Canlyniadau 121–140 o 5000 ar gyfer speaker:Bethan Sayed OR speaker:Bethan Sayed OR speaker:Bethan Sayed OR speaker:Bethan Sayed OR speaker:Bethan Sayed OR speaker:Bethan Sayed

9. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Cefnogi a Hybu'r Gymraeg ( 2 Hyd 2019)

Bethan Sayed: Diolch i'r Aelodau Cynulliad hynny oedd wedi cyfrannu yma heddiw, a da iawn eto i Caroline Jones am ymarfer ei Chymraeg yma heddiw hefyd; mae'n bwysig ein bod ni'n ceisio gwneud hynny pan fyddwn ni'n gallu.  Mae gen i amser, efallai, jest i esbonio rhai o'r pethau oedd gan rai Aelodau gonsérn ynglŷn â nhw. Hoffwn i ddechrau, felly, gyda'r cysyniad yma roedd Suzy wedi ei ddweud o ran...

9. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Cefnogi a Hybu'r Gymraeg ( 2 Hyd 2019)

Bethan Sayed: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, mae'n bwysig inni yma yng Nghymru fod gennym y gallu i ddefnyddio ein dewis iaith wrth ymgysylltu bob dydd â gwasanaethau cyhoeddus. Nid yn unig yw hon yn hawl sylfaenol, mae'n hanfodol o ran meithrin ein hymdeimlad o hunaniaeth a chymuned. Roedd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, felly, yn garreg filltir bwysig yn hanes ein hiaith. Cyhoeddodd y Mesur, am y tro...

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Seilwaith Diwydiannol Hanesyddol ( 2 Hyd 2019)

Bethan Sayed: Roedd yn ymwneud â'r pwynt roeddech yn ei orffen ynglŷn â'r gost. Felly, rwy'n meddwl tybed a ydych wedi llwyddo i gael unrhyw sgyrsiau am y twneli gyda Llywodraeth y DU. Wrth gwrs, rwy'n sylweddoli na fyddai rhoi costau yswiriant yn unig yn ddigon, ac y byddai angen—. Mae'n rhwymedigaeth enfawr. Felly, a allwch dweud wrthym a ydych yn cael y sgyrsiau hynny?

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 1 Hyd 2019)

Bethan Sayed: Diolch yn fawr iawn, ac ymddiheuriadau.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 1 Hyd 2019)

Bethan Sayed: Roeddwn i'n disgwyl i Leanne gael ei galw cyn fi, mae'n ddrwg gen i. A gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf am weithdrefnau cwyno, a'r hyn y gall pobl ei wneud i gael atebion a gwell adborth a chanlyniadau pan fydd anghydfod ag adrannau gwasanaethau cymdeithasol? Rwyf wedi cael nifer o achosion gan bobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd wedi bod ag anghydfodau ag adrannau gwasanaethau cymdeithasol,...

3. Cwestiynau Amserol: Thomas Cook (25 Med 2019)

Bethan Sayed: Diolch yn fawr iawn am y datganiad ysgrifenedig hwnnw. Gan ddechrau ar bwynt cadarnhaol, hoffwn ofyn i chi ymuno â mi i ganmol Elaine Kerslake o'r Gilfach Goch, a aeth ati i godi arian ar daith awyr yn ôl adref gyda Thomas Cook pan sylweddolodd nad oedd y staff yn cael eu talu. Felly, a fyddech yn awyddus i'w chanmol am wneud hynny? Ond hefyd, a wnewch chi ymuno â mi, felly, i ofyn i...

3. Cwestiynau Amserol: Thomas Cook (25 Med 2019)

Bethan Sayed: 1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y ffaith bod Thomas Cook yn cau? 341

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (24 Med 2019)

Bethan Sayed: Yr wythnos diwethaf, rhoddodd Llywodraeth Plaid Genedlaethol yr Alban sêl ei bendith i'r cyffur ffibrosis systig Orkambi, rhywbeth yr wyf fi ac eraill yn y Siambr hon, rwy'n siŵr, yn ei groesawu. Ond hefyd yr wythnos diwethaf, trydarodd Corbyn, ac rwy'n dyfynnu: 'Nid oes gan bobl â ffibrosis systig yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fynediad o hyd at y cyffur sy'n newid bywyd...

10. Dadl Plaid Cymru: Cyfiawnder Hinsawdd (18 Med 2019)

Bethan Sayed: Nid wyf yn ceisio ystumio'r sefyllfa. Fe wnaethoch chi gefnogi hynny ac rwy'n dweud bod hynny'n hollol iawn, ond peidiwch â diystyru achos arall am y bernir mai streic ydyw a rhywbeth nad ydych chi'n meddwl ei fod yn addas yn wleidyddol i bobl ifanc ei wneud. Rwy'n brin o amser, felly yr unig beth yr hoffwn ei ddweud yw: gwrandewch ar y bobl ifanc pan fyddant yn dod â'r materion hynny atom....

