Vaughan Gething: Wel, rydym yn sicr yn cydnabod bod tafarndai yn rhan bwysig o fywyd y gymuned, nid yn unig fel busnesau sy'n cyflogi pobl, maent hefyd yn rhoi ymdeimlad o le i lefydd hefyd. Ac unwaith eto rwyf wedi cydnabod y ffordd y mae tafarndai wedi cael sylw heddiw ac mae'r busnesau bragu wedi codi ar fwy nag un achlysur yn y gyfres hon o gwestiynau: mae heriau'n ymwneud â deunydd crai yn cynyddu, yr...
Vaughan Gething: Mae cymorth penodol ar gael drwy Busnes Cymru, ac mae rhai o'r cynghorwyr effeithlonrwydd ynni yn edrych ar yr hyn a allai fod yn bosibl i'r busnesau hynny, oherwydd bydd yn amrywio o un busnes i'r llall. Rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am fusnesau nad ydynt ar y grid a'u costau ynni yn ogystal â busnesau sydd ar y grid ac sy'n gweld cynnydd mewn costau ynni. Ond mae hefyd...
Vaughan Gething: Diolch. Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau i fynd i'r afael â chynnydd mewn costau i fusnesau, cyfraddau llog ar gyfer benthyca, treth ffawdelw a rheoleiddio'r farchnad. Ein blaenoriaeth yw cefnogi busnesau i ddatgarboneiddio ac i arbed, ac rydym yn chwilio am gyfleoedd i'w helpu i wneud hynny.
Vaughan Gething: Rwy'n siŵr fod angen archwiliad dwfn, ond yr hyn a wneuthum ar ddechrau'r tymor hwn, mewn gwaith y comisiynais Jonathan Portes i'w wneud ar ran Llywodraeth Cymru, oedd edrych ar ystod o'r ffactorau a'r heriau sy'n ein hwynebu. Mae'n cynnwys y realiti, fel y mae'r Aelod wedi'i ddweud, mewn rhai rhannau o Gymru, ein bod yn gweld poblogaeth yn symud i ffwrdd o'r ardaloedd hynny. Mae honno'n her...
Vaughan Gething: Rydym yn defnyddio ein sgiliau, ein cymorth busnes a'n hysgogiadau datblygu economaidd i helpu i greu a diogelu cyflogaeth o ansawdd da ac i helpu i wella cyfleoedd i gamu ymlaen. Mae hyn yn cefnogi ein hymdrechion i gynyddu incwm gwario gros y pen fel rhan o'n cenhadaeth economaidd a'n hymagwedd tuag at economi llesiant yma yng Nghymru.
Vaughan Gething: Mae yna un neu ddau o wahanol bwyntiau rwy'n credu y dylem eu gwneud. Oherwydd nad oes arian newydd wedi ei ryddhau, rydym wedi cael £1 biliwn yn llai dros dair blynedd; ffaith yw hynny, nid mater o farn. Mae hynny'n effeithio'n uniongyrchol ar gyllid ymchwil, datblygu ac arloesi. Mae hynny, unwaith eto, yn ffaith ddiymwad. Mewn perthynas â gwella'r arian i Gymru o gronfeydd y DU, mae...
Vaughan Gething: Felly, mae’r Gweinidog addysg eisoes wedi cyhoeddi cynnydd mewn cyllid cysylltiedig ag ansawdd. O ran cyllid canlyniadol yn sgil y cyhoeddiad hwn, rydym mewn trafodaeth barhaus â Llywodraeth y DU i benderfynu’n derfynol ar y swm a’r defnydd ohono. Mae her bob amser—a deallaf pam y’i gwnaed—pan fo cyhoeddiad yn cael ei wneud ar gyfer sector penodol yn Lloegr iddo fod ar gyfer yr...
Vaughan Gething: Croeso nôl. Mae’n rhwystredig fod gwahaniaethau gwleidyddol rhwng yr UE a’r DU wedi creu ansicrwydd parhaus ac anallu i barhau â'r cysylltiad â Horizon Ewrop. Yn y gorffennol, mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu £6.8 biliwn ar gyfer rhaglenni’r UE yn y maes hwn i’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, heb ddyraniad ar wahân i Lywodraeth Cymru. Mae gennym ystod o gymorth,...
Vaughan Gething: Ydym, rydym yn parhau i gael trafodaethau gyda datblygwyr ynglŷn â'r tir—unwaith eto, at gymysgedd o ddibenion preswyl a masnachol. Nid wyf am wneud sylwadau am y trafodaethau sy'n mynd rhagddynt ac sydd eto i'w cwblhau, ond rydym yn ystyried opsiynau ar gyfer y datblygiad parhaus hwnnw i helpu i'w gwblhau, ynghyd â'r camau rydym wedi'u cymryd i gaffael doc Tywysog Cymru hefyd. Felly,...
Vaughan Gething: Diolch am y pwyntiau a wnaethoch. Rydych yn llygad eich lle ei bod yn ardal lle rydym yn gweld cyfuniad llwyddiannus gyda datblygiad cynllun sy'n cyfuno mannau preswyl, cyflogaeth sgìl uchel a gweithgarwch masnachol. Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yw rydym yn cael sgyrsiau adeiladol gyda chyngor Abertawe ynglŷn â mabwysiadu, a throsglwyddo, yn y pen draw, gobeithio, y cyfrifoldeb am...
