoniaeth. Felly, ar y mesur yna, mae Cymru wedi mynd yn ôl blwyddyn mewn 10 mlynedd, a dyna, yn anffodus, yw ‘legacy’ addysg Llafur Cymru.
Llyr Gruffydd: Wel, nid wyf yn siŵr a ydy hynny yn gywir, a dweud y gwir, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd mae yna ddyletswydd ar hyn o bryd i’r Swyddfa Bost sicrhau bod yna ddarpariaeth o fewn rhyw 3 milltir i 95 y cant o’r boblogaeth wledig o fewn y Deyrnas Gyfunol. Mae hynny yn cael ei adolygu fel rhan o’r hyn sydd yn cael ei weithredu gan y Llywodraeth yn San Steffan ar hyn o bryd, a phwy â ŵyr...
Llyr Gruffydd: Y realiti, wrth gwrs, yw bod y gyllideb ar gyfer gwarchod rhag llifogydd wedi ei thorri. Nawr, o gofio bod yna arian cyfalaf ychwanegol yn mynd i ddod i Gymru yn sgîl datganiad yr hydref, a wnewch chi wneud yr achos cryfaf posibl ar gyfer sicrhau bod y ffynhonnell honno yn cael ei hadfer?
Llyr Gruffydd: A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad am effaith bwriad Llywodraeth y DU i leihau darpariaeth Swyddfeydd Post mewn ardaloedd gwledig? EAQ(5)0092(CC)[W]
Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei ddatganiad a chroesawu’r ffaith bod y Bil wedi cael ei osod yr wythnos yma, a hefyd datgan diddordeb fel llywodraethwr ysgol, oherwydd mae yna gryn ddyletswyddau yn cael eu gosod ar fyrddau llywodraethwyr, wrth gwrs, yn y Bil yma? A gaf i hefyd ddweud fy mod yn cytuno mai cael Deddf dda, nid Bil cyflym, sydd yn bwysig yn hyn o beth, er, wrth gwrs, ei...
Llyr Gruffydd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ofalwyr ifanc?
Llyr Gruffydd: Diolch am eich ateb. Fel yr ŷch chi’n dweud, fel y mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd, mae’r mwyafrif o anhwylderau cysgu yn cael eu trin ar draws adrannau o fewn ein hysbytai. Nid oes yna adran neu ganolfan arbenigol ar gyfer anhwylderau cysgu. Mae dioddefwyr yn cwyno am fynediad at ddiagnosis ac at driniaeth ar gyfer anhwylderau cysgu nad ydynt o ganlyniad i resymau anadlol, ac mi...
Llyr Gruffydd: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am anhwylderau cysgu nad ydynt yn ymwneud ag anadlu? OAQ(5)0092(HWS)[W]
Llyr Gruffydd: Mi fyddwn ni yn cefnogi’r Gorchymyn yma, ond mae gen i jest un neu ddau o bwyntiau y byddwn i’n hoffi eu gwneud, ac efallai y byddai’r Gweinidog yn gallu ymateb iddyn nhw. Mi ddylwn i hefyd ddatgan diddordeb fel un o lywyddion anrhydeddus Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol. Nid yw dim ond cofrestru unigolyn sydd yn weithiwr ieuenctid, wrth gwrs, yn mynd i sicrhau gwella...