Lynne Neagle: Diolch, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i Jack Sargeant a’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno’r ddeiseb bwysig hon ar lawr y Senedd heddiw. Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Yn anad dim, serch hynny, hoffwn ddiolch i Rhian Mannings, prif weithredwr a sylfaenydd 2 Wish, am gyflwyno'r ddeiseb hon, ac am weithio mor galed, dros fisoedd lawer, sydd wedi...
Lynne Neagle: A task and finish group has been established to develop an all-Wales framework to support social prescribing. A draft model and national framework have been developed and will be considered further as part of a series of engagement events with stakeholders held over the coming months. This will allow officials to refine the model and framework, ahead of full consultation.
Lynne Neagle: Diolch, Laura, am y pwyntiau yna, a diolch i chi am eich geiriau caredig, ac rwy'n awyddus iawn i weithio yn drawsbleidiol i gyflawni'r agenda hon, ac rwy'n sicr yn adleisio eich pwyntiau cadarn chi ynglŷn â'r cyfraniad a wnaeth didwylledd pob un. Rwy'n credu y dylem ni fod â chydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol, a dyna'r hyn yr wyf i wedi galw amdano ers amser maith yn y...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr iawn, Huw, ac a gaf i ddiolch i chi a Sarah am y bwrdd crwn y gwnaethoch chi ei drefnu? Rwyf i o'r farn fod pethau fel hyn yn gyfle arbennig o werthfawr i wrando ar brofiad bywyd felly ar lefel leol, ac rwy'n eich canmol chi'n fawr am wneud fel hyn. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod yr hyn a ddywedwn ni yn y Siambr hon yn cael ei wireddu. Rwy'n gobeithio fy mod i wedi rhoi...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr i chi am y cwestiwn yna, ac mae hi'n ddrwg iawn gennyf i glywed bod eich etholwr chi wedi cael profiad o'r fath. Yn amlwg, dyma rywbeth na ddylai fod wedi digwydd, a phe byddech chi'n ysgrifennu ataf i gyda manylion yr etholwr, fe fyddaf i'n sicr o geisio mynd ar drywydd hynny gyda'r bwrdd iechyd. Ond, rwy'n hapus iawn hefyd i edrych ar y mater ehangach y gwnaethoch chi ei godi...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain, am y cwestiynau yna. Rydych chi yn llygad eich lle: mae profiad bywyd unigolion yn gwbl hanfodol, ac os ydym ni am gael polisïau effeithiol, mae'n rhaid i ni eu llunio nhw ar y cyd â phobl sydd â phrofiad bywyd. Mae gennym fewnbwn eisoes gan bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn gyffredinol, mewn gwirionedd, yn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud. Mae'r...
Lynne Neagle: Diolch, Ken. A diolch hefyd am y gwaith yr ydych chi'n ei wneud wrth gadeirio'r grŵp trawsbleidiol, yr wyf i'n ei werthfawrogi yn fawr iawn hefyd. Fel y gwnaethoch chi dynnu sylw ato, mae'r ffaith bod y gwaith o ran iechyd meddwl yn digwydd ar draws y Llywodraeth yn gwbl hanfodol, ac mae llawer iawn o waith yn digwydd ar draws y Llywodraeth yn y maes hwn. Rwy'n gweithio yn agos gyda'r...
Lynne Neagle: Diolch am y cwestiynau yna, Rhun. Rwy'n llwyr gytuno ein bod ni mewn sefyllfa yn y Siambr hon lle y gallwn ni weithredu ac nid dim ond siarad am bethau, a dyna'n union yr wyf i'n awyddus i'w wneud. A gaf i gywiro camgymeriad a wneuthum i am ddyddiad cwblhau'r gwerthusiad o'r cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'? Mis Ebrill 2022 fydd hynny, mewn gwirionedd. Roeddwn i'n cael...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr iawn i chi, James Evans. Roedd gennych chi gant a mil o gwestiynau a phwyntiau, ond, cyn i mi ddechrau ymateb i chi, a gaf innau fynegi fy nymuniadau gorau ar goedd i Andrew R.T. Davies am adferiad buan a dweud pa mor llesol i bawb yn fy marn i yw ei fod ef wedi dangos dewrder fel hyn wrth siarad, fel yn wir y gwnaeth Sam Kurtz yr wythnos diwethaf? Wrth wneud fel hyn, mae...
Lynne Neagle: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydym ni wedi cwblhau 12 mis o ran ein cynllun cyflawni newydd, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ac rwy'n dymuno rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd ni. Fe ddiwygiwyd y cynllun cyflawni oherwydd y pandemig, wrth sylweddoli'r angen i'w addasu ar gyfer lefelau o anghenion sy'n esblygu. Mae'r cynllun yn un uchelgeisiol, ac yn sefydlu'r angen hanfodol am waith...