Vaughan Gething: Gwnaf. Mae cynnydd da'n parhau i gael ei wneud yn SA1, gyda lefelau da o ddiddordeb gan ddatblygwyr a meddianwyr. Mae cynigion Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gyfer ardal y matrics arloesedd yn dod yn eu blaenau, mae datblygiad llety myfyrwyr ar Heol y Brenin ar fin cael ei gwblhau, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cwblhau’r broses o gaffael doc Tywysog Cymru.
Vaughan Gething: Mae dau beth. O ran diwygio ardrethi annomestig, mae honno’n sgwrs rwy'n parhau i’w chael gyda’r Gweinidog cyllid, sef y Gweinidog arweiniol, fel y gwyddoch, mewn perthynas â mater diwygio trethiant. Ceir rhaglen ddiwygio sylweddol sy'n parhau i symud yn gyflym ar drethiant ehangach. Fe wyddoch am y gwaith rydym yn ei wneud ar ddiwygio'r dreth gyngor, er enghraifft. Felly, rydym yn...
Vaughan Gething: Wel, fel bob amser, rydym yn defnyddio'r offer sydd ar gael i ni, a'r ddealltwriaeth o gynllun y mae pobl yn ei ddeall, oherwydd y ffordd rydym wedi cefnogi busnesau yn y maes hwn o'r blaen, ac wrth gwrs, mae gennym eisoes ystod o ryddhad wedi'i ymgorffori yn ein system ar gyfer busnesau llai beth bynnag, ac mae gennym gap ar y swm y gall busnesau elwa ohono hefyd. Golyga hynny na fydd swm...
Vaughan Gething: Gadewch inni ymdrin â rhai o'r heriau a ddaw yma. A dywedaf hyn mor dyner ond mor onest ag y gallaf, wrth yr Aelod: pan ddaw'n fater o siarad am bolisïau gwrth-dwf, pan ddaw'n fater o ofyn a ydych yn gwybod beth rydych yn ei wneud, nid oes ond angen ichi edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y chwe wythnos drychinebus a'r hyn y gwnaeth hynny i chwalu'r economi ledled y DU. Gyda llawer...
Vaughan Gething: Wel, mewn perthynas â mesurau gwrth-dwf, digwyddodd yr ymyrraeth wrth-dwf fwyaf arwyddocaol, wrth gwrs, yn ystod y chwe wythnos y bu Liz Truss yn Brif Weinidog y DU. Roedd honno’n ymyrraeth sylweddol a wnaeth yr holl heriau sy’n bodoli o fewn yr economi yn waeth o lawer. Ac roedd yn ddoniol clywed y sôn am gynghrair wrth-dwf ac yna gweld y smonach a wnaeth Kwasi Kwarteng a Liz Truss....
Vaughan Gething: Wel, mae a wnelo hyn â'r her rydym yn ei hwynebu, ac yn wir, y camau rydym yn eu cymryd. A bydd yr Aelod yn gwybod mai’r her sy’n ein hwynebu, gan ein bod wedi'i thrafod a'i bod yn realiti, yw bod yr heriau o ran arian yn lle arian yr Undeb Ewropeaidd yn broblem sylweddol yn y dirwedd sgiliau. Fe wnaethom ariannu ystod gyfan o’n hymyriadau sgiliau drwy arian blaenorol yr UE. Mae’r...
Vaughan Gething: Mae gennym ystod o gymorth ariannol ar gael drwy’r banc datblygu ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint. Rhan o’n her, fel y nododd Sioned Williams yn ei chwestiwn agoriadol a’r cwestiwn atodol, yw bod pwysau arbennig mewn gwahanol rannau o’r economi. Felly, yn fras, mae busnesau sy'n dibynnu ar wariant disgresiynol—a chyfarfûm â fforwm yr economi ymwelwyr heddiw—yn cael eu...
Vaughan Gething: Diolch am eich cwestiwn. Nid yn unig fod hyn yn amserol, ond mae'n bwysig, ac nid yn unig nawr ond ar gyfer y dyfodol hefyd. Ac rydym yn edrych ar gyfleoedd i ddatgarboneiddio, ond hefyd i arbed costau ac i gynyddu elw net, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn gwneud y ddau beth hynny. Bydd rhai busnesau'n cael eu perswadio gan yr hyn sy'n ofynnol ar gyfer yr hinsawdd yn fwy eang, a bydd...
Vaughan Gething: Fel y gŵyr yr Aelod, Llywodraeth y DU sydd â’r ysgogiadau i fynd i’r afael â chynnydd mewn costau i fusnesau, cyfraddau llog ar gyfer benthyca, trethu ffawdelw a rheoleiddio’r farchnad ynni. Ein blaenoriaeth o hyd yw cefnogi busnesau i ddatgarboneiddio ac arbed. Rydym yn parhau i nodi cyfleoedd i ailgyfeirio adnoddau i leihau beichiau ar fusnesau, ac wrth gwrs, bydd yr Aelod yn...
Vaughan Gething: Gallaf gadarnhau bod y sgyrsiau hynny'n digwydd a bod hyn yn bryder gwirioneddol i Lywodraeth Cymru. Fe welwch, yn y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd gennym ddoe, realiti'r ffordd rydym yn cydbwyso'r gyllideb gyfan. Ac mae gwerth cymharol cyllideb Llywodraeth Cymru wedi gostwng yn sylweddol gan fod realiti chwyddiant yn y broses honno o flaenoriaethu yn golygu edrych ar y ddau bwynt a wnewch...