Caroline Jones: 2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu ei chanllawiau ar y defnydd o orchuddion wyneb gan aelodau o'r cyhoedd? OQ55432
Caroline Jones: Diolch, Gweinidog. Roedd awdurdodau lleol eisoes yn cael trafferthion ariannol cyn y pandemig. Roedd gwasanaethau'n cael eu torri, ac eto roedd ein hetholwyr ni'n gweld eu biliau treth gyngor yn cynyddu ar raddfa eithriadol. Mae'r coronafeirws wedi rhoi straen enfawr ar awdurdodau lleol gan mai y nhw sydd ar y rheng flaen o ran amddiffyn y cyhoedd rhag y pandemig. Mae cynghorau ledled Cymru...
Caroline Jones: Trefnydd, a wnewch chi ofyn i Weinidog yr economi gyflwyno datganiad i gadarnhau pwy yn union sydd â'r hawl i gael pecyn cymorth busnes gan y gronfa adfer economaidd yn ystod y pandemig? Mae llawer o ddryswch yn parhau ynglŷn â phwy sy'n gymwys. Er enghraifft, yn achos un o fy etholwyr i sydd â thri busnes, ac sy'n talu treth dair gwaith, oherwydd eu bod yn cael eu rhedeg o'r un...
Caroline Jones: Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno ein bod ni wedi ein tanbaratoi'n druenus ar gyfer COVID-19. Er gwaethaf SARS a MERS, roedd ein cynllunio ar gyfer pandemig yn dal i fod yn seiliedig ar achosion o'r ffliw. Fodd bynnag, fe wnaeth ein gwaith cynllunio barhau i fethu â blaenoriaethu capasiti profi. Mae'r pandemig presennol hwn wedi dangos bod y gwledydd hynny a oedd â...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd.
Caroline Jones: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan Gymru'r adnoddau i ymdrin â phandemig yn y dyfodol? OQ55394
Caroline Jones: 1. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Covid-19 ar ei pholisi trethu lleol? OQ55374
Caroline Jones: Nid yw'r byd wedi profi bygythiad o'r fath gan elfen fiolegol ers 1918. Ysgubodd ffliw Sbaen drwy'r byd, gan adael marwolaeth a dinistr yn ei sgil, ac ymhell ar ôl i'r meirw gael eu claddu, teimlwyd yr effeithiau economaidd. Credai llawer fod ffliw Sbaen wedi arwain at y Dirwasgiad Mawr. Roedd lledaeniad coronafeirws anadlol aciwt difrifol hefyd yn bygwth bod yn argyfwng tebyg i ffliw 1918,...
Caroline Jones: Weinidog, fel rwyf wedi'i ddweud sawl gwaith o'r blaen, un o'r pethau da sydd wedi ymddangos o'r pandemig hwn yw'r ysgogiad i'r Llywodraeth roi diwedd ar felltith digartrefedd. A ddoe mynychais gyfarfod rhithwir gyda Chyngor Abertawe, a hoffwn longyfarch yr arweinydd a chynghorwyr Cyngor Abertawe am sicrhau llety i lawer o bobl heb gartrefi, yn ogystal â darparu gwasanaeth cofleidiol pwysig...
Caroline Jones: Diolch, Brif Weinidog. Mae'r proffesiwn deintyddol, fel pob sector yn economi Cymru, yn dioddef yn ddifrifol o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud. Er y bydd dod allan o lefel y rhybudd coch yn rhywfaint o ryddhad, ni fydd yn ddigon i gefnogi llawer o bractisau, ac ni allwn fforddio colli unrhyw bractis deintyddol yng Nghymru. Mae nifer o bractisau wedi cysylltu â mi, unig berchnogion yn aml,...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd.
