Lord Dafydd Elis-Thomas: Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd unrhyw gamau i gefnogi'r cynnig y mae'r Aelod yn cyfeirio ato.
Lord Dafydd Elis-Thomas: Rhywbeth a baratois yn gynharach—
Lord Dafydd Elis-Thomas: Blaenoriaethau ar gyfer datblygu sector y diwydiannau creadigol yng Nghymru, ac mi fydd hwn yn cael ei lansio i lawr y ffordd—mae yna groeso ichi ymuno â ni—yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro yn yr hanner awr nesaf. Diolch yn fawr.
Lord Dafydd Elis-Thomas: Fel y dywedais i gynnau, rydym ni yn lansio Cymru Greadigol heno, ac er bod pob diwydiant yng Nghymru yn cyfrannu mewn ffordd allweddol tuag at ein cymdeithas ni, mae gan y diwydiannau creadigol ffordd unigryw o gyfrannu. Nid yn unig ydy'r sector creadigol yn creu swyddi a chyfoeth yn rhan o'r economi, fel diwydiannau eraill, ond mae'r sector creadigol yn cyfrannu tuag at greu hunaniaeth a...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr iawn, ddirprwy lefarydd. Cyn i mi ddechrau'r ddadl hon, ni fydd yn syndod i Mike Hedges nac i eraill yma y buaswn yn hoffi nodi ein bod wedi colli un o hyrwyddwyr mawr y diwylliant Cymreig, Sybil Crouch, y byddwn yn ffarwelio â hi'n derfynol—yn y bywyd hwn, beth bynnag—yfory yn Abertawe, ac estyn ein cydymdeimlad â David Phillips, a'i theulu i gyd, a'i channoedd os nad...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Y cyfan i gyd? Pob un ohonyn nhw?
Lord Dafydd Elis-Thomas: Rwy'n falch eich bod wedi dewis eich—nid eich 10 arwr uchaf yn hollol, ond roeddech chi bron yno, rwy'n meddwl. Ac rwy'n falch hefyd o weld y gair 'arwyr' yn cael ei ddefnyddio nid yng nghyd-destun rhyw gyflawniad unigolyddol, fel sy'n digwydd weithiau, hyd yn oed gydag arwyr chwaraeon ac arwyr eraill, ond ein bod yn dathlu'r ffaith bod yr arwyr hyn yn dod o gymuned, o gefndir, o brofiad...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'n rhoi pleser mawr imi ymateb i'r ddadl hon. Dadl fer yw un o'n darnau mwy creadigol o'r Rheolau Sefydlog, yn yr ystyr ei bod yn caniatáu i Aelodau ddewis pwnc, a chyfrifoldeb unrhyw Weinidog priodol sydd ar gael yw ymateb i'r ddadl wedyn. Ond rwy'n arbennig o falch o allu gwneud hynny heddiw oherwydd, drwy ddewis dathlu rhyngwladolwyr o Gymru sydd wedi...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Yn naturiol, rydw i'n mynd i gytuno efo hynny. Ces i'r cyfle i agor maes newydd ym Mharc Eirias yn y sir dwi'n byw ynddi, a dwi'n gwybod pa mor bwysig ydy'r adnodd yma ar gyfer pob math o chwaraeon lle mae'r meysydd yma'n addas. Felly, beth wnaf i ydy cyfleu'r hyn sydd wedi'i ddweud yma heddiw i Chwaraeon Cymru a gofyn am adroddiad pellach ar y cynnydd y maen nhw'n ei wneud yn Ynys Môn yn...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr am y sylw yna. Rydym ni wedi buddsoddi'n sylweddol yn barod drwy Chwaraeon Cymru, sy'n arwain ein buddsoddiad mewn caeau pêl-droed 3G ac artiffisial. Maen nhw wedi buddsoddi £3.731 miliwn yn y grŵp cyfleusterau chwaraeon cydweithredol, sy'n cynnwys Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Hoci Cymru. Mae hyn wedi helpu Ymddiriedolaeth Cymdeithas...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr am y sylw yna. Fe wnaf i eich sicrhau chi y byddaf yn trafod hyn yn benodol gyda'r gymdeithas bêl-droed a chyda Chwaraeon Cymru i weld pa fodd y gallwn ni'n arbennig ddatblygu'r agweddau cymunedol, oherwydd un o'r llwyddiannau sydd yn dilyn proffil uchel i dimau rhyngwladol, mewn rygbi ac mewn chwaraeon eraill, ac mewn pêl-droed yn benodol yn yr achos yma, yw bod pêl-droed...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae de-orllewin Cymru yn gyrchfan arbennig i ymwelwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi er mwyn gwella ansawdd yr hyn y gall yr ardal ei gynnig ac mae wedi ymrwymo i barhau i ddatblygu twristiaeth yno a thrwy Gymru.
