Canlyniadau 121–140 o 5000 ar gyfer speaker:Russell George OR speaker:Russell George OR speaker:Russell George OR speaker:Russell George

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogaeth i Ddisgyblion ar ôl COVID (22 Meh 2022)

Russell George: Weinidog, mae hwn yn fater y gwn fy mod wedi'i godi gyda chi o'r blaen hefyd, a'r cymorth ychwanegol sydd ei angen ar fyfyrwyr yn sgil colli addysg yn ystod y pandemig. Ond hoffwn ofyn i chi i ba raddau y bydd y mecanweithiau a ddatblygwyd gennych i gynnig y cymorth ychwanegol hwnnw'n parhau ar ôl y pandemig, ar gyfer pethau eraill efallai, lle mae angen cymorth ychwanegol ar fyfyrwyr. Rwy'n...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Deintyddion yng Nghanolbarth Cymru (15 Meh 2022)

Russell George: Diolch am eich ateb, Weinidog. Ers blynyddoedd maith tynnais sylw'r Siambr hon at y ffaith nad yw fy etholwyr yn gallu cael gafael ar ddeintydd GIG lleol. Nawr, roedd hyn ymhell cyn i'r pandemig ddechrau, iawn—ymhell cyn i'r pandemig ddechrau. Yr hyn y mae fy etholwyr yn ei ddweud wrthyf yn awr yw, os byddant yn cysylltu â deintydd GIG, eu bod yn cael eu rhoi ar restr aros, y dywedir...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Deintyddion yng Nghanolbarth Cymru (15 Meh 2022)

Russell George: 4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r ddarpariaeth o ddeintyddion yng nghanolbarth Cymru? OQ58168

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Economi (15 Meh 2022)

Russell George: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi entrepreneuriaeth yng Nghymru?

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Gweithredu HIV Drafft (14 Meh 2022)

Russell George: A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw? Wrth gwrs, roedd yn ddiddorol iawn darllen y cynllun pan gyrhaeddodd fy mewnflwch y bore yma. Rwy'n croesawu'r cynllun yn fawr heddiw, ac, wrth gwrs, fel cenedl, rydym wedi cymryd camau breision, onid ydym ni, ers y frwydr yn erbyn HIV yn ôl yn yr 1980au? Ac fel dyn ifanc iawn yng nghanol yr 1980au, rwy'n cofio rhai o'r materion a...

9. Dadl Fer: Materion cudd sy'n effeithio ar bobl fyddar a phobl sy'n dioddef o golled clyw ( 8 Meh 2022)

Russell George: A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod, Joel James, am ei gyfraniad ac am roi eiliad o'i amser i minnau hefyd? Yng Nghymru, gwasanaethau'r GIG mewn ysbytai yn unig sy'n darparu gwasanaethau colled clyw. Gwyddom hefyd fod lefel amseroedd aros i rai cleifion yn annerbyniol o faith, gan orfodi cleifion naill ai i fynd yn breifat, neu os na allant ei fforddio, i ddioddef neu fethu gwybod lle i droi....

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ( 8 Meh 2022)

Russell George: Diolch yn fawr, Lywydd. Nid oeddwn yn disgwyl cael fy ngalw y funud hon. Diolch, Darren Millar, am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Ers i fwrdd Betsi gael ei dynnu allan o drefn mesurau arbennig yn sydyn yn 2020—ac roedd yn sydyn, fel y nododd Rhun ap Iorwerth—gan y Gweinidog iechyd ar y pryd, Vaughan Gething, mae methiannau sylweddol wedi parhau i ddigwydd wrth gwrs, gan amrywio o...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 7 Meh 2022)

Russell George: Gweinidog, fe hoffwn i godi mater yr amser y mae hi'n ei gymryd i dderbyn atebion oddi wrth Weinidogion o ran cael gohebiaeth yn ôl oddi wrth Aelodau'r Senedd pan fydd rhai wedi ysgrifennu atyn nhw. Mae rhai Gweinidogion yn ymateb yn gyflym iawn, ond nid yw Gweinidogion eraill yn gwneud felly, ac rwy'n rhoi esiampl y Gweinidog Newid Hinsawdd. Fe anfonais i ohebiaeth drwy e-bost ym mis...

