Canlyniadau 121–140 o 10000 ar gyfer speaker:Alun Davies OR speaker:Alun Davies OR speaker:Alun Davies OR speaker:Alun Davies OR speaker:Alun Davies OR speaker:Alun Davies OR speaker:Alun Davies

8. Cyfnod Pleidleisio (12 Hyd 2022)

Alun Davies: Dywedodd fy sgrin fod caniatâd i mi bleidleisio ac nad oedd y bleidlais wedi ei chau pan wnaethoch alw canlyniad y bleidlais. A yw hynny'n golygu na chafodd fy mhleidlais ei chofnodi?

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Bwlch Tlodi (12 Hyd 2022)

Alun Davies: Diolch yn fawr iawn am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n croesawu'r datganiad a wnaeth y Gweinidog rai misoedd yn ôl, a byddai'n ddefnyddiol clywed diweddariad gan y Gweinidog am y cynnydd sy'n cael ei wneud, er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc o bob cefndir yn cael cyfle cyfartal i symud ymlaen gyda'u haddysg. Rydym i gyd yn gwybod ac rydym i gyd yn ymwybodol fod plant sy'n dod o...

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Bwlch Tlodi (12 Hyd 2022)

Alun Davies: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar fentrau penodol Llywodraeth Cymru i leihau'r bwlch tlodi o ran cyrhaeddiad myfyrwyr yn dilyn y pandemig? OQ58537

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Cyhoeddus ym Mlaenau Gwent (11 Hyd 2022)

Alun Davies: Diolch yn fawr. Gwnaethom ddeffro y bore yma wrth gwrs i'r newyddion gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid bod twll gwerth £60 biliwn heb ei ariannu yng nghyllid cyhoeddus y DU o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU—nid o ganlyniad i ryfel yn Ewrop, nid o ganlyniad i COVID, ond o ganlyniad i'w penderfyniadau eu hunain. Cyn i ni orffen ein brecwast, roedd Banc Lloegr wedi...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Cyhoeddus ym Mlaenau Gwent (11 Hyd 2022)

Alun Davies: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith bosib polisïau economaidd Llywodraeth y DU ar wasanaethau cyhoeddus ym Mlaenau Gwent? OQ58545

5. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: Treftadaeth y Byd yn y Gogledd-orllewin ( 4 Hyd 2022)

Alun Davies: Dirprwy Weinidog, ymwelodd y pwyllgor diwylliant â Llanberis ac Amgueddfa Lechi Cymru yn y gwanwyn, a chawsom gyflwyniadau gan bobl yno am y gwaith oedd yn cael ei wneud i gefnogi'r statws treftadaeth y byd a sut byddant yn adeiladu ar hynny. Fe gafodd y gwaith hwnnw a'r cyflwyniadau a gawsom argraff fawr arnaf fi. Fe gafodd y ffordd yr oedd Dafydd Wigley yn sbarduno ac yn arwain llawer o'r...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adroddiad Blynyddol Cymraeg 2050 ar gyfer 2021-22 ( 4 Hyd 2022)

Alun Davies: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad y prynhawn yma, a diolch hefyd i'r Gweinidog am ei arweinyddiaeth yn y maes polisi yma. Rôn i wedi treulio rhywfaint o amser yn yr Eisteddfod dros yr haf ac rôn i'n impressed iawn gyda'r ffordd roeddech chi'n arwain y drafodaeth a hefyd y tôn dŷch chi wedi ei gymryd wrth y llyw fan hyn. Ambell i waith, mae tôn y drafodaeth yn gallu bod yr un mor...

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu Economaidd Rhanbarthol ( 4 Hyd 2022)

Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi, Gweinidog, am y datganiad. Rwy'n ddiolchgar hefyd am eich ymrwymiad parhaus chi i'r Cymoedd Technoleg a'ch ymrwymiadau blaenorol i'r rhaglen a'i chyllideb hi i'r blynyddoedd i ddod. Mae'r sefyllfa yn ei chyfanrwydd yr ydym ni'n ei hwynebu ym Mlaenau Gwent ac mewn mannau eraill yn llawer mwy anodd na'r un a fu yn y gorffennol. Rydym ni wedi gweld Brexit trychinebus sydd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datganiad Cyllidol Llywodraeth y DU ( 4 Hyd 2022)

Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am hynna. Ar un lefel, wrth gwrs, mae modd gwawdio'r anhrefn sy'n bodoli yn San Steffan ar hyn o bryd: Prif Weinidog sy'n modelu ei hun ar Margaret Thatcher—mae'r wraig nad yw am droi, yn troelli fel top, a na, dydi hi ei hun ddim yn gwybod pa benderfyniad y mae hi'n mynd i'w wneud yfory. Gwyddom fod effaith ei chwpl o wythnosau anhrefnus yn y Llywodraeth...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datganiad Cyllidol Llywodraeth y DU ( 4 Hyd 2022)

Alun Davies: 2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd datganiad cyllidol Llywodraeth y DU yn ei chael ar bobl ym Mlaenau Gwent? OQ58496

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Ddatganiad Ariannol Llywodraeth y DU (27 Med 2022)

