Canlyniadau 121–140 o 1000 ar gyfer speaker:Michelle Brown OR speaker:Michelle Brown OR speaker:Michelle Brown

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ( 6 Chw 2019)

Michelle Brown: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am recriwtio i'r GIG yng Nghymru?

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 5 Chw 2019)

Michelle Brown: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i wella democratiaeth yng Nghymru?

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Gwneud Cymru'n Genedl Noddfa (29 Ion 2019)

Michelle Brown: Diolch i chi am eich datganiad, Dirprwy Weinidog. Rwy'n croesawu'r datganiad ac yn cytuno'n llwyr y dylem wneud yn siŵr bod Cymru wir yn genedl o noddfa i'r rhai sydd ei angen. Fel cenedl sy'n gymharol ffyniannus, mae gennym ni ddyletswydd foesol i gynnig lloches i'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth neu ryfel, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gynyddu ein gallu i wneud hynny...

3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Diwygio'r Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu: Papur Gwyn ar Gynigion ar gyfer Newid Deddfwriaethol (29 Ion 2019)

Michelle Brown: Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae eich datganiad yn rhoi disgrifiad crand iawn o gynllun crand iawn ar gyfer y cwricwlwm newydd, ac ni allaf fi ddweud fy mod i'n anghytuno ag amcanion y cwricwlwm hwnnw. Ond, fel y gwyddoch chi, mae Cymdeithas y Cyfarwyddwyr Addysg yng Nghymru, ynghyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi dweud y gallai addysgu disgyblion ddigwydd trwy hap a...

10. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Effaith Brexit heb Gytundeb ar ein Gwasanaethau Iechyd a Gofal (22 Ion 2019)

Michelle Brown: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Os yw'r Llywodraeth hon yn poeni gymaint am effaith Brexit ar GIG Cymru, a yw'r Gweinidog yn fodlon â'r cyfaddefiad a wnaeth Prif Weinidog Cymru i mi yn y pwyllgor yn ddiweddar nad yw Llywodraeth Cymru wedi siarad ag un cwmni fferyllol unigol am y goblygiadau i'r cyflenwad yn sgil Brexit ond, yn hytrach, wedi gadael hynny i Lywodraeth y DU? A yw'n fodlon...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ymosodiadau Rhyw (22 Ion 2019)

Michelle Brown: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae menyw sydd wedi mynd yn feichiog yn sgil treisiad yn wynebu cyfres o benderfyniadau y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei chael yn annealladwy o anodd eu gwneud. Dylai allu fod yn sicr nad yw gorfod gweld y sawl a wnaeth ei threisio nac iddo fod yn rhan o fywyd ei phlentyn yn y dyfodol yn ffactor y mae angen ei ystyried wrth wneud unrhyw un o'r...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ymosodiadau Rhyw (22 Ion 2019)

Michelle Brown: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r rheswm pam mae'r gyfradd ymosodiadau rhyw yn uwch yng Nghymru na'r nifer cyfartalog ar gyfer y DU? OAQ53273

6. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru) (16 Ion 2019)

Michelle Brown: Hoffwn ddiolch i Paul Davies am gyflwyno'r Bil hwn. Rwy'n cefnogi'r Bil yn llwyr ac yn cytuno â phopeth a ddywedwyd hyd yma o'i blaid, felly fe geisiaf beidio ag ailadrodd y pwyntiau a wnaed eisoes. Ond i droi at un o'r cyflwyniadau a gawsom yn erbyn y Bil, rwy'n siŵr fod pawb yma wedi cael yr e-bost ynglŷn â'r Bil, wedi'i ysgrifennu gan nifer o glinigwyr sy'n pryderu, os caiff y Bil ei...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 9 Ion 2019)

Michelle Brown: Diolch am eich ateb, Weinidog. Wel, rydych wedi meddwl am gofnodi statudol mewn perthynas ag achosion o hiliaeth mewn ysgolion ac rydych wedi meddwl am brofion papur ar gyfer darllen ac asesiadau eraill. Ar yr un pryd, mae un o bob 10 dysgwr yn ysgolion uwchradd gwladol Cymru yn dioddef bwlio bob wythnos. Golyga hynny fod mwy o blant yn cael eu bwlio nag sy'n methu cyrraedd targedau...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 9 Ion 2019)

Michelle Brown: Diolch am eich ateb, Weinidog. Y cwestiwn, mewn gwirionedd, yw: dywedwch fod ymgynghoriad parhaus yn mynd rhagddo ar hyn o bryd—mae hynny'n ddigon teg, mae ymgynghoriad ar waith. Fodd bynnag, nid yw bwlio mewn ysgolion yn fater newydd. Mae hwn wedi bod yn fater datganoledig ers tro byd bellach. Pam mai yn awr, neu'n gymharol ddiweddar, y rhoddwyd ymgynghoriad ar waith gennych? A ydych yn...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 9 Ion 2019)

Michelle Brown: Diolch, Lywydd. Mae'r comisiynydd plant ac elusennau gwrthfwlio wedi galw am gofnodi pob achos o fwlio yn statudol. Yn 2017, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn adolygu'r polisi. A ydych wedi gorffen yr adolygiad eto? Os nad ydych, pam ei bod wedi cymryd cymaint o amser?

