Janet Finch-Saunders: Gwnaf, mae'n ddrwg gennyf, Jack.
Janet Finch-Saunders: Ar ddiwedd y dydd, Jack, roeddem ni'n wynebu argyfwng enfawr. Roedd rhaid i ni amddiffyn—[Torri ar draws.] Jack, roedd rhaid inni amddiffyn—. Mae'n deg dweud nad oedd ar Lywodraeth y DU ond eisiau amddiffyn y rhai mwyaf bregus wrth ymdrin â'r pandemig. Sut fyddech chi wedi ei wneud yn wahanol? [Torri ar draws.] Do, ond wnaethoch chi ddim—[Torri ar draws.] Wnaethoch chi ddim—[Torri ar...
Janet Finch-Saunders: Oherwydd y byddaf yn siarad am eiddo, fe wna i ddatgan buddiant o ran perchnogaeth eiddo. Rwy'n credu ei bod hi'n debyg o fod yn un o'r cyllidebau anoddaf i ni gyd yr ydym ni, fel Aelodau yma, wedi ei hwynebu. Dydw i ddim wedi clywed rhyw lawer am y ddwy flynedd a mwy ofnadwy yr aethom drwyddyn nhw o'r pandemig. Wrth i bawb ladd ar Lywodraeth y DU, ni allwn ni anghofio am yr oddeutu £8.5...
Janet Finch-Saunders: —ac rydym ni eisiau gweld Cymru gref mewn Teyrnas Unedig gref. Prif Weinidog, a wnewch chi ei gwneud yn eglur i'ch cymrodyr llywodraethol draw ym Mhlaid Cymru bod pobl wedi cael digon o'u hymgyrch ddadunol dros annibyniaeth a'u bod nhw eisiau i ni ganolbwyntio ar y materion sy'n wirioneddol bwysig i bobl Cymru?
Janet Finch-Saunders: A wnewch chi sefyll dros ein Teyrnas Unedig? [Torri ar draws.]
Janet Finch-Saunders: Diolch. Nawr, yn ôl canlyniadau'r cyfrifiad diweddaraf yr ydym ni wedi eu gweld, dewisodd 55.2 y cant o bobl hunaniaeth Cymreig yn unig yng Nghymru yn 2021, ac mae hynny'n ostyngiad o 57.5 y cant yn 2011. Yn y cyfamser, dewisodd 18.5 y cant o bobl hunaniaeth Brydeinig yn unig, a oedd yn gynnydd o 16.9 y cant yn 2011. Fodd bynnag, cynyddodd nifer y bobl a ddewisodd hunaniaethau Cymreig a...
Janet Finch-Saunders: 2. Sut fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio canlyniadau cyfrifiad 2021? OQ58867
Janet Finch-Saunders: Wyddoch chi beth, fe ddywedaf hyn. Mae tymor y Nadolig bron â chyrraedd, ond yr hyn rwy'n ei ddweud yw fy mod i, eleni, wedi fy synnu'n fawr ac wedi fy siomi braidd gan y rhethreg wrth-ymwelwyr, wrth-dwristiaeth. Ac rwy'n dweud nawr, rwy'n cael e-byst o bob rhan o Gymru, gan eich holl etholwyr chi, yn dweud ein bod ni'n iawn, a'ch bod chi'n anghywir.
Janet Finch-Saunders: Nid oeddwn i lawr i siarad mewn gwirionedd, ond—[Chwerthin.]
Janet Finch-Saunders: Na, fe fanteisiaf ar bob cyfle. Felly, yn y bôn, mae hyn yn llanast, Weinidog. Mae cymaint wedi cysylltu â fi erbyn hyn. Mae'n ddrwg gennyf, ni allaf weld lle mae'r dryswch yn y cynnig a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod, ac i fod yn deg, fe wnaeth Sam Rowlands nodi'n huawdl beth oedd sylfeini'r hyn sy'n peri pryder yma. Mae hyn yn annheg, mae'n anghyfiawn, ac ni allwch osod taliadau yn...
Janet Finch-Saunders: Rwy'n siŵr eich bod chi'n gwybod y gair 'ôl-weithredol' a dyna'r pwynt y mae fy nghyd-Aelod Sam Rowlands yn ei wneud. Y sylwadau a gefais gan berchnogion busnes—perchnogion busnes gofidus—yw yn y flwyddyn o'u blaenau, eu bod yn edrych yn ôl ac yn ystyried busnes a gafodd ei effeithio yn ystod COVID. Ac felly mae'n anghyfiawn eu bod nawr—. Yn dechnegol, maent yn torri'r canllawiau...
Janet Finch-Saunders: A wnewch chi dderbyn ymyriad bach?
Janet Finch-Saunders: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Janet Finch-Saunders: Diolch. A wnewch chi ddweud wrth y Siambr a ydych chi wedi cael unrhyw sylwadau ar y mater gan etholwyr sy'n rhedeg y math hwn o fusnes?
Janet Finch-Saunders: I grynhoi, mae gan y Llywodraeth hon ffordd bell i fynd o hyd i ddarparu sicrwydd i'r sector amgylcheddol gyda'r arweinyddiaeth, y cyfeiriad a'r sicrwydd sydd ei angen arnynt. Er lles cenedlaethau'r dyfodol, mae angen fframwaith priodol ar waith ar frys. Diolch.
Janet Finch-Saunders: Rwy'n codi fy het i'n Cadeirydd, Llyr Gruffydd, am ddweud beth oedd angen ei ddweud—nad yw'r asesydd interim yn cyflawni swyddogaeth y math o lywodraethu amgylcheddol sydd ei angen arnom yma yng Nghymru. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi dewis derbyn yr wyth argymhelliad sydd yn yr adroddiad—rwy'n tybio y byddwn wedi synnu pe na baech chi wedi gwneud hynny. Rwy'n nodi bod yr...
Janet Finch-Saunders: Dylwn ddweud fy mod wedi cael cwynion ynglŷn ag oedi gyda 111.
Janet Finch-Saunders: Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Laura Anne Jones am gyflwyno'r mater hwn. Ddoe, ceisiais gyflwyno cwestiwn brys oherwydd fy mod yn cael cymaint o ymholiadau. Mae argaeledd gwrthfiotigau wedi cael ei grybwyll. Fy mhryderon i yw ein bod yn agosáu at gyfnod y gwyliau, ac rwy'n gwybod bod rhieni a neiniau a theidiau a gofalwyr yn bryderus iawn, os yw plentyn yn mynd yn sâl ar hyn o bryd, y gall...
Janet Finch-Saunders: Fel y dywedais, mae llawer o bethau cadarnhaol ynghylch yr hyn y mae pawb yn ei wneud yma. Fodd bynnag, yr hyn a ddywedwn—yn ogystal â chyflwyno'r mesurau hyn, mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom fel defnyddwyr adeiladau i chwarae ein rhan wrth gynorthwyo gyda mesurau arbed ynni. Rwy’n derbyn eich pwynt ynglŷn â mis Ionawr a mis Chwefror, gan mai hwy, rwy'n credu, i bawb sy’n...
Janet Finch-Saunders: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch eto i fy nghyd-Aelod, Jenny Rathbone, gan nad dyma'r tro cyntaf—mae'n deg dweud eich bod yn mynd ati'n rhagweithiol iawn i sicrhau ein bod yn lleihau ein defnydd o ynni ar yr ystad hon. Rwy’n falch o gadarnhau bod y Comisiwn wedi cytuno i roi ystod o fesurau arbed ynni ychwanegol ar waith ar ystad y Senedd i gefnogi ei strategaeth carbon niwtral 2030 ac...