Sioned Williams: Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, rydych chi, yn briodol, wedi amlinellu pwysigrwydd hanfodol rhoi y cymorth sydd ar gael yn nwylo'r bobl sy'n gymwys i'w gael. Felly, a gaf i ofyn i chi: pa werthusiad sydd wedi bod ar draws yr awdurdodau lleol o ran y rownd ddiwethaf o gynllun cymorth tanwydd y gaeaf? Oherwydd rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno â mi ynglŷn â'r angen i ni wybod beth...
Sioned Williams: Yn ôl adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar etholiadau'r Senedd y llynedd, er roedd prosiect partneriaeth Democracy Box, a gefnogwyd gan y Senedd a'r Llywodraeth, yn gam gadarnhaol, mae angen ymestyn cyrhaeddiad ac effaith rhaglenni. Maent yn cydnabod bod angen nid yn unig gwella adnoddau presennol ond hefyd datblygu rhaglenni cymorth ar gyfer y rheini sy'n gweithio gyda'r grwpiau hyn. Rhaglen...
Sioned Williams: Ail fater a oedd yn ymwneud yn benodol â gweithredu pleidleisiau yn 16 oed yng Nghymru oedd nad oedd y ddeddfwriaeth yn cynnwys mesurau statudol pendant o addysg wleidyddol, rhywbeth a drafodwyd yn y broses ddiwygio yng Nghymru ac a nodwyd fel rhywbeth hanfodol mewn profiadau blaenorol o ddiwygio oedran pleidleisio mewn mannau eraill. Roedd hyn yn golygu, er gwaethaf ymrwymiadau ar lefel...
Sioned Williams: Mae ein pobl ifanc wedi medru pleidleisio yn 16 oed nawr mewn dau etholiad—etholiad y Senedd a'r etholiadau lleol eleni. Mae hynny, wrth gwrs, yn destun llawenydd ac yn destun balchder cenedlaethol. Fe wnaeth fy merch bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau'r Senedd, a hynny, wrth gwrs, dros ei mam, a'm mab yn yr etholiadau lleol eleni, ac maen nhw'n amlwg yn dod o deulu sy'n trafod a wir...
Sioned Williams: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac fe fyddaf yn rhoi munud o fy amser i Heledd Fychan. Fe dyfais i lan yng Ngwent, ac i Gasnewydd y byddem ni'n mynd i siopa. Roedd y murlun enwog a oedd yn adrodd hanes y Siartwyr, sydd nawr bellach, yn anffodus, wedi'i chwalu, yn destun rhyfeddod i fi. Dysgais i am eu brwydr a'u haberth drwy ddelweddau graffig a dramatig y murlun. Byddwn yn mynnu cael yr...
Sioned Williams: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n ganol haf. Pan fo'r cymylau'n codi, mae'n gyfnod o fedru gwisgo dillad ysgafn, crysau T, agor ein ffenestri, eistedd yn yr ardd, sychu'r dillad ar y lein, mwynhau barbeciw, a gwybod, fel arfer, nad yw'r biliau ynni ddim cweit mor uchel ag arfer, y mesurydd ddim yn troi cweit mor glou wrth i wres yr haul dwymo ein crwyn a'n tai. Ond eleni mae'r wybren yn llawn...
Sioned Williams: Un o'r darnau cyntaf o waith achos ces i ar ôl cael fy ethol oedd apêl am help gan fenyw oedd wedi cael ei hail-gartrefi a'i had-leoli yn sgil dianc o gamdriniaeth ddomestig. Roedd hi mewn cyflwr hynod fregus, wedi gorfod symud o'i chartref a'i chymuned i dref newydd, wedi gorfod symud ei merch i ysgol newydd, yn ceisio gwneud ffrindiau newydd ac ymdopi â'r trawma a ddioddefodd yn sgil...
Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Mae'n dda clywed y bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud ar y bwndeli babanod. Wrth inni baratoi i'r argyfwng costau byw waethygu'n ddifrifol wrth i fisoedd yr hydref a’r gaeaf ymddangos ar orwel sydd eisoes yn llwm, tybed a allai’r Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd pa mor effeithiol y mae'r cymorth ariannol presennol a roddir gan Lywodraeth Cymru yn cael...
Sioned Williams: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Gwyddom fod teuluoedd â phlant ymhlith yr aelwydydd tlotaf yn ein gwlad. Yn dilyn llwyddiant y cynllun bocsys babanod yn yr Alban, cafodd cynllun ei dreialu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ddarparu bwndeli babanod i 200 o deuluoedd er mwyn lleihau’r angen am wariant ar hanfodion ar gyfer babanod newydd-anedig. Roedd y cynllun peilot i'w...
Sioned Williams: Diolch, Prif Weinidog. Mae darparu trafnidiaeth gyhoeddus fwy fforddiadwy, gyfleus a dibynadwy yn hanfodol, wrth gwrs, os ydym ni am wella mynediad i addysg, cyflogaeth, gwasanaethau cyhoeddus a hamdden, a chreu'r gymdeithas fwy llewyrchus, wyrddach a mwy cyfartal yr ydym ni i gyd yn dymuno ei gweld, yn enwedig o gofio nad oes gan 20 y cant o aelwydydd yn fy rhanbarth i, Gorllewin De Cymru,...
