Rhianon Passmore: Diolch. Mae Martha Spurrier, cyfarwyddwr grŵp hawliau dynol Liberty, wedi dweud: 'Mae’r cynllun hwn i ddiwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol yn enghraifft amlwg a digywilydd o gipio pwerau gan Lywodraeth sydd am osod eu hunain uwchben y gyfraith. Maent yn llythrennol yn ailysgrifennu'r rheolau o'u plaid hwy fel na ellir eu cyffwrdd.' Mae llywydd Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru a Lloegr wedi dweud:...
Rhianon Passmore: Diolch, Weinidog. Gwyddom fod gwerthusiad ffisegol unigolyn yn hanfodol i anghenion y cyfryw unigolyn, ond dechrau ei daith yn unig yw cael ei adsefydlu a chael diogelwch mewn gwlad newydd. Fel cenedl noddfa, gwn ein bod yng Nghymru yn ymfalchïo yn y ffordd y cynigiwn y cymorth sydd ei angen i sicrhau y gall pobl ailadeiladu eu bywydau ac integreiddio yn eu cymunedau. A all y Gweinidog...
Rhianon Passmore: 4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynllun setliad dinasyddion Affganistan? OQ57427
Rhianon Passmore: 6. Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i effaith adolygiad Llywodraeth y DU o ddeddfwriaeth hawliau dynol ar gyfraith Cymru? OQ57428
Rhianon Passmore: Mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru heddiw yn dal yn fregus; amcangyfrifir bod un o bob 20 o ddinasyddion wedi eu heintio, mae achosion sy'n profi'n bositif tua 50 y cant ac, o ganlyniad uniongyrchol, mae absenoldebau staff ar draws GIG Cymru ychydig dros 8 y cant yr wythnos diwethaf, gyda rhai ymddiriedolaethau yn gweld dwywaith hyn. Felly, nid yw'n syndod bod bwrdd iechyd Aneurin...
Rhianon Passmore: Ydy. Rydym ni'n cael problemau gyda'r fideo. Mae'n rhaid ei rhoi yn ôl yn ysbeidiol. Rydw i bron â gorffen. Os caf i ddod at fy nghwestiwn, Dirprwy Lywydd.
Rhianon Passmore: Mae hynny'n hollol iawn. Mae'n gwneud hynny, ac maen nhw'n ceisio ei ddatrys. Felly, Gweinidog, sut yr ydych chi'n egluro, felly, i fy etholwyr pam y bydd Cymru'n cael £46 miliwn yn unig eleni o gronfa adnewyddu cymunedol Llywodraeth y DU, ar sail ad hoc, nad yw'n dryloyw, o'i gymharu â'r £375 miliwn y byddem ni wedi'i gael o gronfeydd strwythurol yr UE o fis Ionawr 2021? Mae hynny'n...
Rhianon Passmore: Bydd pobl Islwyn yn croesawu'r datganiad pwysig hwn heddiw, a bydd y gyllideb hon yn datblygu Cymru. Fel y nododd y Gweinidog, nid ydym ni wedi dianc, mewn unrhyw ffordd, flynyddoedd o gyni'r Torïaid cyn i'r pandemig hwn daro. Mae'r diffyg cyllid teg i Gymru, yn niweidiol yn ystod y degawd diwethaf, a'r diffyg gwariant seilwaith y DU yng Nghymru, gan gynnwys diffyg symiau canlyniadol HS2,...
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, un o dasgau sylfaenol unrhyw lywodraeth yw diogelu bywydau a sicrhau iechyd cyhoeddus ei dinasyddion, ac mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu cadw Cymru'n ddiogel yn ystod y pandemig byd-eang hwn. Gyda'r don omicron a ddaeth drosom ni, roedd angen mesurau iechyd y cyhoedd, a gwelwn arwyddion calonogol, gyda'r gyfradd heintio yn gostwng dros ddau ddiwrnod yn olynol. Prif...
