Darren Millar: Roeddwn am gywiro'r cofnod. Roedd cyfeiriad yn y fan yna at y bagiau plastig. Doeddem ni ddim yn erbyn hynny. Yn wir, ni wnaeth gynnig y tâl am fagiau plastig.
Darren Millar: Na, fe wnaethoch chi ddweud ein bod wedi gwrthwynebu.
Darren Millar: Fe wnaethoch chi ddweud ein bod ni wedi gwrthwynebu.
Darren Millar: Fe wnaethoch chi ddweud ein bod ni wedi gwrthwynebu. Gwiriwch y Cofnod.
Darren Millar: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Felly, fel y dywedais yn gynharach, un o'r problemau gyda'r system bresennol lle gallan nhw wneud y newid i 20 mya yw'r amser y mae hynny'n ei gymryd. Os ydych chi am gyflwyno'r newid hwn—ac rwy'n eich annog i beidio â gwneud hynny—ond os ydych chi am gyflwyno'r newid hwn a'ch bod yn llwyddo i gael y pleidleisiau i wneud hynny heddiw, a wnewch chi ein...
Darren Millar: Mae hynny'n iawn, ac, wrth gwrs, gallech chi leihau'r terfyn cyflymder i 15 mya neu 10 mya a hyd yn oed bod â therfyn stopio byrrach. Nid wyf yn credu mai'r ffaith o reidrwydd yw bod hwn yn gynnig 20 mya sy'n broblem, oherwydd, fel y dywedais i, rwyf wedi cefnogi 20 mya mewn rhai mannau. Mae'n ymwneud â ph'un ai dyma'r defnydd cywir o adnoddau er mwyn gwella diogelwch ar ein ffyrdd ac er...
Darren Millar: Byddaf yn hapus i gymryd un.
Darren Millar: Doeddwn i ddim yn mynd i gymryd rhan yn y ddadl hon—
Darren Millar: —ond ar ôl gwrando ar y dadleuon, roeddwn i eisiau gwneud cyfraniad byr. Edrychwch, rwyf wedi bod yn Aelod o'r Senedd hon ers 15 mlynedd, a dros y 15 mlynedd hynny rwyf wedi ymgyrchu dros barthau 20 mya mewn rhai rhannau o fy etholaeth i. Rydym ni wedi llwyddo i sicrhau rhai ohonyn nhw, ac mae'r Gweinidog yn llygad ei lle: mae'n cymryd gormod o amser i'w sicrhau. Ond mae'n cymryd gormod o...
Darren Millar: Diolch, Trefnydd, am eich datganiad. A gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar effaith twristiaeth ar wasanaethau iechyd, yn enwedig yn y gogledd? Fel y gwyddoch chi, mae'r gogledd yn lle hardd i bobl ymweld ag ef, ac mae gennym ni filoedd lawer o bobl sy'n dod i fwynhau popeth sydd gennym ni i'w gynnig ar stepen ein drws, ond un o'r pethau...
Darren Millar: Rwy'n hapus i wneud ymyriad. Byddai'r rhan fwyaf o weithredwyr wrth eu bodd i'w heiddo gael ei ddefnyddio am fwy na 50 y cant o'r flwyddyn, ond nid dyna'r realiti mewn sawl rhan o Gymru. Ac nid wyf yn credu bod gosod rheol defnydd mympwyol o 50 y cant drwy'r flwyddyn yn deg iawn, Weinidog. Byddwn wrth fy modd pe baech yn dod i gyfarfod â rhai o'r busnesau bach iawn yn fy etholaeth sy'n...
Darren Millar: Llywydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar gyflawni ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych. Yn ôl yn 2013, gwnaeth y Gweinidog iechyd ar y pryd, sydd, wrth gwrs, yn Brif Weinidog erbyn hyn, gyhoeddiad y byddai ysbyty newydd yn cael ei adeiladu yn y Rhyl i gymryd lle'r ddau ysbyty a gafodd eu cau'n flaenorol sef Ysbyty Brenhinol Alexandra ac Ysbyty Cymunedol Prestatyn....
Darren Millar: Yr wythnos hon yw Wythnos y Lluoedd Arfog ledled y Deyrnas Unedig, wythnos sy'n dod â chymuned ein lluoedd arfog ynghyd, gan gynnwys milwyr, eu teuluoedd a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi. Mae'n rhoi cyfle i bobl ledled y wlad ddangos ein gwerthfawrogiad o'r gwaith a wnânt. Fel rhan o'r wythnos, cynhaliwyd Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru yn ninas Wrecsam ddydd Sadwrn, a bydd Scarborough yn cynnal...
Darren Millar: Cytunaf yn llwyr â'r pwyntiau a wnaed gan Siân Gwenllian am yr angen i sicrhau bod gennym feddygon yn dod drwy'r system sy'n rhugl yn y Gymraeg. Mae hefyd yn bwysig iawn, wrth gwrs, fod y rhai hynny sydd yn y gweithlu addysg, yn addysgu, sydd â sgiliau iaith Gymraeg, yn gallu parhau i'w defnyddio. Yn y Senedd ddoe nodais sefyllfa mewn sefydliad addysg bellach, lle mae cyrsiau'n cael eu...
Darren Millar: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. Mae llawer o drigolion Bae Colwyn wedi cysylltu â mi ynglŷn â datblygiad posibl yn ardal Pwllycrochan yn y dref, ac yn anffodus, fel y byddwch yn gwybod, mae llawer o'r ysgolion yn y dref yn orlawn, mae yna brinder deintyddion, mae ein cyfleusterau gofal iechyd yn ei chael hi'n anodd ymdopi...
Darren Millar: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod seilwaith digonol ar waith lle cynigir datblygiadau tai newydd? OQ58232
Darren Millar: Mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf i'n rhannu optimistiaeth y siaradwr blaenorol am y mesurau diogelu sydd ar waith yn y Bil. Rwyf i'n credu, yn y bôn, y dylai pobl gael mynegi dewis ynglŷn â'r ddarpariaeth y maen nhw'n dymuno ei mynychu yn eu hardal nhw. Rwy'n credu y dylai dysgwyr gael pob cyfle i fwynhau ystod eang o ddarpariaeth, p'un a ydyn nhw'n dymuno ymgymryd â'u dysgu ôl-16...
Darren Millar: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Roeddwn i mewn gwirionedd yn codi'r cwestiwn oherwydd pryderon am fynediad i addysg bellach ymhlith rhai o fy etholwyr. Byddwch yn ymwybodol o'r ddarpariaeth ragorol a fu dros nifer o flynyddoedd yng Ngholeg Llysfasi, sydd ychydig y tu allan i Ruthun, sy'n darparu cyrsiau amaethyddol a chyrsiau sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid hefyd, o ran eu darpariaeth...
Darren Millar: 7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo mynediad at addysg yng nghefn gwlad Conwy a Sir Ddinbych? OQ58201
Darren Millar: Diolch, Lywydd. Yr wythnos hon mae'n ddeugain mlynedd ers rhyddhau Ynysoedd Falkland, yn dilyn ymosodiad lluoedd yr Ariannin arnynt ar 2 Ebrill 1982. Rhyddhawyd y diriogaeth dramor Brydeinig fach yn ne Cefnfor Iwerydd gan luoedd Prydain ar 14 Mehefin. Yn ystod y gwrthdaro, bu 26,000 o'r lluoedd arfog yn weithredol yn yr awyr, ar y ddaear ac ar y môr, ac fe wnaethant wasanaethu i amddiffyn...