Jenny Rathbone: Diolch i chi. Roeddwn i'n dymuno gwneud dau bwynt yr hoffwn i chi eu hystyried wrth fwrw ymlaen o ran sut rydych chi am weithredu'r argymhellion hyn. Nid llais y plentyn yn unig y mae angen ei glywed; mae angen clywed llais y gweithiwr cymdeithasol rheng flaen, a rhoi mwy o allu i'r gweithiwr cymdeithasol rheng flaen, mae angen i hynny ddigwydd hefyd, i sicrhau eu bod nhw'n teimlo yn ddigon...
Jenny Rathbone: Gan ddilyn ymlaen o'r hyn a ddywedodd Heledd Fychan, darllenais gyda diddordeb y datganiad a gafodd ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog ddoe am gyflawniadau ei ymweliad o ran hyrwyddo buddiannau Cymru a gwerthoedd Cymru. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y camau y gwnaeth y Dirprwy Weinidog Diwylliant a Chwaraeon eu cymryd drwy beidio â mynd i'r gêm yr wythnos ddiwethaf rhwng Cymru ac Iran o...
Jenny Rathbone: Rwy'n cydnabod y gwaith rhagorol sydd wedi'i wneud drwy'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, sydd yn sicr wedi gwella llawer o'n tai cymdeithasol. Rwy'n edrych ymlaen at glywed manylion cynllun sgiliau sero net y flwyddyn nesaf, oherwydd mae hynny'n mynd i fod yn hanfodol wrth alluogi'r diwydiant adeiladu i gynllunio ar gyfer cael y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i ddatgarboneiddio ein...
Jenny Rathbone: 5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r diwydiant adeiladu ar ddatgarboneiddio holl gartrefi Cymru? OQ58799
Jenny Rathbone: Yn gyntaf oll, hoffwn dalu teyrnged i Teithio Ymlaen, sy’n sefydliad rhagorol iawn, ac sy’n cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Mae'n dda iawn am helpu'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr i fynnu eu hawliau, ond ni allant wneud hynny ar eu pen eu hunain, a dyna pam fy mod yn falch iawn fod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi edrych ar hyn, gan ein bod yn mynd i orfod parhau i...
Jenny Rathbone: Diolch i bob Aelod am eu cyfraniadau ac yn enwedig Gareth Davies am fod yn ddigon dewr i godi llais, oherwydd eich dewrder a'ch parodrwydd chi i rannu eich stori sy'n rhoi gobaith i bobl eraill sy'n mynd drwy brofiadau tebyg y gallant hwythau wella ac ailddechrau byw bywyd normal. Mae'r ffordd y gwnaethoch chi ddisgrifio sut rydych chi'n dysgu o bob digwyddiad ac anhawster er mwyn cryfhau...
Jenny Rathbone: Gwnaf, wrth gwrs.
Jenny Rathbone: Rwy'n cytuno'n llwyr. Wyddoch chi, mae pobl yn ffraeo hefyd, felly o bryd i'w gilydd ni fydd pobl eisiau mynd yn ôl i hyb cymunedol X, oherwydd bod angen iddynt symud i rywle arall. Mae pethau bendigedig yn cael eu gwneud gan y sector gwirfoddol, boed yn Rubicon Dance yn fy nghymuned, rhywbeth o'r enw Rhythms Free Dance yng Ngogledd Caerdydd, sy'n darparu ar gyfer pobl ag anawsterau...
Jenny Rathbone: Rydym wedi siarad llawer am yr epidemig o drallod meddwl yn ein hysgolion a'n colegau o ganlyniad i COVID ac yn amlwg bydd pobl sy'n byw mewn tai gorlawn, annigonol wedi dioddef yn fawr yn ystod y cyfyngiadau symud, ond nid tai gwael yw'r unig broblem. Byddai unrhyw blentyn sy'n byw mewn cartref camweithredol, lle mae trais yn y cartref yn cuddio o dan y radar, wedi dioddef o beidio â gallu...
