Canlyniadau 121–140 o 300 ar gyfer speaker:Tom Giffard

1. Cynnig o gydymdeimlad a theyrngedau i Ei Mawrhydi Y Frenhines (11 Med 2022)

Tom Giffard: Yr wythnos hon, fe gollon ni, yn drist, rhywun, yr wyf i'n credu, yw ein Prydeiniwr gorau erioed. Roedd hi'n arweinydd ein cenedl, ond hefyd yn fam, yn fam-gu ac yn hen fam-gu—bathodyn yr oedd hi'n ei wisgo'n falch iawn tan ei diwrnod olaf un gyda ni. Roedd hi'n rhywun a oedd yn rhychwantu cenedlaethau, yn gweithredu fel pont gyda'r gorffennol, yn ogystal ag yn esblygu ar yr un pryd fel y...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Gor 2022)

Tom Giffard: Diolch, Ddirprwy Weinidog. A chan mai hwn yw fy nghwestiwn olaf i chi cyn toriad yr haf, a gaf fi ddymuno toriad hapus iawn, a heddychlon hefyd, gobeithio, i chi a'ch swyddogion? A dyma hefyd y set olaf o gwestiynau i chi cyn dau ddigwyddiad allweddol: yn gyntaf, tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad, ac rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i'w cefnogi, ac yn ail, er na fyddwn yng nghwpan y byd...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Gor 2022)

Tom Giffard: Iawn. Diolch, Ddirprwy Weinidog. Gan symud i arena hollol wahanol, y tro hwn, un rithwir, hoffwn ofyn i chi am e-chwaraeon.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Gor 2022)

Tom Giffard: Cyfarfûm yn ddiweddar â John Jackson, sy’n rhedeg Echwaraeon Cymru, a grybwyllodd y bydd tîm e-chwaraeon Cymru yn cystadlu ym Mhencampwriaethau E-chwaraeon y Gymanwlad cyn bo hir, a fydd, fel Gemau’r Gymanwlad, yn cael eu cynnal y mis nesaf yn Birmingham. Rwy’n siŵr y byddwch yn ymwybodol, Ddirprwy Weinidog, o’r manteision economaidd a chymdeithasol enfawr y mae e-chwaraeon yn eu...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Gor 2022)

Tom Giffard: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a phrynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Gyda digwyddiad WWE Clash at the Castle yn Stadiwm Principality yn cael ei gynnal ymhen ychydig fisoedd, roeddwn am eich holi ynglŷn â chyflwr reslo proffesiynol yng Nghymru. Ym mis Ebrill 2021, cyhoeddodd grŵp seneddol hollbleidiol San Steffan ar reslo, dan gadeiryddiaeth yr AS dros Bontypridd, Alex Davies-Jones, eu...

10. Dadl Plaid Cymru: Ailymuno â'r farchnad sengl ( 6 Gor 2022)

Tom Giffard: Wel, lle ar y ddaear y mae dechrau gyda hwn? Gadewch inni beidio â chamgymryd o gwbl beth yw diben dadl Plaid Cymru heddiw: nid oes ganddi ddim i'w wneud â'n cadw yn y farchnad sengl; mae ganddi bopeth i'w wneud â Phlaid Cymru yn ceisio ein cadw yn yr Undeb Ewropeaidd yn erbyn ein hewyllys. Mae wedi bod yn chwe blynedd, ond ni all Plaid Cymru, fel y'i gelwir, dderbyn bod pobl Cymru wedi...

6. Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 ( 6 Gor 2022)

Tom Giffard: Nid wyf yn credu eich bod yn cydnabod bod y bobl hyn wedi'u lleoli yn y cymunedau hyn. Maent yn cynnal ac yn gweithredu busnesau mewn lleoedd fel sir Gaerfyrddin. Maent yn rhan annatod o'r cymunedau hynny ac yn helpu i'w cynnal. Mae'r ffaith bod eich plaid chi a'r Blaid Lafur yn eu cosbi yn y ffordd hon yn gwbl annheg—[Torri ar draws.]—a chredaf ei bod yn werth nodi na wnaeth yr un aelod...

6. Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 ( 6 Gor 2022)

Tom Giffard: Nid oes unrhyw aelod o'r meinciau cefn Llafur wedi codi i amddiffyn eich cynlluniau heddiw, Weinidog. Credaf fod hwnnw'n bwynt sy'n werth ei wneud hefyd. Ac felly, byddwn yn annog yr Aelodau i bleidleisio i ddirymu'r Bil hwn heddiw—pleidleisiwch i achub twristiaeth Cymru cyn i'r ergyd driphlyg hon o gyhoeddiadau a pholisïau gan Lywodraeth Cymru ein gadael heb unrhyw sector ar ôl i'w arbed. 

6. Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 ( 6 Gor 2022)

Tom Giffard: Ydy. Rwy'n credu bod y polisi hwn wedi'i ruthro, a dweud y gwir, i fodloni gofynion ac anghenion Plaid Cymru a'r cytundeb cydweithio. Felly, i gloi—. Wel, rwyf am ddweud un peth arall wrth Russell, roedd yn werth nodi—

6. Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 ( 6 Gor 2022)

Tom Giffard: O, rwy'n hapus i dderbyn ymyriad gan y dirprwy Brif Weinidog. 

6. Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 ( 6 Gor 2022)

Tom Giffard: A gaf fi siarad yn gyflym iawn am gyfraniad Mabon ap Gwynfor hefyd, pan soniodd am or-dwristiaeth? Credaf fod y diwydiant twristiaeth eisiau helpu i ddatrys problemau gor-dwristiaeth—mae wedi dweud ei fod eisiau gwneud hynny—yn yr ardaloedd lle mae nifer yr ail gartrefi'n uwch. Ond fel y dywedodd Mark Isherwood, mae hynny'n cyfuno dau fater gwahanol yma, ac o ganlyniad, mae'r busnesau hyn...

6. Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 ( 6 Gor 2022)

Tom Giffard: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau gwerthfawr i fy nghynnig i ddirymu heddiw? Clywsom gan amrywiaeth o Aelodau ar draws y Siambr, ac rwyf am gyfeirio at rai o'u sylwadau'n gyflym iawn. Dechreuodd Sam Rowlands drwy sôn am yr effaith economaidd—y bil treth ychwanegol o £6,000 y bydd rhai o'r busnesau hyn yn gorfod ei dalu yn awr. Dywedodd Peter Fox nad...

6. Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 ( 6 Gor 2022)

Tom Giffard: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn wneud y cynnig hwn yn ffurfiol drwy bwysleisio gwrthwynebiad parhaus fy mhlaid i’r cynnydd mympwyol i ardrethi annomestig busnesau hunanddarpar ledled Cymru. Ac rydym yn ochri gyda'r diwydiant ar y mater hwn. Credwn y byddai cynnydd o 70 diwrnod i 105 diwrnod er mwyn iddynt gyd-fynd â gofynion Cyllid a Thollau EM yn llawer mwy priodol na’r hyn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Deintyddol yng Ngorllewin De Cymru ( 5 Gor 2022)

Tom Giffard: Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb, ond ni allaf ddweud yn union fy mod yn rhannu ei optimistiaeth ynghylch y diwydiant deintyddol yma yng Nghymru. Yr enghraifft amlycaf ein bod yn wynebu argyfwng ym maes deintyddiaeth yw'r nifer fawr o gwestiynau yr ydych chi a'r Gweinidog iechyd wedi'u hwynebu gan Aelodau yn ystod y misoedd diwethaf ar y pwnc. Gofynnodd fy nghyd-Aelod Sam...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Deintyddol yng Ngorllewin De Cymru ( 5 Gor 2022)

Tom Giffard: 1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad at wasanaethau deintyddol yng Ngorllewin De Cymru? OQ58287

11. Dadl Fer: Ein Cymru ni: Creu cenedl bêl-droed flaenllaw (29 Meh 2022)

Tom Giffard: Ond hefyd, mae'n dysgu gwersi a rhinweddau pwysig i ni ar gyfer ein bywydau, i bobl ifanc ac i ni'r rhai hŷn sydd angen cael ein hatgoffa weithiau efallai—gwersi fel gwerthoedd tîm, un dros bawb, y tîm dros unigolion, ac amynedd, glynu gyda'r tîm drwy bob peth, parch at y rheolau, disgyblaeth a derbyn methiant hefyd. Ac roedd Altaf Hussain yn dweud wrthyf am ei wyres saith oed sy'n...

11. Dadl Fer: Ein Cymru ni: Creu cenedl bêl-droed flaenllaw (29 Meh 2022)

Tom Giffard: Diolch, Jack Sargeant, am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Pan welais deitl y ddadl, 'creu cenedl bêl-droed flaenllaw', gwyddwn fy mod am siarad arni am ei bod yn gwneud i mi feddwl, 'Wel, beth sy'n ffurfio cenedl?' Ac rwy'n credu bod Cymru yn genedl o gymunedau ac yn fy marn i, nid oes dim yn rhwymo cymuned gyda'i gilydd yn debyg i glwb pêl-droed lleol. Fel y bydd Mike Hedges, rwy'n siŵr, yn...

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 (29 Meh 2022)

Tom Giffard: Wel, mae gennym ddadl wych i ddod nesaf—rwy'n siŵr y gwnewch chi aros amdani—ar bêl-droed yng Nghymru. Ond efallai mai awgrym unllygeidiog Plaid Cymru yw un o'r awgrymiadau gwaethaf—Conchita Wurst—a glywais yn y Siambr. Na, ni weithiodd y jôc. O'r gorau. [Chwerthin.]  Roeddwn am orffen drwy ddweud imi weld ychydig o nonsens ar y cyfryngau cymdeithasol yn gynharach heddiw yn gofyn...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.