Sam Rowlands: Diolch, Llywydd, a diolch i chi, Gweinidog, am gyflwyno datganiad heddiw. Gweinidog, byddwch yn ymwybodol wrth gwrs, bod yr adroddiad dros yr haf gan y Ffederasiwn Busnesau Bach ar dwristiaeth yn dangos mai twristiaeth sy'n gyfrifol am dros 17 y cant o gynnyrch domestig gros Cymru, ac yn cyfrif am dros 12 y cant o gyflogaeth yma yng Nghymru, gan ddangos pa mor hanfodol yw'r sector honno i ni...
Sam Rowlands: A gaf i mi ymuno ag Aelodau eraill hefyd, wrth ddweud yn gyntaf pa mor braf yw gweld Aelodau o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol yn dod at ei gilydd heddiw i nodi ein parch a thalu teyrnged i'r Frenhines Elizabeth II? Mae'r undod yma o ysbryd yn fy atgoffa o'r adeg pan oeddwn yn fy arddegau, ac fe wna i rannu rhai atgofion personol hefyd. Pan oeddwn i yn fy arddegau, ymwelodd y Frenhines â...
Sam Rowlands: Diolch am eich ymateb, Weinidog, a hefyd am amlinellu eich ymwneud â chleifion drwy'r cynghorau iechyd cymuned, fel y sonioch chi, a pha mor bwysig yw eu llais. Lle hollbwysig i'r llais hwn yn y dyfodol, wrth gwrs, yw'r bwrdd llais y dinesydd sydd newydd ei benodi, ac fel y gwyddoch, mae gan y bwrdd hwn gyfle i sefyll dros bobl gogledd Cymru—Cymru gyfan, ond gogledd Cymru yn enwedig—o...
Sam Rowlands: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Sylwaf fod y Gweinidog yn cyrraedd ei lle yno.
Sam Rowlands: A gaf fi hefyd gefnogi galwadau Jack Sargeant am y cymorth parhaus hwnnw, a diolch i chi, Weinidog, am eich ymrwymiad i hynny ar gyfer gogledd Cymru? Fel y dywedwch, bydd yn welliant economaidd sylweddol i ni yn y rhanbarth. Yr wythnos diwethaf, Weinidog, cefais y pleser o gyfarfod â Chyngor Busnes Cymru, grŵp sydd, fel y gwyddoch rwy’n siŵr, yn dwyn ynghyd oddeutu 31 o sefydliadau sy'n...
Sam Rowlands: 1. How does the Minister take the voice of patients into account to inform decisions on priorities for the health service in north Wales? OQ58358
Sam Rowlands: A fyddech chi'n derbyn, felly, y rhesymeg yr ydych yn ei ddefnyddio yn y fan yna, os ewch chi ag ef i'w ben rhesymegol, o ran cyflymder llawer llai, llai o berygl o farwolaeth ac anaf, a allai fod yn wir yn sicr, y dylai gyrru ar 1 mya fod yn ddiofyn felly?
Sam Rowlands: Rwy'n derbyn y rhesymeg honno yn sicr ac yn deall hynny'n llwyr, ond yr hyn sydd wedi digwydd yma yw nad yw'r Llywodraeth wedi gwrando ar drigolion o ran y pryderon y maen nhw wedi eu codi drwy gydol y treial hwn. Fel y mae'r Aelod wedi sôn draw yn y fan yna, mae'n dreial, rydych chi'n iawn, ond byddech chi'n disgwyl i'r pryderon a'r wybodaeth a godir gan drigolion gael eu hystyried—[Torri...
Sam Rowlands: Hael iawn ohonoch chi, Llywydd. Ni soniaf amdano eto. [Chwerthin.] Felly, fel y soniodd Natasha Asghar, rydym yn sicr yn cefnogi gadael i'n cynghorau roi terfynau cyflymder o 20 mya y tu allan i ysgolion, ysbytai ac ardaloedd eraill, ac rwy'n sicr wedi gweld yr effaith honno ar yr ysgol y mae fy merched yn mynd iddi, lle rwyf wedi gweld bod diogelwch iddyn nhw y tu allan i'r ysgol honno, yn...
Sam Rowlands: Rwy'n ddiolchgar am gael cyfrannu at y cynnig heddiw ar Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022, lle gallai Cymru, wrth gwrs, ddod y genedl gyntaf yn y byd i fabwysiadu'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya ar strydoedd preswyl. Rwy'n dweud 'gallai', ond rwy'n siŵr bod chwip Llafur mor gryf â phosibl i'r holl feincwyr cefn ar yr ochr honno o'r Siambr hefyd. Yn gyntaf,...
