Dawn Bowden: Mae canfyddiadau interim arolwg a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod 85 y cant o ymatebwyr yn cytuno bod cymorth o’r gronfa cadernid economaidd yr un mor bwysig â ffyrlo. Felly, i fod yn glir, ni wnaethom y penderfyniadau diweddaraf i newid i lefel rhybudd 2 heb ystyried y canlyniadau i fusnes neu'r canlyniadau i'n sectorau diwylliant, celfyddydau a chwaraeon, a dyna pam y...
Dawn Bowden: Na, nid wyf am dderbyn unrhyw ymyriadau pellach, Ddirprwy Lywydd. Nid wyf am dderbyn unrhyw ymyriadau pellach, nac ydw.
Dawn Bowden: Lywydd, er gwaethaf y newyddion da heddiw am gyfraddau heintio, mae teuluoedd wedi colli anwyliaid i COVID dros yr wythnosau diwethaf, ac mae pobl ym mhob cymuned ledled Cymru wedi parhau i aberthu'n fawr er mwyn helpu i gadw eu hunain a'u hanwyliaid yn ddiogel. Mae eu hymdrechion wedi sicrhau bod Cymru’n dod allan o’r don omicron hon mewn sefyllfa gryfach. A thrwy gydol yr amser, rydym...
Dawn Bowden: Nid wyf am dderbyn rhagor o ymyriadau, Ddirprwy Lywydd. Felly, mae'r ddadl na chafodd y camau a gymerwyd gan bobl Cymru unrhyw effaith ar drosglwyddiad omicron nid yn unig yn sarhaus, ond ni chaiff ei chadarnhau gan y ffeithiau. Yn wir, gwelwn bellach fod ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod cyfraddau heintiadau yng Nghymru yn is o lawer nag yn Lloegr, gyda chyfraddau...
Dawn Bowden: Yr ateb yw'r hyn rwyf wedi'i roi eisoes. Roedd cyngor TAC a chyngor SAGE ar gael pan oeddem yn gwneud y penderfyniadau hynny. Fel y dywedais, y consensws iechyd cyhoeddus, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU, oedd ei bod yn annhebygol y byddai rhaglen y brechlynnau atgyfnerthu ar ei phen ei hun yn atal llawer iawn o niwed uniongyrchol yn gysylltiedig â COVID yn y cyfnod yn syth ar ôl y...
Dawn Bowden: Iawn.
Dawn Bowden: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu ymateb heddiw i'r ddadl hon, a hoffwn ddweud ar y cychwyn fod Llywodraeth Cymru yn gwrthod y cynnig cyffredinol sydd ger ein bron heddiw. Ond rwyf hefyd yn falch iawn o weld bod y dystiolaeth ddiweddaraf yn cefnogi ein cynllun i newid i lefel rhybudd 0, fel y nodir yn ein gwelliant. O safbwynt personol, edrychaf ymlaen yn arbennig at weld...
Dawn Bowden: Yn ffurfiol.
Dawn Bowden: Wel, a gaf fi ddiolch i Samuel Kurtz am ei gwestiwn pellach? Mae’n llygad ei le, cafodd S4C setliad mwy ffafriol na’r BBC, ac mae’r gwaith y mae S4C yn ei wneud ar ddatblygu rhaglenni Cymraeg i’w groesawu ac rwy’n fwy na pharod i wneud hynny. Fodd bynnag, roedd y cwestiwn hwn yn ymwneud â chyllid y BBC, a'r BBC a'i rôl ehangach yn cefnogi darlledu gwasanaeth cyhoeddus, nid yn unig...
Dawn Bowden: A gaf fi ddiolch i Heledd Fychan am ei sylwadau pellach? Rwy’n cytuno at ei gilydd â phopeth a ddywedodd. Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn chwarae rhan hynod bwysig ym mywyd diwylliannol ac economaidd Cymru, ac rydym yn bryderus iawn ynghylch y cyhoeddiad byrbwyll a wnaed gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'u dyfodol yn y tymor byr ac yn hirdymor. Mae pobl Cymru yn disgwyl ac yn haeddu...
Dawn Bowden: A gaf fi ddiolch i Heledd Fychan am ei chwestiwn? Cyfarfûm â’r BBC ddoe, ac rydym yn gweithio gyda hwy i ddeall effaith cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar ffi’r drwydded, sy’n peri cryn bryder, a’r hyn y mae’n ei olygu i wasanaethau a’r sector cyfryngau yng Nghymru.
