Canlyniadau 121–140 o 400 ar gyfer speaker:Mandy Jones

7. Dadl Plaid Cymru: Trais a Chamdriniaeth Rywiol (15 Ion 2020)

Mandy Jones: Diolch, Lywydd. Cynigiaf y gwelliannau yn ffurfiol yn enw Caroline Jones. Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'n codi materion pwysig sy'n mynd at graidd y math o wlad rydym ni a'r hyn rydym am fod. Roeddwn yn arswydo wrth ddarllen yr adroddiadau am yr achos yng Nghyprus a oedd yn y penawdau yr wythnos diwethaf, ac yn arswydo eto heddiw wrth weld adroddiadau am ymgais...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Amseroedd Aros mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys (15 Ion 2020)

Mandy Jones: Weinidog, mae'r bwrdd iechyd yn parhau i fod mewn mesurau arbennig, felly mae'r sefyllfa wedi datblygu o dan eich gwyliadwriaeth chi. Bob blwyddyn, rydych yn paratoi ar gyfer pwysau'r gaeaf, a phenawdau diweddaraf y BBC y bore yma oedd, ar gyfer Cymru gyfan, fod 79,150 o oriau wedi'u gwastraffu wrth i griwiau ambiwlansys aros y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae hynny'n...

3. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Strategaeth Ryngwladol (14 Ion 2020)

Mandy Jones: Gweinidog, mae llawer o bwyntiau yn y datganiad hwn yr wyf yn eu croesawu. Rwy'n credu mewn Teyrnas Unedig fyd-eang yn masnachu ac yn gweithio'n rhydd gyda'r byd i gyd. Credaf y gall hyn ddarparu'r sylfaen ar gyfer dyfodol disglair a llewyrchus i Gymru. Mae'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ddiwedd y mis. Mae ewyllys ddemocrataidd pobl y DU a Chymru yn cael ei pharchu o'r diwedd ac mae'n...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Erasmus+ (14 Ion 2020)

Mandy Jones: Prif Weinidog, mae llawer o wledydd y tu allan i'r UE, fel y gwyddoch yn iawn, yn cymryd rhan lawn yn Erasmus+, gan gynnwys Twrci. Does neb yn dadlau na fyddai myfyrwyr y DU yn mwynhau'r un cyfleoedd addysgol a diwylliannol ag y byddai myfyrwyr o Dwrci yn eu mwynhau. Nid oes angen i'r Llywodraeth rwymo ei hun drwy statud i negodi hyn o gwbl. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod hwn yn faes y...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (14 Ion 2020)

Mandy Jones: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog y defnydd o gerbydau trydan?

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Effaith y Gyllideb ar Ogledd Cymru ( 8 Ion 2020)

Mandy Jones: Weinidog, un o'r rhesymau pam y dewisais fynd i'r byd gwleidyddol oedd y canfyddiad nad yw gogledd Cymru yn cael eu cyfran deg o sylw, cyllid ac ystyriaeth o gymharu â'r de. Rydym wedi cael Gweinidog ar gyfer gogledd Cymru ers dros flwyddyn, nid yw wedi gwneud datganiad eto yn y rôl honno, ac a dweud y gwir, nid wyf fawr callach a yw'r canfyddiad hwnnw'n gywir. Weinidog, a allwch gadarnhau...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Bolisi Masnach ( 7 Ion 2020)

Mandy Jones: Diolch am eich datganiad heddiw, Gweinidog. A minnau wedi ymgyrchu'n frwd dros bolisi masnach annibynnol ar gyfer y DU fel gwlad annibynnol, credaf mewn Teyrnas Unedig fyd-eang yn masnachu'n rhydd gyda'r byd i gyd. Credaf y gall hyn ddarparu'r sylfaen ar gyfer dyfodol disglair a llewyrchus i Gymru. Cytunaf â chi pan ddywedwch fod yr etholiad cyffredinol wedi datgan yn glir y bydd Brexit yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) ( 7 Ion 2020)

Mandy Jones: Prif Weinidog, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, trafodwyd y mater hwn gennym yn drylwyr yn y pwyllgor ddoe pan wnaethoch chi haeru, drwy argymell i'r Cynulliad na roddir ei gydsyniad deddfwriaethol, nad ydych chi'n disgwyl argyfwng cyfansoddiadol. Os bydd y Cynulliad yn gwrthod ei gydsyniad, fel y dymunwch, beth fydd y canlyniadau yn eich barn chi?

