Rhun ap Iorwerth: Yn fy ail gwestiwn, serch hynny, rwy'n troi at y gwahanol anghydfodau cyflog—nyrsys yng Nghymru yn streicio am y tro cyntaf yr wythnos hon, staff ambiwlans a bydwragedd i streicio hefyd. Rwy'n awyddus i ddod o hyd i ffordd drwy hyn, ond mae Llywodraeth Cymru yn dal i ymatal rhag cymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon. Nawr, mae'r Gweinidog yn dweud bod ei dwylo wedi'u clymu. Gadewch imi...
Rhun ap Iorwerth: Roedd 'gobaith' yn air a gafodd ei ddefnyddio yn fanna. Mae gen i ofn mai'r Gweinidog yn gobeithio am y gorau ydy hynny; dydy'r NHS ddim yn mynd i ddod dros ei broblemau os ydy'r Gweinidog jest yn gobeithio am y gorau. Ac efo mwy o staff ambiwlans, wrth gwrs, methu cael cleifion i mewn i'r ysbytai mae'r ambiwlans; dydy mwy o staff ambiwlans ddim yn mynd i ddatrys pethau.
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn. A gaf innau, yng nghwestiynau iechyd olaf y flwyddyn, ddefnyddio'r cyfle yma i ddymuno 'Nadolig Llawen' i'r Gweinidog, i'r Senedd, ac i bawb sy'n gweithio ar draws y gwasanaethau iechyd a gofal? Ac mae'n teimlo'n gyfarchiad gwag, braidd, pan ydyn ni'n edrych ar yr heriau y mae'r gwasanaethau hynny'n eu hwynebu. Doeddwn i wir ddim yn gwybod beth i'w ofyn heddiw. Mi allwn i...
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhun ap Iorwerth: Hoffwn ofyn i chi am ba wlad rydych chi'n siarad amdani mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Ond ydych chi'n cydnabod y bu disgwyliad oes yn gostwng am y tro cyntaf ers llawer, llawer cenhedlaeth?
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n colli fy llais, dwi'n meddwl. Allwn ni ddim gorbwysleisio arwyddocâd y datganiad yma. Mae cyhoeddi’r gyllideb yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn yn seneddol bob amser, wrth reswm, ond mae’r arwyddocâd yn fwy fyth eleni, wrth i Lywodraeth Cymru orfod cyllido yng nghyd-destun sefyllfa economaidd enbyd o anodd. Dwi’n cyd-fynd efo’r Gweinidog cyllid...
Rhun ap Iorwerth: Ddirprwy Lywydd, rydym yn wynebu sawl anghydfod. Mae sawl undeb wedi pleidleisio i fynd ar streic. Staff ambiwlans, wrth gwrs, yw'r rhai diweddaraf i baratoi i fynd ar streic. Mae'r Gweinidog wedi dweud eto mai toriadau Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y cyfan, ac rwy'n cytuno ynglŷn â'u fandaliaeth economaidd a niwed eu toriadau i wariant cyhoeddus sy'n cael eu gyrru gan ideoleg. Ond er...
Rhun ap Iorwerth: Diolch am yr ymateb yna gan y Gweinidog. Roeddwn i eisiau gofyn hefyd ynglŷn â'r prinder o dabledi gwrthfiotig. Dwi'n meddwl ein bod ni wedi cael ateb eithaf cynhwysfawr yn fanna gan y Gweinidog. Dau gwestiwn arall gen i, eto ynglŷn â'r cyfathrebu. Roeddwn yn falch o weld y datganiad yn dod neithiwr. Dwi wedi rhannu hwnnw ar fy llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i, yn fy etholaeth i, a...
Rhun ap Iorwerth: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymateb y Llywodraeth i fygythiadau o weithredu diwydiannol ar draws GIG Cymru, ac ar ei chynlluniau i geisio osgoi'r fath o weithredu drwy negodi? TQ696
Rhun ap Iorwerth: A gaf i ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ar gyflwr yr NHS? Ar drothwy'r gaeaf, mae staff yn gwneud eu gorau, ond mae'r sefyllfa'n amhosib. Dwi wedi clywed am gyfres o ddigwyddiadau yn effeithio ar etholwyr yn y dyddiau diwethaf: un ddynes yn ei 80au, yn ofni ei bod hi wedi torri ei chlun, yn aros 24 awr ar y llawr gartref am ambiwlans; dynes oedrannus arall yn aros yn yr adran frys am...
