Paul Davies: Prif Weinidog, dwi'n cytuno ei bod yn hollol hanfodol nad yw Cymru'n cael llai o gyllid nag a oedd ganddi pan oeddem ni yn yr Undeb Ewropeaidd. Ac, fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, gallaf eich sicrhau y byddwn ni yn craffu ar y mater hwn yn ofalus iawn yn yr wythnosau a misoedd sydd i ddod. Nawr, y mis diwethaf, cyhoeddwyd y byddai strwythurau newydd yn cael eu...
Paul Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu gwledig?
Paul Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy groesawu datganiad adeiladol ar y cyfan y Gweinidog y prynhawn yma? Mae'n ddrwg gennyf glywed yn nhrydariad y Gweinidog y bore yma ei fod wedi profi'n bositif am COVID-19, ond rwy'n falch ei fod yn teimlo'n iawn a dymunaf yn dda iddo. Mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud ei bod wedi bod yn ddwy flynedd ers i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac yn y...
Paul Davies: Diolch am yr ymateb yna, Weinidog. Fel rŷch chi'n gwybod, ddoe, fe ddathlodd yr Urdd 100 mlwydd oed, ac fel rŷch chi hefyd yn gwybod, mae'r sefydliad yn gwneud gwaith rhyfeddol o ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddysgu a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi'n siŵr y byddwch yn ymuno â fi i ddiolch i'r gwirfoddolwyr a'r staff di-ri ar hyd y blynyddoedd sydd wedi cyfrannu...
Paul Davies: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Efallai eich bod yn ymwybodol o waith prosiect CHERISH, tîm o archeolegwyr, daearyddwyr a daearegwyr sy’n astudio effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ar dreftadaeth arfordirol a morol yng Nghymru, ac yn wir, yn Iwerddon. Mae’r prosiect yn cynnal arddangosfa ar hyn o bryd yn Oriel y Parc yn Nhyddewi yn fy etholaeth, sy'n edrych ar effeithiau'r newid yn yr...
Paul Davies: 2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn codi ymwybyddiaeth o effaith newid yn yr hinsawdd mewn cymunedau lleol? OQ57498
Paul Davies: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg yn sir Benfro? OQ57499
Paul Davies: Prif Weinidog, mae'n amlwg bod yr adroddiad hwn yn rheswm arall pam mae angen ymchwiliad COVID Cymru gyfan, fel y gellir craffu'n llawn ar faterion fel hyn ac ateb cwestiynau ynghylch sut y digwyddodd y methiannau hyn. Mae gan gleifion yr hawl i deimlo'n ddiogel mewn ysbyty, ac eto, fel y mae'r adroddiad hwn yn ei ddangos, ceir perygl o draws-heintio, ac roedd cleifion mewn perygl mewn rhai...
Paul Davies: Prif Weinidog, mae'r Gweinidog iechyd wedi dweud ein bod ni yn dal mewn sefyllfa lle mae cyfyngiadau gwirioneddol iawn yn ein hysbytai oherwydd COVID, ac felly dylai eich sylwadau eich hun yr wythnos diwethaf ein bod ni heibio'r brig, a bod y sefyllfa wedi gwella yn sylweddol, olygu, yn dilyn ffigurau mis Rhagfyr, y dylai amseroedd aros ddechrau lleihau. Yn y cyfamser, mae'n hanfodol nad yw...
Paul Davies: Diolch, Llywydd. Cyn ein bod ni'n symud ymlaen i ofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog, hoffwn i ategu'ch sylwadau chi, Llywydd, wrth ddymuno pen-blwydd hapus iawn i'r Urdd, sydd wedi ac sydd yn dal i gyfrannu'n enfawr i'n treftadaeth, i'n hiaith, i'n pobl ifanc ni ac i'n bywyd pob dydd ni. Felly, pen-blwydd hapus iawn.
