Leanne Wood: Yr wythnos diwethaf, cawsom y newyddion fod y rhaglen de Cymru ofnadwy yn cael ei hatgyfodi ar ôl chwe blynedd, o ran cyfluniad adrannau damweiniau ac achosion brys. Golyga hyn yr argymhellir cael gwared ar wasanaethau dan arweiniad meddygon ymgynghorol o Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant. Yn ystod yr un sesiwn friffio, dywedwyd wrthym mai Ysbyty Brenhinol Morgannwg sydd â'r adran...
Leanne Wood: 2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ateb y galw am wasanaethau damweiniau ac achosion brys yn y Rhondda a thu hwnt os caiff gwasanaethau 24 awr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg eu gostwng? 386
Leanne Wood: Mae Adref yn elusen sydd wedi bod yn cefnogi pobl sy'n agored i niwed ac yn brwydro yn erbyn digartrefedd yn fy ardal i ers tri degawd. Nawr mae bygythiad i gau'r elusen, gan fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi dyfarnu'r contract i ddarparu gwasanaethau hostel lleol i sefydliad arall, sefydliad heb fawr o brofiad, os o gwbl, o'r...
Leanne Wood: Rwyf am ddychwelyd at y bysiau, sy'n ffordd hollbwysig o deithio mewn ardaloedd fel y Rhondda Fach sydd heb unrhyw orsaf drenau ac sydd â ffordd osgoi sy'n dod i ben hanner ffordd i fyny'r cwm. Ni fyddai hyn mor ddrwg, wrth gwrs, pe bai'r gwasanaeth bws yn wych, ond nid dyna'r sefyllfa. Yn wir, credaf ei bod yn deg dweud, ar brydiau, ei fod yn druenus. Gall y llwybrau i Gaerdydd gymryd dwy...
Leanne Wood: Rwyf i eisiau codi'r mater datganoli'r system cyfiawnder troseddol. Yn ystod yr wythnos diwethaf mae'r dadleuon dros ddatganoli wedi cryfhau'n sylweddol, yn unol â'r hyn sydd eisoes yn bodoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae achos trasig Conner Marshall wedi tynnu sylw at yr hyn yr oedd llawer ohonom ni eisoes yn ei wybod—sef bod preifateiddio'r gwasanaeth prawf wedi bod yn drychineb...
Leanne Wood: Prif Weinidog, mae gennyf i adroddiad sy'n edrych ar sut y bydd cymunedau sy'n cael eu gwasanaethu gan Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cael eu heffeithio os caiff y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys dan arweiniad meddyg arbenigol eu symud oddi yno. Mae'r cymunedau yr effeithir waethaf arnyn nhw yng nghanol y Rhondda. Gall y trefi a'r pentrefi ym mhen uchaf y Rhondda Fach a'r Rhondda Fawr...
Leanne Wood: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg? OAQ54953
Leanne Wood: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Leanne Wood: Rydych newydd gyflwyno dadl o blaid system cyfiawnder troseddol Ewropeaidd.
Leanne Wood: ——neu, i fod yn gywirach, mae hyn oll wedi ei niweidio ymhellach.
Leanne Wood: Na. Rwyf wedi mynd ar drywydd achos Alun Cairns, ac rwy'n eithaf sicr fod yna aelodau blaenllaw eraill o blith y Ceidwadwyr Cymreig yn gwybod mwy nag yr oeddent yn ei gyfaddef, oherwydd credaf fod dynion fel hyn sydd â chyn lleied o barch at ddioddefwyr trais rhywiol mewn swyddi pwerus yn cyfrannu at yr ystadegau trais rhywiol echrydus y cyfeiriais atynt yn gynharach, ac at y rhesymau pam...
Leanne Wood: Diolch, Lywydd. Rydym i gyd, rwy'n siŵr, yn ymwybodol o nifer o achosion proffil uchel yn ddiweddar sy'n cyfiawnhau'r angen am y ddadl hon. Roedd un yn arbennig o ingol: merch yn ei harddegau o Brydain a gafwyd yn euog o ddweud celwydd ynglŷn â chael ei threisio gan giang ac a ddedfrydwyd i bedwar mis o garchar gohiriedig a dirwy o €140. Digwyddodd hyn wedi iddi dynnu ei datganiad i'r...
Leanne Wood: Wayne Warren, töwr 57 oed o Dreherbert, oedd yr enillydd hynaf yn hanes pencampwriaeth dartiau'r byd Sefydliad Dartiau Prydain pan gurodd ei gyd-Gymro, Jim Williams, o 7-4 dros y penwythnos. Mae'r Rhondda eisoes wedi cynhyrchu pencampwr dartiau'r byd Sefydliad Dartiau Prydain yn Richie Burnett o Gwmparc, felly mae gennym ddau bellach. Yn ôl yn 2001, credai Wayne na fyddai byth yn chwarae...
Leanne Wood: Weinidog, mae gennyf gwestiwn am gyflwr gofal amenedigol, ac mae arnaf ofn mai'r sefyllfa hon yw'r norm, yn hytrach na'r eithriad. Mae etholwr wedi cysylltu â mi gydag un o'r enghreifftiau mwyaf torcalonnus i mi glywed amdani o fethiannau'r GIG. Dywed mai cariad tuag at ei phlant yw'r unig beth a'i rhwystrodd rhag dod â'i bywyd i ben. Mae'r fenyw dan sylw hefyd yn cael cefnogaeth gan y...
Leanne Wood: Rwy'n croesawu'r cynllun peilot hwn ac rwy'n croesawu'r wybodaeth rydych newydd ei rhoi inni fod mwy o blant yn debygol o elwa o hyn. Rwy’n cydnabod hefyd fod cyllidebau’n dynn a chyda’r Torïaid mewn grym yn San Steffan, nid oes fawr o obaith y bydd ein sefyllfa yn gwella am rai blynyddoedd. Felly, tybed pa ystyriaeth rydych wedi'i rhoi i fanteisio ar y gormodedd enfawr o fwyd sy'n...
Leanne Wood: 3. Pa fewnbwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael i wella gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg? OAQ54901
Leanne Wood: 'Er gwaetha' pawb a phopeth, ry'n ni yma o hyd'.
Leanne Wood: Hoffwn i godi mater y tynnwyd fy sylw ato gan bobl sy'n gweithio yn y sector cymorth i bobl anabl—nad yw eich Llywodraeth bellach yn ariannu Llinell Gymorth Anabledd Dysgu Cymru. Sefydlwyd y llinell gymorth dros 20 mlynedd yn ôl yn ystod dyddiau bore oes datganoli, ac mae wedi cefnogi mwy na 50,000 o bobl yn ystod y cyfnod hwnnw, ac mae'n rhaff achub hanfodol i'r 64,000 o bobl yng Nghymru...
Leanne Wood: Diolch, Lywydd. Mae un o bob tri o blant Cymru'n byw mewn tlodi, ac mae'r ffigur hwn yn codi, ac mae'n gondemniad damniol o effaith agenda gyni greulon y Ceidwadwyr a thoriadau i les yn sgil hynny, ac 20 mlynedd o lywodraethu aneffeithlon gan Lafur Cymru. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi nodi, os nad oes unrhyw newid, fod y ffigur tlodi plant yn debygol o gynyddu i 40 y cant o holl...
Leanne Wood: Mae'n gwestiwn eithaf syml.