Dawn Bowden: Diolch am y cwestiynau yna, Jenny, ac rwy'n credu eu bod nhw'n bwyntiau pwysig iawn, bod gennym ni goffadwriaethau i bobl o'r gorffennol—. Rwy'n cyfeirio yn ôl at fy atebion i bwyntiau Mark Isherwood—mae gennym ni bobl yr ydym ni wedi eu coffáu yn y gorffennol na fyddem yn eu coffáu heddiw, am yr holl resymau yr ydym yn eu gwybod. Ac rwy'n credu bod pwysigrwydd nodi'r bobl hyn, sef yr...
Dawn Bowden: Diolch, Heledd, am y sylwadau a'r cwestiynau yna. Rwy'n cytuno yn llwyr â phopeth y gwnaethoch ei ddweud—eich cwestiynau a'r cyd-destun y gwnaethoch chi osod y cwestiynau hynny ynddo. Rydym ni i gyd wedi gorfod wynebu, yn gwbl briodol, wirioneddau anghyfforddus iawn, iawn wrth i ni fynd i'r afael â chanlyniadau llofruddiaeth George Floyd a'r hyn a ddaeth ar ôl hynny. Ac rydych chi'n...
Dawn Bowden: Diolch i Mark Isherwood am y sylwadau a'r cwestiynau yna. Rwy'n credu fy mod i'n cytuno llwyr â llawer o'r hyn y mae'n ei ddweud. Mae gan yr ynysoedd hyn hanes hir o gaethwasiaeth ac nid yw ein rhan ni yn yr hanes hwnnw wedi bod yn destun gogoniant i ni bob amser. Ond mae'n rhaid i ni edrych arno yng nghyd-destun yr hyn a oedd yn digwydd ar y pryd. Roedd hynny'n rhan o holl broses yr...
Dawn Bowden: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ceisio cyflawni'r nod o Gymru fwy cyfartal yn ymwneud â gwireddu potensial ein holl bobl—[Anghlywadwy] Mae'n ddrwg gen i, Dirprwy Lywydd.
Dawn Bowden: Do, roeddem yn cael ychydig o anawsterau technegol yn y fan yno.
Dawn Bowden: Byddaf i'n dechrau eto. Newydd ddechrau oeddwn i. Mae ceisio cyflawni'r nod o Gymru fwy cyfartal yn ymwneud â gwireddu potensial ein holl bobl a'u galluogi i gymryd rhan mewn cymdeithas sifil ar delerau cyfartal. Rydym yn gwybod bod hwn yn llwybr at gymunedau mwy cydlynus a chymdeithas fwy llewyrchus. Mae hefyd yn sicrhau bywiogrwydd ein diwylliant a'n treftadaeth, sy'n cael eu cyfoethogi...
Dawn Bowden: Fel chithau, Rhianon, rwy'n angerddol ynglŷn â sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn ystyried y diwydiannau creadigol yn ddewis gyrfa hygyrch a gwerth chweil, gan roi cyfleoedd gwaith gwych i'n pobl ifanc yng Nghymru mewn sector sy'n darparu cynnwys gwerthfawr, yn gwasanaethu pob cynulleidfa ac yn allweddol i gefnogi ein twf economaidd yn y dyfodol. Rwy'n cydnabod yn llwyr bwysigrwydd addysg...
Dawn Bowden: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i Rhianon Passmore am drefnu'r ddadl fer heddiw ar gerddoriaeth, a manteisio ar y cyfle hwn i gydnabod ei dycnwch yn hyrwyddo a mynd ar drywydd y mater hwn yn y Senedd? Rwy'n tueddu i feddwl, Rhianon, y gallwn enwi'r gwasanaeth cerdd cenedlaethol newydd ar eich ôl chi oherwydd eich cyfraniadau i'r ddadl. Mae cerddoriaeth wedi bod yn...
Dawn Bowden: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? A chredaf ei fod yn llygad ei le: nid yw hyn yn rhywbeth sy'n gyfyngedig neu'n gyfrifoldeb i un portffolio yn unig. Rwyf wedi cael sgyrsiau gyda fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, a chyda'r Gweinidog iechyd ynglŷn â sut y gallwn weithio ar draws ein portffolios i gyflawni rhai o'r amcanion iechyd a lles hynny, gan gynnwys...