Paul Davies: Prif Weinidog, mae tua 20 y cant o bobl yng Nghymru ar restr aros am driniaeth nad yw'n fater brys, ac mae 1 o bob 4 o'r cleifion hynny wedi bod yn aros dros flwyddyn am driniaeth, ac mae dros 42,000 o bobl bellach wedi bod yn aros am driniaeth ers mis Tachwedd 2019. Nawr, yr wythnos diwethaf, rhybuddiodd y Gweinidog iechyd bod ffigurau yn debygol o waethygu cyn iddyn nhw wella. Felly, yng...
Paul Davies: Weinidog, y gwir amdani yw bod pasys COVID wedi cael effaith enfawr ar economi’r nos, gyda pheth tystiolaeth yn dangos bod cost gweithredu pasys COVID oddeutu £400 yr wythnos ar gyfartaledd. Byddai hyn yn golygu cost o £20,000 y flwyddyn. Ac ni ddylem anghofio bod y lleoliadau hyn wedi cael eu gorfodi i gau er gwaethaf yr addewid y byddai pasys COVID yn eu cadw ar agor. Heddiw, gwneir...
Paul Davies: Weinidog, wrth inni edrych ymlaen, mae’n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn nodi sut yn union y mae’n mynd i gefnogi cynaliadwyedd y sector ar gyfer y dyfodol ar ffurf strategaeth benodol. Fel rhan o’r strategaeth honno, dylai Llywodraeth Cymru edrych ar rai o’r heriau sylfaenol a oedd yn wynebu’r sector cyn y pandemig ac ystyried pa wersi y gall eu dysgu o bandemig COVID, er mwyn...
Paul Davies: Diolch, Lywydd. Weinidog, croesawodd busnesau ledled Cymru y cyhoeddiad ddydd Gwener gan Lywodraeth Cymru y bydd cyfyngiadau COVID yng Nghymru yn cael eu llacio dros y pythefnos nesaf. Cafodd y cyhoeddiad hwnnw ei groesawu’n arbennig gan fusnesau yn y sector lletygarwch a sector y nos sydd wedi wynebu caledi mawr, nid yn unig dros yr ychydig wythnosau diwethaf, ond drwy gydol y pandemig....
Paul Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Rwy'n croesawu'r cyfle i graffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran cryfhau economïau rhanbarthol, ond rwy'n siomedig bod y datganiad heddiw yn brin iawn o fanylion. Nid yw'n dweud unrhyw beth newydd wrthym ni. Ac os yw'r Gweinidog yn credu ei fod ef yn dweud rhywbeth newydd wrthym, yna efallai y byddai'n...
Paul Davies: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi ym Mhreseli Sir Benfro?
Paul Davies: Diolch am yr ymateb yna, Brif Weinidog. Fe wrandawais i'n astud iawn ar eich ateb chi i gwestiwn Heledd Fychan yn gynharach ynglŷn ag ambiwlansys, oherwydd mae etholwr wedi cysylltu â fi'n ddiweddar i ddweud y bu'n rhaid i wraig sy'n 84 oed aros bron i 12 awr am ambiwlans ar ôl cwympo ar Ddydd Nadolig. Dwi'n sylweddoli bod y gwasanaeth ambiwlans o dan bwysau aruthrol, ond dwi'n siŵr y...
Paul Davies: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OQ57400
Paul Davies: [Anghlywadwy.]—yn naturiol, mae’r negeseuon yma wedi cael effaith ddramatig ar ein busnesau yma yng Nghymru yn barod, o siopau i’r sector lletygarwch. Nawr, yn amlwg, bydd cyfyngiadau pellach yn cael eu cyflwyno nawr i fusnesau o ddydd Sul nesaf ymlaen, ond a allwch chi ddweud wrthym ni a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal unrhyw asesiad effaith economaidd mewn perthynas â’r...
Paul Davies: Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Bythefnos yn ôl, yn ystod dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar fusnesau bach, anogais Weinidog yr Economi i edrych ar ffyrdd o gryfhau ein harferion caffael i helpu busnesau bach lleol i wneud cais am gontractau sector cyhoeddus. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r ymchwil sy'n dangos, am bob £1 y mae busnes bach yn ei dderbyn, fod 63c yn cael ei ailfuddsoddi yn yr...