Canlyniadau 121–140 o 5000 ar gyfer speaker:Andrew RT Davies OR speaker:Andrew RT Davies OR speaker:Andrew RT Davies

17. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru — Cyflawni ein hamcanion llesiant (12 Gor 2022)

Andrew RT Davies: Ond hoffwn i ddechrau gyda'r sylwadau y codais i gyda'r Prif Weinidog yn sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog y cawsom ni'r prynhawn yma. Y naratif pwysicaf sydd wedi dominyddu'r 12 mis diwethaf yw amseroedd aros y GIG, ac mae maint yr her honno wedi mynd yn fwy ac yn dywyllach wrth i bob wythnos a phob mis fynd heibio, gyda 700,000 o bobl ar restr aros heddiw yma yng Nghymru—un o bob pump o'r...

17. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru — Cyflawni ein hamcanion llesiant (12 Gor 2022)

Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd, a chynigiaf y gwelliant yn ffurfiol yn enw Darren Millar ar y papur trefn y prynhawn yma. A chyn i mi ddechrau fy nghyfraniad, hoffwn i hefyd gofnodi, yn ystod y 12 mis diwethaf, ddiolch diffuant fy ngrŵp i'r holl weithwyr GIG a'r gweithwyr cyhoeddus sydd wedi gweithio'n ddiflino yn y pandemig COVID yr ydym ni'n parhau i'w wynebu heddiw. Gwn i y byddwn ni'n anghytuno ar...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (12 Gor 2022)

Andrew RT Davies: Prif Weinidog, os ydych eisiau trafod cystadleuaeth arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, byddaf yn hapus i roi ffurflen aelodaeth i chi a gallwch ddod i'r hustyngau. Byddaf hefyd—[Torri ar draws.] Byddaf hefyd yn ddigon bodlon eistedd ar unrhyw lwyfan teledu a dadlau gyda chi ynghylch rhinweddau hynny. A gallaf glywed y fainc flaen yn gweiddi. Mae'r ffigurau yr wyf wedi'u cyflwyno i'r Prif...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (12 Gor 2022)

Andrew RT Davies: Diolch i chi am yr esboniad ynghylch y tei, Prif Weinidog. Mae bob amser yn dda cael ychydig o newyddion da yn y Siambr hon. Ond mae ffordd arall, oherwydd fel yr ydym ni wedi gweld yn Lloegr gydag arosiadau dwy flynedd, uchafbwynt y ffigurau hynny oedd 23,000 yn aros dwy flynedd neu fwy allan o boblogaeth o 57 miliwn; maen nhw bellach yn 12,000, neu ychydig dros 12,000. Rwy'n derbyn bod...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (12 Gor 2022)

Andrew RT Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i wneud sylw ar dei'r Prif Weinidog? Mae'n edrych yn llachar iawn heddiw, gyda chwlwm ar y top, anarferol i'r Prif Weinidog, a bod yn deg. Efallai mai rhyw deimlad diwedd tymor sydd ganddo. [Chwerthin.] Hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog, os caf i, am amseroedd aros y GIG. Pe baem yn sefyll yma yr adeg hon y llynedd, y ffigur aros dwy flynedd ar gyfer pobl yn y GIG...

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol ( 5 Gor 2022)

Andrew RT Davies: Felly, rwyf i am drafod yn fyr y pum Bil y mae'r Prif Weinidog wedi tynnu sylw atyn nhw, ac yn hytrach nag edrych yn ôl, edrych ymlaen at yr hyn y bydd Llywodraeth y Prif Weinidog yn ei gyflwyno yn y sesiwn ddeddfwriaethol nesaf. Ac mae hi'n ymddangos bod y Bil aer glân, y gwnaeth ef a minnau ei grybwyll droeon yn y Siambr hon, bellach yn gweld golau dydd, sydd i'w groesawu. Rwyf i eisoes...

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol ( 5 Gor 2022)

Andrew RT Davies: Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma, ac rwy'n mynegi fy niolch ar goedd i gyfreithwyr y Llywodraeth a chyfreithwyr y Senedd sy'n ein cynorthwyo ni i graffu ar ddeddfwriaeth a chyflwyno'r ddeddfwriaeth honno. Rydym ni'n gallu anghytuno ar safbwyntiau polisi, ond, yn y pen draw, mae llawer iawn o bŵer ymenyddol cyfreithiol yn gynwysedig yn y darnau hyn o ddeddfwriaeth....

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 5 Gor 2022)

Andrew RT Davies: Prif Weinidog, gwnaeth y Llywodraeth yn 2015 yr ymrwymiad hwnnw, yn amlwg, i ddiddymu'r defnydd o lety gwely a brecwast, hosteli a gwestai pris rhesymol. A ydych chi yn dal i gadw at yr ymrwymiad hwnnw? Rwy'n sylweddoli bod saith mlynedd wedi mynd heibio, ond a yw'n dal yn flaenoriaeth gan y Llywodraeth i gadw at yr ymrwymiad hwnnw? Ac os yw'n flaenoriaeth gan y Llywodraeth i gadw'r ymrwymiad...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 5 Gor 2022)

Andrew RT Davies: Rwy'n ddiolchgar am yr ateb yna, Prif Weinidog, ond y gwir amdani yw bod addewid wedi'i wneud saith mlynedd yn ôl, yn 2015, a thynnwyd sylw at rywfaint o'r ateb a roesoch imi heddiw ynghylch amlygu arferion da mewn awdurdodau lleol fel sir Gaerfyrddin, fel Castell-nedd Port Talbot, yn rhan o ddatganiad y Llywodraeth bryd hynny ynghylch sut yr ydych yn ysgogi arfer da drwy awdurdodau lleol i...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 5 Gor 2022)

Andrew RT Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i estyn croeso cynnes i gydweithwyr yn yr oriel o Bacistan, sydd wedi dod yma o un o'r cynulliadau rhanbarthol ac yn gwylio ein trafodion heddiw? Prif Weinidog, pam y mae Llywodraeth Cymru wedi methu yn ei hymrwymiad, a wnaed tua saith mlynedd yn ôl, i ddileu'r defnydd o lety gwely a brecwast ar gyfer pobl ifanc yn y sector gofal yma yng Nghymru?