Caroline Jones: 1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r proffesiwn deintyddol yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws? OQ55332
Caroline Jones: Yn sgil clywed y newyddion am farwolaeth Oscar ddoe, rwy'n estyn fy nghariad at ei wraig, Firdaus; Natasha, ei ferch; ei deulu estynedig a'i gyfeillion; ei gyfeillion yn y grŵp Ceidwadol a phob cyfaill arall. Fe wnes i gyfarfod Oscar a Natasha yn 2011, a gwelsom ein gilydd droeon cyn imi gael fy ethol yn 2016. Cefais fy llongyfarch yn syth gan Oscar, a chefais fy nghroesawu’n gynnes i'r...
Caroline Jones: Ni fydd fy ngrŵp yn cefnogi'r cynnig i ddirymu a gyflwynwyd gan Suzy Davies heddiw. Er bod democratiaeth yn agos at galon pob un ohonom ac er ein bod yn gwneud popeth a allwn i gynnal egwyddorion democrataidd, rhaid inni ystyried y cyd-destun ehangach. Mae miliynau o bobl yn fyd-eang wedi cael eu heintio â feirws sydd wedi costio llawer o fywydau ac sy'n cael ei ledaenu drwy gyswllt wyneb...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Weinidog, ac am y gwaith rydych yn parhau i'w wneud, ac fe wnawn ni i gyd weddïo am heddwch ar draws y byd. Mae economi fy rhanbarth, fel sawl rhan o Gymru, yn dibynnu'n drwm ar y sector twristiaeth, sector sydd wedi'i ddifetha gan y pandemig coronafeirws. Microfusnesau yw'r rhan fwyaf o'r gweithredwyr yn fy rhanbarth, ac mae'r enillion a gollwyd wedi bod yn...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog, ac rwy'n croesawu'r cynlluniau i roi terfyn ar ddigartrefedd. Ond, Gweinidog, a wnewch chi gadarnhau y bydd y cynlluniau yn berthnasol i bawb sy'n ddigartref yn ystod y pandemig hwn, ac nid y rhai sydd mewn llety brys yn unig? Rwyf i wedi bod yn siarad â grwpiau cyn-filwyr yn ystod yr wythnosau diwethaf sy'n pryderu bod llawer o gyn-filwyr digartref...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Er gwaethaf eich haeriad, nid oedd yr hyn a welsom ni yr wythnos hon yn enghraifft o liniaru'r cyfyngiadau symud yn sylweddol. Mewn gwirionedd, newid bach ydyw, oherwydd i'r mwyafrif helaeth o bobl sy'n byw yng Nghymru, bydd teulu'n byw mwy na 5 milltir i ffwrdd. Wrth gyhoeddi'r newidiadau, dywedodd y Prif Weinidog fod y penderfyniad i osod egwyddor...
Caroline Jones: Gweinidog, nos Lun, gwyliodd llawer ohonom ni weithredoedd arwrol staff yr uned gofal dwys yn Ysbyty Brenhinol Gwent wrth iddyn nhw ymladd i achub bywydau'r rhai a heintiwyd â COVID-19. Roedd yn wirioneddol dorcalonnus ac yn codi'r galon ar yr un pryd. Roedd yn amlygu erchylldra llwyr y clefyd a thynnodd sylw at gymaint yw gofal a thosturi'r holl staff sy'n gweithio yn ein hadrannau gofal...
Caroline Jones: [Anhyglyw.]—datganiad, Gweinidog. Hoffwn i ddiolch i'r miloedd o weithwyr llywodraeth leol sydd wedi parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn ystod y cyfyngiad symud hwn. Mae wedi bod yn her enfawr ac mae ein hawdurdodau lleol wedi ymateb iddi, ond mae meysydd lle mae angen gwneud mwy. Rydym ni wedi gweld cynnydd enfawr mewn tipio anghyfreithlon; beth all awdurdodau lleol ei wneud i...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Ddoe, fe gawsom ni funud o dawelwch i'n harwyr yn y meysydd gofal cymdeithasol ac iechyd a gollodd eu bywydau i felltith COVID-19, a hoffwn ddiolch ar goedd unwaith eto i'n gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ymroddedig, sy'n ein cadw ni i gyd yn ddiogel, a chydymdeimlo â'r rheini sydd wedi colli anwyliaid. Nid ydym yn gwybod digon o hyd am y feirws yma,...