Lord Dafydd Elis-Thomas: Wel, rwy'n falch o gadarnhau bod gwariant y loteri ym Merthyr Tudful a Rhymni, fel y gwyddoch, dros £13 miliwn dros gyfnod y gwariant hwnnw ac mae 70 o brosiectau wedi'u cwblhau neu wrthi'n cael eu cyflawni. Ac fe fyddwch yn gwybod, am ein bod wedi ymweld â rhai o'r prosiectau hyn gyda'n gilydd, am y gwaith pwysig a wnaed ac sy'n dal i gael ei ddatblygu yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch, Dawn. Dathlodd y Loteri Genedlaethol ei phen-blwydd yn 25 y llynedd. Ers 1994 mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi tua 50,000 o brosiectau ledled Cymru gyda buddsoddiadau gwerth bron i £1.75 biliwn. Mae hyn yn amlwg wedi cael effaith drawsnewidiol ar gyllid ar gyfer y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, achosion elusennol a phrosiectau cymunedol ledled Cymru.
Lord Dafydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn manwl. Byddaf yn sicr yn ymrwymo i ystyried y castell yn ei gyd-destun ac fel rhan o'r dirwedd, neu'r treflun, gan nad yw adeiladau hanesyddol yn bodoli ar eu pen eu hunain. Maent bob amser yn bodoli mewn perthynas â'r amgylchedd naturiol neu'r amgylchedd adeiledig o'u cwmpas, ac felly mae cyfrifoldeb gan Cadw, ac rydym bob amser yn dweud, 'Rydym yn...
Lord Dafydd Elis-Thomas: Credaf ein bod yn mynd yno'r wythnos hon, onid ydym, neu'r wythnos nesaf? [Torri ar draws.] Rwy'n credu.
Lord Dafydd Elis-Thomas: Dwi wedi darparu'r ateb yna yn Gymraeg. Dwi'n gwybod dy fod di'n ddysgwr. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith cadwraeth ar safleoedd hanesyddol sy’n bwysig i Gymru, fel castell Rhiw’r Perrai.
Lord Dafydd Elis-Thomas: A yw hynny'n iawn? Ruperra—Rhiw'r Perrai. Wel, dyna mae fy nghynghorwyr ysgolheigaidd yn ei ddweud.
Lord Dafydd Elis-Thomas: Mae Cadw wedi darparu cymorth hirdymor i’r castell dros gyfnod o flynyddoedd drwy grantiau ariannol a chyngor proffesiynol.
Lord Dafydd Elis-Thomas: Ni allaf roi ffigurau i chi ar hynny o'r briff sydd gennyf o fy mlaen heddiw, ond fe edrychaf ar hynny. Ond rwyf am ddweud hefyd fod angen i unrhyw waith cysylltiedig fod yn rhan o astudiaeth ddichonoldeb mewn perthynas â datblygu'r twnnel, gan nad yw'n gwneud synnwyr agor twnnel a pheidio â sicrhau bod y mynediad iddo ar y ddwy ochr yn golygu ei fod yn rhan o'r rhwydwaith beicio cenedlaethol.