Neil McEvoy: Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn rydych yn ei ddweud am y system llysoedd teulu. Felly, oni chredwch y gallem ei wneud yn well yng Nghymru pe bai gennym ein hawdurdodaeth gyfreithiol ein hunain yma?
Neil McEvoy: Gyda phob parch, buaswn yn dweud eich bod yn anghywir, ac ni allaf weld dim o'i le ar ddweud na ddylai asiantaeth gyfyngu ar gysylltiad, yn enwedig pan fydd plant am gael cysylltiad â'u rhieni. Y gwelliant na wnaethoch siarad amdano yn y fan honno yw'r ongl cyfiawnder. Beth sydd o'i le ar adolygu achosion lle gallai fod gwahaniaethu'n digwydd? Mae'r achos rwy'n meddwl amdano lle mae...
Neil McEvoy: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n debyg fod hyn—wel, nid mae'n debyg—hwn yw'r maes rwyf wedi ymwneud fwyaf ag ef dros y ddwy neu dair blynedd ddiwethaf. Efallai nad yw'r Siambr yn gwybod imi gyflogi gweithiwr cymdeithasol profiadol iawn oherwydd nifer yr achosion roeddwn yn eu cael mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal yn enwedig. Mae gwelliant 2 yn syml iawn. Mae'n dweud mai llwybr...
Neil McEvoy: Rwy'n credu mai'r hyn sydd gennym yma yw methiant llywodraethu. A tybed pam—rydym yn eistedd yma—tybed pam y mae gennym Lywodraeth, mewn enw beth bynnag, os mai'r cyfan a wnawn yw rhoi'r cyfrifoldeb i Cyfoeth Naturiol Cymru. Maent am gloddio a dympio 780,000 tunnell o fwd o'r tu allan i adweithydd niwclear—yn llythrennol—ar Gymru, ychydig y tu allan i Gaerdydd, yn y môr. Gwyddom...
Neil McEvoy: 2. A wnaiff y Gweinidog ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru sicrhau bod asesiad llawn o'r effaith amgylcheddol yn cael ei gynnal i ystyried y difrod i'r amgylchedd naturiol ar hyd morlin de Cymru o'r mwd y bwriedir ei ddadlwytho o adweithydd niwclear Hinkley Point i mewn i aber afon Hafren? OAQ55151
Neil McEvoy: Mae hwnna'n ymateb braidd yn siomedig. Dim ond ar gam 1 o gynllun datblygu lleol pum cam ydym ni ac mae'r problemau eisoes yn ddi-baid. Mae cau Heol Pant-y-gored yn achosi problemau enfawr ar hyd Church Road, a phe byddech chi neu eich staff wedi trafferthu dod i gyfarfod yn ddiweddar, y cawsoch eich gwahodd iddo, yna byddech chi'n gwybod am hynny. Yn llythrennol, ni all pobl symud oherwydd...
Neil McEvoy: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr heriau sy'n wynebu trigolion Gorllewin Caerdydd ar hyn o bryd o ganlyniad i waith sy'n gysylltiedig â chynllun datblygu lleol Caerdydd? OAQ55150
Neil McEvoy: Mae croeso mawr i chi brynu tŷ.
Neil McEvoy: Mae yna Gymru y mae'n rhaid i ni ei chreu. Mae yna Gymru y gallwn ei hadeiladu. Felly, gadewch i ni wneud hynny. Diolch yn fawr.
Neil McEvoy: Diolch, Lywydd. Mae gormod o bobl yn bychanu Cymru. Rwyf fi yma i ganmol ein gwlad; i siarad am ein potensial, i siarad am fyw mewn man lle gall y freuddwyd Gymreig ddod yn realiti. Nawr, mae gan y Welsh National Party weledigaeth o'n breuddwyd Gymreig. Gallwn fyw mewn cenedl lle ceir tai o ansawdd da i bawb, lle mae pobl yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, Cymru lle gall pobl â syniadau da...
Neil McEvoy: Na, rydych chi'n anghywir yn y fan yna. Yr hyn yr wyf i'n dadlau'n gyson yn ei erbyn yw adeiladu ar safleoedd tir glas. Er enghraifft, ar hyn o bryd yng Nghaerdydd, mae 1,300 o eiddo gwag yn sefyll, heb eu defnyddio. Dylid eu hadnewyddu a dylem roi pobl yn ôl ynddyn nhw. Yr hyn yr wyf i'n sôn amdano mewn gwirionedd yw anallu pobl i gynilo i gael blaendal enfawr a phrynu eiddo. Mae'n...
Neil McEvoy: Roeddwn eisiau dechrau gyda hawliau plant, mewn gwirionedd, i siarad am hyn, oherwydd ceir diffygion difrifol o ran y sefyllfa yng Nghymru. Mae hon yn enghraifft bendant: pan fo plentyn mewn gofal yn honni ei fod yn cael ei gam-drin, ni fydd y plentyn yn cael eiriolwr fel y dylai—mae ganddo hawl i gael eiriolwr, fel y cadarnhawyd gan y comisiynydd plant yn ddiweddar; ni chaiff ei gludo i...
Neil McEvoy: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer gorymdeithiau Dydd Gŵyl Dewi eleni?
Neil McEvoy: Rwy'n sefyll yma fel arweinydd Plaid Genedlaethol Cymru, gan ddweud bod angen i ni achub yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae neges y cyhoedd i ni yn glir iawn. Mynychais gyfarfod cyhoeddus, gwrandewais yn ofalus y tu allan. Maent yn awyddus i ni weithio gyda'n gilydd. Rwy’n cefnogi’r cynnig. Ni allaf gefnogi gwelliant 1, oherwydd yn y bôn mae gwelliant...
Neil McEvoy: Diolch, Llywydd. Fel arweinydd Plaid Genedlaethol Cymru, dwi'n dweud bod yn rhai inni achub adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Neil McEvoy: Ni all neb anghytuno â'r cynnig hwn, ond y broblem yw bod polisïau’r Llywodraeth Lafur yn—ac rwy'n defnyddio’r amser presennol—achosi llygredd aer. Os edrychwn ar gynlluniau datblygu lleol ledled Cymru, cymerwch un, cynllun datblygu lleol Caerdydd, fel enghraifft. Mae'r cynllun hwnnw a basiwyd gan y cyngor, heb i ddim gael ei wneud yn ei gylch yma yn y Senedd hon, yn rhoi 10,000 o...
Neil McEvoy: Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth—neu efallai rhywfaint o gyngor, mewn gwirionedd. Rwyf wedi nodi sawl gwaith bod plentyn ag anawsterau dysgu wedi honni iddo gael ei gam-drin mewn gofal—[torri ar draws.] Nid oes syniad gennyf pam mae sŵn sarcastig yn dod o'r dde, gan Aelod Cynulliad Llafur. Dywedaf eto: roedd plentyn ag anawsterau dysgu wedi honni iddo gael ei gam-drin mewn...
Neil McEvoy: [Anghlywadwy.]
Neil McEvoy: David, a wnewch chi'n ildio?
Neil McEvoy: A fyddech chi hefyd yn cytuno bod dieithrio rhieni'n yn fath enfawr o gam-drin plant, sy'n cael ei anwybyddu'n llwyr gan lawer o Aelodau'r Cynulliad hwn? Mae llawer o Aelodau'n ei anwybyddu. Dyma'r unig fath o gam-drin plant sy'n cael ei dderbyn. Dylem ni fod â Bil ar hynny.