Mabon ap Gwynfor: Dyna oedd geiriau Mark Drakeford. Felly, yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys oedd yn datgan na all yr Alban ddeddfu i gynnal refferendwm ar ei dyfodol ei hun, a bod Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol ac arweinydd yr wrthblaid yno, Keir Starmer, wedi datgan na fydden nhw'n caniatáu i'r Alban gynnal refferendwm ar annibyniaeth, ydy'r Cwnsler Cyffredinol yn credu bod y Deyrnas Gyfunol yn gymdeithas...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n deall eich bod chi wedi cytuno i uno cwestiwn 3 a chwestiwn 5, ond os caf i felly ddilyn ymlaen o fy nghyfaill Peredur efo'i gwestiwn o—
Mabon ap Gwynfor: Iawn, fe wnaf i hynny, felly.
Mabon ap Gwynfor: Da iawn. Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb yna.
Mabon ap Gwynfor: Gyda gaeaf caled bellach yn dechrau brathu, rhaid i gwmnïau ynni flaenoriaethu anghenion cwsmeriaid bregus sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau, ac felly, rhaid i mi gyfaddef fy mod yn teimlo'n ddig iawn wrth ddarllen yr ymchwil gan Swyddfa'r Marchnadoedd Nwy a Thrydan a ganfu fod tri chyflenwr ynni—TruEnergy, Utilita Energy a Scottish Power—yn dangos gwendidau difrifol yn y ffordd y...
Mabon ap Gwynfor: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn Nwyfor Meirionnydd? OQ58835
Mabon ap Gwynfor: 3. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r goblygiadau i Gymru o ddyfarniad y Goruchaf Lys ynglŷn â hawl yr Alban i alw refferendwm ar ei dyfodol cyfansoddiadol? OQ58827
Mabon ap Gwynfor: 7. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud ynghylch a yw'r broses cydsyniad deddfwriaethol yn addas i bwrpas? OQ58836
Mabon ap Gwynfor: Diolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r ddadl yma yn trafod y ddeiseb ynghylch mynyddoedd Elenydd a'r ardal i lawr i fynydd Mallaen. Dwi am ddatgan yma heddiw ein bod ni'n cydymdeimlo efo egwyddor y syniad o warchod elfennau o'n tir, ond yn benodol felly'r bywyd natur a'r amgylchedd sy'n rhan o'r tir hwnnw, ond rhaid peidio ag anghofio'r bobl a'r cymunedau yno. Mae'n bryder ein bod ni wedi gweld...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn am yr ateb.
Mabon ap Gwynfor: Diolch am hynny. O'r gorau. Gan symud ymlaen at bysgodfeydd, os caf, mae concordat pysgodfeydd 2012 yn nodi sut y rhennir dyraniad cwota'r DU rhwng y pedair gweinyddiaeth, ac mae'n darparu egwyddorion cyffredinol ar gyfer rheoli a thrwyddedu ymdrechion. Un elfen allweddol sydd wedi'i chynnwys yn y concordat yw'r set o amodau sy'n gysylltiedig â'r cyswllt economaidd. Amod trwyddedu...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Roedd yn dda eich gweld yn y ffair aeaf ddydd Llun, ac roedd yn gyfle gwych i glywed y diweddaraf gan rai o'r ffermwyr a gwrando ar eu pryderon. Fe fyddwch chi'n gwybod fel y gŵyr eraill mai un o'r pethau pwysicaf a wnaeth godi oedd y ffliw adar. Mae hynny'n bryder enfawr, ac rydym yn amlwg yn croesawu'r mesurau gorfodol i gadw adar dan do a gyflwynwyd gennych,...
Mabon ap Gwynfor: Disgrifir rheoliadau heddiw ynghylch cyllid ar gyfer pysgodfeydd fel rhai i gymryd lle'r EMFF sef cronfa’r môr a physgodfeydd Ewrop a oedd yn rhaglen ariannu wedi'i thargedu. Felly, a yw'r Gweinidog wedi ei argyhoeddi bod cynllun môr a physgodfeydd Cymru yn gwneud yr un ymyriadau wedi'u targedu i gefnogi busnesau pysgota, bwyd môr a dyframaethu yng Nghymru? Rydym eisoes bron i flwyddyn y...
