Altaf Hussain: Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad, ac a gaf i ddiolch yn ddiffuant i bawb sydd wedi gweithio mor galed i lunio'r cynllun gweithredu hyd yn hyn? Mae gen i ychydig o gwestiynau byr, os caf i, ynglŷn â rhai o'r camau gweithredu. Gweinidog, byddwch yn gwybod mai hunanladdiad yw'r lladdwr mwyaf ymhlith pobl ifanc o dan 35 oed yn y DU, ac mae'n effeithio'n anghymesur ar aelodau o'r...
Altaf Hussain: Gweinidog, hoffwn ofyn i'r Llywodraeth drefnu dadl ar wasanaethau bysiau a'u rôl bwysig o ran cefnogi teithio llesol, gydag effeithiau cadarnhaol ar yr amgylchedd a chysylltu cymunedau. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y cwmni bysiau, Easyway, y byddan nhw'n rhoi'r gorau i fasnachu ar 31 Gorffennaf, sy'n ergyd enfawr i'r cymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd wedi dibynnu ar eu gwasanaethau bysiau....
Altaf Hussain: Diolch yn fawr, Llywydd. Gallaf siarad nawr.
Altaf Hussain: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Prif Weinidog, mae'r pandemig wedi taflu goleuni llym ar anghydraddoldebau yng Nghymru, a gwelwyd llawer o hyn drwy'r ffordd y cyflwynwyd ein system addysg wrth i rieni ei chael yn anodd bod yn rhiant ac yn athro i'w plant, a hefyd pan ddaeth lles plant yn bryder yn ystod absenoldeb hir o'r ystafell ddosbarth. Mae'r argyfwng costau byw nawr yn gorfodi rhieni i...
Altaf Hussain: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu addysg ysgol o'r radd flaenaf yng Nghymru? OQ58197
Altaf Hussain: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch, Gadeirydd, a chyd-Aelodau ar y pwyllgor. Wrth i dymor y comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol presennol ddod i ben, mae’n ddefnyddiol ystyried yr effaith y mae’r comisiynydd a’i swyddfa wedi’i chael. Er nad yw bob amser yn hawdd bod y cyntaf mewn rôl mor arloesol, mae'n gyfle i osod safon. Nid yw’r comisiynydd wedi osgoi cyfrannu at bynciau heriol ac...
Altaf Hussain: Diolch am godi'r mater hwn, Jane. Weinidog, yr wythnos diwethaf, adroddodd y BBC fod gweithwyr gofal yn ystyried rhoi'r gorau iddi oherwydd y cynnydd yng nghostau tanwydd, sy'n golygu bod teithiau'n eithriadol o ddrud. Mae Bethan Evans o Geredigion yn gyrru dros 600 milltir yr wythnos yn rheolaidd, i ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi eu hunain ar draws gorllewin Cymru. Ar hyn o bryd, nid...
Altaf Hussain: Prynhawn da, Weinidog. Mae Llywodraeth yr Alban wedi nodi gweledigaeth uchelgeisiol i drawsnewid eu heconomi, gan ddweud eu bod yn dymuno cael eu cydnabod fel cenedl o entrepreneuriaid ac arloeswyr sydd wedi manteisio ar y cyfleoedd sy'n codi o dechnolegau newydd, wedi cynyddu cynhyrchiant yn sylweddol, a chanolbwyntio eu hadnoddau ar gyfleoedd a fydd yn trawsnewid eu heconomi. Yn benodol, pa...
Altaf Hussain: Gweinidog, diolch yn fawr i chi am y diweddariad pwysig hwn. Yng nghanllawiau Cartrefi i Wcráin—rwy'n credu mai dyna'r hyn yr oeddech chi'n cyfeirio ato—ychydig sydd wedi'i grybwyll am yr amddiffyniad hirdymor sy'n cael ei gynnig, er gwaethaf parodrwydd Llywodraeth Cymru i fod yn uwch-noddwr. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cydnabod problem caethwasiaeth fodern yma yng Nghymru. Gall...
Altaf Hussain: Diolch.
