Siân Gwenllian: Cynnig yn ffurfiol.
Siân Gwenllian: Cynnig yn ffurfiol.
Siân Gwenllian: Diolch, a dwi'n siŵr y byddwch chi yn edrych ar yr adroddiad penodol yma rydw i'n cyfeirio ato fo, sef 'Show Us You Care'. Troi, yn olaf, at y fagloriaeth Gymreig, neu fagloriaeth Cymru. Rŵan, dwi'n deall na fydd canlyniadau bagloriaeth Cymru'n cael eu cyhoeddi tan y diwrnod ar ôl cyhoeddi Safon Uwch. Ac mae hyn yn mynd i beri llawer iawn o broblemau, oherwydd gallai dderbyn canlyniadau...
Siân Gwenllian: A gaf fi eich hatgoffa chi ein bod ni wedi clywed hyn o'r blaen? Roedd eich rhagflaenydd chi'n sôn am gynllun 10 mlynedd i gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg, ond rydyn ni'n dal i ddisgwyl i weld y cynllun yna, ac i weld y cynllun yn cael ei roi ar waith. Felly, dwi yn gobeithio bod hwn yn mynd i fod yn flaenoriaeth gennych chi. Mi fyddwch chi, fel fi, wedi cael eich brawychu gan yr...
Siân Gwenllian: Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddechrau efo materion yn codi o'ch datganiad chi ddoe—Cymraeg 2050. Mae sefyllfa lle mae'ch Llywodraeth chi yn methu â chyrraedd targedau ynglŷn â phlant saith oed sy'n dysgu drwy'r Gymraeg yn hollol annerbyniol. Felly, dwi yn edrych ymlaen at glywed mwy am eich cynlluniau chi i gyflwyno Deddf addysg Gymraeg. Mae gwir angen hyn, a gwir angen targedau statudol...
Siân Gwenllian: Gan mai bwriad y drafodaeth yma ydy ceisio barn y Senedd am flaenoriaethau cyllidebol y Llywodraeth, dwi am gymryd y cyfle i bwysleisio unwaith eto yr angen i symud tuag at gyllidebau sydd ag atal problemau ac atebion tymor hir wrth eu gwraidd. Mae buddsoddi mewn addysg ein plant a'n pobl ifanc yn rhan gwbl greiddiol o'r agenda ataliol, ac mae'n hollol amlwg fod angen blaenoriaethu buddsoddi...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n ddiolchgar i chi am ddod â datganiad yn fuan yn nhymor y Llywodraeth newydd ar y targed o greu miliwn o siaradwyr. Rydych chi'n gwybod bod gennych chi fy nghefnogaeth i yn yr uchelgais yma, a dwi'n gwybod eich bod chi'n hollol ddiffuant, ond dwi angen fy argyhoeddi bod y newid gêr angenrheidiol yn digwydd. Mi ddywedodd eich rhagflaenydd wrthyf i yn y...
Siân Gwenllian: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am eich datganiad, Weinidog, yn trafod y cwricwlwm a chymwysterau. Dwi'n falch eich bod chi'n cydnabod yr angen am ddisgwyliadau clir a rhagor o le a chymorth i weithredu'r cwricwlwm newydd. Rydych chi hefyd yn sôn am lansio rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm yn yr hydref, ond beth yn union fydd pwrpas hwn a phwy fydd yn cynnull y...
Siân Gwenllian: Mae Plaid Cymru wedi chwarae rhan adeiladol wrth bwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn cefnogi cymunedau sy'n dioddef o ganlyniad i effeithiau ail gartrefi. Yn anffodus, mae'r cyhoeddiad hwn heddiw yn hynod siomedig a gwan. Nid cynllun sydd yma, ond tri phennawd byr a niwlog, a dim manylion. Ni fydd ymgynghori a chynlluniau peilot ddim yn cynorthwyo pobl ifanc sydd angen cartref ac...
Siân Gwenllian: Mae'n fy synnu i cyn lleied o flaenoriaeth ydy addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant i'r Llywodraeth hon. Mae astudiaethau yn dangos pa mor allweddol ydy creu darpariaeth lawn mewn cymunedau difreintiedig er lles addysg y plant ac er mwyn codi teuluoedd o dlodi. Ac eto, mae model y Llywodraeth hon a'r cynllun gofal plant gwallus wedi cael ei gynllunio ar sail galw yn hytrach nag angen....
