Jeremy Miles: Mae’n eithaf naturiol, wrth gwrs, i bobl holi beth yw goblygiadau’r canlyniadau diweddaraf yma i’n gwaith ni. Yn gyntaf i gyd, dwi am i chi fod yn siŵr ein bod ni'n dal wedi ymrwymo’n llwyr i filiwn o siaradwyr a hefyd ddyblu’r nifer ohonon ni sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd. Ac mae’n bwysig nodi hefyd bod Cymraeg 2050 ond wedi bod yn ei le am lai na phedair blynedd adeg...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi wedi dweud yn barod bod penawdau’r cyfrifiad yn siomedig, ac nad dyna roedden ni'n gobeithio ei weld. Wedi dweud hynny, mae'n bwysig nodi bod mwy i'r stori na jest y pennawd, ac mae yna fwy i bolisi iaith na jest y cyfrifiad. Gyntaf i gyd, gadewch i ni atgoffa'n hunain o'r canlyniadau. Ar ddiwrnod y cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, roedd tua 538,000 o breswylwyr...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ar yr ail bwynt, rwy'n glir iawn bod angen i ni symud i ffordd fwy safonol o wneud hynny, ac mae hynny'n sicr yn un o'r blaenoriaethau y byddaf eisiau eu gweld yn cael eu symud ymlaen yn ein hymateb i'r adroddiad cyllid cymdeithasol a gwaith Ymchwil Arad hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n rhan bwysig iawn o hynny. O ran y cynnig monitro cenedlaethol, mae...
Jeremy Miles: Cwestiynau pwysig, os caf i ddweud. So, mae'r cwestiwn yma o samplo yn un pwysig. Dim ond un rhan yw'r broses o samplo. Felly, mae'r cynllun monitro cenedlaethol yn un rhan o'r ecosystem newydd, jest i roi rhywfaint, efallai, o gysur i'r Aelod. Ar hyn o bryd, o ran cynllunio hynny, beth dŷn ni ddim yn darogan bydd hynny'n ei roi yw'r math o specificity ar lefel ysgol o'r ymyraethau mae'r...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mi wnaf i geisio ateb cymaint ohonyn nhw ag y galla i. Rwy'n credu mai'r pwynt allweddol yw bod gwahaniaeth rhwng data am atebolrwydd ar y naill law a data ar gyfer asesu a hunan-wella ar y llaw arall. Mae'n bwysig iawn ein bod ni’n sicrhau bod y ddau beth hynny'n cael eu cadw ar wahân, oherwydd eu bod yn gwasanaethu dibenion gwahanol iawn, iawn. Y...
Jeremy Miles: Mae'n gwbl glir i mi, Dirprwy Lywydd, bod defnyddio ystod eang o wybodaeth yn hanfodol i gefnogi gwerthuso a gwella. Ni ddylid defnyddio darnau ynysig o ddata, neu ddarnau allan o gyd-destun, i farnu perfformiad na chymharu ysgolion. Rwy'n croesawu ymateb Estyn i fy natganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, gan gadarnhau na fyddant hwythau chwaith yn defnyddio darnau o wybodaeth ynysig i...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ddiwygio'n sylfaenol yr hyn rŷn ni'n ei addysgu a'n ffordd ni o wneud hynny, er mwyn i ni gefnogi cynnydd addysgol ein dysgwyr, eu lles nhw, a'u cyfleoedd bywyd nhw hefyd. Ond, i wireddu hyn, mae angen i'r diwygiadau gydgysylltu gyda'i gilydd. Rhaid i bob rhan o'n rhaglen ddiwygio fod yn gwbl gyson...
Jeremy Miles: Wel, rwy'n credu bod pawb yn cytuno y dylai ein plant ni fod yn yr ysgol yn cael eu haddysg, ond does neb yn cymryd y penderfyniad yma i streicio ar chwarae bach. Mae pedair undeb gyda ni, a dwy wedi pleidleisio o blaid gweithredu, ond beth bynnag yw'r trothwy sydd gan yr undebau, rŷn ni'n parchu ac yn clywed y negeseuon rŷn ni'n eu cael wrth athrawon yn y pleidleisiau hynny. Dwi ddim yn...
Jeremy Miles: Wel, mae’r rhain yn faterion difrifol sy’n haeddu gwell na checru gwleidyddol yn y Siambr hon. Mae ei gamddisgrifiad o’r system addysg yng Nghymru yn gyson ag un ei gyd-Aelodau ar y meinciau hynny. Yn wahanol i’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, nid ydym yn ymateb i streiciau drwy gyflwyno deddfau llym sy’n tanseilio hawliau sylfaenol pobl. Yng Nghymru, rydym ni, fel...
Jeremy Miles: Byddaf yn cyfarfod ag undebau athrawon a phenaethiaid yfory, ynghyd ag awdurdodau lleol, sef y cyflogwyr, i drafod canlyniad pleidleisiau a thrafod y camau nesaf. Rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i sicrhau datrysiad i’r anghydfod, a bydd y cyfarfod teirochrog yn helpu i archwilio ffyrdd o fynd i’r afael â phryderon athrawon.
