Canlyniadau 121–140 o 3000 ar gyfer speaker:Hannah Blythyn OR speaker:Hannah Blythyn OR speaker:Hannah Blythyn OR speaker:Hannah Blythyn

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Hyrwyddo Ffyniant ( 9 Chw 2022)

Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, er fy mod yn petruso cyn dweud efallai fod angen iddo fynd allan mwy os mai ei hoff ddeunydd darllen amser gwely yw'r cytundeb cydweithio? [Chwerthin.] Ond na, rwy'n derbyn bod iaith yn bwysig yn yr hyn a wnawn a sut rydym yn fframio pethau ac yn cysylltu pethau gyda'i gilydd, oherwydd fel y dywedais yn y datganiad agoriadol, yn ogystal â'r...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Hyrwyddo Ffyniant ( 9 Chw 2022)

Hannah Blythyn: Rydym yn gweithio ar draws y portffolios ac ar draws y Llywodraeth i gynyddu mynediad at waith teg. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo manteision y cyflog byw go iawn i gyflogwyr, i weithwyr ac i'n cymunedau. Mae gwell bargen i weithwyr, wedi'i hadeiladu ar bartneriaeth gymdeithasol a gwaith teg, yn hanfodol i ffyniant ehangach ledled Cymru gan gynnwys yng ngogledd Cymru. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diogelwch Menywod ( 9 Chw 2022)

Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Rwy'n gyfarwydd â'r ymgyrch 'get me home safely' y mae'n cyfeirio ati gan Unite, oherwydd roeddwn yn yr un sesiwn pan glywsom gan bobl sy'n gweithio yn y sector hwnnw yn awr a'u straeon real iawn—yn enwedig menywod hefyd, unwaith eto, o dan yr amgylchiadau hyn, sydd wedi cael eu gadael i weithio'n hirach ar eu shifft pan nad oeddent wedi...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diogelwch Menywod ( 9 Chw 2022)

Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'r sylw arwyddocaol hwnnw ar y diwedd. Rwy'n credu bod thema i'w gweld heddiw ynghylch sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel mewn mannau ledled y wlad, boed yn sbeicio neu'n fenywod sy'n ofni am eu diogelwch oherwydd ymddygiad rhai dynion yn y lleoliadau hyn. Gwn ein bod yn dweud nad yw pob dyn yn ymddwyn felly, ond gallwn warantu bod y rhan fwyaf o fenywod...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diogelwch Menywod ( 9 Chw 2022)

Hannah Blythyn: Mae Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â chynrychiolwyr o'r diwydiant clybiau nos a'r heddlu ynghylch diogelwch menywod wrth gymdeithasu ac wrth weithio yn y lleoliadau hyn. Gan adeiladu ar ein gwaith yn y maes hwn, rydym bellach wedi ymrwymo i ehangu'r ymgyrch hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth 'Paid cadw'n dawel' i gynnwys y gweithlu hwn hefyd.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Gweithredu LHDTC+ ( 9 Chw 2022)

Hannah Blythyn: Diolch i Andrew R.T. Davies am ei gyfraniad. Rwy'n gyfarwydd ag adroddiad Estyn a'r adroddiadau sydd wedi bod ar y BBC heddiw. Mae'n hynod o drist fod pobl ifanc yn unrhyw le yn dal i wynebu ofn, boed yn ofn ymosodiadau corfforol neu sylwadau sy'n gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus ac na allwch fod yn chi eich hun. Gwn ein bod yn gweithio'n agos iawn ar draws y Llywodraeth gyda fy...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Gweithredu LHDTC+ ( 9 Chw 2022)

Hannah Blythyn: Diolch. Mae fy meddyliau i a meddyliau Llywodraeth Cymru gyda'r teulu, ffrindiau, cydweithwyr a phawb a oedd yn adnabod Dr Gary Jenkins. Fel pawb yma, cefais fy nhristau gan lofruddiaeth homoffobig erchyll Dr Jenkins. Mynychais yr wylnos yng Nghaerdydd ar risiau'r amgueddfa genedlaethol nos Sul gyda channoedd o bobl, lle y cawsom ein cyffwrdd gan bobl yn talu teyrnged i enaid caredig, a oedd...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Gweithredu LHDTC+ ( 9 Chw 2022)

Hannah Blythyn: Rydym yn parhau'n gadarn yn ein hymrwymiad i wneud Cymru'r genedl fwyaf cyfeillgar LHDTC+ yn Ewrop. Mae ein cynllun gweithredu LHTDC+ yn rhan allweddol o'n rhaglen lywodraethu a'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Daeth yr ymgynghoriad ar y cynllun gweithredu i ben ym mis Hydref ac mae dadansoddiad ar y gweill, a fydd yn cael ei ddefnyddio i'w ddatblygu a'i gryfhau ymhellach.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 9 Chw 2022)

Hannah Blythyn: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn olaf. Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod a’r Aelodau yma ein bod, fel Llywodraeth gyfrifol, yn gweithio ar sail drawslywodraethol. Nid ydym yn gweithredu mewn seilos ac rydym yn cydnabod ein bod yn gweithio ar y cyd, boed hynny gyda’r Gweinidog addysg, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, gyda fy nghyd-Aelodau ym maes iechyd, ac ar draws Llywodraeth Cymru yn...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 9 Chw 2022)

Hannah Blythyn: Lywydd, fel nifer o bobl yma, credaf imi golli golwg ar y cwestiwn yng nghyfraniad yr Aelod. A hoffwn wneud y pwynt mai cyfrifoldeb y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yw hyn, felly ysgrifennwch ati hi ynghylch y materion hyn. Ond gallaf ddweud wrth yr Aelod ar y pwynt hwn ein bod mewn trafodaethau gyda swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ynghylch ystod o opsiynau i liniaru'r pwysau...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 9 Chw 2022)

Hannah Blythyn: Roeddwn yn meddwl bod yr Aelod yn gofyn cwestiwn go gynhwysfawr a meddylgar, ac yna disgynnodd i’r lefel isel honno unwaith eto drwy roi cic hawdd i'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus. Mae'n cyfeirio at ateb i bob problem. Mae’n ddeddfwriaeth arwyddocaol, ac yn bendant, nid yw’n cael ei ohirio; disgwylir iddi ddod gerbron y Senedd hon ym mlwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon.

