Jayne Bryant: Trefnydd, a gawn ni ddatganiad ynghylch darpariaeth iechyd meddwl brys yng Nghymru? Tynnodd erthygl ddiweddar gan y BBC sylw at y ffaith bod yr heddlu'n gorfod ymdrin fwyfwy â galwadau gan deulu a ffrindiau sy'n ofni y gall anwyliaid fod yn hunanladdol ac nad ydyn nhw'n gwybod ble i droi. Mae fy heddlu lleol i, Heddlu Gwent, wedi gweld cynnydd o draean i nifer y galwadau 999 a 101 rhwng mis...
Jayne Bryant: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Wrth i'r cyfyngiadau lacio, mae ein meddygfeydd teulu wedi wynebu pwysau cynyddol, nid yn unig yn fy etholaeth i, ond ledled Cymru a gweddill y DU. Drwy gydol y pandemig, mae timau gofal sylfaenol wedi gwneud gwaith anhygoel, o fod yn rhan o'r ymdrech frechu ac addasu eu gwasanaethau er mwyn gallu gweld cleifion o bell. Fodd bynnag, mae'n amlwg eu bod nhw...
Jayne Bryant: 5. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau meddygon teulu yng Nghymru? OQ56840
Jayne Bryant: Gwnaf. Byddwn i'n rhybuddio bod yn rhaid iddi fod y goeden iawn yn y lle iawn, ynghyd â'r gwrychoedd—efallai 'Plant a Yew yn '22'. Beth bynnag fo'r teitl neu'r rhywogaethau brodorol, byddwn i'n annog y Gweinidog i gadw'r momentwm o ran hyn. Mae'n rhaid i ni weld y cynllun hwn yn cael ei wireddu.
Jayne Bryant: Rwy'n croesawu ymrwymiad llwyr y Gweinidog i'r achos hwn ac mae'r uchelgais a'r penderfyniad i'w gweld yn glir. Byddwn i'n annog y Gweinidog i symud mor gyflym ag y gall i gynyddu gorchudd coed yn ein trefi a'n dinasoedd. Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cael mannau gwyrdd ger eich cartrefi. Mae coed yn rhoi cysgod, yn lleihau tymheredd y stryd, yn amsugno carbon deuocsid, yn...
Jayne Bryant: Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad ar ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i'r rhai sy'n byw gyda diabetes. Yr wythnos diwethaf, roeddwn i'n falch o gadeirio cyfarfod cyntaf y grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes yn y chweched Senedd. Yn y cyfarfod hwn, fe glywsom gan Dr Rose Stewart, seicolegydd clinigol ymgynghorol mewn diabetes sy'n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi...
Jayne Bryant: Hoffwn enwebu John Griffiths.
Jayne Bryant: Hoffwn enwebu Jack Sargeant.
Jayne Bryant: Rwy'n enwebu Jenny Rathbone.
Jayne Bryant: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ers dechrau'r pandemig, bu cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n berchen ar anifeiliaid anwes yng Nghymru. Mae llawer o'r anifeiliaid hyn wedi dod o hyd i gartrefi cariadus am oes. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau fel y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid yn pryderu y gallai diwedd y pandemig yn storm berffaith pan fydd llawer o bobl yn...
Jayne Bryant: 4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella lles anifeiliaid yng Nghymru? OQ56663
Jayne Bryant: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae llygredd aer yn llofrudd cudd sy’n cyfrannu at bron i 1,400 o farwolaethau cynamserol ac yn costio miliynau i GIG Cymru bob blwyddyn. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef ar frys ac rwy'n llwyr gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Ddeddf aer glân. Fodd bynnag, mae Asthma UK a British Lung Foundation Cymru yn poeni bod cynigion cyfredol...
Jayne Bryant: 4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu deddf aer glân i Gymru? OQ56611
Jayne Bryant: Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gofalwyr ifanc yng Nghymru?
Jayne Bryant: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae comisiwn Burns wedi nodi gwelliannau cyffrous y gellir eu cyflawni i'r system drafnidiaeth yng Nghasnewydd a'r cyffiniau—system drafnidiaeth gyhoeddus y mae Casnewydd yn ei haeddu, a wnaed yn bosibl drwy fuddsoddiad blaengar a strategol gan Lywodraeth Cymru. Gyda'r uned gyflawni ar waith, mae'n rhaid cynnal y pwyslais a'r cyflymder gan sicrhau ein bod yn...
Jayne Bryant: 8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru? OQ56526
Jayne Bryant: Diolch, Lywydd. Mae'n bleser mawr gennyf ofyn heddiw i'r Senedd fabwysiadu'r cod ymddygiad diwygiedig, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021. Mae'r pumed Senedd wedi gweld cynnydd sylweddol mewn cwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd, ac yn erbyn y cefndir hwn rhan allweddol o waith y Pwyllgor Safonau Ymddygiad oedd cynhyrchu cod ymddygiad diwygiedig a chanllawiau cysylltiedig. Wrth...
Jayne Bryant: Diolch, Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol. Ystyriodd y pwyllgor yr adroddiad gan y Comisiynydd Safonau dros dro mewn perthynas â chŵyn ynghylch ymddygiad Helen Mary Jones AS. Cyfeiriwyd y mater hwn at y Comisiynydd Safonau gan yr Aelod ei hun. Rhoddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd ac mae ein...
Jayne Bryant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r pwyllgor safonau yn argymell y dylid penodi Douglas Bain yn Gomisiynydd Safonau'r Senedd o 1 Ebrill 2021 am gyfnod o chwe blynedd. Mae'r comisiynydd yn ddeiliad swydd annibynnol sydd â'r rôl o hyrwyddo, annog a diogelu safonau ymddygiad uchel ymhlith yr Aelodau o'r Senedd. Hwn fydd y trydydd penodiad i swydd comisiynydd. Enwebwyd Douglas Bain yn dilyn proses...
Jayne Bryant: Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae'r sector addysg wedi wynebu'r flwyddyn lle gwelwyd mwy o darfu arno na'r un flwyddyn arall yn ein hoes ni, a dro ar ôl tro bu'n ofynnol i athrawon ac uwch dimau arwain drawsnewid yn llwyr y modd y maent yn gweithredu: dysgu ar-lein, gwersi rhithwir, swigod grŵp blwyddyn, darpariaethau gweithwyr allweddol, graddio arholiadau, profi torfol,...