David Melding: Fel Jenny Rathbone, rwy’n bryderus iawn ynglŷn â thagfeydd yn ein dinasoedd, yn enwedig Caerdydd, ac aneffeithlonrwydd llwyr y ffordd yr ydym yn caniatáu i’r traffig lifo ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae angen i ni wneud mwy o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen i ni adeiladu ar yr hyn sydd gennym a sicrhau bod cynlluniau eraill yno i gael pobl oddi ar y ffyrdd. Buasai peidio â gyrru ar...
David Melding: Rwy’n datgan fy niddordeb fel Cadeirydd grŵp cynghori’r Gweinidog ar ganlyniadau i blant. A gaf fi groesawu penderfyniad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ymgymryd â gwaith cynhwysfawr ar wasanaethau i blant sy’n derbyn gofal? Rwy’n credu y bydd hyn yn helpu grŵp cynghori’r Gweinidog yn ei waith yn darparu cyngor ar sut y gellir datblygu cynllun a rhaglen genedlaethol, gyda’r nod...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, dywedir yn aml mai chwarae yw gwaith plant, ond mewn ardaloedd difreintiedig, mae llawer o blant heb fynediad at fannau chwarae diogel. Genhedlaeth neu fwy yn ôl, yn aml buasent wedi chwarae ar y stryd. Nid yw hynny hyd yn oed yn opsiwn bellach. Ac rydych yn iawn—mae gan Lywodraeth Cymru hanes da iawn yn y maes hwn. Ond rwy’n credu mai un gwendid, efallai, yw nad...
David Melding: Y peth hanfodol yma, Ysgrifennydd y Cabinet, yw y bydd yr orsaf bŵer yn awr yn parhau i gynhyrchu ynni yn y tymor canolig i ddiwallu’r galw brig. Felly, mae’n rhan o’r seilwaith cynhyrchu pŵer a rhaid i bobl gael sicrwydd bod y safonau uchel hyn—neu safonau uwch, beth bynnag—yn cael eu dilyn fel mater o drefn ac nad ydynt ond yn dod i sylw’r cyhoedd yn sydyn pan fo Aelodau...
David Melding: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol ac mae hynny’n ein hymrwymo i atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth erbyn 2020, ac yna i ddechrau gwrthdroi’r dirywiad hwnnw. Darllenais yn ddiweddar am y gostyngiad yn nifer y sewin yn afonydd a moroedd Cymru. Maent yn nodwedd o Gymru mewn sawl ffordd—sewin. Maent yn ein...
David Melding: A dylai fod yn flaenoriaeth, a chredaf y bydd yn dawelwch meddwl i bawb ohonom pan fyddwch yn cyflawni hynny. Mae llawer o arbenigwyr a rhanddeiliaid yn credu bod angen ymagwedd fwy gofodol ar ardaloedd morol gwarchodedig yn hytrach na’u bod yn benodol i rywogaethau neu gynefinoedd. Yn ychwanegol at hynny, roedd llawer yn dadlau hefyd dros ardaloedd lle na chaniateir echdynnu. A yw’n...
David Melding: Diolch am yr ateb cryno iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. [Chwerthin.] Roedd yn—[Anghlywadwy.] Y gwaith olaf a wnaed—. Fe’i comisiynwyd gennych, neu fe’i comisiynwyd gan eich rhagflaenydd, ym mis Mawrth 2014, felly buasai wedi cymryd ychydig dros dair blynedd iddynt i’w gwblhau, gwaetha’r modd. Gwnaed y gwaith mawr diwethaf gan ragflaenydd Cyfoeth Naturiol Cymru, Comisiwn Cefn Gwlad...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, pa bryd y rhagwelwch y bydd grŵp llywio’r ardaloedd morol gwarchodedig yn cyhoeddi ei adroddiad ar wella rheoli?
David Melding: 5. Pa bolisïau sydd ar waith i gynyddu bioamrywiaeth mewn amgylcheddau morol? OAQ(5)0090(ERA)
David Melding: A gaf i ei gwneud yn glir mai siarad fel unigolyn ydw i, yn hytrach na chynrychioli barn y Ceidwadwyr Cymreig am yr hyn yr wyf yn mynd i’w ddweud? Nid yw’n arbennig o ddiddorol, rwy’n amau, ond—[Torri ar draws.] Rwyf nawr, yn amlwg—[Torri ar draws.] Rwyf nawr wedi codi disgwyliadau. [Chwerthin.] A gaf i ddweud, ar ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed, fy mod i’n...