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Mis Hanes LHDTC+ ( 1 Chw 2022)

Hannah Blythyn: A gaf i ddiolch i Joyce Watson, nid yn unig am ei chyfraniad heddiw, ond ei chyfraniad a'i hanes hir o fod yn gynghreiriad cadarn i'r gymuned LHDTC+ yng Nghymru a thu hwnt? Na, ni allwn ei wneud hyn ar ein pen ein hunain, mae arnom angen y cynghreiriaid hynny hefyd, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr bopeth y mae Joyce wedi'i wneud yn y lle hwn a thu hwnt hefyd. Ychydig iawn y gallwn anghytuno ag...

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Mis Hanes LHDTC+ ( 1 Chw 2022)

Hannah Blythyn: Diolch. A gaf i ddiolch i Sioned Williams am y cyfraniad angerddol ac emosiynol? Rwy'n croesawu'n fawr eich cefnogaeth a'r ffordd y gallwn ni gydweithio ar achos cyffredin a thir cyffredin o ran hyn. Fe wnaethoch chi godi o'r datganiad a siarad dipyn yn eich cyfraniad am y newid deddfwriaethol a pholisi, ond sonioch chi am bŵer celf hefyd. Dros y blynyddoedd, rydym wedi gweld newid...

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Mis Hanes LHDTC+ ( 1 Chw 2022)

Hannah Blythyn: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniadau? Mae'n dda eich gweld yn ôl ac yn edrych mor dda ac rwy'n credu bod hwnna'n ymateb ystyriol a meddylgar iawn i bwnc pwysig iawn, ac mae'n iawn ein bod ni fel Aelodau yn dod at ein gilydd yr adeg hon o'r flwyddyn i ddathlu amrywiaeth gyfoethog ein cenedl ac fel y dywedwch chi, pa mor bell yr ydym wedi dod. Ond rydych yn llygad eich lle: ni allwn...

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Mis Hanes LHDTC+ ( 1 Chw 2022)

Hannah Blythyn: Diolch, Dirprwy Lywydd. Bob mis Chwefror, rydym yn nodi Mis Hanes LHDTC+. Mae'n gyfle i ddathlu a choffáu'r cyfraniad y mae pobl LHDTC+ wedi'i wneud i'n cymunedau a'n gwlad, i roi sylw i hanes, bywydau a phrofiadau cyfoethog pobl LHDTC+ a'u cydnabod yn briodol, i fyfyrio ar ba mor bell yr ydym wedi dod ac i gynyddu ein hymdrechion tuag at fwy o gydraddoldeb. Gallwn fod yn falch o'r cynnydd...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cenedl Cyflog Byw Gwirioneddol (12 Ion 2022)

Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn, ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o weld bod y codiad hwnnw i'r cyflog byw go iawn yn dechrau effeithio ar becynnau cyflog gweithwyr gofal cymdeithasol yn ddiweddarach eleni. Fel y nododd yr Aelod, mae hyn yn arwyddocaol, ond cam cyntaf ydyw tuag at wella telerau ac amodau'r sector. Rydym yn sicr yn cydnabod fel Llywodraeth, er bod y...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cenedl Cyflog Byw Gwirioneddol (12 Ion 2022)

Hannah Blythyn: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i arwain drwy esiampl fel cyflogwr cyflog byw go iawn a gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i gynyddu'r nifer sy'n mabwysiadu cyflogau byw go iawn. Rydym wedi cyhoeddi ein hymrwymiad ariannu i'r cyflog byw go iawn mewn gofal cymdeithasol ac rydym yn gweithio'n ehangach i gymell cyflogwyr tuag at y cyflog byw go iawn.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Deddfwriaeth Gwrth-gaethwasiaeth (12 Ion 2022)

Hannah Blythyn: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch eto i’r Aelod am ei gwaith yn y maes hwn—gwaith grŵp trawsbleidiol y Senedd ar fasnachu pobl? Gwn fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod â’r grŵp yn ddiweddar i weld sut y gallwn gydweithio unwaith eto ar draws y Senedd, ac ar draws y Llywodraeth, a chyda phartneriaid ledled Cymru. Ac mae'r Aelod, Joyce Watson, yn iawn i gyfeirio at waith y...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Deddfwriaeth Gwrth-gaethwasiaeth (12 Ion 2022)

Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a’i ddiddordeb yn y mater hwn? Rwy’n siŵr y gall Aelodau ar draws y Senedd gytuno y dylid cael consensws a gwaith trawsbleidiol ar hyn o ystyried natur y pwnc dan sylw a’r heriau sy’n ein hwynebu. Ac er bod caethwasiaeth fodern yn fater a gedwir yn ôl o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, wrth i’r Ddeddf hon ddod i rym, rydym wedi...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Deddfwriaeth Gwrth-gaethwasiaeth (12 Ion 2022)

Hannah Blythyn: Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 wedi gwella’r ffocws ar nodi a mynd i’r afael â pheryglon caethwasiaeth fodern, rhoi cymorth i oroeswyr a dod â chyflawnwyr o flaen eu gwell. Rydym yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref a phartneriaid yng Nghymru i adolygu’r strategaeth caethwasiaeth fodern a deall effaith y Ddeddf yn well.


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.