Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, os gallaf fwrw ymlaen â'r pwyntiau ar PISA eto, roedd yn nodedig yn eich ymatebion i arweinydd Plaid Cymru nad oedd gan yr un aelod o'r meinciau cefn y tu ôl i chi awydd gwrando arnoch chi. Roedd pob un ohonynt yn edrych ar eu cyfrifiaduron, a hynny'n briodol. Mae angen i’r Blaid Lafur fod â chywilydd yn sgil canlyniadau heddiw, ar ôl 17 mlynedd o...
Andrew RT Davies: Diolch. Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Mae hyn wedi cael ei drafod yn helaeth yn y Siambr yma am yr ailbrisio, ac rwy’n cymryd bod Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gorff annibynnol, ac nad oes gan y Llywodraeth unrhyw ddylanwad dros hynny. A bod yn deg, mae’r Llywodraeth wedi rhoi £10 miliwn o’i harian ei hun ar y bwrdd, ond a ydych yn cydnabod y sefyllfa ddifrifol y mae rhai...
Andrew RT Davies: Diolch yn fawr iawn, Bethan. Fe sonioch am ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr ac fel rhywun sy’n gyfarwydd iawn â chanol tref Pen-y-bont ers y 1970au pan oedd yn dref farchnad, un peth y mae siopwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr ei angen—ac nid ydynt yn ceisio ail-greu rhyw gyfnod o’r 1950au a’r 1960au—yw cysondeb gan yr awdurdod lleol ynglŷn â pha gynlluniau sydd ganddynt ar gyfer datblygu....
Andrew RT Davies: A wnewch chi ildio?
Andrew RT Davies: Gan siarad fel Aelod dros Gaerdydd drwy ranbarth Canol De Cymru, a wnaiff yr Aelod gydnabod bod y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yng nghanol Caerdydd yn rhywbeth i’w groesawu, ond mae’r cynnydd hwnnw wedi ei ganolbwyntio’n bennaf ar ailddatblygiad Dewi Sant 2, sy’n ddatblygiad manwerthu sy’n ticio pob blwch, gydag opsiwn bwyta ac yn aml iawn, nid yw pobl yn bwrw allan i gael profiad...
Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, mae Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon wedi nodi gwaith y consortia, gan ganmol rhai agweddau ar gymorth, ond gwnaethant y pwynt fod yna her sylweddol—a fi fyddai’r person cyntaf i fod eisiau her mewn system, gan fod hynny, yn amlwg, yn datblygu’r system, gobeithio, ond roeddent yn tynnu sylw at ddiffyg cefnogaeth difrifol ar ran y consortia...
Andrew RT Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dau bwynt os caf, i chi, Weinidog. Y cyntaf yw eich bod wedi sôn, yn yr ymateb cynharach, am y ffaith fod y Bil yn rhagweld casglu—bod derbyniadau’r dreth gyfredol tua £40 miliwn, ac yn amlwg, mae adroddiadau’n dweud bod hon yn dreth sy'n lleihau, ac yn y pen draw, gallai fod mor isel â £27 miliwn ac yn disgyn. Felly, a ydych chi wedi edrych ar y...
Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, hoffwn fynegi’r un teimladau â’r Aelod dros Ogledd Caerdydd. Fel rhywun, ynghyd â Jenny Randerson, a oedd yn ymdrin â'r mater hwn yn y trydydd Cynulliad, mae angen cynnydd o ran hyn, ac er bod cyhoeddiadau’n parhau i ymddangos, naill ai o San Steffan neu oddi yma, gyda'r bwriadau gorau, ni all fod yn iawn fod hyn wedi’i adael i lusgo ymlaen, a bod cynnydd braidd yn...
Andrew RT Davies: Rwy’n gwerthfawrogi nad yw’n ymddangos fy mod i’n gallu cael ffigur allan ohonoch chi heddiw, Brif Weinidog. Rwyf wedi talu teyrnged i'r camau y mae’r Llywodraeth wedi eu cymryd hyd yn hyn, ond nodwyd yn gwbl eglur mai dim ond pocedi o arfer da sydd yn y GIG yng Nghymru, yn anffodus. Rwyf wedi rhoi’r ffigur o un o bob 10 i chi ac rwyf i wedi rhoi’r ffigur i chi bod 15 gwaith yn...
Andrew RT Davies: Diolch am hynna, Brif Weinidog. Roeddwn i’n chwilio’n benodol am darged gennych chi, fel y Prif Weinidog a'r Llywodraeth. Rwy’n sylweddoli efallai na fydd ffigurau eglur a phendant ar gael ar hyn o bryd, ond y ffigur a roddais i chi yw mai dim ond un o bob 10 o gleifion sy’n derbyn, ar hyn o bryd, y sgrinio a’r gefnogaeth honno y mae’n debyg fyddai'n helpu ac yn achub eu bywydau a...