Jenny Rathbone: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydym yn byw mewn cyfnod anodd iawn. Rydym wedi gweld y lleihad mwyaf yng nghefnogaeth gwasanaethau cyhoeddus ers blynyddoedd lawer, ac mae gennym y gyfradd chwyddiant uchaf ers 41 mlynedd, gyda phrisiau defnyddwyr yn cynyddu dros 10 y cant. Mae prisiau bwyd wedi cynyddu dros 16 y cant yn ystod y 12 mis diwethaf, sef y naid fwyaf ers Medi 1977, pan oedd Jim Callaghan...
Jenny Rathbone: Hoffwn ofyn pa gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr mewn addysg bellach a cholegau eraill sydd ar y cyfan yn gwasanaethu'r myfyrwyr tlotaf, oherwydd ehangder eu cwricwlwm. Ni roddodd Llywodraeth y DU unrhyw arian i golegau yn y datganiad ariannol yr wythnos diwethaf, er eu bod wedi rhoi ychydig o arian i ysgolion. Beth y gall colegau yng Nghanol De Cymru ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru?
Jenny Rathbone: Ac—
Jenny Rathbone: Diolch. Mae dros 15 mlynedd ers i adroddiad Corston argymell na ddylai'r rhan fwyaf o fenywod fod yn mynd i'r carchar, a bod angen dedfrydau cymunedol i'r bobl yma. Felly, mae angen i ni fod yn ymchwilio i hyn ar frys. Yn amlwg, byddai'n well gen i pe bai gennym ni system gyfiawnder troseddol ddatganoledig. Fel y mae adroddiad 'Justice at the Jagged Edge in Wales' yn ei gwneud yn glir, dyma'r...
Jenny Rathbone: Yn amlwg, roedd tân Grenfell yn dangos methiant rheoliadau adeiladau a methiant gorfodaeth, ac mae'n rhaid i bob corff cyhoeddus a chontractwr preifat ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am hynny. Mae'n gywilyddus fod gwahanol gontractwyr yn dal i gecru dros bwy sy'n gyfrifol ac yn y cyfamser, fod lesddeiliaid yn cael eu gadael mewn sefyllfa gwbl amhosibl. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn...
Jenny Rathbone: —ac rwy'n credu mai dyma'r model y gallem ei ddefnyddio ar gyfer pob math o hawliau y mae pobl yn eu cael.
Jenny Rathbone: 'Y realiti dychrynllyd y gaeaf hwn, yw ein bod yn debygol o weld elusennau'n cael eu gorfodi i roi'r gorau i fwydo'r llwglyd fel y gallant helpu'r newynog, i dorri'n ôl ar gymorth i'r rhai mewn tai gwael fel y gallant ganolbwyntio ar y niferoedd cynyddol o bobl ddigartref, a rhoi'r gorau i helpu'r llai ffodus am fod rhaid iddynt flaenoriaethu'r anghenus.' Nid fy ngeiriau i yw'r rhain, ond...
Jenny Rathbone: Felly, ceisiais chwilio am ofal i blant dwy flwydd oed o'r lle yr oeddwn i'n arfer byw yn Llanedern. Doedd dim byd yn ymddangos o fewn milltir. Yna, chwiliais am gymorth gofal plant ar gyfer cod post yn Llanedern sydd yn ardal Dechrau'n Deg, ac unwaith eto cefais fy synnu na wnaeth unrhyw beth ymddangos o fewn milltir. Dydy hynny ddim yn gywir. Ac, os nad yw'n gywir, yna mae'n anodd iawn i...
Jenny Rathbone: Rwy'n gwneud pwynt pwysig.
Jenny Rathbone: Diolch yn fawr am eich adroddiad chi. Rwy'n credu mai un o'r pethau pwysig y gwnaethoch chi dynnu sylw ato yw bod bron i un o bob 10 rhiant sy'n manteisio ar y cynnig gofal plant wedi dweud na fydden nhw'n gallu gweithio oni bai am y cynnig. Ac mae hynny'n hollol iawn, oherwydd mae gofal plant yn llawer rhy ddrud o'i gymharu â'r cyflogau y mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu hennill. Gwaith sy'n...
Jenny Rathbone: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ehangu cynhyrchiant garddwriaeth yng Nghymru?