Mick Antoniw: Diolch am y sylwadau hynny. Maent yn sylwadau rwy'n cytuno â hwy, a gallaf ddweud, yn sicr, wrth inni edrych ar y Bil, wrth inni archwilio ac ystyried ei fanylion yn llawer mwy gofalus, y byddwn yn edrych ar bob cyfle i sicrhau nad yw'n effeithio ar y bartneriaeth gymdeithasol sydd gennym yng Nghymru, a bod yr amddiffyniadau sylfaenol i wasanaethau cyhoeddus datganoledig yn rhai y byddwn yn...
Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Mae eich dehongliad o gyfeiriadau'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol at lefelau gwasanaeth gofynnol yn cael ei gymryd allan o'u cyd-destun yn llwyr, gan ei fod yn cyfeirio at drefniadau gwirfoddol gydag undebau llafur, ac mae'r rheini wedi bodoli yn y Deyrnas Unedig erioed, ac yng Nghymru yn wir, lle maent yn angenrheidiol. Nid trefniant gwirfoddol yw hyn; dyma gyfyngiad...
Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae'r Bil wedi ei gam-enwi'n wir. Mewn gwirionedd, 'Bil diswyddo'r nyrsys' ydyw, 'Bil diswyddo'r gweithiwr ambiwlans' ydyw, neu 'Fil diddymu'r hawl i streicio'. Mae'n dileu'r amddiffyniadau cysegredig i weithwyr ac undebau llafur a gafodd eu hymgorffori mewn deddfwriaeth ym 1906, deddfwriaeth a gyflwynwyd wedi achos Cwm Taf ym 1900, a gododd yn sgil...
Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Mae'r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) yn ymosodiad na ellir ei gyfiawnhau ar hawliau gweithwyr ac undebau llafur. Y ffordd i ddatrys anghydfodau diwydiannol yw drwy drafod a chytuno. Ni chaiff ei wneud drwy ddeddfwriaeth ddisynnwyr a fydd yn gwneud niwed parhaol i gysylltiadau diwydiannol ledled y DU ac yn ymyrryd â gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng...
Mick Antoniw: Rwy'n cytuno â chi. Argymhellwyd datganoli cyfiawnder gan gomisiwn Thomas. Rwyf wedi gwneud llawer o sylwadau yn y gorffennol am fethiannau’r ymagwedd at gymorth cyfreithiol dros ddegawdau lawer, a’i bwysigrwydd i rymuso pobl. Ac wrth gwrs, mae Mynegai Rheolaeth y Gyfraith diweddar Prosiect Cyfiawnder y Byd wedi rhoi’r Deyrnas Unedig, ar gyfartaledd, yn bymthegfed yn y byd, ond o ran...
Mick Antoniw: Golyga'r argyfwng costau byw ei bod yn hanfodol fod cyngor cyfreithiol yn hygyrch er mwyn diogelu hawliau pawb, ac eto, mae Llywodraeth y DU wedi erydu cyfiawnder i’r fath raddau nes bod hygyrchedd a fforddiadwyedd cyfiawnder sifil yn y Deyrnas Unedig bellach yn is na chyfartaledd byd-eang Mynegai Rheolaeth y Gyfraith Prosiect Cyfiawnder y Byd.
Mick Antoniw: Diolch. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth rwyf wedi gwneud sylwadau arno’n rheolaidd iawn gerbron y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ac mewn cwestiynau yn y Senedd hon, gan fod ymgysylltu effeithiol rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraethau datganoledig ynghylch deddfwriaeth yn hanfodol bwysig. Methiant hynny i weithredu fel y dylai ac yn unol â’r...
Mick Antoniw: Diolch yn fawr am y cwestiwn. Dylai deddfwriaeth sylfaenol y gellir ei gwneud yng Nghymru gael ei gwneud yng Nghymru. Ambell waith, mae’n bosib y bydd yn synhwyrol a manteisiol i ddarpariaeth sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd gael ei gwneud mewn Biliau gan Senedd y Deyrnas Unedig, ond rhaid i’r Senedd fod wedi cydsynio i hyn bob amser.
Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn, ac mae'n faes pwysig iawn, ac rwyf mor falch â chithau o'r ffocws penodol iawn ar gyfiawnder ieuenctid, oherwydd dyna'r maes mwyaf amlwg lle ceir ymylon garw o'r fath. Er bod cyfiawnder ieuenctid yn parhau i fod heb ei ddatganoli, mae gwasanaethau datganoledig, serch hynny, megis tai, addysg a gofal iechyd, yn chwarae rhan mor sylfaenol wrth ddargyfeirio pobl ifanc oddi...
Mick Antoniw: Diolch. Rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder, yr Arglwydd Bellamy. Rwyf wedi gwneud, a byddaf yn parhau i wneud, yr achos dros ddatganoli cyfiawnder ieuenctid i Gymru yn ystod y trafodaethau hyn.