Altaf Hussain: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am y cynllun gweithredu hwn. Mae profion cartref HIV ar gael ledled Cymru, a'r profion yn cael eu postio i labordy, a bydd yr unigolyn yn cael eu canlyniadau fel arfer mewn tua 72 awr. Fodd bynnag, mae prawf arall ar gael, sy'n caniatáu i unigolyn brofi ei hun gartref a chael ei ganlyniadau mewn tua 15 munud. Gall aros am ganlyniad...
Altaf Hussain: Gweinidog, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd BBC Cymru stori yn cynnwys amrywiaeth o bryderon gan Sefydliad Bevan ynghylch cyflwyno dewis Llywodraeth Cymru o ran prydau ysgol am ddim i bob ysgol gynradd, a fydd yn dechrau ym mis Medi. Yn syml, nid oes gan lawer o ysgolion y seilwaith i gynnig pryd o fwyd i bob disgybl. Bydd cyfyngiadau ar geginau, seddi a gallu staffio. Cyn diwedd tymor yr haf,...
Altaf Hussain: Beth yw cynllun Llywodraeth Cymru i godi’r gwastad o ran economi Cymru?
Altaf Hussain: Diolch am y ddadl hon, Joel, ac am roi munud i mi—efallai y cymeraf fwy. Mewn llawer o achosion, mae pobl sydd â cholled clyw yn gorfod aros llawer mwy am apwyntiad gyda'u meddyg teulu. Mae llawer o feddygfeydd meddygon teulu yn methu cynnig apwyntiadau ar yr un diwrnod am nad oes ganddynt staff sy'n ddehonglwyr hyfforddedig neu sy'n gallu defnyddio iaith arwyddion. Gallai cleifion aros...
Altaf Hussain: Weinidog, mae cyhoeddiad diweddar y Canghellor o £25 miliwn ychwanegol i Gymru ar gyfer y gronfa gymorth i aelwydydd yn dystiolaeth bellach o’r ymrwymiad i gefnogi pobl hŷn drwy'r cyfnodau anodd sydd o’u blaenau, ochr yn ochr â’r taliad tanwydd y gaeaf ychwanegol a chymorth ariannol pellach i dalu costau ynni. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd pobl hŷn yn elwa o’r gronfa...
Altaf Hussain: Hoffwn groesawu cyhoeddi adroddiad effaith Cymru 2020-21 ac ehangder y gwaith mae'r comisiwn yn ymwneud ag ef. Mae'n amlwg eu bod wedi datblygu rôl strategol sylweddol yng Nghymru, gan ymgysylltu â llawer o waith y Llywodraeth, y Senedd a phartneriaid allweddol eraill. Mae tystiolaeth glir o hynny yn eu hadroddiad. Maen nhw wedi rhoi cyngor i sefydliadau ac wedi cefnogi'r ymdrechion yn...
Altaf Hussain: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Er gwaethaf ymdrechion blaenorol Llywodraeth Cymru i ddileu hiliaeth yng Nghymru, mae nifer y troseddau casineb â chymhelliant hiliol ar gynnydd. Amcangyfrifir bod gan 65 y cant o droseddau casineb gymhelliant hiliol. Mae'r mathau hyn o ffeithiau wedi arwain rhai i ystyried Cymru fel y wlad fwyaf hiliol yn y Deyrnas Unedig. Mae llawer o bobl ifanc o...
Altaf Hussain: Weinidog, yn ddiweddar ymwelais â lloches anifeiliaid Llys Nini ger Abertawe. Roedd yn anhygoel, ac maent i gyd yn ymroddedig i roi ail gyfle i'r anifeiliaid yn eu gofal. Ond ni ddylai fod angen i hyn ddigwydd. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i ddiogelu lles yr anifeiliaid yn eu cymunedau, yn enwedig mewn perthynas â gorfodi?
Altaf Hussain: Mae dadansoddiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn awgrymu, er bod argyfwng hinsawdd wedi'i ddatgan, nad yw cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn ymgorffori targedau datgarboneiddio wrth gyflawni eu gofynion caffael o hyd. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i unioni hyn ac i gydnabod y costau ychwanegol sy'n deillio o hyn? Diolch.
Altaf Hussain: Roeddwn i eisiau gofyn am y pethau hyn a ddylai ddigwydd. Rwy'n credu y dof i ben nawr.