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 (29 Meh 2022)

Andrew RT Davies: Rwyf wedi darllen eich gwelliant ar y papur trefn, ond nid wyf yn credu, yn ôl rheolau'r gystadleuaeth, y gallem gystadlu, yn union fel na allai Gwlad y Basg gystadlu, a Sbaen sy'n cynrychioli cynnig Sbaen yn y gystadleuaeth. Felly, nid yw'r rheolau'n caniatáu i'r gwelliant hwnnw gael ei weithredu mewn gwirionedd.

3. Cwestiynau Amserol: Gwasanaethau Gofal Llygaid (29 Meh 2022)

Andrew RT Davies: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae’r amseroedd aros yn ofnadwy ar gyfer triniaethau llygaid yn unrhyw le yng Nghymru. Ac mae anawsterau ledled y Deyrnas Unedig; rwy'n derbyn hynny, Weinidog. Mae Dr Williams yn tynnu sylw at dri phwynt sydd, yn ei farn ef, yn dangos bod angen ymyrraeth ddramatig ar ran y Llywodraeth, gan weithio gyda'r byrddau iechyd. Y cyntaf, yn amlwg, yw newid arferion...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Perchnogaeth Gyfrifol ar Anifeiliaid Anwes (29 Meh 2022)

Andrew RT Davies: Weinidog, mae gadael anifeiliaid anwes yn fater o bwys ac mae wedi bod yn broblem fawr erioed. I rai o drigolion cartrefi, rhaid iddynt adael eu hanifeiliaid anwes oherwydd yn y sector rhentu, mae rhai landlordiaid yn dweud na chaniateir unrhyw anifeiliaid anwes. Yn San Steffan, maent yn cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn diddymu hynny ac yn ei gwneud yn anghyfreithlon i landlordiaid fynnu na...

3. Cwestiynau Amserol: Gwasanaethau Gofal Llygaid (29 Meh 2022)

Andrew RT Davies: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhybudd gan Dr Gwyn Williams o Goleg Brenhinol yr Ophthalmolegwyr, y gallai ton o ddallineb diangen ledaenu drwy Gymru os na chaiff gwasanaethau gofal llygaid eu diwygio? TQ647

10. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) (28 Meh 2022)

Andrew RT Davies: A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?

10. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) (28 Meh 2022)

Andrew RT Davies: Diolch am dderbyn yr ymyriad, Gweinidog. Yr wythnos diwethaf, ymyrrais ynghylch y darpariaethau o ran sefydliadau addysg uwch a'r darpariaethau a allai orfodi cyfuno'r sefydliadau hynny â'r darpariaethau sydd yn y Bil. A wnewch chi roi sicrwydd mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddai'r darpariaethau hynny'n cael eu deddfu gan y Gweinidog, a bod y sefydliadau addysg uwch hyn sydd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (28 Meh 2022)

Andrew RT Davies: Prif Weinidog, y pwynt yr wyf yn ei wneud i chi yw eich bod wedi cymryd y clodydd, ac yn briodol wedi cymryd y clodydd, eich bod wedi nodi eich hun yn Llywodraeth uwch-noddwr ar gyfer ffoaduriaid sy'n dod o'r erchyllterau a welwn ni yn Wcráin, ac rydym i gyd eisiau chwarae ein rhan. Ond mae'n rhaid i chi nodi'r adnoddau sydd i ateb y galw. Nawr, rydych wedi dweud, yn eich geiriau eich hun,...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (28 Meh 2022)

Andrew RT Davies: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n cytuno â chi bod y canolfannau'n cynnig y gefnogaeth gychwynnol honno, yr ymdeimlad cychwynnol hwnnw o ddiogelwch a noddfa ar ôl dod o'r fath gythrwfl ag sydd yn Wcráin. Ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw deall sut y mae'r Llywodraeth yn awr yn nodi'r adnoddau ychwanegol y bydd eu hangen i ddarparu ar gyfer pobl y tu hwnt i'r canolfannau...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (28 Meh 2022)

Andrew RT Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. Prif Weinidog, bythefnos yn ôl, cyhoeddodd y Llywodraeth ei bod yn atal dros dro ei chynllun ffoaduriaid Wcráin o fod yn uwch-noddwr i ffoaduriaid sy'n dod i Gymru, cynllun a groesawyd gennym pan ddaeth gerbron pobl Cymru yn swyddogol i ddangos yr hyn y gallem ni fod yn ei wneud yn y rhan hon o'r DU i helpu ffoaduriaid sy'n dod allan o Wcráin. Ddoe gwelsom eto...

Grŵp 15: Diddymu corfforaethau addysg uwch (Gwelliannau 103, 104) (21 Meh 2022)

Andrew RT Davies: A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.