Mick Antoniw: Yn gyntaf, diolch. Mae'n amlwg fod gwaith ar y gweill mewn perthynas â'r gwaith polisi a'r gwaith deddfwriaethol ar argymhellion Comisiwn y Gyfraith mewn perthynas â thribiwnlysoedd. Ar y pwynt rydych chi'n ei godi ar awdurdodaeth, rwy'n credu bod y dadansoddiad o awdurdodaethau o ran beth yw awdurdodaeth mewn gwirionedd o'i gymharu â'r hyn y dywedir ydyw bob amser wedi bod braidd yn rhy...
Mick Antoniw: Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae’r ddogfen 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru' yn nodi ein bwriad i fynd ati i ddiwygio er mwyn creu system tribiwnlysoedd fodern i Gymru. Rydyn ni’n llunio cynigion manwl ar gyfer diwygio, ar sail y dystiolaeth ar gyfer newid a'n sgyrsiau gyda'r rhai sy’n cael eu heffeithio gan yr agenda diwygio.
Mick Antoniw: Wel, rwy'n credu ein bod yn mynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar bobl Cymru. Ac rydych chi'n hollol gywir yn eich dehongliad o'r hyn y mae dyfarniad y Goruchaf Lys yn ei olygu mewn perthynas â chynnal refferendwm o dan y ddeddfwriaeth refferenda. Er hynny, lle rwy'n credu eich bod chi'n anghywir yw wrth ddweud bod hynny felly'n golygu bod popeth yn iawn ac nad oes problemau...
Mick Antoniw: Diolch. Rydych chi'n codi pwynt cyfansoddiadol pwysig. Ac mae'n ddiddorol iawn, yn adroddiad Brown Gordon, ei fod yn disgrifio'r Deyrnas Unedig yn benodol iawn fel cymdeithas o genhedloedd, felly i gydnabod cyfansoddiad hynny. Yn sicr, dyna fy nghred i, o ran beth yw'r sefyllfa real, oherwydd, os oes gennych chi senedd sy'n ethol pobl, sydd â mandad o etholiad, gan y bobl, ni all sofraniaeth...
Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Roedd y dyfarniad yn ymwneud yn benodol â'r sefyllfa yn yr Alban. Nid wyf o'r farn y bydd iddo oblygiadau i'r modd y dehonglir y setliad Cymreig. Roedd y Goruchaf Lys yn glir iawn nad oedd yn gwyro oddi wrth ei ddull blaenorol o ystyried materion o'r fath.
Mick Antoniw: Wel, diolch eto am nifer o gwestiynau pwysig yno. A gaf fi ddweud, yn gyntaf, ar egwyddor gyffredinol hunanbenderfyniaeth? Rwy'n credu bod hynny'n un y mae'r Prif Weinidog a minnau ac eraill wedi ei wneud yn glir yn y gorffennol, fod gan genhedloedd hawl i hunanbenderfyniaeth. Mae ein safbwynt ar refferenda a'r hyn a fyddai'n digwydd gyda Llywodraeth a oedd â mwyafrif o blaid refferendwm...
Mick Antoniw: Diolch am godi hynny. Rydych yn codi materion penodol iawn sy'n ymwneud â materion cynllunio a phwerau Llywodraeth Cymru. Ac wrth gwrs, mae yna faterion wedi cael eu codi, er enghraifft, mewn perthynas ag ardal gloddio glo arall, a mae'r materion yn ymwneud yn aml â pha bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru, ac a yw'n ymwneud â chaniatadau cynllunio sydd eisoes wedi'u rhoi neu a yw'n ymwneud â...
Mick Antoniw: Diolch am hynny. Ar yr amgylchiadau penodol rydych chi'n eu codi, rwy'n credu bod y rheini'n rhai y gellid, ac mae'n debyg y dylid, eu cyfeirio at y Gweinidog, a fyddai'n siŵr o ymateb. Wrth gwrs mae yna lwybr arall, sef cyfeirio at yr ombwdsmon, ynghylch y ffordd y mae'r awdurdod lleol y cyfeiriwch chi ato wedi gweithredu. Rwy'n credu y byddai'n amhriodol i mi wneud unrhyw sylw penodol...
Mick Antoniw: Wel, yn amlwg, rydym am weld cymaint ag y bo modd o gydweithio rhwng Aelodau'r Senedd ac unrhyw gyrff cyhoeddus, a chyrff preifat hefyd yn wir, lle maent yn ystyried materion y Senedd a dyletswyddau'r Senedd a dyletswyddau etholaethol. Rwy'n credu mai'r unig ffordd y gallaf eich cyfeirio, ynghylch y mater a godwyd gennych ac nad oes gennyf wybodaeth benodol amdano, yw bod yr hawliau wedi'u...
Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn ac fe wnaethoch chi ymdrin â rhai pwyntiau diddorol iawn yno. Ac rwy'n falch iawn, ac rwy'n credu ein bod yn cydnabod yn gyffredinol, onid ydym, pa mor bwysig yw'r newidiadau sydd wedi digwydd: y ffaith ein bod yn ddeddfwrfa cyfraith sylfaenol a pha mor bwysig yw hi fod gennym le parhaol, cydnabyddedig o fewn y Goruchaf Lys. Rwy'n credu bod yr hen ddadleuon ynghylch...