Suzy Davies: A gaf fi ddechrau heddiw drwy gofnodi diolch pawb ohonom, rwy’n siŵr, i Athro Laura McAllister ac i’w llongyfarch ar yr anrhydedd a dderbyniodd yn y rhestr anrhydeddau pen-blwydd ychydig ddyddiau yn ôl? Gall yr Aelodau sy’n dychwelyd gofio dadl ym mis Tachwedd 2014 pan rennais fy syndod ynghylch y datgeliad fy mod bellach yn cael fy ystyried yn berson hŷn. Efallai mai’r rhan...
Suzy Davies: A gaf fi eich llongyfarch hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet? Mae behemoth o wefan Llywodraeth Cymru yn gwahodd busnesau yn yr ardal fenter i wneud cais am gymorth ariannol tuag at gost ardrethi busnes, neu i wrthbwyso yn erbyn ardrethi busnes, ar gyfer 2016-17. Mae’r cynllun hwnnw wedi bod ar agor ers 4 Ebrill, sydd ychydig yn gynt na rhai o’r lleill a grybwyllwyd heddiw. Clywais eich ateb i...
Suzy Davies: Llongyfarchiadau wrthyf i, hefyd, Ysgrifennydd newydd. A allaf ddweud diolch yn fawr, hefyd, am y datganiad heddiw a’r adroddiad? Wrth gwrs, nid wyf wedi cael y siawns i edrych drosto fel y mae’n haeddu. Hoffwn wneud hynny’n fanwl cyn bo hir. Rwy’n falch o weld ei fod yn glir, o rai o’r geiriau rwyf wedi’u gweld yn barod, nad yw’r gwaith yma yn dyblygu gwaith sydd wedi cael ei...
Suzy Davies: Brif Weinidog, bydd yr Aelodau'n gwybod bod y cynlluniau adfer rhannol ar gyfer Parc Slip yn eithaf amhoblogaidd, ac ni fyddai neb ohonom am weld yr hanes y tu ôl i hynny’n cael ei ailadrodd. Ond roeddem yn sôn am hyn yn eithaf manwl dros flwyddyn yn ôl bellach. Mae'r awdurdod lleol yn honni’n gryf nad oes dewis arall i'r cynlluniau. Felly, a yw hysbysiad gohirio Llywodraeth Cymru o...
Suzy Davies: Diolch i chi am eich datganiad, Brif Weinidog, yn enwedig eich sylwadau ynglŷn â chaffael. Yn eich datganiad fe sonioch am ymrwymiad i ddiwydiant dur cynaliadwy hirdymor ac fe gadarnhaoch i Neil Hamilton, yn ddiweddarach yn y ddadl heddiw, fod hynny’n cynnwys yr hyn a alwoch yn ben trwm y gwaith ym Mhort Talbot. Eto i gyd, ychydig ddiwrnodau yn ôl yn ‘The Guardian’ adroddwyd nad oedd...
Suzy Davies: Mae partneriaeth sgiliau bae Abertawe yn gonsortiwm dysgu seiliedig ar waith sydd wedi’i alw’n bennaf yn ddigonol yn unig gan Estyn. Gyda’r fath obeithion am botensial economaidd dinas-ranbarth bae Abertawe, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol am drosi talent yn sgiliau dymunol yn cyflawni’r amcanion hynny mewn gwirionedd?
Suzy Davies: Pa feini prawf a ddefnyddia Llywodraeth Cymru i gyfrif gwerth effaith gwariant Croeso Cymru ar economi Cymru?
Suzy Davies: Yn gyntaf oll, Brif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich ymateb cynharach i Andrew R. T. Davies ynglŷn â'r pwyllgorau y bydd y Llywodraeth yn eu cynnal ar y cyd â Phlaid Cymru? Mae'n rhaid i mi fynegi fy mhryderon fod rhywbeth sydd mor bwysig â’r cyfansoddiad, sy'n cynnwys, wrth gwrs, pawb yn y Cynulliad hwn, yn fater i bwyllgor sy'n cynnwys dwy blaid yn unig. Ond, fy mhrif...
Suzy Davies: Brif Weinidog, roeddwn i braidd yn siomedig o glywed eich bod ond wedi llwyddo i siarad â dau o'r darpar brynwyr. Tybed a allech chi ddweud wrthyf a wnaethoch chi gymryd camau rhagweithiol i siarad â phawb a oedd wedi dangos diddordeb mewn gwneud cynigion ac, yn unol â thelerau cyfrinachedd masnachol, y math o amrywiaeth o gostau y mae Llywodraeth Cymru yn fwyaf tebygol o’i chefnogi...
Suzy Davies: Leanne Wood.