Lynne Neagle: Yn 2020-21, gwnaethom sicrhau hefyd fod bron i £4.8 miliwn arall ar gael i gefnogi ein hymateb i'r pandemig. Roedd dros £3 miliwn ohono i gefnogi darparu buprenorffin chwistrelladwy hirweithredol cyflym, neu Buvidal fel y'i gelwir, i gyn-ddefnyddwyr heroin mewn perygl, rhywbeth y byddaf yn sôn amdano yn nes ymlaen. Roedd y gweddill yn cynnwys cyllid i gefnogi gofynion cyfarpar diogelu...
Lynne Neagle: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i Peredur am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ac am ei gyfraniad meddylgar iawn, a diolch hefyd i Luke Fletcher a Jenny Rathbone am eu cyfraniadau, a chadarnhau hefyd i Peredur fy mod yn hapus iawn i ymgysylltu â'i grŵp trawsbleidiol newydd ac yn edrych ymlaen at weithio gydag ef? Mae'n hanfodol ein bod yn atgyweirio effeithiau dinistriol camddefnyddio sylweddau...
Lynne Neagle: O, a yw fy amser wedi dod i ben?
Lynne Neagle: A gaf fi droi, felly, at welliant Plaid Cymru? Rwyf wedi trafod y cynlluniau hyn y mae Plaid Cymru yn eu cyflwyno gyda Rhun ap Iorwerth o'r blaen, ond credaf mai ein dull presennol o sicrhau bod cymorth ataliol yn cael ei ddarparu ar draws nifer o leoliadau—drwy ysgolion, colegau, clybiau ieuenctid a gwasanaethau, lle mae plant yn byw eu bywydau bob dydd—yw'r un cywir. Bydd ein fframwaith...
Lynne Neagle: Diolch am hynny, Janet. Byddwn yn hapus iawn i gyfarfod â'r unigolyn a grybwyllwch, ond dylwn ailbwysleisio nad ydym, diolch byth, yn gweld cynnydd yn y cyfraddau hunanladdiad ar hyn o bryd. Mae'n bwysig iawn fod pob un ohonom yn wirioneddol gyfrifol yn yr iaith a ddefnyddiwn ynglŷn â hunanladdiad, oherwydd pan soniwn am gyfraddau, mae pobl yn dweud pethau fel, 'Cyfraddau'n mynd drwy'r...
Lynne Neagle: Mae'r pandemig wedi cael effaith fawr ar ein hiechyd meddwl ni i gyd mewn sawl ffordd wahanol iawn. Fel y mae Jack Sargeant wedi nodi, mae gan bob un ohonom iechyd meddwl, ac ar rai dyddiau mae'n dda, ar rai dyddiau nid yw cystal. Rydym wedi gweld bod rhai pobl wedi teimlo'n bryderus ac ynysig ac ar eu pen eu hunain yn ystod y cyfyngiadau symud a rhai pobl hefyd yn bryderus ynglŷn ag...
Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi siarad heddiw. Rwy'n croesawu'r ddadl hon, a chyda Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn agosáu, mae hwn yn gyfle da i drafod pwysigrwydd diogelu a chefnogi ein hiechyd meddwl a'n llesiant. Mae 12 mis wedi bod ers i ni ddechrau gweithredu ein cynllun cyflawni, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', a ddiwygiwyd mewn ymateb i'r pandemig, ac rwy'n edrych...
Lynne Neagle: Yn ffurfiol.
Lynne Neagle: Mae'r 18 mis diwethaf hyn wedi bod yn anhygoel o anodd i bawb, ond i neb yn fwy na phobl sy'n byw gyda dementia. Mae colli trefn arferol, newidiadau i gymorth, ansicrwydd a'r cyfyngiadau ar ymweld â chartrefi gofal wedi gwneud sefyllfa heriol hyd yn oed yn anos. Dyna pam fy mod yn falch, yr wythnos diwethaf, ar Ddiwrnod Clefyd Alzheimer y Byd, i allu lansio'r ddogfen 'Cynllun gweithredu...
Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Luke Fletcher am gyflwyno'r cynnig pwysig hwn heddiw ac am gysylltu â mi mewn modd mor adeiladol cyn y ddadl hon? Mae Luke wedi siarad gyda'r fath ddewrder am brofiadau ei deulu ei hun o ddementia. Gobeithio na fydd ots ganddo imi ddweud, yn fy mhrofiad personol i, mai anaml y daw gwir ymladdwyr o blith y rhai sydd heb eu creithio, a gwn y bydd gan...