David Melding: Prif Weinidog, bu lefel uchel iawn o haint mewn llawer o ardaloedd yn hen faes glo y de, fel y Rhondda, a bydd y boblogaeth yno yn sâl am gryn amser i ddod gyda COVID hir a phroblemau cysylltiedig eraill wedyn. Rwy'n arbennig o bryderus ynghylch sut y mae hyn yn mynd i gael ei reoli. Pa wasanaethau iechyd a chlinigau fydd ar gael i bobl, yn enwedig os bydd yn lleihau eu gallu i gadw swydd...
David Melding: Rwy'n credu bod hwn yn adroddiad pwysig iawn. Mae ein diwydiannau creadigol yn faes twf i ni ac yn faes lle mae gennym hanes o ragoriaeth yn mynd yn ôl o leiaf i'r 1980au, pan sefydlwyd S4C. Ac mae'n rhywbeth roeddem ar fin ei godi i lefel arall hefyd, a'i ffocysu oedd un o'n meysydd twf allweddol i ddod â mwy o ffyniant i'n heconomi. Felly, nid oes amheuaeth nad yw COVID wedi bod yn gam yn...
David Melding: A ydych yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol, er mwyn allforio cig oen gwych o Gymru, fod gennym farchnad ddiogel, ein bod yn gwybod cyn gynted ag sy'n bosibl fod y farchnad honno yno ac fel y dywedoch chi, ei bod yn yr Undeb Ewropeaidd yn bennaf? Ac a ydych yn ofni, fel finnau, os na fyddwn yn sicrhau bod cig oen yn flaenllaw ac yn ganolog mewn cytundeb, bydd marchnadoedd llai effeithlon yn yr...
David Melding: 4. Pa drefniadau sydd ar waith i gefnogi ffermwyr Cymru drwy'r broses bontio Ewropeaidd? OQ55828
David Melding: Weinidog, byddwn yn dweud bod hwn yn faes allweddol, nid yn unig ar gyfer y broses bontio ei hun, sydd yn aml wedi achosi anawsterau a bylchau, ond ceir nifer o gyflyrau iechyd meddwl difrifol sy'n tueddu i ymddangos am y tro cyntaf yn y glasoed hwyr ac mewn oedolion ifanc, ac felly mae rheoli'r cyflyrau hyn, yn enwedig pan fyddant yn ymddangos am y tro cyntaf, yn allweddol iawn i adferiad...
David Melding: Weinidog, pobl dros 50 oed yw'r grŵp sy'n wynebu'r perygl mwyaf, ac mae pwysigrwydd ymarfer corff i'r grŵp hwn o ran iechyd cyffredinol a chadw lefelau uchel o symudedd, sy'n aml yn dirywio gydag oedran, yn bwysig iawn i'ch system imiwnedd ac i'ch gallu i gael fitamin D. Fodd bynnag, credaf fod llawer o bobl weithiau'n eithaf ofnus ynglŷn â mynd allan, a phan gawn y neges hon i 'aros...
David Melding: Diolch yn fawr iawn, Weinidog, a daw hynny â'r trafodion i ben am heddiw.
David Melding: Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl—Lesley Griffiths.
David Melding: Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna Aelodau'n gwrthwynebu, felly gohiriaf y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
David Melding: Bydd toriad o bum munud fan lleiaf yn awr i baratoi ar gyfer y cyfnod pleidleisio, a bydd cymorth TG ar gael.
David Melding: Diolch. Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl.
David Melding: Iawn.
David Melding: Galwaf ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
David Melding: Iawn, diolch, David. Roeddwn yn gobeithio eich bod yn dod i ben yn naturiol, ond nid wyf mor siŵr nawr, ond rydych dros y chwe munud. Mandy Jones—
David Melding: Na—
David Melding: A wnaiff y gweithredwr ddiffodd y sain ar David Rees nawr os gwelwch yn dda? Mandy Jones.
David Melding: Dai—. Na, na—
David Melding: Rydych chi ymhell dros chwe munud. Dai Lloyd.
David Melding: Ni ddewiswyd gwelliant 10, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian, yn unol â Rheol Sefydlog 12.23. Delyth Jewell.
David Melding: Detholwyd naw gwelliant i'r cynnig. A galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliannau 1 i 9, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.