Mabon ap Gwynfor: Dwi wedi codi'r angen am sefydlu grŵp ymgynghorol sawl gwaith bellach, ac roeddwn i'n falch fod y grŵp ymgynghorol newydd wedi cyfarfod nôl ym mis Gorffennaf. Dwi hefyd wedi codi'r angen i sefydlu cynllun ariannu nifer o weithiau bellach. Felly, dwi'n falch fod y grŵp ymgynghorol wedi nodi'r cynllun ariannu pysgodfeydd fel blaenoriaeth, ac rydym ni wedi aros yn rhy hir yn barod am y...
Mabon ap Gwynfor: Diolch i'r Gweinidog am ddod â'r rheoliadau yma ymlaen heddiw. Hir yw pob ymaros, wedi'r cyfan. Mae'r Ddeddf yma wedi datblygu i fod yn dipyn o jôc, mewn gwirionedd, ar hyd y blynyddoedd diwethaf. Y gwir ydy y dylai'r Llywodraeth a'r Blaid Lafur yn bennaf fod yn holi cwestiynau difrifol iawn iddyn nhw eu hunain am sut inni gyrraedd y pwynt yma a pham y bydd iddyn nhw wthio deddfwriaeth nôl...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn sydyn i Cefin am ddod â'r drafodaeth yma ger ein bron unwaith eto. Mae'n dda gweld hwn yn cael ei gyflwyno ar lawr y Senedd a chydnabyddiaeth o waith y pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Roeddwn i eisiau cymryd y cyfle, os yn bosib, i dalu teyrnged i dad ysbrydol mentrau cymunedol Cymru, y diweddar Carl Clowes, a fu farw yn gynharach eleni. Carl Clowes, wrth gwrs, wnaeth sefydlu...
Mabon ap Gwynfor: 'Felly, mae angen inni ystyried beth yw’r problemau, beth yw’r rhwystrau rhag darparu’r llety priodol. Yn amlwg, mae’r pŵer cyfarwyddo hwnnw yno, ac efallai y gwelwch y bydd yn rhaid i ni ei ddefnyddio. Fel y dywedais, o ran amser, rydym ar fin edrych ar yr asesiad diweddaraf, a bydd yr asesiad hwnnw'n dangos i ni a oes ewyllys, ac ymrwymiad wrth gwrs, i gyflawni dyletswyddau...
Mabon ap Gwynfor: Dyna oedd geiriau y Gweinidog wrth roi tystiolaeth inni, nad oedd hi'n ofn defnyddio'r grymoedd oedd ganddi. Ond, ar ôl blynyddoedd o fethu â delifro, mae'n anodd deall pam nad ydy'r grymoedd yna eisoes wedi cael eu defnyddio hyd yma. Felly, yn olaf, hoffwn ofyn i'r Gweinidog esbonio o dan ba amgylchiadau felly y buasai hi'n barod i ddefnyddio y grymoedd yma. Diolch.
Mabon ap Gwynfor: Dwi am ategu'r diolch ddaru'r Cadeirydd John Griffiths ei wneud ynghynt. Yn sicr, roedd pawb wedi cyfrannu ac wedi cyfoethogi'r drafodaeth ddaru ni ei chael wrth ymchwilio i mewn i hyn, ond diolch yn bennaf i'r tystion a'r bobl hynny a'n croesawodd i mewn i'w cartrefi i drafod y materion yma, gan agor eu calonnau inni yn y broses. Ond roedd y broses, wrth ymchwilio a llunio'r adroddiad yma,...
Mabon ap Gwynfor: Diolch am dderbyn ymyriad. Mae'r cynnig yn sôn am asedau cymunedol a phwysigrwydd asedau cymunedol, ac rydych wedi sôn amdano eich hun a'i bwysigrwydd i'r Llywodraeth. Gwyddom fod llawer o asedau cymunedol yn cael eu colli, fel capeli a sinemâu a thafarndai, a gwyddom mai'r ffordd orau i gymunedau yw cymryd rheolaeth ar yr asedau hynny a grymuso cymunedau'n briodol drwy roi cyfle iddynt eu...