Rhianon Passmore: Diolch, Weinidog. Ddechrau mis Tachwedd, datganwyd bod Cymru gyfan yn barth atal ffliw adar, sy'n golygu ei bod yn ofyniad cyfreithiol i geidwaid adar caeth ddilyn mesurau bioddiogelwch llym i ddiogelu eu hadar. Mae hyn yn berthnasol i bawb, hyd yn oed os mai dim ond un aderyn rydych chi'n berchen arno, ac mae hwn yn gyfnod pryderus i geidwaid adar. Weinidog, beth yw'r ffordd orau y gall pobl...
Rhianon Passmore: 5. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella lles anifeiliaid? OQ57364
Rhianon Passmore: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, a diolch hefyd i'n hyrwyddwyr brechlyn yn y GIG. Gweinidog, gwyddom fod yr amrywiolyn omicron i bob pwrpas yn lleihau imiwnedd a gyflawnwyd gan ddau ddos o'r brechlyn i ddim byd bron yn achos Oxford-AstraZeneca ac i'r amddiffyniad lleiaf posibl rhag haint yn achos Pfizer, ond nid yw hynny'n golygu na fydd y dosau dwbl yn helpu pobl i frwydro yn erbyn...
Rhianon Passmore: A gaf i ddiolch hefyd i Lywodraeth Cymru am geisio mynd i'r afael â'r broblem anodd iawn a deimlir ym mhob cymuned ledled Cymru, a hefyd ymestyn y diolch hynny i Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy? Gwyddom fod y DU yn cael ei gwasanaethu'n wael gan nifer o fanciau mawr sy'n anwybyddu adborth cwsmeriaid ac yn parhau i fabwysiadu polisi o gefnu ar fancio cymunedol. Yn wyneb gwrthwynebiad...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Diolch. A ydych yn credu mai gwaith eglwysi a mudiadau gwirfoddol yn unig yw darparu'r rhwyd ddiogelwch, fel y dywedwch, i'r rhai sydd â'r angen mwyaf?
Rhianon Passmore: Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi a chroesawu'r newyddion am ailgyflwyno gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol o Crosskeys i Gasnewydd, o ddydd Sul, 12 Rhagfyr, mewn pryd ar gyfer y Nadolig? Nid camp fach mo hon a dyma fydd y gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol cyntaf i deithwyr o gymunedau Islwyn i Gasnewydd mewn bron i 60 mlynedd. Ers fy ethol, rwyf wedi ymgyrchu dros ailgysylltu...
Rhianon Passmore: Hoffwn ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad ar y rhaglen lywodraethu yma heddiw, a'r ysbryd o gydweithredu a amlinellwyd. Roeddwn wrth fy modd eich bod wedi cyfeirio at y ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi addo yn yr ymgyrch etholiadol i greu gwasanaeth cerddoriaeth genedlaethol newydd. Felly, braf oedd gweld y Gweinidog addysg yn cadarnhau y bydd £6.8 miliwn ar gael ar gyfer...
Rhianon Passmore: Rwy'n cadeirio grŵp trawsbleidiol y Senedd ar gerddoriaeth ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar am y gefnogaeth drawsbleidiol ddiffuant ar draws y Siambr ar y mater hollbwysig hwn. Ddydd Sadwrn diwethaf, cefais y fraint o gymryd rhan yng nghynhadledd Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion lle cynrychiolais y Senedd i drafod addysg cerddoriaeth ar draws y gwledydd datganoledig. Yn wir, mae gennym enw...
Rhianon Passmore: Diolch, Lywydd. Byddaf yn rhoi munud o fy amser i'r cyd-Aelodau canlynol o'r Senedd: Carolyn Thomas, Peredur Owen Griffiths, Delyth Jewell, Sam Rowlands a Mike Hedges. Rwy'n croesawu cyfraniadau Aelodau trawsbleidiol y Senedd yn y ddadl bwysig hon heddiw yn fawr. Diolch yn fawr i chi i gyd. Rwy'n codi yn Siambr y Senedd hon yng Nghymru i alw am yr angen dybryd i gynnal Cymru gerddorol ar...
Rhianon Passmore: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i dyfu busnesau bach a chanolig eu maint yn Islwyn?