Sam Rowlands: O ran y rheoliadau hyn a gyflwynwyd ar y cyd-bwyllgorau corfforedig, rydym ni'n sicr yn cefnogi'r cysylltiad agosach hwnnw ag awdurdodau lleol, ac felly, o'n hochr ni o'r meinciau heddiw, byddwn yn cefnogi'r cynnig.
Sam Rowlands: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am gyflwyno datganiad heddiw ynglŷn â threth gyngor decach, un yr wyf i wedi bod yn edrych ymlaen ato ac rwy'n siŵr fod llawer ohonom ni wedi bod yn edrych ymlaen ato hefyd? A gaf i hefyd groesawu cydbwysedd eich sylwadau chi o ran cydnabod rhai o elfennau cadarnhaol y dreth gyngor fel mae hi ar hyn o bryd? Rwy'n credu i chi...
Sam Rowlands: A fyddech yn derbyn ac yn cyfaddef bod cyfraniad teg i'r gymuned yn aml yn edrych fel busnesau ffyniannus sy'n cefnogi bywoliaeth pobl ac yn rhoi bwyd ar eu byrddau? Os nad yw'r busnesau hynny'n bodoli yn ein cymunedau, nid yw'r cyfraniad teg hwnnw i'n cymunedau yn bodoli.
Sam Rowlands: A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod, Tom Giffard, am gyflwyno’r cynnig heddiw i ddirymu, oherwydd, fel yr amlinellwyd wrth agor y cynnig heddiw, a’r dystiolaeth a glywais fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth, byddai’r Gorchymyn hwn yn niweidiol i’r diwydiant twristiaeth, a byddai'n arwain at lawer o fusnesau dilys, gweithgar yn mynd i'r wal yng Nghymru? I ddechrau heddiw,...
Sam Rowlands: Diolch am eich ymateb cychwynnol, Weinidog. Fis diwethaf, cefais y pleser o ymuno â Heddlu Gogledd Cymru ar un o’u shifftiau, a chefais y fraint hefyd o weld y gwaith gwych y maent yn ei wneud ar ein rhan yn ein cymunedau. Treuliais yr amser hwn gyda hwy yn dilyn achlysur 10 mlynedd ynghynt pan euthum ar shifft gyda Heddlu Gogledd Cymru i arsylwi ar y gwaith a wnânt. Un o’r pethau y...
Sam Rowlands: 3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Heddlu Gogledd Cymru ynghylch effaith cyfrifoldebau gwasanaeth iechyd ar eu llwyth gwaith? OQ58300
Sam Rowlands: A gaf i ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad heddiw o ran y rhaglen ddeddfwriaethol? Prif Weinidog, yn natganiad Llywodraeth Cymru i'r wasg ddoe ar ymdrin â niferoedd uchel o ail gartrefi, sydd, wrth gwrs, yn rhan o'r rhaglen ddeddfwriaethol barhaus, gwnaethoch chi ddweud, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae twristiaeth yn hanfodol i’n heconomi ni'. Fodd bynnag, nid yw'n glir i mi, o'ch...
Sam Rowlands: Prynhawn da, Gweinidog. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cais Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gael cyllid ffyniant bro Llywodraeth y DU er mwyn ymgymryd yn llawn â phrosiect Porth Wrecsam, sydd, fel y gwyddoch chi rwy'n siŵr, yn cynnwys adeiladu stondin newydd ym mhen Kop y Cae Ras. Ac rwy'n sicr yn...
Sam Rowlands: A gaf fi ddechrau hefyd drwy ddiolch i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ynghyd â chadeiryddiaeth Russell George, am gyflwyno'r ddadl a'r adroddiad heddiw, 'Aros yn Iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru'. Fel rhywun nad yw'n aelod o'r pwyllgor, roedd yr adroddiad hwn yn eithriadol o bwysig i mi, gan fod yr amseroedd aros presennol ledled Cymru yn...
Sam Rowlands: Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod wrth eich bodd, fel yr oeddwn innau yr wythnos hon, wrth weld y cyhoeddiad fod allforion bwyd a diod o Gymru wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, gyda Chymru'n gweld cynnydd mwy nag unrhyw un o wledydd eraill y DU yng ngwerth allforion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn ogystal â hyn, y categori allforio gwerth uchaf oedd cig a chynhyrchion...