David Melding: Brif Weinidog, a gaf i groesawu'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud yn y fan yna am gadw’r gwasanaeth. Rydych chi wir yn arwain y ffordd yn y DU, ac rwy’n eich cymeradwyo am hynny. Ond wrth i ni adolygu nawr y gwasanaeth hwn sydd wedi cael llawer o lwyddiant cychwynnol, rwy’n meddwl ein bod ni efallai’n rhy ddibynnol ar hunanatgyfeirio—mae’n ymddangos mai dyna un o'r pethau sydd...
David Melding: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl pwrpasol i gyn-filwyr y lluoedd arfog? OAQ(5)0408(FM)
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr hyn a fu’n ddadl adeiladol a chraff iawn yn fy marn i. Ac mae llawer o themâu cyffredin wedi dod yn amlwg. A gaf fi ddechrau gyda Jeremy Miles? Rwy’n meddwl bod y pwynt y gall technoleg guro daearyddiaeth yn gywir, ond rwy’n meddwl mai’r ochr arall i hynny yw ei fod wedi gwneud ein holl ardaloedd trefol yn...
David Melding: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud ein bod yn cyflwyno’r cynnig hwn mewn ysbryd adeiladol? Rydym yn awyddus i archwilio lle ein dinasoedd a’n hardaloedd trefol yn ein bywyd cenedlaethol, yn enwedig fel sbardun ar gyfer twf a rhywbeth a ddylai fod wrth wraidd ein huchelgais ar gyfer Cymru ffyniannus a mwy cynaliadwy yn y dyfodol. A gaf fi ddweud ein bod yn derbyn gwelliant y...
David Melding: Mae’r gallu i fyw ynddynt ac ymgysylltiad â dinasyddion yn allweddol i lwyddiant dinasoedd modern ac ardaloedd trefol yn gyffredinol. Ym mhob cwr o’r byd, mae dinasoedd yn mwynhau adfywiad, mae pobl yn symud yn ôl i ddinasoedd, ac ni chafodd eu lle mewn bywyd cenedlaethol erioed mo’i bwysleisio cymaint. Un duedd nodedig yw’r ffafriaeth gynyddol am ddinasoedd llai a chanolig eu...
David Melding: Rwy’n credu bod sgiliau’n allweddol i gynhyrchiant, ac un maes sy’n aml yn cael ei anwybyddu yw sgiliau rheoli, yn enwedig rheolaeth ganol. Mae llawer o dystiolaeth fod hwnnw’n sector allweddol, yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac efallai fod angen buddsoddi mwy o fenter yno i gael y rheolaeth o’r ansawdd gorau y gallwn ei chael.
David Melding: A gaf fi ganmol Julie Morgan am dynnu sylw at fater cludiant cymunedol? Oherwydd ar gyfer y bobl fwyaf anabl—sydd fwyaf agored i niwed ac yn lleiaf tebygol o wneud unrhyw fath o daith—mae cludiant cymunedol yn hanfodol. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud fod llawer o arloesi wedi bod tan oddeutu 10 mlynedd yn ôl pan newidiodd y system grantiau rywfaint, ac nid yw wedi cael ei datblygu...
David Melding: 9. Pa fesurau sydd yn eu lle i wella cynhyrchiant economi Cymru? OAQ(5)0109(EI)
David Melding: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddweud ein bod yn croesawu'r ddadl hon ac y byddwn yn cefnogi'r cynnig? O ran y pwyslais y bydd gennym yr wythnos hon, yn fras, ar faterion gwella ansawdd bywyd, ynghyd â'n dadl yfory—y ddadl plaid leiafrifol y mae’r Ceidwadwyr wedi’i nodi ar yr amgylchedd trefol—rwy’n credu ei bod yn iawn ein bod yn treulio llawer o amser ar y materion ansawdd...
David Melding: Rhaid i mi ddweud, Gwnsler Cyffredinol, nad wyf wedi fy synnu gan y ddau ddyfarniad hyn. Roeddwn yn disgwyl y dyfarniad a bennwyd gan yr Uchel Lys a'r Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr a’r aelod ar y lefel uchaf o'r farnwriaeth o Gymru. Cadarnhawyd y dyfarniad hwnnw, ac roedd yr amrywiol ddadleuon y gallem ni—neu efallai y gallai’r Albanwyr, beth bynnag,—...