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Fflatiau Cyfadeilad Celestia (11 Rha 2019)

Mandy Jones: Lywydd, mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant, gan fy mod yn byw yn y cyfadeilad hwn fy hun, a gwn fod sawl Aelod Cynulliad yn byw yno, a'u staff. Yr hyn sy'n fy synnu i yw'r diffyg gwybodaeth llwyr am hyn. Ni chafwyd unrhyw ohebiaeth drwy'r blwch llythyrau yn y fflatiau nac unrhyw beth felly, ni chafwyd unrhyw hysbysiad ynghylch cyfarfodydd, ni chafwyd unrhyw newyddion ar wahân i'r hyn a glywaf...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Sector Bwyd-amaeth (11 Rha 2019)

Mandy Jones: Diolch. Weinidog, mae pob un ohonom yn poeni am les anifeiliaid, ac rwyf wedi lleisio fy mhryderon am allforio anifeiliaid byw yn y Siambr hon o'r blaen. Rwy'n falch o weld bellach y bydd Llywodraeth y DU yn gwahardd allforio anifeiliaid byw pan fyddwn yn gadael yr UE o'r diwedd. A fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud yr un peth?

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Sector Bwyd-amaeth (11 Rha 2019)

Mandy Jones: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y sector bwyd-amaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ54821

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Staff GIG Cymru (10 Rha 2019)

Mandy Jones: Prif Weinidog, rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r pwysau sydd ar staff y GIG, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae'n Nadolig eto ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dal i fod yn destun mesurau arbennig. A fydd bwrdd iechyd gogledd Cymru yn dal i fod o dan reolaeth a goruchwyliaeth eich Llywodraeth chi y Nadolig nesaf?

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Cyllid Grant ( 4 Rha 2019)

Mandy Jones: Diolch am eich ateb, Ken—ar ran Conwy. Mae hynny'n hollol wych. Rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr. Weinidog, microfusnesau a busnesau bach yw asgwrn cefn ein heconomi. Rwy’n falch fod fy mhlaid yn cydnabod hyn ac wedi ymrwymo i sicrhau mwy o chwarae teg. Rydym yn addo adolygu'r drefn ardrethi busnes a rhoi'r hwb sydd ei angen ar fusnesau lleol a'n stryd fawr. Beth yw eich cynlluniau i...

8. Dadl Blaid Brexit: Cofrestr Lobïwyr (27 Tach 2019)

Mandy Jones: Byddaf yn cadw fy nghyfraniad yn fyr gan fy mod yn credu bod fy nghyd-Aelod, Caroline Jones, wedi ymdrin â llawer iawn wrth agor y ddadl hon. Rwy'n codi heddiw i ddangos fy nghefnogaeth i gyflwyno cofrestr yng Nghymru. Gyda'r pwerau ychwanegol, mae'r lle hwn ar fin eu cael ar ôl Brexit, does bosibl nad yw'n bryd cyflwyno diwygiadau lobïo i sicrhau bod ein democratiaeth mor agored a...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Bwlio mewn Ysgolion (27 Tach 2019)

Mandy Jones: Credaf fod pob un ohonom wedi cael e-bost gan nain bryderus iawn yn Wrecsam, sy'n dweud wrthym ei bod yn teimlo nad yw ysgol ei hwyres yn dilyn y weithdrefn ar fwlio, ac mewn gwirionedd, mae'n ymddangos iddi hi fod yr ysgol yn rhwystro unrhyw gamau i fynd i'r afael â'r broblem, ni waeth beth fo'r canllawiau, heddiw neu yn y gorffennol. A allwch anfon unrhyw neges ychwanegol sy'n gadarn ac yn...

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad: Strategaeth Gyfathrebu (20 Tach 2019)

Mandy Jones: Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Rydym bellach mewn cyfnod etholiad ac unwaith eto, mae'n amlwg ar garreg y drws fod pleidleiswyr yng Nghymru wedi drysu ynglŷn â'r hyn sydd wedi'i ddatganoli a'r hyn nad yw wedi'i ddatganoli. Mae hyn ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli. Beth sy'n mynd o'i le a beth y mae'r Comisiwn yn bwriadu ei wneud ynglŷn â hyn?

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (20 Tach 2019)

Mandy Jones: Diolch am hynny. Weinidog, mae dogfen ganllawiau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gaffael cyhoeddus a'r Undeb Ewropeaidd yn ddiddorol iawn. Mae'n nodi bod yr UE yn gosod y deddfau ar gyfer dyfarnu contractau caffael cyhoeddus. Mae'r deddfau wedi'u cynllunio i agor marchnad yr UE i gystadleuaeth, i hybu rhyddid i symud nwyddau a gwasanaethau ac i atal polisïau rhwng dwy wlad. A yw...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (20 Tach 2019)

Mandy Jones: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am rôl y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol? OAQ54711

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad: Strategaeth Gyfathrebu (20 Tach 2019)

Mandy Jones: 3. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd strategaeth gyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru? OAQ54713

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (19 Tach 2019)

Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu economi Gogledd Cymru?


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.