Siân Gwenllian: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth ychwanegol i wasanaethau iechyd brys yn Arfon dros y misoedd nesaf?
Siân Gwenllian: Fi ydy pencampwr llinos y mynydd—aderyn bychan, hardd, prin. Ond, diolch i waith adfer cynefin y llinos yn Eryri gan amaethwyr ac eraill, mae yna arwyddion fod y rhywogaeth ar gynnydd unwaith eto. Felly, mae gobaith. O gynllunio, o wneud y gwaith adferol, o weithio mewn partneriaeth, mae modd adfer rhywogaethau prin. Mae'r sefyllfa sy'n wynebu natur yng Nghymru a'r byd yn glir i bawb, ac...
Siân Gwenllian: Cynnig yn ffurfiol.
Siân Gwenllian: Mae angen i Lywodraeth arwain ac nid gadael penderfyniadau cymhleth i ysgolion ac athrawon sydd dan bwysau anferth yn barod. Mae hynny'n annheg, yn anghyfrifol ac yn creu anghysondeb mawr. Felly, mi fyddwn i'n erfyn arnoch chi i wrando ar y gri gynyddol sy'n dod o'n hysgolion ni a rhoi arweiniad clir a chyson. A gaf i ofyn i chi am gynlluniau brechu plant a phobl ifanc? Yn amlwg, mae'n rhaid...
Siân Gwenllian: Mae etholwyr yn Arfon yn deall pam bod caffis a llefydd bwyta yn gofalu bod eu cwsmeriaid yn cadw pellter cymdeithasol ac yn cadw at brotocolau olrhain a chysylltu. Ac mae hynny wrth gwrs yn ofynnol o dan y gyfraith, er mwyn atal lledaeniad COVID. Ond dydy fy etholwyr i ddim yn deall pam nad oes canllawiau tebyg ar drenau Trafnidiaeth Cymru, lle does yna ddim pellhau cymdeithasol ar gerbydau,...
Siân Gwenllian: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar drenau yn ystod y pandemig? OQ56708
Siân Gwenllian: Dwi'n falch iawn o weld y datganiad heddiw ac eich bod chi wedi gwrando ar yr awgrym wnes i yn y Senedd yr wythnos diwethaf, sef lleihau ffioedd arholiadau i ysgolion. Fel cyn-gadeirydd llywodraethwyr, dwi'n ymwybodol iawn fod talu am arholiadau yn elfen bwysig o gyllideb ysgol. Doedd hi ddim yn ymddangos yn deg fod ysgolion yn wynebu biliau tebyg i'r rhai oedd yn arferol cyn COVID, o gofio...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac dwi'n falch iawn o grynhoi'r drafodaeth bwysig, gynhwysfawr rydyn ni wedi'i gael ar faes tai y prynhawn yma. Rydyn ni wedi trafod prinder tai, ail gartrefi, diogelwch, cynllunio, ffioedd rheoli—mae'r rheini i gyd wedi cael sylw gennym ni. Beth sy'n hollol glir ydy'r angen am ymyrraeth, a hynny ar frys. Mae'r prinder tai fforddiadwy i'w rhentu neu i'w...
Siân Gwenllian: Diolch. Dwi dal ddim yn hollol glir, ond gobeithio medrwn ni gael trafodaeth bellach ar hyn y tu allan i'r Siambr, a buaswn i'n gwerthfawrogi eglurder ynglŷn ag o ble mae'r arian yn dod. Ydy hwn yn arian newydd—
Siân Gwenllian: —yntau ydy o'n barhad o'r arian wnaeth Kirsty Williams sôn amdano fo yn ystod y Senedd ddiwethaf? Rydych chi wedi sôn am gau'r bwlch cyrhaeddiant fel un o'ch blaenoriaethau cynnar chi ac rwy'n cytuno â chi ar hynny—mae'n holl, holl bwysig. Mae yna dystiolaeth glir, wrth gwrs, mai'r un peth mwyaf effeithiol y gallwn ei wneud i gyflawni'r nod yma ydy rhoi pryd o fwyd ysgol maethlon am...