Sioned Williams: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru? OQ58305
Sioned Williams: Diolch am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl. Rŷn ni wedi torri tir newydd wrth gydweithio ar y Bil yma. Dyma'r darn cyntaf o ddeddfwriaeth sy'n rhan o'n cytundeb cydweithio ni gyda'r Llywodraeth, a dwi'n falch o fod wedi gallu cynrychioli Plaid Cymru fel y llefarydd dros addysg ôl-16 wrth graffu ar ac wrth wella'r Bil yma mewn modd cydweithredol a chadarnhaol gyda chi, Weinidog. Drwy gydol taith...
Sioned Williams: Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae hi ychydig dros flwyddyn bellach ers i fi ymgymryd a'm rôl fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldebau, ac fel y gwyddoch, rwy hefyd yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a merched. Rwy wedi clywed ac wedi datgan sawl tro erbyn hyn yr ystadegau moel, pryderus sy'n adrodd y profiadau erchyll, y troseddau...
Sioned Williams: Diolch, Gweinidog. Rwyf i'n llwyr gefnogi'r cynllun treialu fel un cam ar y daith tuag at incwm sylfaenol cyffredinol parhaol. Ar 4 Mai, yn ystod cwestiynau llefarwyr cyfiawnder cymdeithasol, fe godais i gyda chi fod pobl ifanc sy'n gadael gofal yn aml yn cael cyfle i aros mewn llety lled annibynnol, megis fflatiau mewn cyfadeilad, lle mae gan unigolyn ifanc ei lety annibynnol ei hun ond ei...
Sioned Williams: Diolch. Mae aildrefnu ysgolion yn ardal Pontypridd wedi bod yn bwnc llosg ers blynyddoedd bellach. Un o'r prif bryderon yw cau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton yng Nghilfynydd, gan olygu y bydd rhaid i blant sydd yn byw yn Ynys-y-bŵl, Coed-y-cwm, Glyn-coch, Trallwn a Chilfynydd deithio milltiroedd yn bellach i dderbyn addysg Gymraeg. Cyflwynodd ymgyrchwyr dystiolaeth i Gyngor...
Sioned Williams: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Mae lefel buddsoddiad Cymru mewn ymchwil ac arloesi yn sylweddol is na chyfartaleddau'r DU a'r UE, a bydd y darlun hwn yn gwaethygu wrth i brifysgolion Cymru fod o dan anfantais anghymesur oherwydd colli arian strwythurol yr UE o ystyried y lefel uchel o ddibyniaeth ar y cyllid hwnnw yn y gorffennol. Erbyn hyn, mae gwariant gros ar ymchwil ac arloesi yng...
Sioned Williams: Mae'r grŵp yma yn cynnwys gwelliannau sy'n ymwneud â dosbarthiadau chwech. Byddwn ni'n cefnogi gwelliannau 76 a 77 tra'n pleidleisio yn erbyn y gweddill. Y rheswm yw ein bod ni'n teimlo bod y cynigion nawr a fydd yn dod ger bron y comisiwn yn gorfod cael eu—. They will require approval; dwi ddim yn cofio'r gair Cymraeg—
Sioned Williams: —gan Weinidogion Cymru o ganlyniad i welliannau a wnaed yng Nghyfnod 2, y gwnaethom ni eu cefnogi. Rwy'n falch bod gwelliannau wedi'u gwneud yn hyn o beth o ran chweched dosbarth yn ystod Cyfnod 2, a bod y Gweinidog wedi mynd i'r afael â'r ystod lawn o bryderon a godwyd gan Blaid Cymru ac eraill yn y maes hwn.
Sioned Williams: Mae dosbarthiadau chwech yn chwarae rhan bwysig ac unigryw o fewn addysg cyfrwng Cymraeg, gan ddiogelu'r model trochi a sicrhau parhad hanfodol i ddatblygiad sgiliau iaith y dysgwyr sydd wedi derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a'u caniatáu hefyd i gyfrannu i ethos Cymraeg eu hysgolion ac i fod yn fodelau rôl ieithyddol a diwylliannol i ddisgyblion iau. Mae'n hanfodol bod y...
Sioned Williams: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gael cefnogaeth y Llywodraeth ac o gael cefnogaeth y Blaid Geidwadol ar gyfer gwelliant 78, a hoffwn i nodi hefyd rwy'n falch o'r cydweithio adeiladol sydd wedi bod drwy gydol siwrnai y Bil yma, yn yr holl gyfnodau, a bod yr ymwneud adeiladol yma, gyda'r pwyllgor a hefyd gyda'r ddwy wrthblaid, wedi arwain at wella deddfwriaeth yn ystod ei thaith drwy'r Senedd.