Rhun ap Iorwerth: Prynhawn da, Llywydd. Prynhawn da, bawb.
Rhun ap Iorwerth: Diolch am yr ymateb yna. Does dim amheuaeth bod cau y bont wedi cael effaith negyddol ar fusnes. Mae'r sefyllfa economaidd gyffredinol hefyd yn effeithio ar faint mae pobl yn ei wario, ond, o siarad efo busnes ar ôl busnes, pan fyddaf i'n clywed am gwymp o 35-40 y cant mewn masnach fel ryw ffigwr sydd i'w glywed yn gyffredin—rhai yn gweld cwymp mwy—mae'n amlwg bod angen ymateb i hyn. ...
Rhun ap Iorwerth: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ba gymorth sydd ar gael i fusnesau yn sgil cau pont y Borth? OQ58854
Rhun ap Iorwerth: Yn syml iawn, mae angen craffu ar benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru yng Nghymru, a gofynnwn i bawb gefnogi'r cynnig hwn heddiw fel ffordd o sicrhau hynny. Diolch.
Rhun ap Iorwerth: Rwy'n siarad ar ran Plaid Cymru fel cyd-gyflwynydd y cynnig. Mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn cynrychioli pobl yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig ofnadwy hwn: pobl sydd wedi colli anwyliaid, pobl sydd eisiau gwybod, pan fydd hyn yn digwydd eto—nid yn ein hoes ni, gobeithio—y gall Cymru fod yn barod, mor barod â phosibl, ac wedi'i harfogi gystal ag y gallem fod i wneud y...
Rhun ap Iorwerth: Diolch am yr ateb yna. Dwi innau, wrth gwrs, yn rhannu'r rhwystredigaeth bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi mynd yn ôl ar ei gair o ran gwariant yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r gwaith gwych sydd wedi cael ei wneud dan gynllun LEADER. Dwi'n arbennig o ddiolchgar i Menter Môn yn fy etholaeth i am y gwaith arloesol maen nhw wedi'i arwain yn tynnu...
Rhun ap Iorwerth: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau hirdymor y Llywodraeth i olynu cynllun LEADER? OQ58794
Rhun ap Iorwerth: Mae unedau gofal sylfaenol brys yn un o'r atebion sydd wedi cael eu cyflwyno er mwyn trio lleihau y pwysau ar feddygfeydd. Ond, yn Ynys Môn, dŷn ni'n gweld bod naw o'r 10 syrjeri sydd gennym ni ar yr ynys wedi gwneud 278 referral i'r uned newydd yn Ysbyty Penrhos Stanley, tra bod yr un feddygfa sy'n cael ei rheoli yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd, Hwb Iechyd Cybi, ei hun wedi gwneud dros...
Rhun ap Iorwerth: Fe ddywedais fod cadw staff yn fwy heriol na recriwtio o bosibl, ond mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn cadw'r holl arfau sydd eu hangen i ddod â nyrsys i mewn i'r proffesiwn, a chofiwch na fydd llawer ohonynt yn dod yn syth o'r ysgol, ond efallai ychydig yn hwyrach yn eu bywydau a gorfod rhoi'r gorau i swydd arall. Maent angen cefnogaeth y fwrsariaeth honno ar y lefel bresennol. Ar y...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am gyfraniadau pawb i'r ddadl y prynhawn yma. Rydyn ni wedi clywed gan Aelod ar ôl Aelod pam rydyn ni'n gwerthfawrogi nyrsys gymaint. Ydyn, rydyn ni wedi diolch iddyn nhw ar garreg y drws, fel rydyn ni wedi diolch i holl staff y gwasanaeth iechyd a gofal am eu gwaith diflino, ond mae yna bwynt yn dod lle mae'n rhaid dangos gwir werthfawrogiad, ac mae...