Mr Simon Thomas: Rydw i’n siarad i ategu'r hyn sydd eisoes wedi cael ei ddweud gan Rhun ap Iorwerth a rhai pobl eraill yma. Rydw i’n ddiolchgar iawn i’r deisebwyr a hefyd y Pwyllgor Deisebau am adroddiad manwl iawn ar y materion hyn, ac rwy’n cyfeirio hefyd at yr ohebiaeth sydd wedi bod gan y pwyllgor newid hinsawdd i’r Gweinidog ar y materion hyn hefyd. Rydw i jest eisiau dechrau gyda’r ffaith...
Mr Simon Thomas: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cafodd Sefydliad DPJ ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2016 yn dilyn marwolaeth Daniel Picton-Jones. Roedd Daniel wedi bod yn dioddef gyda'i iechyd meddwl ac yn anffodus, dewisodd roi diwedd ar ei fywyd ar 5 Gorffennaf 2016. Mae Sefydliad DPJ wedi deillio o'r frwydr a wynebodd Daniel i geisio cael cymorth mewn ardal wledig ac yn ei alwedigaeth ynysig fel ffermwr. Mae ei...
Mr Simon Thomas: Wel, mae arnaf ofn nad yw'r weledigaeth rydych wedi'i nodi yn wir yn Sir Benfro mewn perthynas â mynediad at feddygon teulu. Yn y ddau fis diwethaf, rwyf wedi cael diweddariadau cyson gan fwrdd iechyd Hywel Dda ynglŷn â diffyg argaeledd meddygon teulu dros y penwythnos. Yr wythnos diwethaf, cysylltodd etholwr o Arberth â mi ar ôl ffonio ei meddygfa 82 o weithiau cyn llwyddo i gael...
Mr Simon Thomas: Wrth gwrs, mae'n bwysig tanlinellu bod addysg drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd yn cyfoethogi cyraeddiadau addysgiadol ac mae yna brawf ddigamsyniol o hynny. Rwy'n troi i ben arall Maldwyn i ofyn cwestiwn i'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn ag ad-drefnu ysgolion yn y Drenewydd. Mae yna bron £120 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer y pwrpas yna, wedi'i gymeradwyo gan y Llywodraeth, gan gynnwys darparu...
Mr Simon Thomas: A gaf i ofyn am ddau ddatganiad neu gamau gweithredu gan y Llywodraeth? Yn gyntaf oll, a gawn ni ddechrau gyda Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)? Ers inni basio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol fel Cynulliad, mae Tŷ'r Arglwyddi wedi diwygio'r Bil. Fel y digwyddodd, rhoddodd egwyddorion amgylcheddol ar wyneb y Bil, rhywbeth yr wyf yn ei gefnogi, ond na wnaethant ymgynghori â ni ar hynny,...
Mr Simon Thomas: Rydw i'n cefnogi, wrth gwrs, y cais gan fy nghyfaill i ddod â'r cynnig deddfwriaethol yma, ond rydw i'n gwneud hynny am sawl rheswm. Yn gyntaf oll, mae'n ddymuniad gen i a Phlaid Cymru i weld ein bod ni'n dod i ben â gwerthu ceir newydd sydd yn ddibynnol ar danwydd ffosil erbyn 2030, ac rydw i'n synnu nad yw Llywodraeth San Steffan wedi gwneud camau i gyflymu'r broses yma. Rydym ni'n dal i...
Mr Simon Thomas: Hoffwn ei atgoffa ein bod wedi cael dadl, neu gwestiynau yn hytrach, ar fynediad band eang a seilwaith oddeutu awr yn ôl, pan oedd y Gweinidog yn anhapus iawn nad yw'n ofynnol i ddatblygiadau newydd gael mynediad at fand eang fel rhan o'r datblygiad. Dyna'n union yr hyn na all ganiatáu iddo ddigwydd gyda'r newid hwn i gerbydau trydan.
Mr Simon Thomas: Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am argaeledd fisas ar gyfer gweithwyr mudol mewn sectorau allweddol economi Cymru pan fydd y DU yn gadael yr UE?
Mr Simon Thomas: Diolch yn fawr, Llywydd—Dirprwy Lywydd, mae'n ddrwg gen i. Rwy'n croesawu datganiad heddiw gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Wrth gwrs, mae Plaid Cymru yn croesawu'r ffaith ein bod ni'n defnyddio'r grymoedd newydd yma, a bod yna broses yn ei lle er mwyn cytuno gyda Llywodraeth San Steffan sut y dylai'r pwerau yma gael eu trosglwyddo i Gymru. Mae yn bwysig, fel mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi...
