Julie Morgan: Diolch yn fawr am y sylwadau cadarnhaol iawn yna ac am groesawu hyn fel cam tuag at—cam i'r cyfeiriad cywir, ddywedwn ni? Rwy'n llwyr gefnogi'r sylwadau y mae'r Aelod wedi'u gwneud. Rydym eisiau cyrraedd cydraddoldeb cyflog a pharch. Gwyddom fod gweithwyr gofal yn gwneud gwaith hynod gyfrifol a gwelwn hwn, unwaith eto, fel y dywedaf, fel y cam cyntaf ar y daith honno. O ran cyflymder...
Julie Morgan: Wel, rwy'n diolch i Gareth Davies am y sylwadau yna, ac rwy'n rhyfeddu i ryw raddau at ei agwedd ef tuag at y cyhoeddiad hwn. Mae hwn yn sicr yn gam cyntaf tuag at wella bywydau gweithwyr gofal cymdeithasol, ac fe'i croesawyd yn eang, yn ogystal â'r taliad o £1,000. Felly, rwy'n synnu'n fawr at ei agwedd ef at y datganiad hwn heddiw. Pam ydym ni wedi talu £9.90? Dyna oedd yr ymrwymiad yn...
Julie Morgan: Ym mis Rhagfyr, fe wnes i gyhoeddi y byddem ni'n talu'r cyflog byw gwirioneddol o £9.90 yr awr i weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig mewn cartrefi gofal a gofal cartref, yn y gwasanaethau i oedolion a'r gwasanaethau i blant, a chynorthwywyr personol a ariennir drwy daliadau uniongyrchol. Mae canolbwyntio ar y gweithwyr hyn yn cydnabod ein huchelgais ehangach ni i wella ansawdd...
Julie Morgan: Diolch. Rwy'n falch iawn o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am y cynnydd aruthrol a wnaethom ni o ran talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, un o'n blaenoriaethau allweddol ni yn y rhaglen lywodraethu. Ym mis Mehefin, fe wnes i ddatganiad ar y dull y byddwn ni'n ei ddefnyddio i weithredu'r ymrwymiad hwn ac fe eglurais i y byddwn ni'n...
Julie Morgan: Cefais gyfarfod ddoe, a dweud y gwir, gyda’r tîm profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, lle gwnaethant ddisgrifio'r ymchwil unigol roeddent yn ei chyflawni, ac roedd yn ymddangos i mi eu bod, yn yr ymchwil honno, yn mesur beth oedd effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a pha gynnydd roeddent yn ei wneud. Felly, credaf efallai y dylem edrych ar hynny'n fanylach, gan eu bod yn...
Julie Morgan: Gwnaf, wrth gwrs.
Julie Morgan: Diolch. Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu a chefnogi iechyd a lles holl blant a phobl ifanc Cymru. Mae Cymru wedi arwain y ffordd ar fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Dangosodd canfyddiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru am nifer yr achosion a’u heffaith yr effaith bersonol, gymdeithasol ac economaidd y gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ei chael...
Julie Morgan: Yn ffurfiol.
Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Mabon, ac yn amlwg, mae hyn yn bwysig iawn i’ch etholwraig. Rwy'n credu efallai mai'r ffordd orau o ymdrin â'r sefyllfa unigol yw drwy ysgrifennu atom ynghylch y sefyllfa honno. Awn ati i edrych ar yr amgylchiadau penodol y cyfeiriwch atynt. Yn sicr, argymhellir cyfarpar diogelu personol gwell, fel masgiau wyneb FFP3, mewn achosion lle gallai aelod o'r...
Julie Morgan: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i ddarparu’r cyfarpar diogelu personol a argymhellir i weithwyr gofal cymdeithasol, yn rhad ac am ddim, tan ddiwedd y pandemig. Caiff y gwaith hwn ei reoli drwy gyflenwadau rheolaidd i awdurdodau lleol i'w dosbarthu ymlaen i wasanaethau cyhoeddus a phreifat.
Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, Natasha, a diolch yn fawr am y gwaith y buoch yn ei wneud i godi proffil ADHD. Credaf ei fod wedi cael cyhoeddusrwydd da, a diolch am hynny. Gwyddom pa mor bwysig yw canolbwyntio ar asesu a chymorth ar gyfer cyflyrau niwroddatblygiadol, sy'n cynnwys ADHD, ac yn cynnwys oedolion wrth gwrs. A bydd yr adolygiad rwyf eisoes wedi'i grybwyll yn cynnwys plant...