10. Dadl Plaid Cymru: Cyfiawnder Hinsawdd (18 Med 2019)

Bethan Sayed: Mae'r mudiad dros fwy o ymwybyddiaeth amgylcheddol yn un hir ac mae wedi bod yn adeiladu momentwm ers y 1960au a'r 1970au ar draws y byd, ac mae'r mudiad presennol y gellir dadlau ei fod yn llawer mwy wedi digwydd ar ôl blynyddoedd o godi ymwybyddiaeth a lleisio pryderon. Felly, rydym wedi cyflwyno'r cynnig hwn am fod pobl iau yn iawn i boeni am yr amgylchedd y maent yn mynd i'w etifeddu....

10. Dadl Plaid Cymru: Cyfiawnder Hinsawdd (18 Med 2019)

Bethan Sayed: Gan eich bod wedi fy ngwahodd, a ydych chi wedi siarad â rhai o'r bobl ifanc ynglŷn â pham y maent allan ar streic, yn hytrach na dim ond eu beirniadu am eu bod 'allan ar streic', sy'n gwyro oddi wrth y broblem go iawn yn fy marn i? Maent yn ymgyrchu am fater y maent yn poeni'n fawr yn ei gylch. A ydych chi wedi gofyn iddynt pam y maent yn ei wneud?

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (17 Med 2019)

Bethan Sayed: Mae'r ail gais am ddatganiad—ac rwy'n falch bod y Gweinidog iechyd yma i'm clywed gan fy mod yn mynd yn fwyfwy rhwystredig—yn ymwneud â'r ffaith nad ydym yn cael unrhyw gynnydd o gwbl ar y cyhoeddiad o ran yr hyn sy'n digwydd gyda'r fframwaith anhwylderau bwyta. Rwyf wedi bod yn eithaf goddefgar, rwy'n credu, wrth geisio aros am ganlyniad y fframwaith, ond rwyf wedi dod i'r pwynt yn awr...

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (17 Med 2019)

Bethan Sayed: Hoffwn i ofyn am ddiweddariad ynglŷn â'r hyn sydd wedi digwydd ynglŷn â thrafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni Ineos ynglŷn â'r potensial ar gyfer creu 500 o swyddi pan fydd Ford—. Wel, mae Ford wedi dweud y byddan nhw'n gadael safle Pen-y-bont. Os ydy hynny am ddigwydd, dŷn ni ar ddeall o'r Financial Times fod gan Jim Ratcliffe ddiddordeb yn y safle hwnnw. Mae'n rhaid imi...

1. Dadl: Brexit ac Addoedi Senedd y DU ( 5 Med 2019)

Bethan Sayed: Dyfyniadau bachog, sbin, celwyddau, dadleuon di-drefn, protestiadau, sloganau ar fysiau, addewidion wedi'u torri, ASau sy'n hanner gorwedd, ci cwtsh i dynnu sylw. Beth bynnag y bo, mae'n debyg o fod wedi digwydd yn ystod drama Brexit. Byddai'n sicr o roi dau dro am un i The Thick of It, beth bynnag. Ond mae sbin arwynebol a chwarae gemau'n un peth ym myd dirmygus y Senedd yn San Steffan sy'n...

1. Dadl: Brexit ac Addoedi Senedd y DU ( 5 Med 2019)

Bethan Sayed: Roeddwn i eisiau holi am y peth hwn rydych chi'n ei ddweud yn gyson, fod yna negodiadau'n digwydd. Defnyddiodd Philippe Lamberts, ASE o Wlad Belg, air rheg a dywedodd nad oedd unrhyw negodiadau'n digwydd ar hyn o bryd—nad oes negodi oherwydd nad oes cyfaddawd ar y 'backstop'. Nid oes unrhyw negodiadau. A wnewch chi roi'r gorau i ddweud celwydd yn y Senedd hon fod yna rai ar y gweill?

QNR: Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol (17 Gor 2019)

Bethan Sayed: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru?

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (16 Gor 2019)

Bethan Sayed: Roeddwn am ofyn a ydych wedi cael unrhyw sgyrsiau gyda chyngor Castell-nedd Port Talbot ynglŷn â'r penderfyniad i gau Ysgol Gynradd Godre'r Graig ar ôl i adroddiad Partneriaeth Gwyddor y Ddaear nodi y byddai risg lefel ganolig o dirlithriad. Gwn fod pobl leol yno wedi dychryn o bosibl, ac er bod yr adroddiad yn dweud nad yw'r mynydd wedi symud, mae'r ysgol wedi cau, ac maen nhw'n teimlo...

10. Dadl Fer: Gofalu am ein gofalwyr: Sicrhau'r gydnabyddiaeth, y seibiant a'r cymorth y mae ein gofalwyr yn eu haeddu (10 Gor 2019)

Bethan Sayed: Roeddwn am ofyn a oeddech yn gwybod bod y ffigurau a ddyfynnwch yn gywir, oherwydd gwyddom fod y ffigur hwn wedi'i ddyfynnu ers cryn amser, ac nid yw llawer o ofalwyr di-dâl yn diffinio'u hunain fel hynny mewn gwirionedd. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a oedd unrhyw waith roeddech chi'n ei wneud fel Llywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynny. Mae llawer ohonom yn y...

8. Dadl Blaid Cymru: Diwygio'r Cynulliad (10 Gor 2019)

Bethan Sayed: Nid dyna'r pwynt.

8. Dadl Blaid Cymru: Diwygio'r Cynulliad (10 Gor 2019)

Bethan Sayed: A wnewch chi dderbyn ymyriad?


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.