Mr Simon Thomas: Pan wyf yn meddwl am y syniad hwn o sofraniaeth seneddol yn cario'r dydd ar bopeth, pan edrychaf ar hanes gwleidyddol o 1979—o streic y glowyr, i erydu hawliau gweithwyr ac undebau llafur, a threth y pen, a chynni o ganlyniad i'r cwymp—nid wyf yn gweld sofraniaeth seneddol yn amddiffyn pobl Cymru. Rwy'n ei weld fel rhywbeth hirsefydlog i gyfiawnhau anghydraddoldeb a braint, a gwelaf fod...
Mr Simon Thomas: Wn i ddim a yw hi'n wir neu ai un o chwedlau'r Cynulliad yw hi, Llywydd, ond dywedir wrthyf os ydych chi'n sefyll ar y darn hwnnw o wydr yng nghanol Siambr y Cynulliad, bydd yn torri a byddwch yn disgyn i'r hollt islaw. Wn i ddim a yw hynny'n wir ai peidio, ond mae'r ddadl yma—[Torri ar draws.] Nid wyf yn mynd i roi cynnig arni, peidiwch â phoeni. Gallwch chi geisio, er hynny, Alun....
Mr Simon Thomas: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mr Simon Thomas: Diolch i'r Aelod. A all grybwyll un achlysur pan fo unrhyw Aelod yma wedi dadlau yn erbyn fframwaith ar gyfer y DU?
Mr Simon Thomas: Gan ymhelaethu ar y pwynt a godwyd nawr am yr ymchwiliad o dan arweiniad Cwnsler y Frenhines y gofynnodd Andrew R.T. Davies amdano—cyfle arall i ateb yr agwedd honno, ond, yn benodol, a wnewch chi gadarnhau rhywbeth yr wyf i wedi gofyn ichi yn y gorffennol, sef pa un a fydd cylch gorchwyl yr ymchwiliad hwnnw hefyd yn cael ei gyhoeddi, efallai drwy gyfrwng datganiad y Prif Weinidog i'r...
Mr Simon Thomas: Mae hi wedi bod yn bleser heddiw croesawu Elly Neville i'r Cynulliad, ac mae llawer o Aelodau'r Cynulliad wedi ei chyfarfod. Mae hi wedi codi bron i £160,000 erbyn hyn, fel merch chwech a saith mlwydd oed, ar gyfer triniaeth ganser ward 10 yn Llwynhelyg, ac rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi mewn munud, Prif Weinidog, gobeithio, i ddiolch iddi am ei hymdrechion. Ond yr hyn y mae wir yn ei...
Mr Simon Thomas: A wnaiff y Gweinidog ildio?
Mr Simon Thomas: Diolch. Fe fydd yn gwybod, os gallwn, drwy'r Bil hwn a chamau eraill, leihau faint o alcohol cryf y mae pobl yn ei yfed a symud pobl—os gallaf ei roi mewn ffordd gwmpasog—at ffyrdd iach o yfed, byddwn wedi llwyddo i leihau'r niwed a ddaw o yfed alcohol. Mae'r Bil yn un ffordd o wneud hynny. Ffordd arall, wrth gwrs, yw sicrhau bod mwy o ddiodydd alcohol isel yn cael eu gwerthu, diodydd...
Mr Simon Thomas: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mr Simon Thomas: Diolch. Fe fydd yn ymwybodol fy mod yn gyffredinol yn cefnogi'r Bil hwn a'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio'i gyflawni, ond credaf ei bod hi'n bwysig cofnodi mai modelu yw'r hyn y mae newydd ei ddyfynnu i ni, nid tystiolaeth. Ni allwn ddefnyddio tystiolaeth am nad oes gennym unrhyw beth fel hyn. Mae'r Alban newydd ddechrau ar ei thaith, ond nid oes gennym hynny. Mae'r modelu y mae...
Mr Simon Thomas: Nid oeddwn yn mynd i gael fy nargyfeirio'n llwyr ar hyd y llwybr hwnnw. Roeddwn am nodi'n unig ei fod yn gofyn am economi treth isel. Nid oes gan y gyfradd dreth hon rydym wedi bod yn siarad amdani yng Nghymru, ac a gymeradwywyd gan bawb ohonom, dreth ar gyfer band uwch o eiddo masnachol. Felly, efallai y gwelwn dwf yno.