Lesley Griffiths: Mae ein dull o gefnogi'r economi wledig yn canolbwyntio ar gyflawni ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu. Rwyf wedi cyhoeddi dros £200 miliwn o gyllid ar gyfer cynlluniau buddsoddi gwledig i gefnogi gwytnwch yr economi wledig a'n hamgylchedd naturiol.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae'r Aelod yn codi'r pwynt pwysig iawn, rwy'n credu, fod y pandemig COVID wedi arwain at lawer o niwed ar wahân i COVID ei hun, ac yn amlwg, fel y dywedwch, efallai nad oedd rhai pobl ag anableddau wedi gallu adnabod y terfynau a'r cyfyngiadau a gafodd eu rhoi ar bobl, yn yr awyr agored hyd yn oed, gyda faint o bobl a gâi ddod at ei gilydd i fynd am dro, er enghraifft. Nid wyf yn...
Lesley Griffiths: Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, ac yn amlwg mae fy nghyd-Aelod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn cael y trafodaethau hyn gydag awdurdodau lleol, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Newid Hinsawdd hefyd yn gwneud hynny, gan wisgo'i het gynllunio, mewn perthynas â chynlluniau datblygu lleol. Rwy'n mynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud am Leoedd Lleol ar gyfer Natur; mae'n...
Lesley Griffiths: Mae mannau gwyrdd a pharciau o ansawdd uchel yn cynnig cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden iach, cefnogi bioamrywiaeth a lleihau llygredd aer. Mae rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, a'r grant galluogi adnoddau naturiol a lles, wedi ariannu'r gwaith o greu cannoedd o fannau lleol, ac mae cynllun gwobr y faner werdd hefyd yn hybu ansawdd.
Lesley Griffiths: The current rural development programme has a dedicated Wales rural network team that promotes all projects and shares best practice in rural development on a pan-Wales basis.
Lesley Griffiths: Mae’r rhaglen datblygu gwledig yn parhau i fuddsoddi mewn prosiectau sydd o fudd i’n hamgylchedd naturiol a hefyd yn cefnogi busnesau a chymunedau gwledig ar draws Cymru.
Lesley Griffiths: Our animal welfare plan and programme for government includes two actions related to the Welsh Government-funded local authority enforcement project. My officials are in regular contact with local government colleagues regarding this work and wider animal welfare developments.
Lesley Griffiths: High-quality green spaces and parks provide opportunities for healthy recreation, support biodiversity and reduce air pollution. The Welsh Government’s Local Places for Nature programme and enabling natural resources and well-being grant have funded the creation of hundreds of local spaces. Our green flags award scheme also drives up quality.
Lesley Griffiths: Diolch i chi. Rydych chi'n hollol gywir; rydyn ni'n gweld llawer gormod o achosion o gŵn yn ymosod, yn enwedig ar ddefaid ac ŵyn, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn. Fel rydych chi'n dweud, rydyn ni'n ond yn—. Wel, mae'r wyna wedi cychwyn mewn rhai ardaloedd eisoes; bydd eraill yn eu dilyn. Ond roeddwn i'n falch iawn o weld ymgyrch y comisiynydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt,...
Lesley Griffiths: Nid wyf i'n credu bod y ffordd y gwnaethoch chi nodi hynny'n gywir—rydyn ni eisoes wedi ymestyn cymhwysedd ar gyfer BTEC, er enghraifft—ond rwy'n gwybod bod y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg yn parhau i gael trafodaethau gyda Cymwysterau Cymru ac fe wnaiff ddarparu datganiad maes o law.
Lesley Griffiths: Rwy'n cytuno â chi ac fe wnaf ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi datganiad ysgrifenedig. Mae gennym ni Ddiwrnod Clefydau Prin yn dod ar ddiwedd y mis hwn, felly fe wnaf ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i dynnu sylw at ein cefnogaeth i glefydau prin, a hefyd y cynnydd yr ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru. Mewn...
