Mohammad Asghar: Ond mae hyn yn gwbl amherthnasol i fater carcharorion—
Mohammad Asghar: Gwrandewch, roeddwn i'n meddwl eich bod yn wraig ddeallus iawn, rydym yn sôn am—
Mohammad Asghar: Rydym yn siarad am bleidleisio, nid am grogi.
Mohammad Asghar: Nid ydym—. Ni ddywedais—. Roeddwn i'n meddwl eich bod chi'n ddeallus iawn, ond rydym yn siarad—
Mohammad Asghar: Rydym yn siarad yma—. Na, ni ddefnyddiais y gair 'twp' yma. Mae'n arwydd o'r diffyg cysylltiad rhwng y Llywodraeth Lafur hon yng Cymru a'r farn gyhoeddus. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei hystyried yn flaenoriaeth i roi pleidleisiau i ddihirod, yr etholfraint i ddrwgweithredwyr, a phleidlais i fyrgleriaid. Gadewch i Lafur Cymru a Phlaid Cymru geisio cefnogaeth Norman Stanley Fletchers y...
Mohammad Asghar: Iawn, ewch ymlaen.
Mohammad Asghar: Gwrandewch—[Torri ar draws.] Edrychwch, y peth yw—
Mohammad Asghar: Edrychwch, ni wnaeth niwed i'r wlad. Chi yw'r un sy'n niweidio'r wlad.
Mohammad Asghar: Nid ydych yn gwrando ar—. Lywydd, cefais safbwyntiau yn fy swyddfa fy hun yng Nghasnewydd: mewn mis, pan oeddwn yn aelod o'r pwyllgor hwn, roedd mwy na 100 o etholwyr—gofynnais iddynt, ac ni ddywedodd yr un ohonynt, 'Hoffwn weld hawl i garcharorion bleidleisio.' Mae hynny yn Nwyrain De Cymru. Gwnewch hynny yn eich etholaethau a dewch yn ôl i adrodd. [Torri ar draws.] Na, rydych chi wedi...
Mohammad Asghar: Mae'r adroddiad hwn gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, yr oeddwn yn arfer bod yn aelod ohono, yn gwneud 11 o argymhellion. Y prif argymhelliad yw y dylai carcharorion o Gymru sy'n cael dedfrydau o lai na phedair blynedd o garchar gael hawl i bleidleisio yn etholiadau datganoledig Cymru. Roedd fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, a minnau'n anghytuno â'r argymhelliad hwn....
Mohammad Asghar: Weinidog, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru ar eu lefelau uchaf. Maent yn dweud bod nifer y bobl sy'n marw o wenwyn cyffuriau wedi cynyddu 78 y cant yn y 10 mlynedd diwethaf yn unig. Dywedant hefyd y bu cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n marw o sylweddau fel cocên. O gofio y gall gofyn am gymorth yn gynnar atal y broblem a'r...
Mohammad Asghar: Weinidog, un targed sydd gan Gymru bellach mewn perthynas ag amser aros ar gyfer diagnosis o ganser a thriniaeth canser, ac rwy'n croesawu hynny. Fodd bynnag, mae'n hysbys nad oes gennym y capasiti o ran gwasanaethau diagnosis, ac mae eich Llywodraeth wedi methu cyrraedd ei thargedau ei hun ar gyfer amseroedd aros canser drwy'r llwybr brys ers 2008. Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i...
Mohammad Asghar: Weinidog, i ategu gwestiwn Leanne Wood, rwy'n eich cefnogi'n llwyr yn eich nod clodwiw o gadw cost gwisgoedd ysgol i lawr. Fodd bynnag, sylwaf fod eich canllawiau'n caniatáu i ysgolion benderfynu a yw eu logos yn gwbl angenrheidiol. Credaf fod logos yn mynegi cenhadaeth ac ysbryd ysgol, ac yn destun balchder i ddisgyblion, rhieni a staff, ac yn creu ymdeimlad o gymuned ymhlith plant yr...
Mohammad Asghar: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynghylch cynnal a chadw ysbytai yng Nghymru? Yn ôl adroddiad diweddar, mae'r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru yn wynebu bil o £260 miliwn o leiaf am waith atgyweirio ac adnewyddu brys, allan o gyfanswm bil atgyweirio o fwy na £500 miliwn. Mae'r bwrdd iechyd yn fy ardal i, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn un o'r ardaloedd...
Mohammad Asghar: Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae eich strategaeth ar gyfer pobl hŷn yn cydnabod bod cyfleoedd i bobl hŷn fwynhau a chymryd rhan yn eu cymuned yn dibynnu ar fynediad at drafnidiaeth. Mae'n nodi'n eglur mai un o'i ganlyniadau strategol yw galluogi pobl hŷn i gael mynediad at drafnidiaeth fforddiadwy a phriodol, sy'n eu cynorthwyo i chwarae rhan lawn mewn bywyd teuluol,...
Mohammad Asghar: 6. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflawni amcanion strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru? OAQ54355
Mohammad Asghar: Mewn araith yn y Brifysgol Americanaidd yn Washington ym mis Mehefin 1963, dywedodd yr Arlywydd John F. Kennedy: yr hyn sy'n ein cysylltu yn fwyaf sylfaenol yw ein bod i gyd yn byw ar y blaned fach hon. Mae pob un ohonom yn anadlu'r un aer. Roedd hwnnw'n ddyfyniad enwog gan ddyn enwog iawn ac wrth gwrs, mae'n ddatganiad mor wir. Yn ddiweddarach yn yr un araith, siaradodd am hawliau dynol ac...
Mohammad Asghar: Weinidog, mae'r newyddion bod hyd at 380 o swyddi mewn perygl yng ngwaith Orb Tata Steel yn ergyd drom i'r gweithwyr a'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol ac i Gasnewydd yn gyffredinol. Mae Tata wedi dweud eu bod yn gobeithio cynnig swyddi i'r rheini yr effeithiwyd arnynt mewn rhannau eraill o Gymru. Felly, a gaf fi ofyn pa gymorth y byddwch yn ei roi i'r gweithwyr sy'n gallu...
Mohammad Asghar: Weinidog, mae hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ym mywyd bob dydd pobl yn bwysig os yw Llywodraeth Cymru am gyflawni ei tharged uchelgeisiol. Yn ddiweddar, datgelwyd bod llai na hanner 1 y cant o brentisiaethau yng Nghymru yn cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelodau i gynyddu'r cyfleoedd i'r rheini sy'n dymuno...
Mohammad Asghar: Weinidog, ym mis Ebrill, datgelodd ymchwil newydd y bydd gwariant y disgybl yn ysgolion Cymru wedi gostwng 9 y cant dros 10 mlynedd. Mae hyn yn doriad o £500 y disgybl mewn termau real. Yn wyneb y ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.25 biliwn o arian ychwanegol dros y tair blynedd nesaf, pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelodau i sicrhau bod ysgolion Cymru yn cael yr adnoddau...