Julie Morgan: Diolch. Mae'n hanfodol fod pob plentyn ac oedolyn sydd â chyflwr niwroddatblygiadol, gan gynnwys y rhai sydd ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, yn gallu cael y gwasanaethau y maent eu hangen. Bydd adolygiad galw a chapasiti o'r holl wasanaethau niwroddatblygiadol yn adrodd ym mis Mawrth, a byddwn yn gweithredu ar yr argymhellion y mae'n eu gwneud ar gyfer gwella ledled Cymru.
Julie Morgan: Yn sicr, mae'n rhaid i'r gymuned fod yn llygaid a chlustiau, gan nad yw'n bosibl i swyddogion ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol fod yno a gweld popeth. Felly, mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i weithredu ar unrhyw beth a welwn sy'n peri pryder i ni. Yn amlwg, bydd yr adolygiad a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU yn cyflwyno cynigion, rwy’n siŵr, a byddwn yn edrych yn agos iawn ar beth...
Julie Morgan: Diolch i Alun Davies am ei gwestiwn pwysig iawn, ac mae hwn yn fater rwyf wedi gweithio'n agos arno—ac yn dal i weithio'n agos arno—gyda'r Gweinidog addysg, oherwydd yn amlwg, mae'n fater sy'n ymwneud â'r ddwy adran. Rydym yn datblygu cynigion a fydd yn cryfhau'r fframwaith presennol ymhellach mewn perthynas ag addysg ddewisol yn y cartref i helpu i sicrhau bod plant sy'n derbyn eu...
Julie Morgan: Diolch. Diolch yn fawr am eich cwestiynau pwysig iawn. Byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau y ceir cyswllt wyneb yn wyneb â phlant a theuluoedd yn ystod unrhyw gyfyngiadau symud posibl pellach. Yn ystod y cyfyngiadau symud blaenorol, rydym yn ymwybodol na chafwyd cyswllt wyneb yn wyneb â llawer o deuluoedd, er iddo barhau gyda rhai teuluoedd. Yn anffodus, y sefyllfa mewn gwirionedd yw...
Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn. O safbwynt y gweithlu, rwy'n siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol fod hyfforddiant helaeth yn cael ei ddarparu i'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cyflwynodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 drefniadau diogelu cryfach a chadarn i Gymru. Sefydlodd fwrdd diogelu annibynnol cenedlaethol, a byrddau diogelu plant rhanbarthol, i gefnogi ymarfer...
Julie Morgan: Diolch, a diolch i bawb, am eich cyfraniadau i'r ddadl heddiw ar y cynllun hawliau plant. Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth barhaus a'ch gwaith craffu ar ein gwaith, oherwydd, fel y nododd yr Aelodau, mae hawliau plant nawr yn bwysicach nag erioed, gan ein bod ni wedi gweld yr effaith ddwys y mae'r pandemig wedi'i chael ar blant a phobl ifanc, oherwydd mae plant yn llai tebygol o fod...
Julie Morgan: Diolch. Ychydig wythnosau'n ôl, roedd hi'n Ddiwrnod Byd-eang y Plant y Cenhedloedd Unedig, a chefais y pleser mawr o fod yn y gynhadledd Cymru Ifanc, a ddaeth â phobl ifanc o bob rhan o Gymru at ei gilydd i gael sgwrs â Gweinidogion y Llywodraeth. Roedd yn fraint cael bod yn rhan o'r digwyddiad hwn. Rhoddodd gyfle i mi, ynghyd â'r Prif Weinidog a Gweinidogion eraill y Cabinet, gan gynnwys...
Julie Morgan: [Anghlywadwy.]—ariannu ymgyrch hysbysebu a chyfryngau cymdeithasol genedlaethol. Rydym yn cefnogi ystod o fentrau wedi'u targedu i annog pobl i weithio ym maes gofal cymdeithasol. Rydym yn ariannu staff rhanbarthol i gefnogi ymgyrchoedd a arweinir gan awdurdodau lleol a chan fyrddau iechyd.
Julie Morgan: Diolch i Ken Skates am ei gwestiwn, a diolch iddo hefyd am ei gydnabyddiaeth o'r gwaith aruthrol a wnaed yn y sector gofal yn ystod y pandemig. Roeddem yn falch iawn o ddyrannu'r dyraniad ychwanegol o £42 miliwn, ac fe'i cyhoeddwyd drwy gynllun y gaeaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Ac mae cynllun y gaeaf yn nodi sut y bydd y buddsoddiad hwn yn darparu ymatebion integredig yn y...