Jeremy Miles: Allaf i ddim gwneud sylwadau o ran penderfyniadau o ran y cynllun penodol mae'r Aelod yn sôn amdano. Rwy'n gwybod y gwnaeth hi ymgyrchu a gwnaeth ymgeiswyr Plaid Cymru yn yr etholiad lleol ymgyrchu ar y sail na ddylai'r ysgol fynd yn ei blaen. Wrth gwrs, mae'r Blaid nawr yn cydreoli'r cyngor ond nid dyna'r penderfyniad mae'r cyngor eisoes wedi ei wneud, fel yr wyf i'n deall hynny. Fel rhan...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny—cwestiynau pwysig iawn. Rwy'n credu ei bod yn rhy fuan i wybod a fydd y dull newydd yn dangos bod yna heriau. Credaf, mewn egwyddor, y dylai fod yn llawer mwy craff a dylai fod yn llai beichus, i'r awdurdodau ac i'r Llywodraeth, sy'n amlwg wedyn yn cynnig cyfleoedd i ymdrin â phethau mewn ffordd ychydig yn fwy hyblyg ac i roi'r cymysgedd cywir, yn fy...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae angen darparu ysgolion addysg cyfrwng Cymraeg ac ysgolion addysg cyfrwng Saesneg. Mae galw yn y ddau faes. Felly, yr her i ni a'r dymuniad sydd gennym ni fel Llywodraeth yw sicrhau bod un ddim yn digwydd ar draul y llall. A dyna'r pwynt roeddwn i'n ei wneud yn gynharach, wrth gysylltu buddsoddiadau yn y seilwaith ehangach gyda chynnydd addas a chyflym wrth...
Jeremy Miles: Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiynau hynny. Tynnais sylw at Ysgol Gynradd South Point oherwydd dyma'r ysgol sero net gyntaf yng Nghymru, yn etholaeth fy nghyd-Aelod yn y Llywodraeth, Jane Hutt. Credaf ei bod yn deg dweud, yn ôl pob tebyg—ac rwy'n gobeithio na fyddai ots ganddi i mi ei eirio felly—mae'n rhaid ei bod ymhlith yr ysgolion yr ymwelir â hi amlaf, er mwyn edrych ar yr hyn a...
Jeremy Miles: Diolch am y cwestiynau hynny. O ran y buddsoddiad yn y sector cyfrwng Cymraeg, fe wnaeth yr Aelod glywed yr hyn gwnes i ddweud wrth James Evans. Ond un pwynt i ychwanegu yn sgil beth mae hi wedi'i ddweud yw rwy'n credu mai un o'r heriau, efallai, neu un o'r gwendidau sydd gennym ni yn y cynlluniau strategol yw bod y pwyslais ar niferoedd, sydd wrth gwrs yn gwbl greiddiol i lwyddiant o ran yr...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mae'n iawn i nodi bod canlyniadau'r cyfrifiad yn siomedig, ond bydd hefyd yn cofio bod amrywiaeth o ddata yn y maes hwn sy'n dangos darlun ychydig yn fwy cymhleth na'r un ffynhonnell ddata honno efallai, er ei bod yn bwysig iawn. Felly, y dasg inni yw edrych ar y data yn eu cyfanrwydd, ond mae mwy o blant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg nag sydd wedi'u...
Jeremy Miles: Dirprwy Lywydd, mae'r rhaglen yn wirioneddol drawsbynciol ac wedi rhoi llwyfan i ymgorffori'r Gymraeg yn ogystal â pholisïau eraill, er enghraifft teithio llesol, bioamrywiaeth, TGCh, cymuned a chwricwlwm, cyflawni a manteisio i'r eithaf ar werth o fuddsoddiadau ar draws ein hystad addysg ac, wrth wneud hynny, mae wedi darparu model cynaliadwyedd i eraill ei ddilyn. Fel un o'r cenhedloedd...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Y llynedd, cyflwynwyd enw newydd ar gyfer ein rhaglen buddsoddi mewn seilwaith addysg flaenllaw, sef rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy, a thrwy hyn rydym ni'n gwneud datganiad clir am ein hymrwymiadau ar gyfer yr amgylchedd a chenedlaethau'r dyfodol. Hyd yn hyn, mae'r rhaglen wedi darparu dros £1.5 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf i gefnogi cyflwyno 255 o brosiectau...
Jeremy Miles: Rydym yn annog pob awdurdod lleol i wneud hynny, ac rydym yn darparu cymorth ariannol er mwyn i hynny ddigwydd hefyd. Rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud—mae'n bwysig iawn ein bod yn creu'r amgylchedd o amgylch ysgol sy'n hwyluso teithio llesol, yn ogystal â gosod y disgwyliad rheoleiddiol. Mae gosod y fframwaith yn un peth, ond dod o hyd i ffyrdd i wneud gwahaniaeth ar lawr...
Jeremy Miles: Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, a diolch amdano. Rwy'n credu bod y trothwy pellter, y gwnaeth yr Aelod gyfeirio ato yn ei gwestiwn, yn bwysig. Mae'n fater allweddol, ond mae hynny'n un o nifer o ystyriaethau ym maes trafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol. Bellach, dyna yw chwarter holl wariant uniongyrchol awdurdodau lleol ar addysg, ac mae'n codi. Felly, mae'n alw sylweddol am arian cyhoeddus,...