Lesley Griffiths: Diolch. Nid ydw i'n anghytuno â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y gefnogaeth, ond byddwch chi'n gwerthfawrogi'r galw sylweddol ar y gyllideb iechyd. Yn amlwg, mae disgwyl i'r gyllideb atodol gael ei chyhoeddi, ac nid ydw i'n ymwybodol a yw'r cynllun hwn yn cael unrhyw gynnydd, ond gallai fod yn werth aros i weld a yw hynny'n wir cyn gofyn am ddatganiad arall.
Lesley Griffiths: Bydd yr Aelod yn ymwybodol mai mater i bob awdurdod lleol yw pennu'r dreth gyngor, ac wrth gwrs, mae unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor yn aml yn ddigroeso iawn i'r mwyafrif o dalwyr trethi lleol, rwy'n credu ei bod hi'n dda cydnabod ei bod yn ffynhonnell ariannu sylweddol ar gyfer gwasanaethau lleol. Rydych chi'n dweud bod y fformiwla gyllido yn ddiffygiol—wel, byddwch chi'n gwerthfawrogi...
Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Mae un newid i'r busnes yr wythnos hon. Mae Rheoliadau Gwastraff Pecynnu (Casglu a Chofnodi Data) (Cymru) 2023 wedi cael eu tynnu'n ôl a'r ddadl wedi'i gohirio. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Lesley Griffiths: Diolch, ac rydych chi'n amlinellu'n glir, fel yr ydych chi'n ei ddweud, bod rhai teuluoedd yn wynebu anawsterau a heriau nad ydyn ni wedi gorfod ei wneud yn ein bywydau ni, ac maen nhw'n anodd iawn, iawn. Fel y gwyddoch chi, rydyn ni wedi dyrannu £90 miliwn ar gyfer ail gynllun cymorth tanwydd Llywodraeth Cymru—rwy'n gobeithio bod eich etholwyr wedi gallu cael y cyfle i fanteisio ar...
Lesley Griffiths: Effeithiwyd yn ddifrifol ar bobl ag anghenion iechyd gan yr argyfwng. Mae ein hymgyrch 'Yma i helpu' yn cynorthwyo pobl i fanteisio ar yr holl gymorth ariannol y mae ganddyn nhw hawl iddo. Mae hyfforddiant i weithwyr rheng flaen hefyd yn helpu gweithwyr cymorth i gyfeirio pobl agored i niwed fel y gallan nhw dderbyn y cymorth sydd ar gael.
Lesley Griffiths: Diolch. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn: mae'n golygu gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r dull amlasiantaeth hwnnw, fel rydych chi'n dweud, felly os oes rhwystrau penodol sy'n atal rhywun rhag gadael yr ysbyty, mae'r holl bartneriaid yn gweithio'n agos iawn gyda'i gilydd. Datblygwyd y fframwaith adrodd ar lwybrau gofal ar y cyd gan grŵp arbenigol, ac roedd hwnnw'n cynnwys partneriaid o...
Lesley Griffiths: Rwy'n credu bod y cyflog byw gwirioneddol yn gam cyntaf hanfodol, mewn gwirionedd, a rhoddodd fan cychwyn pwysig iawn ar gyfer amodau gwaith gwell i'n staff gofal cymdeithasol. Gwn fod y Dirprwy Weinidog yn parhau i weithio'n agos iawn gyda'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol i edrych ar fwy o ffyrdd o sut y gallwn ni wella telerau ac amodau ein holl weithwyr gofal cymdeithasol ledled...
Lesley Griffiths: Mae'r cynllun treialu adrodd ar lwybrau gofal wedi cael ei gyflwyno'n llwyddiannus ar draws yr holl fyrddau iechyd. Er nad yw'r effaith lawn yn hysbys eto, bwriedir iddo ddarparu un ffynhonnell ddata er mwyn deall yn well y rhesymau am oediadau ar y pwynt rhyddhau a helpu partneriaid i nodi atebion gyda'i gilydd.
Lesley Griffiths: Rydyn ni'n aros am gadarnhad o gyllid gwella rheilffyrdd terfynol Cymru gan Lywodraeth y DU. Byddwch wedi fy nghlywed i'n dweud yn fy ateb cynharach fod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi codi hyn eto yr wythnos diwethaf gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, yn enwedig o ran y ffaith fod HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr. Nid wyf i wir yn siŵr sut y gallan nhw o bosibl gredu hynny; mae'n...