Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl yma ar egwyddorion cyffredinol y Bil ac i rannu barn y pwyllgor newid hinsawdd ynglŷn â'r Bil gydag Aelodau'r Senedd yma. Cyn i fi droi at gynnwys y Bil, mi fyddwn i'n hoffi siarad yn fyr am sut rydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwn. Mi fydd Aelodau’n ymwybodol, wrth gwrs, na chafwyd unrhyw waith Cyfnod 1 gan...
Llyr Gruffydd: Wel, does bosib eich bod chi wedi pwyso a mesur rhywfaint ar y mater yma. Roedd gradd sylfaenol, neu doriad yn y gradd sylfaenol, yn mynd i ddigwydd o 2024 o dan gynlluniau Rishi Sunak, wrth gwrs. Felly, onid oeddech chi eisoes wedi dechrau ystyried neu asesu a oedd yr amser wedi dod i ddefnyddio'ch pwerau chi o ran graddfeydd treth incwm Cymreig? Oes yna fodelu wedi, neu yn, neu ar fin...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Llywydd. Gwnes i godi gyda chi ddoe, Gweinidog, yr angen i'r Llywodraeth ddefnyddio, nawr, y pwerau sydd gennych chi i amddiffyn y radd sylfaenol o dreth incwm yng Nghymru, er mwyn amddiffyn y gwasanaethau allweddol, wrth gwrs, y bydd nifer o bobl fregus yn dibynnu arnyn nhw yn ystod y cyfnod anodd sydd o'n blaenau ni. Wnaethoch chi ddim ateb fy nghwestiwn i bryd hynny, ond fe...
Llyr Gruffydd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut bydd Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn cryfhau economi cefn gwlad Cymru?
Llyr Gruffydd: Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Dwi yn cytuno â llawer o'r hyn rŷch chi'n dweud. Mae'r naratif yn amlwg ac yn un sydd wedi cael ei adlewyrchu ar draws sawl sylw yn y dyddiau diwethaf. Mae e yn ddatganiad cyllidol sy'n creu rhaniadau. Mae e yn regressive, mae e yn annheg, mae e'n foesol anamddiffynadwy, fel rŷch chi'n dweud. Mae'n gwneud y cyfoethog yn gyfoethocach ac yn taro'r tlawd...
Llyr Gruffydd: Rwy'n teimlo bod yr holl bennod hon yn arddangos yn gyfan gwbl eglur pa mor ddyledus yn gyllidol yw'r Senedd hon oherwydd newidiadau sy'n digwydd, ar fympwy weithiau, ar sail cred dro arall, i San Steffan. Fe allem ni gwyno am ddiddymu bandiau treth, am newidiadau i Yswiriant Gwladol, i lefelau cydweithredu, ond oni fyddai hi'n well, Gweinidog, yn hytrach na chwyno, i ni fod â'r pwerau yn y...
Llyr Gruffydd: Wel, rŷch chi wedi ateb fy nghwestiwn nesaf i, rwy'n credu, a diolch ichi am hynny, oherwydd rôn i'n mynd i dynnu sylw at y ffaith bod etholwr sy'n dechrau gradd nyrsio oedolion eleni wedi cysylltu â mi yn esbonio y bydd yn derbyn £5,855 y flwyddyn i'w gynorthwyo â chostau byw. Wrth gwrs, mae costau llety hunanarlwyo i fyfyrwyr dros £6,000 yn ei achos ef, felly mae yna ddiffyg yna yn...
Llyr Gruffydd: Un dull sydd wedi cael ei ddefnyddio yn effeithiol gan Lywodraeth Cymru i leihau allyriadau, wrth gwrs, yw i gyflwyno cyfyngiadau cyflymder ar amryw ffyrdd yng Nghymru. Nid yn unig mae hynny yn dod â budd amgylcheddol, mae hefyd yn dod â budd o safbwynt diogelwch i drigolion yn y cyffiniau hynny. A dwi eisiau amlygu i chi, os caf fi, fod ymgyrch wedi'i lansio ym mhentref Glasfryn ger...
Llyr Gruffydd: 1. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi myfyrwyr sy'n gwneud cyrsiau prifysgol israddedig sy'n gymwys i gael cyllid y GIG? OQ58403
Llyr Gruffydd: Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Y peth cyntaf i'w ddweud yw bod pwysigrwydd y sector twristiaeth yn ddiamau; byddwn i a fy mhlaid a phawb arall fan hyn, dwi'n meddwl, yn cydnabod y cyfraniad pwysig mae'r sector yn ei wneud. Yr hyn y mae'n rhaid inni ochel rhagddo fe yw ffeindio'n hunain mewn sefyllfa lle mae yna ormod o dwristiaeth echdynnol. Hynny yw, rŷn ni wedi ffeindio...
Llyr Gruffydd: Fe'ch gwelaf yno.
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd dros dro, a diolch i Gadeirydd y pwyllgor am roi cyfle i ni drafod y mater yma. Dwi hefyd eisiau diolch i'r cytundeb cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru oherwydd y bydd e, gobeithio, yn sicrhau y gallwn ni edrych ymlaen at raglen gyffrous a thrawsnewidiol yn y flwyddyn ariannol nesaf. Y peth amlwg cyntaf y byddwn i'n gofyn amdano yw sicrhau...
Llyr Gruffydd: Pam yr aeth y cyfan o'i le felly?
Llyr Gruffydd: Onid ydych yn sylweddoli eich bod wedi bod yn siarad am Gymru annibynnol am y pum munud diwethaf?
Llyr Gruffydd: Hywel Dda.
Llyr Gruffydd: Ar 15 Mehefin, mewn ymateb i gwestiwn am gau Sied Dynion Dinbych yn sydyn, fe ddywedoch chi, 'Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â'r bwrdd iechyd ac wedi cael gwybod, yn dilyn gwiriad iechyd a diogelwch, fod risgiau wedi'u nodi a'u bod yn teimlo'u bod o'r fath natur fel bod angen atal y gwasanaeth hwn dros dro.' Nawr, mae cwestiynau difrifol wedi'u codi am ddilysrwydd y penderfyniad hwnnw....
Llyr Gruffydd: Wel, diolch i chi am yr ateb.
Llyr Gruffydd: Mae canlyniadau'r cyfrifiad newydd yn dangos bod y boblogaeth yn gostwng mewn nifer o awdurdodau lleol ar draws gogledd Cymru. Rydym hefyd yn gweld y boblogaeth dros 65 oed yng Nghymru yn cynyddu, ac mae'r boblogaeth 15 i 25 oed wedi gostwng yn ystod cyfnod y cyfrifiad. Nawr, ddoe, gwadodd y Prif Weinidog, i bob pwrpas, fod tuedd glir lle rydym yn colli llawer o bobl ifanc o’n cymunedau...
Llyr Gruffydd: 1. Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i annog twf economaidd yn y gogledd? OQ58364
Llyr Gruffydd: 8. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru? OQ58362