Alun Davies: Iawn, rwy'n deall hynny. Dyma'r effaith sydd ar wariant cyhoeddus, a'r effaith ar ein gallu ni i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol. Mae chwyddiant yn taro gwasanaethau cyhoeddus eisoes, ac mae hi'n bwysig ein bod ni'n gallu deall yr effaith a gaiff datganiad y gyllideb hon ar ein gallu ni i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Ddatganiad Ariannol Llywodraeth y DU (27 Med 2022)

Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad hi. Rwy'n credu ei bod hi'n eglur mai cyllideb ar gyfer y bobl gyfoethocaf un yn y gymdeithas oedd hon. Nid oedd hi'n gyllideb i Gymru nac yn gyllideb i bobl Cymru. Mae Liz Truss wedi gweld yr economi yn chwalu gan £500 biliwn—neu ddoleri, fel gallech chi ddweud y dyddiau hyn—ers iddi ddod yn Brif Weinidog. Dyma'r methiant economaidd mwyaf...

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr (20 Med 2022)

Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi, Weinidog. Bydd yr Aelodau'n falch o glywed y byddaf ond yn gwneud ymyrraeth fer y prynhawn yma. Rwy'n llwyr gefnogi ymgynghoriad, ac yn llwyr gefnogi'r ardoll yr ydych yn ei chynnig. Rwy'n credu bod angen i ni gael dadl go iawn am natur twristiaeth ac effaith twristiaeth ar ein cymunedau. Yn rhy aml o lawer yn y Siambr hon, rydym yn gwneud rhagdybiaethau ac rydym yn...

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Diweddariad ar Gostau Byw (20 Med 2022)

Alun Davies: Ni allaf fod yr unig un sy'n teimlo fy ngwaed yn berwi wrth wrando ar eiriau bwriadol amwys y Blaid Geidwadol a phan fyddaf yn gwylio eu dagrau crocodeil wrth iddyn nhw wasgu eu dwylo mewn anobaith oherwydd canlyniadau'r polisïau y maen nhw eu hunain yn eu darparu: codi'r cyfyngiadau ar fonysau bancwyr, toriadau yn y trethi i'r cyfoethog, a hynny wrth dorri gwasanaethau i'r mwyaf anghenus....

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (20 Med 2022)

Alun Davies: Gweinidog, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os yn bosibl. Rydym ni'n deall bod datganiad economaidd neu gyllidol yn cael ei wneud gan Lywodraeth y DU yn ddiweddarach yr wythnos hon. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut bydd hynny'n effeithio ar ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Rydym ni eisoes yn bryderus, rwy'n credu, llawer ohonom ni ar bob ochr y Siambr, fod...

1. Cynnig o gydymdeimlad a theyrngedau i Ei Mawrhydi Y Frenhines (11 Med 2022)

Alun Davies: Mae'n fraint, Llywydd, i siarad yma heddiw ar ran pobl Blaenau Gwent. Ddydd Iau fe glywodd Blaenau Gwent, fel pob rhan arall o'n gwlad, y newyddion gydag ymdeimlad o dristwch dwfn a dwys. Collwyd nid yn unig ein Brenhines, ond hefyd ein seren y gogledd. Roedd Ei Mawrhydi yno'n gyson drwy gydol ein bywydau. Wrth i awyr y nos droi o gwmpas seren y gogledd, felly hefyd yr ydym ni i gyd wedi...

8. Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 (13 Gor 2022)

Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi, Lywydd dros dro. Rwy'n ddiolchgar hefyd i'r Pwyllgor Cyllid, yn ddiolchgar ichi am ddod i Lanhiledd, wrth gwrs, i wneud rhywfaint o'ch gwaith, ond hefyd am gynnal y ddadl hon y prynhawn yma, sydd, yn fy marn i, yn gwbl hanfodol wrth osod terfynau'r ddadl a gawn ar gyllideb Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf. Yn wahanol i eraill, heb ddymuno bod yn anfoesgar, nid...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Effaith Economaidd Brexit (13 Gor 2022)

Alun Davies: Weinidog, cytunaf yn llwyr â rhagdybiaeth y cwestiwn fod Brexit wedi bod yn niweidiol iawn i economi Cymru. Gallaf gofnodi fy mod yn cytuno, ac rwy'n tybio bod y Gweinidog hefyd, er nad wyf am ei roi yn y sefyllfa o ofyn hyn iddo, ei fod yn anghytuno â gadael y farchnad sengl a safbwynt presennol Plaid Lafur y DU. Ond mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod yn cydnabod, yn deall ac yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (12 Gor 2022)

Alun Davies: Clywch clywch. Dyma ni'n mynd.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 5 Gor 2022)

Alun Davies: A gaf i ofyn am ddadl ar ein gweithdrefnau yma yn y lle hwn? Hyd y gwn i, nid ydym ni wedi cael unrhyw adolygiad o weithdrefnau yn y Senedd hon ers yr etholiad y llynedd, ac nid wyf i'n cofio unrhyw adolygiad o ddifrif o bethau o'r fath yn y Senedd flaenorol chwaith. Cawsom ni drafodaeth yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ar y farchnad sengl. Nawr, lle bynnag y byddwch chi'n sefyll ar y mater...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.