Andrew RT Davies: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Brif Weinidog, os caf ddychwelyd at y cwestiwn cyntaf heddiw, ar fadredd, hoffwn ganmol fy nghydweithiwr, Angela Burns, sy’n cadeirio'r grŵp hollbleidiol ar y mater penodol hwn erbyn hyn—ar ôl bod trwy brofiadau eithaf echrydus ei hun, mae hi’n gallu dod â’r profiadau personol hynny at y bwrdd. Mae hwn yn fater sydd, yn amlwg, trwy sylw diweddar yn y...
Andrew RT Davies: Hoffwn longyfarch Angela am gyflwyno’r ddadl, fel rhywun sydd â dyslecsia. Rwy’n ei ystyried yn ddiddorol, weithiau, pan fyddwch yn edrych ar rai tudalennau, neu ar rai pethau rydych yn ceisio gwneud synnwyr ohonynt, ac yna, yn amlwg, mynegi eich hun. Ond efallai fod y cardiau wedi’u delio’n wahanol i rai pobl, ac yn amlwg, gwnaed iawn am fy nyslecsia gan fy wyneb golygus wrth...
Andrew RT Davies: Rwy’n ddiolchgar i chi am dderbyn ymyriad. Yn amlwg mae wedi’i grybwyll yn y ddadl—mae ardrethi busnes a phrisio eiddo yn system dreth hirsefydlog yn y wlad hon. Felly, yn eich sylwadau, a ydych yn credu y byddai unrhyw ddiwygio ar y system honno yn dibynnu ar fod yn seiliedig ar eiddo, yn hytrach na system dreth drosiant efallai neu ryw fath o gydnabyddiaeth o’r rhyngrwyd? Oherwydd...
Andrew RT Davies: Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl heddiw, er nad oeddwn yn cymryd rhan yn y ddadl tan oddeutu hanner awr yn ôl, ond erbyn hyn rwy’n gwneud hynny. Felly, byddwn yn ddiolchgar os gall y Siambr fod yn amyneddgar â mi. Ond mae’n fater pwysig iawn, ac mae’r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn cyffwrdd ar—fel yr amlygodd yr Aelod dros Gastell-nedd—adfywio’r stryd fawr a...
Andrew RT Davies: Rwy’n symud ymlaen mewn bywyd ar yr oedran tywysogaidd o 48, ac fel y mae fy meibion yn dweud wrthyf o hyd, dylwn gael fy rhoi allan i bori, cymaint felly fel eu bod yn fy nghadw’n ddigon pell oddi wrth y darn o offer data mawr diweddaraf sydd gennym, a elwir yn Scorpion, rhag y difrod y gallwn ei wneud ag ef. Ond mae’n bwynt pwysig, fod angen i ni addysgu a chaniatáu i bobl ddatblygu...
Andrew RT Davies: Mae cyfle enfawr i wneud hynny, ac fel rhywun, yn amlwg, sydd wedi cael ei arolygu’n rheolaidd, ar ôl bod yn ffermio ers 25 mlynedd, rwy’n gweld manteision ac anfanteision hynny gan fod y dirwedd yn wledd symudol, ac mae’r diffyg hyblygrwydd yn aml iawn sy’n gysylltiedig â chiplun o ddelwedd Google neu rywbeth y bydd arolygwyr yn dibynnu arno yn achosi problemau’n aml iawn. Ond...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd dros dro. Mae’n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl hon, er bod hynny ychydig yn gynt nag y credais y byddwn yn cymryd rhan yn y drafodaeth. Rwy’n datgan buddiant, fel ffermwr, a rhag i mi grwydro i feysydd y gallai pobl feddwl eu bod yn gwrthdaro â fy muddiannau, rwy’n cofnodi hynny. Ar ein fferm ym Mro Morgannwg, rydym yn gwneud defnydd mawr o ddelweddau lloeren a...
Andrew RT Davies: Weinidog, yn amlwg, rydym wedi cael datganiad yr hydref heddiw. Rydym yn gwybod bod y cytundeb dinas ar waith. Yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall o ddatganiad yr hydref heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn cael £400 miliwn ychwanegol, a bydd yn allweddol, wrth gyfuno’r cytundeb dinas a’r adnoddau ychwanegol a ryddhawyd heddiw, fod cynhyrchiant ardal cytundeb dinas Caerdydd yn cael ei gynyddu,...
Andrew RT Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymgysylltu â ffermwyr yng Nghanol De Cymru?
Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os gwelwch yn dda, ynglŷn â'r sefyllfa yr oedd yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru ynddi ddydd Sul? Rwy’n gwerthfawrogi bod y pwysau hyn yn bodoli ledled y Deyrnas Unedig ac rwy’n gwerthfawrogi bod mwy o bwysau ar adegau penodol o'r flwyddyn, ond pan fo gennych chi...