4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Cyflwyno Asesiadau Personol ( 8 Ion 2019)

Michelle Brown: Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Un peth yw cyhoeddi'r adnodd asesu newydd gwych hwn ac, mi warantaf, rwy'n credu bod adnodd ymaddasol yn welliant ar brawf papur, ac mae'ch esboniad o'r adnodd—mae'n swnio fel adnodd ar-lein da iawn, iawn, ond ydych chi ddim o'r farn mai lle'r ysgolion unigol yw penderfynu sut y maen nhw'n mynd ati i asesu eu dysgwyr? Yr athrawon ysgol sydd â'r...

8. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Rhwystrau Carthffosydd (12 Rha 2018)

Michelle Brown: Mae llygredd plastig a sbwriel o hancesi gwlyb sy'n cael eu fflysio ar gynnydd. Y llynedd, cofnododd y Gymdeithas Cadwraeth Forol fod dros 14 o hancesi gwlyb i'w gweld ar bob 100 metr o arfordir, cynnydd o 700 y cant dros y degawd diwethaf. Bydd y rhan fwyaf o bobl wedi gweld neu wedi clywed am broblem enfawr y plastig sy'n llygru ein cefnforoedd, ac mae'n amlwg nad yw'r broblem wedi'i...

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Atal Gwastraff ac Ailgylchu (12 Rha 2018)

Michelle Brown: Un frawddeg arall, dyna i gyd.

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Atal Gwastraff ac Ailgylchu (12 Rha 2018)

Michelle Brown: Efallai y byddai rhwymedigaeth ar fanwerthwyr a gweithgynhyrchwyr i gymryd y deunydd pacio y maent yn dewis ei ddefnyddio yn eu busnes yn ôl yn gwneud iddynt ystyried a yw'r deunydd pacio y maent yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn wirioneddol angenrheidiol. A dyna ni—diolch ichi.

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Atal Gwastraff ac Ailgylchu (12 Rha 2018)

Michelle Brown: Rwyf finnau hefyd yn cefnogi'r cynnig. Cytunaf mai cynhyrchwyr deunydd pacio a ddylai fod yn gyfrifol am eu rhan yn creu'r gwastraff anferth sy'n cyrraedd y bin bob blwyddyn. Ers gormod o amser mae deddfwrfeydd wedi bod yn fodlon rhoi'r cyfrifoldeb ar ddeiliaid tai am ailgylchu a chael gwared ar wastraff deunydd pacio, er nad oes ganddynt y nesaf peth i ddim rheolaeth dros y rhan fwyaf o'r...

Enwebu'r Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8 (12 Rha 2018)

Michelle Brown: Ymatal.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Perfformiad Llywodraeth Cymru ( 5 Rha 2018)

Michelle Brown: Rwy'n cefnogi'r cynnig hwn. O dan y Blaid Lafur, mae pobl Cymru wedi gorfod dioddef gwasanaeth iechyd diffygiol, system addysg sy'n methu a pholisïau economaidd a llywodraeth leol nad ydynt yn gwneud unrhyw synnwyr busnes o gwbl. Unwaith eto, mae Llafur wedi cynnig cyfres o welliannau sy'n dangos eu bod yn gwadu'r problemau a achoswyd ganddynt yn llwyr, ac yn anffodus, mae'n rhaid imi...

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau i Blant: Lleihau'r Angen i Blant fynd i Mewn i Ofal, a Gwaith Grŵp Cynghori'r Gweinidog (13 Tach 2018)

Michelle Brown: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Hoffwn hefyd ddiolch i'r grŵp cynghori am eu gwaith hyd yma. Hoffwn hefyd longyfarch y rhai sy'n ymwneud â chyflawni gwelliannau yn y gwasanaethau pontio a'r camau cadarnhaol eraill y cawsom y newyddion diweddaraf yn eu cylch heddiw, Gweinidog. Mewn byd delfrydol, ni fyddai unrhyw blentyn yn gorfod mynd i mewn i'r system...

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Gwerthfawrogi ein Hathrawon — Buddsoddi yn eu Rhagoriaeth (13 Tach 2018)

Michelle Brown: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, er fy mod yn nodi, unwaith eto, eich bod wedi rhyddhau eich cyhoeddiad allweddol i'r wasg cyn ei gyhoeddi i ni. Gan eich bod yn gallu cyhoeddi datganiad i'r wasg ar y mater, rydych chi'n amlwg mewn sefyllfa i gyhoeddi'r datganiad i Aelodau'r Cynulliad, ond wnaethoch chi ddim. Rwyf braidd yn siomedig eich bod wedi ei ryddhau i'r wasg...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.