3. Cwestiynau Amserol: Llety Hunanarlwyo (25 Mai 2022)

Russell George: Weinidog, clywsoch fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog ddoe. Nid wyf am drafod y mater hwnnw'n fanwl eto, ond hoffwn wybod, ar yr enghraifft benodol honno, sut y byddech yn cynghori busnes sydd wedi arallgyfeirio efallai, busnes ffermio sydd wedi cyflwyno llety gwyliau na ellir ei ddefnyddio fel ail gartref, a bod ganddynt ganiatâd cynllunio, nid ar gyfer anheddau, ond ar gyfer defnydd llety? A...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru: Diwydiant Amaethyddol Sir Drefaldwyn (25 Mai 2022)

Russell George: Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Wrth gwrs, yr hyn sydd ei angen ar ffermwyr yn fy etholaeth i, ac ar draws Cymru gyfan mewn gwirionedd, yw cyfeiriad clir ym mholisi’r Llywodraeth. Roedd y Bil amaethyddol i fod i gael ei gyflwyno yn y gwanwyn eleni, ond ni ddigwyddodd hynny wrth gwrs. Weinidog, a wnewch chi egluro pam nad yw’r Bil wedi cael ei gyflwyno eto, pryd y bwriadwch...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru: Diwydiant Amaethyddol Sir Drefaldwyn (25 Mai 2022)

Russell George: 10. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant amaethyddol yn sir Drefaldwyn? OQ58088

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Sector Twristiaeth (24 Mai 2022)

Russell George: Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Rwyf eisiau codi'r mater ynghylch llawer o fusnesau gwyliau yn y canolbarth a fydd, yn fy marn i, yn mynd yn anhyfyw os bydd cynlluniau'r Llywodraeth i gynyddu'r trothwy i 182 diwrnod y flwyddyn yn dod i fodolaeth. Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn rhoi cyngor i Mr Paul Martin, un o fy etholwyr, sydd wedi amlinellu ei achos i mi droeon a hefyd wedi...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyfraddau Ailgylchu (24 Mai 2022)

Russell George: Diolch, Llywydd. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer—? Mae'n ddrwg gennyf i, cwestiwn anghywir—Rhif 3 oedd hwnna.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Sector Twristiaeth (24 Mai 2022)

Russell George: 4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector twristiaeth yng Nghymru? OQ58074

6. Dadl Plaid Cymru: Iechyd menywod (18 Mai 2022)

Russell George: A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw? Pan ffurfiwyd y pwyllgor iechyd y llynedd, fel y mae llawer o bwyllgorau'n ei wneud, anfonodd ymgynghoriad at randdeiliaid perthnasol, a'r ymateb mwyaf a gafwyd oedd yr angen i ganolbwyntio ar faterion iechyd menywod, ac o ganlyniad, cytunodd holl aelodau'r pwyllgor y byddai hyn yn flaenoriaeth i’r pwyllgor iechyd yn y...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cronfa Ddŵr Llyn Clywedog (18 Mai 2022)

Russell George: Weinidog, rwy’n ddiolchgar i Cefin Campbell am godi’r mater hwn, mater rwyf wedi’i godi nifer o weithiau o’r blaen, ynglŷn â rhwystredigaeth tirfeddianwyr i lawr yr afon o ganlyniad, yn eu barn hwy—a byddwn yn cytuno—i'r angen i newid y rheolau gweithredol ar gyfer argae Clywedog. Nawr, rwy'n deall ei fod yn fater cymhleth—rwyf wedi codi hyn droeon gyda'ch rhagflaenwyr...

8. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2022 (17 Mai 2022)

Russell George: Diolch am y wybodaeth ddiweddaraf y prynhawn yma, Gweinidog. Rydw i, wrth gwrs, yn falch o glywed bod nifer yr achosion o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty'n gostwng hefyd. Ni fyddwn ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi'r rheoliad hwn y prynhawn yma, gan ein bod yn credu nad oes angen ymestyn y rheoliad a'r ddeddfwriaeth hon. Os ydych chi'n credu ei bod yn briodol gwisgo gorchudd wyneb mewn...

7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (17 Mai 2022)

Russell George: Gweinidog, mae teulu yn fy etholaeth i wedi rhoi llety i deulu o Wcráin, ac mae pob un ohonyn nhw'n ymgartrefu'n dda, ar wahân i un mater penodol, sef bod y teulu hwn yn ei chael hi'n anodd cael eu hailuno â'u hanifeiliaid anwes. Mae problem ddifrifol yma oherwydd bod gan y ferch fach dan sylw anghenion arbennig ac mae mawr angen iddi fod gyda'r anifeiliaid anwes hynny. Mae'n fater...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Costau Ynni (17 Mai 2022)

Russell George: Diolch, Prif Weinidog. Un o'r materion yr oeddwn i eisiau eu codi gyda chi yw'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Nawr, yn anffodus, nid yw etholwr wedi gallu hawlio drwy'r cynllun, er ei bod yn ofalwr am ei merch ddibynnol, sydd ag anabledd, sy'n cael budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd. Nawr, rwyf ar ddeall, pe bai'r ferch yn talu'r biliau, byddai'r ferch...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Costau Ynni (17 Mai 2022)

Russell George: 1. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi aelwydydd sy'n wynebu costau ynni cynyddol? OQ58038


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.